2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:30 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:30, 27 Mehefin 2023

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad busnes gan y Trefnydd. Lesley Griffiths

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad 'Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU' wedi'i ohirio, ac yn union cyn y ddadl Cyfnod 4 ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), byddaf i'n gwneud datganiad o dan Reol Sefydlog 26.67 yn ymwneud â chaniatâd Ei Fawrhydi ar gyfer y Bil. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 2:31, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, heddiw, mae damwain beryglus arall eto wedi bod ar gefnffordd yr A494 yn fy etholaeth i fy hun, ar gyffordd y Lôn Fawr a ffordd Corwen. Roedd cynllun a oedd wedi'i gynllunio i wella diogelwch y gyffordd honno, ond, yn anffodus, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddileu'r cynllun fel rhan o'i hadolygiad ffyrdd yn gynharach eleni. Cafodd y person oedd yn rhan o'r ddamwain ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty; dydw i ddim yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran iechyd yr unigolyn hwnnw, ond rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom eisiau iddyn nhw wella'n gyflym, iawn, iawn. 

Yn amlwg, mae hon yn gyffordd sy'n parhau i fod yn beryglus, ac mae angen rhywfaint o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru arni o hyd, a hoffwn i gael datganiad brys gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar frys, o ystyried ein bod ni wedi cael damwain arall eto ar y ffordd hon.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:32, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, ac ie, rydyn ni i gyd yn anfon ein dymuniadau gorau at yr unigolyn dan sylw. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ystyried mesurau diogelwch ar y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati hi, ac rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf priodol, y bydd ef yn cyflwyno cyhoeddiad arall.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

Trefnydd, eisiau dilyn ydw i o gwestiwn Altaf Hussain i'r Prif Weinidog rŵan, ac, yn benodol, o ran adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi yn eithriadol o bryderus o weld yr adroddiad hwnnw, nifer ohonyn nhw yn ferched beichiog, neu yn bartneriaid iddyn nhw, sydd yn pryderu o weld yr adroddiadau hyn.

Felly, eisiau gofyn am ddatganiad oeddwn i gan y Gweinidog iechyd er mwyn rhoi sicrwydd o ran y gwasanaeth hwnnw, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â'r bwrdd iechyd i sicrhau bod pawb, beth bynnag fo'u cefndir, yn derbyn y gofal maen nhw ei angen ar adeg pan mi ydych chi'n teimlo yn wan iawn ac angen y gefnogaeth fwyaf.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:33, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Yn hollol. A byddwch chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog i Altaf Hussain pan gododd ef hyn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Ac, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydyn ni'n ymwybodol iawn o gyhoeddiad adroddiad AGIC ar wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r pryder yr ydyn ni'n gwybod y bydd hyn yn ei achosi i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb yn briodol i'r argymhellion. Maent yn ceisio tawelu meddyliau pobl am gynnydd a diogelwch y gwasanaeth, ac rydyn ni'n croesawu'n fawr benodiad cyfarwyddwr bydwreigiaeth gan y bwrdd iechyd, a fydd yn darparu'r arweinyddiaeth strategol honno, i ategu'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers yr arolygiadau. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 2:34, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Byddai un yn dda i'w gael fel datganiad llafar, a'r llall fel datganiad ysgrifenedig, o bosibl. Mae'r datganiad llafar yr hoffwn i ei gael yn dilyn ymweliad y gwnes i’r wythnos diwethaf â gorsaf dân Maesteg fel rhan o Ddiwrnod y Gwasanaeth Cyhoeddus yn genedlaethol. Roeddwn i wrth fy modd yn treulio amser gyda'r criw i fyny yno, ond fel yr ydyn ni'n gwybod, mae'r criwiau ar draws y de yn arbennig, ond hefyd y canolbarth—. Ar un penwythnos, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i 70 o danau gwyllt wedi'u cynnau'n fwriadol. Maen nhw'n berygl i fywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol, yn amlwg, ond hefyd i fywydau, yn ogystal ag eiddo. Rydyn ni nawr yn arwain y byd yn y ffordd yr ydyn ni'n ymateb i'r tanau gwyllt hynny. Rydyn ni'n allforio ein harbenigedd i fannau eraill, ac yn hyfforddi pobl eraill i wneud hynny, ond ni ddylai hyn fod yn digwydd. Nid oes prinder dulliau gweithredu da gyda phobl ifanc—y Prosiect Myfyrio, Prosiect Phoenix, y Cadetiaid Tân a mwy—sy'n dda iawn, ond nid pobl ifanc yn unig yw hyn; rydyn ni'n clywed bod oedolion yn cymryd rhan mewn achosion o gynnau tanau bwriadol hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu cyfle i drafod hyn yma ar lawr y Senedd, gyda datganiad llafar neu ddadl.

Yr ail eitem yr hoffwn i ei gael fel datganiad, yn enwedig gan ein bod ni yng nghanol Pythefnos Cydweithredol, yw datganiad ar berchnogaeth gan weithwyr, yn ogystal â'r gwaith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes cydweithredol. Roedd digwyddiad ardderchog y diwrnod o'r blaen, dan arweiniad Cwmpas, Canolfan Cydweithredol Cymru gynt, lle, yn wir, cawsom ni sylwadau agoriadol ar fideo gan y Gweinidog, gan ddangos y cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud. Roedd gennym ni'r uchelgais honno i ddyblu nifer y sefydliadau yn yr economi gydweithredol; rydyn ni ar y trywydd iawn i wneud hynny. Felly, mae'n debyg ein bod ni i gyd yn dweud nawr, 'Beth arall y byddai modd i ni ei wneud, oherwydd edrychwch ar hyn, mae Cymru o flaen y gad ar hyn?' Felly, byddwn i'n croesawu, yn ystod y Pythefnos Cydweithredol, yr wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud gyda'r agenda gydweithredol, ond yn enwedig ar yr economi gydweithredol, a dyblu'r economi gydweithredol.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:36, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i dalu teyrnged i sgil a dewrder ein diffoddwyr tân ledled Cymru, yn enwedig wrth ymdrin â thrychinebau tanau gwyllt. Fel y dywedwch chi, rydyn ni'n arwain y byd, mewn gwirionedd, o ran hyn, ac rydyn ni wedi gweithio gyda'n holl wasanaethau tân ac achub i gyflwyno prosiectau. Roeddech chi'n sôn am Brosiect Phoenix, ac rwyf i wedi ei weld ar waith fy hun—mae'n hynod bwerus. Ond hefyd, rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn sgiliau ac offer arbenigol ar gyfer y dasg benodol honno, ac rydyn ni wedi bod yn hapus iawn i'w cefnogi nhw yn y ffordd honno. Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol i brynu cerbydau diffodd tân oddi ar y ffordd, er enghraifft, a pheth offer amddiffynnol personol ysgafn. Ond, yn anffodus, er bod yr achosion o danau gwyllt drwyddi draw wedi lleihau'n sylweddol—nôl yn 2010-11, roedd dros 7,000 o danau, yn cynnwys glaswelltir, coetir a chnydau; y flwyddyn cyn y llynedd, roedd hi'n 2,500—fel y dywedwch chi, yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld, yn anffodus, gynnydd yn nifer y rhain. Mae rhai ohonyn nhw'n cael eu dechrau'n fwriadol, ac mae rhai ohonyn nhw o ganlyniad, mae'n debyg, i fygythiad newid hinsawdd—yr effaith mae patrymau tywydd yn ei gael ar ein llystyfiant, er enghraifft.

O ran eich ail bwynt—ac mae'n dda cael ein hatgoffa ein bod ni yng nghanol y Pythefnos Cydweithredol—rwy'n siŵr y byddai Gweinidog yr Economi yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae gennym ni lawer i'w ddathlu, rwy'n credu, yn y maes hwn; nawr mae gennym ni 64 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr ledled Cymru, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog wedi bod yn ei gyflwyno. Ac mae gennym ni dri busnes newydd sy'n eiddo i weithwyr ar gam cyfreithiol y broses bontio, sy'n gwneud cynnydd yn ein hymrwymiad rhaglen lywodraethu i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru erbyn 2026.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 2:38, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sefyll i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar Trafnidiaeth Cymru. Ddydd Iau diwethaf, cafodd y rhai sy'n fy nilyn i ar Twitter eu trin i bennod arall o dyddiadur teithio Janet. Nawr, er bod Harry Styles wedi bod yn y brifddinas y noson gynt, roedd Trafnidiaeth Cymru yn meddwl ei bod yn addas bod â dim ond dau gerbyd ar y trên amser cinio o Gaerdydd yn ôl i Gaergybi. Cafodd pobl eu gwasgu at ei gilydd yn llythrennol fel sardîns; roedd hi'n annioddefol. Roedd plant yn crio, roedd yna doiledau nad oeddech chi'n gallu'u cyrraedd hyd yn oed, ac i ddweud bod y tymheredd—. O, roedd hi yn eithriadol o boeth. Roeddwn i'n teimlo'n flinedig awr i mewn i'r daith, ac rydych chi ar y trên hwnnw am ryw bedair awr. Dydy hyn wir ddim digon da.

Nawr, rwy'n deall bod rhyw sylw wedi'i wneud gan y Dirprwy Weinidog—neu efallai Trafnidiaeth Cymru eu hunain hyd yn oed—fod y saith trên 175 sydd wedi'u tynnu o wasanaeth oherwydd materion diogelwch tân i fod i gael eu rhoi yn ôl ddoe. A gawn ni rywfaint o gadarnhad ynghylch a yw hyn wedi digwydd? Mae'n rhaid i mi ddweud bod fy nhaith i lawr ddoe wedi bod yn iawn, ond mae'r tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn erchyll, ac mae hi wir yn annerbyniol. Mae gennyf i fideo sy'n frawychus iawn, ac a dweud y gwir, fe wnes i ei anfon at y Dirprwy Weinidog. Ni fyddech chi'n cael caniatáu i wartheg na da byw deithio yn y mathau o dymheredd yr ydych chi'n disgwyl i bobl Cymru deithio ynddyn nhw, ac yn wir ymwelwyr â Chymru—. Roedd yna gyngerdd; roedd pawb yn gwybod bod yr holl westai yn llawn ar y noson arbennig hon. Dylai fod lle wedi bod ar y trenau, ac rwy'n dal y Llywodraeth Cymru hon yn gyfrifol. Roedd rhaid defnyddio'r cordyn tynnu, oherwydd bod rhywun yn teimlo'n wael iawn. Nid yw hwn yn wasanaeth trên boddhaol ac, a dweud y gwir, Dirprwy Weinidog, rwy'n credu y dylech chi, ar ryw adeg, ystyried eich sefyllfa, oherwydd nid yw'n gwella wythnos ar ôl wythnos, ar ôl wythnos, ar ôl wythnos. Gallwch chi wenu. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:40, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Na, na, rwy'n credu bod hynny'n ddigon nawr. Rwy'n credu y bûm yn hynod hael wrth ganiatáu i chi fynd ymlaen ar ôl i chi blygu'ch darn o bapur a'i roi heibio. Gofynnaf i'r Gweinidog busnes, y Trefnydd, ymateb i chi.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid wyf i'n credu bod hynny'n fater i chi. Ond yr hyn y gallaf i eich sicrhau—. Mewn gwirionedd, ddoe, dim ond o bellter y gwelais i chi, ond roeddech chi'n amlwg yn cwrdd â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru a swyddogion eraill. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn onest iawn, rwy'n credu, am yr heriau sy'n wynebu'r rheilffordd yma yng Nghymru, ac mae'n gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru. Fel chi, rwy'n teithio bob wythnos ar y trên rhwng y gogledd a'r de, ac wrth gwrs rydyn ni eisiau gweld gwelliannau. Ac, unwaith eto, cymerais i'r cyfle, ddoe, mewn gwirionedd, i gael sgwrs gyda'r prif weithredwr, oherwydd dydw i ddim yn dal nôl os oes problemau; rwy'n dweud wrtho yn union sut beth ydyw. Ond rydych chi'n gwybod yr heriau yr ydyn ni'n eu hwynebu o ran diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, ond byddwch yn dawel eich meddwl bod y Dirprwy Weinidog yn gweithio'n galed iawn gyda Trafnidiaeth Cymru ac mae ef wedi addo y bydd pethau'n gwella ar y system drafnidiaeth gyhoeddus.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:41, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, gawn ni ddatganiad ar bolisi cynllunio, os gwelwch yn dda? Bydd 6,000 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yng ngogledd Caerdydd heb ystyried yn iawn sut i ymdrin â charthffosiaeth a fydd yn cael ei chynhyrchu o'r cartrefi. Mae caniatâd nawr wedi'i roi i adeiladu gorsaf bwmpio carthion ar Barc Hailey, parc a oedd yn rhodd i bobl Caerdydd, gan golli parcdir a phryderon hefyd ynghylch llifogydd. Mae grŵp lleol o'r Sgowtiaid wedi bod yn profi ffosffadau yn y Taf ger Parc Hailey yn ddiweddar ac maen nhw wedi gweld bod lefelau wedi cynyddu, gan ddangos pam mae angen gwell seilwaith carthffosiaeth arnom ni ac i'w drin, nid dim ond i'w symud o un rhan o'r ddinas i'r nesaf.

Yr wythnos hon, bydd grŵp cymunedol o'r enw Cymdeithas Trigolion Ystum Taf, ar ôl codi dros £40,000 o'u harian eu hunain, yn dod ag adolygiad barnwrol o benderfyniad cynllunio Cyngor Caerdydd ynghylch y safle trin carthion ym Mharc Hailey. Er fy mod i'n gwerthfawrogi na allwch chi wneud sylwadau ar yr adolygiad barnwrol hwn, sut y gall cymunedau, fel cymuned Ystum Taf a chymunedau ledled Cymru, gymryd mwy o ran yn y broses gynllunio heb orfod troi at frwydrau cyfreithiol costus sy'n cymryd llawer o amser? Diolch yn fawr.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:42, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r pwynt olaf yr ydych yn ei godi yn bwysig iawn, ac yn sicr mae 'Polisi Cynllunio Cymru', fel y mae, rwy'n credu, yn sicr yn galluogi aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn y ffordd rwy'n credu y bydden ni i gyd eisiau'i gweld. Mae polisi cynllunio yn cael ei ddiwygio'n rheolaidd. Mae'r Gweinidog yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig, yn sicr, bob tro y bydd hynny'n digwydd. Mater i Gyngor Caerdydd yw'r mater yr ydych chi eisiau gael datganiad arno mewn gwirionedd.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am ddibynadwyedd a pherfformiadau presennol bysiau? Fy rheswm dros ofyn yw oherwydd bod llu o gwynion wedi dod gan drigolion sy'n byw yn Ynysddu, Wattsville a'r pentrefi cyfagos, pob un ohonyn nhw'n defnyddio bysiau 56, 55 ac R2 Stagecoach i fod yn benodol. Y broblem maen nhw'n ei chael yw nad yw bysiau'n ymddangos ar amser ac, mewn llawer o achosion, nid ydyn nhw'n ymddangos o gwbl. Mae teithwyr yn cael eu gadael mewn safleoedd bysiau ac, mewn rhai achosion, maen nhw'n gorfod cerdded yn bell iawn oherwydd bod y bysiau'n eu gollwng yn y lleoliad anghywir. Nid yw hyn yn dderbyniol mewn gwirionedd ac mae'n achosi aflonyddwch enfawr i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae'r sefyllfa mor wael fel bod rhaid i un preswylydd archebu tacsis nawr pan fydd angen iddo fynd i apwyntiad pwysig, oherwydd ni all ddibynnu ar y gwasanaeth annigonol hwn. Hoffwn i wybod pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda Stagecoach ynghylch beth sy'n achosi'r materion hyn a sut y mae modd ymdrin â nhw yn y dyfodol. Byddai i'w groesawu'n fawr pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn gynted â phosibl. Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:44, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rydych chi'n cyfeirio'n glir at fater lleol iawn, ac yn amlwg mae'r Dirprwy Weinidog yn cael trafodaethau gyda gweithredwyr bysiau, ond, unwaith eto, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r gweithredwyr bysiau hynny, ac nid wyf yn credu bod angen datganiad llafar.