– Senedd Cymru am 6:41 pm ar 27 Mehefin 2023.
Eitem 13 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein. Y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i wneud y cynnig yma, Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i ddarpariaethau perthnasol y Bil Diogelwch Ar-lein, fel yr amlinellir yn y pum caniatâd deddfwriaethol a gyflwynwyd hyd yma. Drwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y DU yn ceisio sefydlu cyfundrefn reoleiddio i ddiogelu unigolion rhag niwed ar-lein, gan roi pwerau i Ofcom fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein newydd.
Er bod diogelwch a lles yn gyfrifoldeb ar y cyd, Bil ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd yw'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf effeithiol a chymesur i ddarparu rheoleiddio cyson i amddiffyn pobl yng Nghymru. Mae amddiffyn plant rhag niwed yn rhan o arolygu a rheoleiddio o dan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Felly, rydym ni wedi sicrhau bod darparwyr addysg a gofal plant yng Nghymru wedi'u heithrio o'r Bil.
Rwy'n cefnogi creu'r troseddau newydd o gynorthwyo neu annog hunan-niweidio ar-lein ac anfon neu ddangos delweddau sy'n fflachio i'r rhai ag epilepsi. Mae deddfwriaeth o'r fath yn cefnogi ein gwaith ataliol mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niweidio. Bydd achosion lle mae'r troseddau hyn yn cynnwys cyfathrebu all-lein ac felly byddant o fewn cymhwysedd y Senedd. O ganlyniad, mae angen cydsyniad deddfwriaethol.
Felly, er fy mod yn croesawu'r Bil yn gyffredinol, rwy'n siomedig na wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno'r gwelliant ynghylch hunan-niweidio tan yn ddiweddar, o ystyried iddo gael ei gyhoeddi'n wreiddiol fis Rhagfyr diwethaf. Ac er bod ymgysylltu'n gyflym â Llywodraeth y DU wedi ein galluogi i gyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gofynnol yn gyflym iawn, gan alluogi fy swyddogion i graffu arno'n briodol, effeithiwyd ar allu'r Senedd i graffu ar ddarpariaethau'r Bil yn briodol unwaith eto.
Rwy'n ymwybodol bod llawer yn teimlo nad yw'r Bil yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig wrth amddiffyn oedolion ifanc a bregus. Mae cael gwared ar ddarpariaethau cyfreithiol ond niweidiol i oedolion yn hytrach yn ei gwneud hi'n ofynnol i unigolion gymryd camau i'w diogelu eu hunain, ac mae hynny wedi cael ei feirniadu'n eang. Rwy'n gwybod nad yw llawer o bobl a grwpiau'n credu y bydd hyn yn mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â cham-drin ar-lein, casineb, hiliaeth a chasineb at fenywod. Mae'n hanfodol, felly, ochr yn ochr â'r Bil hwn, fod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymdrechion i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog yr economi gynllun gweithredu seiber ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys camau i helpu i gadw pobl mor ddiogel a diogel â phosibl ar-lein. At hynny, mae ein cynllun gweithredu cadernid digidol mewn addysg yn gwella polisi ac ymarfer darpariaeth diogelwch ar-lein ledled Cymru. Felly, mae'n rhaid i ni adeiladu ar y gwaith fel hyn i helpu sicrhau bod pobl Cymru yn ddiogel ar-lein.
Er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd ar y Bil, rwyf hefyd yn siomedig nad yw ein cais i gynnwys Comisiynydd Plant Cymru fel ymgynghorai statudol Ofcom wedi'i ganiatáu. Rwy'n pryderu y gallai hawliau plant yng Nghymru gael eu tanseilio os na chaiff ein comisiynydd plant ei enwi'n benodol yn y Bil hwn. Ond byddwn yn parhau i bwyso am y gwelliant hwn.
Llywydd, i gloi, rwy'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am ystyried y memoranda hyn ac rwy'n falch eu bod yn cytuno y dylid cydsynio. Diolch.
Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac fe ddywedaf eto: mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu defnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Dylai'r Senedd wneud pob penderfyniad sy'n effeithio ar y meysydd cyfrifoldeb datganoledig.
Gan droi at y mater dan sylw, mewn oes lle mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ddylanwad treiddiol yn ein cymdeithas, ni fu ein hangen am reoleiddio gofodau ar-lein yn fwy effeithiol a chadarn erioed mor fawr. Tanlinellwyd hyn gan yr astudiaeth ddiweddar gan yr NSPCC, a ganfu gynnydd o 66 y cant mewn troseddau yn ymwneud â delweddau o gam-drin plant a gofnodwyd gan heddlu'r DU dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, o ystyried record alaethus, i fod yn blaen, Llywodraeth bresennol y DU wrth reoleiddio corfforaethau rhyngwladol, rydym yn parhau i fod yn amheus mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni'r mesurau hyn.
Mae hefyd yn amlwg bod y Bil yn ddiffygiol mewn nifer o feysydd allweddol. Fel y nododd yr NSPCC, nid yw'r Bil yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer creu eiriolwr diogelwch plant arbenigol sy'n gwrando ar leisiau a phrofiadau plant. Byddai hyn yn rhoi i blant drefniadau defnyddwyr eiriolaeth statudol tebyg i'r rhai sydd eisoes ar waith ar draws y sector a reoleiddir. Mae swyddogaeth Cyngor ar Bopeth mewn perthynas â defnyddwyr ynni a phost yn un enghraifft. Ar ben hynny, er bod y Bil yn cynnwys ymrwymiad i ddwyn uwch reolwyr i gyfrif os yw eu cynnyrch yn cyfrannu at niwed difrifol i blant, nid yw'r mesurau'n mynd yn ddigon pell i ymestyn yr atebolrwydd troseddol hwn i'r penaethiaid technoleg eu hunain. Ar y sail hon, y ffordd orau a mwyaf effeithiol o sicrhau diogelwch plant Cymru ar-lein fydd drwy ddeddfwriaeth y Senedd. Diolch yn fawr.
Os oedd arnoch chi eisiau astudiaeth achos o ran sut i beidio â gwneud deddfwriaeth, yna edrychwch ddim pellach na Llywodraeth y DU a'r Bil Diogelwch Ar-lein hwn. Mae'r hyn a ddechreuodd fel ymgais wirioneddol i amddiffyn plant wedi dod yn ddryslyd, cymhleth, ac ar hyn o bryd, mae'n cynnwys popeth dan haul. Wrth gwrs, mae rhannau da i'r Bil hwn o hyd, ac mae'r gwelliant penodol hwn yn un ohonyn nhw, felly byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am y rhesymau a nodwyd eisoes gan y Dirprwy Weinidog, ond byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i nodi rhai materion eraill gyda'r Bil.
Er ei fod yn methu â mynd i'r afael â materion allweddol fel model busnes problemus llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn ceisio atal rhyddid i lefaru ac yn bygwth y defnydd o amgryptio defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy'n hanfodol ar gyfer preifatrwydd personol. Amgryptio o'r dechrau i'r diwedd yw sylfaen ein rhyngrwyd presennol. Mae'n caniatáu nid yn unig i chi neu fi gael trafodaeth yn ddiogel, heb i wladwriaeth awdurdodol ysbïo ar ein negeseuon e-bost ac mae'n caniatáu inni wneud y trafodiad banc cyflym hwnnw heb i droseddwr gipio ein manylion. Mae'r pethau hyn mewn perygl os na fydd y Bil hwn yn cael ei herio, yn ôl yr Electronic Frontier Foundation. Llofnododd llawer o arbenigwyr yn y maes hwn lythyr agored at Lywodraeth y DU, yn amlygu eu pryderon am y cyfyngiadau hyn o ran amgryptio o'r dechrau i'r diwedd. Fe ddywedon nhw:
'Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai'r bil dorri amgryptio o'r dechrau i'r diwedd, gan agor y drws i wyliadwriaeth rheolaidd, cyffredinol a diwahân.'
Mewn gwirionedd, dim ond 14 y cant o weithwyr technoleg proffesiynol oedd yn credu bod y ddeddfwriaeth yn addas i'r diben. Yn ôl Liberty International, gallai hefyd effeithio ar ein rhyddid i lefaru a thorri erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, fel y'i diogelir gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, oherwydd ei nod yw cyfyngu cynnwys cyfreithiol ond niweidiol heb unrhyw eglurder ynghylch yr hyn y byddai hynny'n ei gynnwys, pwy fyddai'n penderfynu, a sut y byddai'n cael ei weithredu nawr ac yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll, byddai'r ddeddfwriaeth hon hefyd, o dan is-baragraff 6, yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo cyfrifon heb eu gwirio. Gweinidog, mae hwn yn ddull diffygiol sy'n trin anhysbysrwydd ar-lein fel rhywbeth anniogel yn ei hanfod. Nid oes llawer o dystiolaeth i gefnogi'r honiad bod anhysbysrwydd ei hun yn gwneud disgwrs ar-lein yn fwy ffyrnig, ac i'r gwrthwyneb, nid oes gan lawer o'r cam-drin yr wyf i ac Aelodau eraill o'r Siambr hon yn ei dderbyn unrhyw wahaniaeth amlwg naill ai o ran natur na thôn, yn seiliedig ar anhysbysrwydd neu hysbysrwydd cyfrif. Cynhaliodd y New Statesman ymchwil ar y pwnc hwn, sy'n nodi, er bod 32 y cant o drydariadau o gyfrifon anhysbys yn cael eu hystyried yn 'ddig', yn ôl eu metrigau, ystyriwyd hefyd bod 30 y cant o drydariadau tebyg o gyfrifon ag enwau llawn ynghlwm yn ddig neu'n ymosodol. Mae'n amlwg felly na fyddai'r ddeddfwriaeth hon yn cael cymaint o effaith ag yr honnir. Yn sylfaenol, ni fydd y Bil cyfan yn cyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud, ac mae peidio â chynnwys Comisiynydd Plant Cymru yn profi hyn i mi.
Felly, byddaf, byddaf yn cefnogi'r un gwelliant hwn a'r eithriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi galw amdanyn nhw, ond rwy'n credu ei bod hi'n chwerthinllyd bod Llywodraeth Cymru wedi cael cyn lleied o amser i ystyried hyn, ein bod ni fel seneddwyr wedi cael bron ddim, ac yn hollbwysig, nid yw'r cyhoedd yn cael unrhyw gyfle ystyrlon i ddweud eu dweud o gwbl. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd. Wrth gloi'r ddadl, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelodau hynny am eu sylwadau a'u barn y prynhawn yma? Mewn ymateb i'r pwyntiau a wnaed, yn enwedig gan Peredur Owen Griffiths, ac rwy'n cydnabod gwrthwynebiad egwyddorol Plaid Cymru i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, ond a dweud y gwir, nid yw'r gwrthwynebiad egwyddorol hwnnw yn mynd i'n helpu ni o ran amddiffyn plant ar-lein mewn maes sydd wedi'i gadw'n ôl. Ac mae hwn yn faes lle mae'n synhwyrol i ni weithio gyda'n gilydd ar sail y DU, gan ei fod yn gam sylweddol i'r cyfeiriad cywir, a gallwn weithio ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud sydd wedi'i ddatganoli, yr ydym ni'n ei ddatblygu ein hunain yng Nghymru, i eistedd ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon yn y DU.
I ymdrin â phwynt Sarah Murphy, rwy'n credu ei bod hi yn llygad ei lle i dynnu sylw at y ffordd y mae'r Bil hwn wedi mynd ar ei hynt drwy San Steffan. Mae'n gymhleth. Bu llawer o welliannau, ac rydym yn credu y gallai fod gwelliannau eraill yn y dyfodol. Ond rwy'n credu mai dim ond i'n hatgoffa nad deddfwriaeth Gymreig yw hon, felly rydym yn ymateb i'r meysydd hynny sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig y ddeddfwriaeth honno, ac nid wyf yn gwneud unrhyw sylw penodol ar y ddeddfwriaeth ei hun.
Felly, i gloi, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y Bil Diogelwch Ar-lein, a'r amddiffyniadau y credwn y bydd yn eu darparu i bobl rhag niwed y rhyngrwyd, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Senedd gydsynio i'r Bil hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.