Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 27 Mehefin 2023.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o agor y ddadl Cyfnod 4 ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Rwy'n hynod falch o'r sector amaeth yng Nghymru a'r cydweithio a fu i greu'r Bil amaethyddiaeth cyntaf hwn i Gymru, Bil sydd wir yn gweithio i ffermwyr Cymru, y sector amaeth, ein tir a Chymru gyfan. Y canlyniad yw darn uchelgeisiol a thrawsnewidiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gefnogaeth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n arwydd o newid sylweddol yn ein dull o gefnogi'r sector amaeth yma yng Nghymru, gan gydnabod y buddion economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol sy'n deillio o ffermio.
Ein blaenoriaethau yw cadw ffermwyr ar eu tir, sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei thargedu tuag at y ffermwyr hynny sy'n rheoli tir Cymru, ac i wneud hynny'n gynaliadwy. Mae hyn yn creu busnesau fferm cydnerth, sy'n cyfrannu at gymunedau a diwylliant gwledig ffyniannus, gan gynnwys gwell mynediad i'n cefn gwlad a chynnal y Gymraeg. Mae'r Bil yn sefydlu rheolaeth tir cynaliadwy fel y fframwaith ar gyfer cymorth a rheoleiddio amaethyddol yn y dyfodol. Mae'n darparu cyfeiriad polisi clir ac uchelgeisiol i Weinidogion Cymru weithredu—er enghraifft, cefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a chyfrannu yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac, wrth wneud hynny, diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a chyfrannu at nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, Cymru hefyd fydd y cyntaf o wledydd y DU i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Credaf ei bod hi'n bwysig nodi arwyddocâd ymrwymiad y rhaglen lywodraethu hon sy'n cael ei chyflawni, gan adlewyrchu'n wirioneddol y safonau lles anifeiliaid uchel yr ydym ni'n ymdrechu i'w cyrraedd yma yng Nghymru.
Mae'r Bil yn ganlyniad blynyddoedd o waith polisi, cyd-ddylunio, ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae gennyf lawer o bobl i ddiolch iddyn nhw sydd wedi helpu i lunio'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth: yn gyntaf, holl Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd wedi craffu a thrafod mewn modd sylweddol a hanfodol wrth lunio'r Bil hwn yng Nghymru, a hefyd i Blaid Cymru, yn enwedig Cefin Campbell, am eu hymgysylltiad a'u cydweithrediad â'r Bil drwy'r cytundeb cydweithio, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi i gyd ar y trefniadau tymor hwy ar gyfer amaethyddiaeth Cymru. Credaf fod y gwelliannau a wnaed i'r Bil o ganlyniad i waith craffu'r Senedd wedi ei wella. Hoffwn ddiolch hefyd i'r miloedd o ffermwyr a choedwigwyr a ymatebodd i'n hymgynghoriadau, y rhai a weithiodd gyda ni drwy gyd-ddylunio a'r rhai sydd yn garedig wedi fy nhywys i a'u swyddogion o amgylch eu ffermydd ac wedi trafod eu barn ac, yn bwysig, wedi rhannu eu harbenigedd gyda mi.
Diolch i gyfreithwyr y Senedd, clercod pwyllgorau a staff eraill y Comisiwn am eu gwaith a'u cefnogaeth drwy gydol proses y Bil, ac, wrth gwrs, i'r llu o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio ar y darn hwn o ddeddfwriaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae fy 'niolch' olaf i dîm y Bil, ynghyd â fy nghynghorydd arbennig, sydd i gyd yn yr oriel gyhoeddus. Rydych chi wedi dangos ymrwymiad anhygoel ac fe ddylech chi fod yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan yn y ddeddfwriaeth nodedig hon, un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n sector amaethyddol yng Nghymru a chenedlaethau o ffermwyr heddiw a rhai'r dyfodol. Mae arnaf i 'ddiolch' personol i chi am eich holl gefnogaeth i mi, am eich gwaith caled ac am fy helpu i a'n gilydd bob amser i ganfod ffordd drwy'r rhwystrau, yr heriau a'r maglau anochel sydd bob amser yn ymddangos yn ystod taith hir Bil. Diolch yn fawr iawn. Llywydd, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).