– Senedd Cymru am 6:26 pm ar 27 Mehefin 2023.
Mae hynny'n ein harwain at eitem 12, sef Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a'r Gweinidog, felly, i wneud y cynnig yma—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o agor y ddadl Cyfnod 4 ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Rwy'n hynod falch o'r sector amaeth yng Nghymru a'r cydweithio a fu i greu'r Bil amaethyddiaeth cyntaf hwn i Gymru, Bil sydd wir yn gweithio i ffermwyr Cymru, y sector amaeth, ein tir a Chymru gyfan. Y canlyniad yw darn uchelgeisiol a thrawsnewidiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gefnogaeth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n arwydd o newid sylweddol yn ein dull o gefnogi'r sector amaeth yma yng Nghymru, gan gydnabod y buddion economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol sy'n deillio o ffermio.
Ein blaenoriaethau yw cadw ffermwyr ar eu tir, sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei thargedu tuag at y ffermwyr hynny sy'n rheoli tir Cymru, ac i wneud hynny'n gynaliadwy. Mae hyn yn creu busnesau fferm cydnerth, sy'n cyfrannu at gymunedau a diwylliant gwledig ffyniannus, gan gynnwys gwell mynediad i'n cefn gwlad a chynnal y Gymraeg. Mae'r Bil yn sefydlu rheolaeth tir cynaliadwy fel y fframwaith ar gyfer cymorth a rheoleiddio amaethyddol yn y dyfodol. Mae'n darparu cyfeiriad polisi clir ac uchelgeisiol i Weinidogion Cymru weithredu—er enghraifft, cefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a chyfrannu yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac, wrth wneud hynny, diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a chyfrannu at nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, Cymru hefyd fydd y cyntaf o wledydd y DU i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Credaf ei bod hi'n bwysig nodi arwyddocâd ymrwymiad y rhaglen lywodraethu hon sy'n cael ei chyflawni, gan adlewyrchu'n wirioneddol y safonau lles anifeiliaid uchel yr ydym ni'n ymdrechu i'w cyrraedd yma yng Nghymru.
Mae'r Bil yn ganlyniad blynyddoedd o waith polisi, cyd-ddylunio, ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae gennyf lawer o bobl i ddiolch iddyn nhw sydd wedi helpu i lunio'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth: yn gyntaf, holl Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd wedi craffu a thrafod mewn modd sylweddol a hanfodol wrth lunio'r Bil hwn yng Nghymru, a hefyd i Blaid Cymru, yn enwedig Cefin Campbell, am eu hymgysylltiad a'u cydweithrediad â'r Bil drwy'r cytundeb cydweithio, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi i gyd ar y trefniadau tymor hwy ar gyfer amaethyddiaeth Cymru. Credaf fod y gwelliannau a wnaed i'r Bil o ganlyniad i waith craffu'r Senedd wedi ei wella. Hoffwn ddiolch hefyd i'r miloedd o ffermwyr a choedwigwyr a ymatebodd i'n hymgynghoriadau, y rhai a weithiodd gyda ni drwy gyd-ddylunio a'r rhai sydd yn garedig wedi fy nhywys i a'u swyddogion o amgylch eu ffermydd ac wedi trafod eu barn ac, yn bwysig, wedi rhannu eu harbenigedd gyda mi.
Diolch i gyfreithwyr y Senedd, clercod pwyllgorau a staff eraill y Comisiwn am eu gwaith a'u cefnogaeth drwy gydol proses y Bil, ac, wrth gwrs, i'r llu o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio ar y darn hwn o ddeddfwriaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae fy 'niolch' olaf i dîm y Bil, ynghyd â fy nghynghorydd arbennig, sydd i gyd yn yr oriel gyhoeddus. Rydych chi wedi dangos ymrwymiad anhygoel ac fe ddylech chi fod yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan yn y ddeddfwriaeth nodedig hon, un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n sector amaethyddol yng Nghymru a chenedlaethau o ffermwyr heddiw a rhai'r dyfodol. Mae arnaf i 'ddiolch' personol i chi am eich holl gefnogaeth i mi, am eich gwaith caled ac am fy helpu i a'n gilydd bob amser i ganfod ffordd drwy'r rhwystrau, yr heriau a'r maglau anochel sydd bob amser yn ymddangos yn ystod taith hir Bil. Diolch yn fawr iawn. Llywydd, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog yn gyntaf am ei thrafodaethau â mi yn fy swyddogaeth yn Weinidog yr wrthblaid dros faterion gwledig drwy gydol proses y Bil hwn? Dyma, yn wir, y Bil cyntaf i mi weithio arno yn Aelod o'r Senedd, ac rwy'n cofio'n glir yr amser pan roddodd Andrew R.T. Davies fi i eistedd a chyflwyno fy mhortffolio o faterion gwledig a'r iaith Gymraeg imi. Ar unwaith, roeddwn i'n llawn cyffro ac ychydig yn anesmwyth, fel mab fferm, i sefyll ar fy nhraed a chynrychioli diwydiant rwy'n hynod angerddol amdano. Ond rwyf yn wir wedi gweld y berthynas yn gweithio gyda'r Gweinidog yn hynod werth chweil wrth gyflwyno'r hyn rwy'n credu sy'n Fil hynod bwysig ac amserol ar gyfer amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth a luniwyd yng Nghymru, sy'n hynod o bwysig, ac mae wedi dod yn bell o'r ymgynghoriad cychwynnol 'Brexit a'n tir' i'r fan lle rydym ni yma heddiw.
Rwyf hefyd yn talu teyrnged i Cefin Campbell, ac i Mabon hefyd, am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth gyflwyno rhai o'm gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2, sydd wedi gwneud eu ffordd i'r Bil drwy'r cytundeb cydweithio yng Nghyfnod 3, sef y cynlluniau ariannol aml-flynyddol, adrodd cynhyrchiant, ynni adnewyddadwy ar ffermydd, yr wyf yn gwybod bod Jane Dodds, Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cyflwyno hefyd, a'r camau uwchgadarnhaol i newid y diffiniad o 'amaethyddiaeth'. Roedd y rhain yn alwadau allweddol gan y diwydiant a rhanddeiliaid o ran y Bil amaethyddol, ac rwy'n falch, pa bynnag ffordd y daethant, y byddant yn awr yn y llyfr statud yn rhan o'r Bil hwn.
Rwy'n credu mai'r hyn yr ydw i wedi ei ddysgu hefyd yw nad yw hwn bellach yn ddewis deuaidd rhwng amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Sylwais yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, o wrando ar y sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol a'r undebau ffermio, bod cyfrifoldeb ar y cyd yma o fod eisiau gwneud yn well i'r amgylchedd ac eisiau cefnogi ein diwydiant amaethyddol hefyd wrth barhau i ddarparu bwyd o ansawdd uchel, wrth barhau i ddiogelu ein hamgylchedd, gwneud hynny'n well ac, yn wir, i ddiogelu ein cymunedau gwledig. Yr ymadrodd a ddefnyddiais yn nigwyddiad bwyd a ffermio Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf oedd, 'Amaethyddiaeth yw'r edau arian sy'n rhedeg trwy wead diwylliannol Cymru.' Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
Ond nawr, mae peth pryder o hyd na aeth y Bil yn ddigon pell o ran deall a chydnabod hyfywedd economaidd ffermydd teuluol mewn du a gwyn, ond rwy'n gwybod, trwy'r cytundeb cydweithio a'r gwelliant a gyflwynais fy hun, bod hynny wedi'i nodi a'i gryfhau yn un o'r amcanion rheoli tir cynaliadwy.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i longyfarch Llyr ar ei benodiad yn llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Llyr, i sicrhau fod y Llywodraeth yn onest o ran polisi amaethyddol yn y dyfodol.
Ond mae pwyslais nawr yn troi at y cynllun ffermio cynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn cefnogi ffermwyr Cymru i fod yn gynhyrchiol, i fod yn amgylcheddol gynaliadwy, ac rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Ond rhaid iddo fod yn hygyrch i holl ffermwyr Cymru, boed yn ffermwyr comin, ffermwyr iseldir, ffermwyr yr ucheldir neu, yn wir, ffermwyr tenantiaid. Rwy'n hynod falch ein bod wedi heibio'r Cyfnod hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r Gweinidog ar y cynllun ffermio cynaliadwy, gan wybod bod datganiad yn cael ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n credu bod hwn yn ddiwrnod pwysig i'r diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd.
Mae yn fraint cael cyfrannu am y tro cyntaf fel llefarydd newydd Plaid Cymru ar faterion gwledig. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda rhanddeiliaid, gydag Aelodau ar draws y Siambr, ac, wrth gwrs, craffu ar a chydweithio gyda'r Gweinidog hefyd.
Dwi'n meddwl ei bod hi yn addas ein bod ni yn dechrau drwy gydnabod y cyfraniad mae pawb wedi ei wneud tuag at y Bil yma, wrth iddo fe fynd ar ei daith—ac mae e wedi bod yn dipyn o daith, onid yw e, os ŷch chi'n cofion nôl i gyhoeddiad 'Brexit a'n tir' nôl yn 2018, a'r teitl yna'n ein hatgoffa ni, efallai, pam fod y Bil yn digwydd o gwbl. Ond mae'r Bil sy'n ein cyrraedd ni heddiw yng Nghyfnod 4 yn eithaf gwahanol i'r cynnig gwreiddiol hwnnw a amlinellwyd yn y man cyntaf bum mlynedd yn ôl. Mae bellach yn rhoi cydnabyddiaeth llawer mwy uniongyrchol, cryf a chyhyrog i'r angen i amddiffyn a chryfhau amaeth a'r cymunedau gwledig sydd mor ddibynnol ar y diwydiant. Roedd hi'n anodd credu, a bod yn onest, ar y dechrau fod cynhyrchu bwyd ddim yn cael ei gydnabod fel nwydd cyhoeddus neu public good. I fi, y public good pwysicaf oll yw bwydo'r genedl, ond o leiaf nawr mae'r Bil yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd fel un o rolau creiddiol y diwydiant yma yng Nghymru.
Mae'r Bil o'n blaenau ni heddiw hefyd, wrth gwrs, yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad pwysig y gymuned amaethyddol i’r economi wledig ac i'r angen i gryfhau cyfraniad y sector i hyfywedd yr economi wledig mewn ffordd efallai oedd ddim yn y Bil gwreiddiol. Yn yr un modd, wrth gwrs, mae cydnabod a chefnogi pwysigrwydd y sector amaeth i ddyfodol yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru hefyd yn nodwedd explicit yn y Bil mewn ffordd oedd ddim yno, efallai, ar y cychwyn. Mae’n bwysig, fel ŷn ni wedi clywed hefyd, cydnabod bod sicrhau cynllun cefnogi amlflwyddyn nawr yn nodwedd, mynd o dair blynedd i bum mlynedd. Mi fyddwn i yn atgoffa pawb ei bod hi'n saith mlynedd cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond dwi yn croesawu'r ffaith ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn.
Mae wedi bod yn daith, a dyw hi ddim ond yn deg i fi, fel eraill, gydnabod gwaith rhai o’m cyd-Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru: Mabon ap Gwynfor, wrth gwrs, yn lefarydd y blaid wrth i’r Bil yma fynd ar ei daith drwy’r Senedd; i Luke Fletcher, aelod o’r pwyllgor fuodd yn craffu ar y Bil; ac fel ŷn ni wedi clywed hefyd, i Cefin Campbell fel yr Aelod dynodedig, sydd wedi llwyddo i gael dylanwad ar y Bil yma drwy ei waith fel rhan o’r cytundeb cydweithio. Diolch iddyn nhw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i’r lleisiau cryf o gyfeiriad y sectorau perthnasol sydd wedi llwyddo eto i gael dylanwad helaeth ar y Bil yma.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma heddiw. Efallai ei fod e'n Fil amherffaith, fydd yn rhywbeth y byddwn ni yn dal i weithio arno fe wrth inni symud ymlaen nawr i’r phase nesaf, ond fyddai dim modd darparu unrhyw gefnogaeth i’r sector oni bai bod y Bil yma yn cael ei basio, a dwi'n siŵr bod neb am weld hynny'n digwydd. Ond nid dyma ddiwedd y daith, wrth gwrs, achos yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, mi ddywedodd e mai dyma’r cam cyntaf yn rhaglen y Llywodraeth i ddiwygio amaethyddiaeth. Felly, megis cychwyn mae’r daith mewn gwirionedd, ond megis cychwyn hefyd mae’r frwydr i sicrhau’r canlyniad gorau i amaethyddiaeth, i'r amgylchedd ac i gymunedau gwledig, ac fel ŷn ni wedi clywed, maen nhw yn mynd law yn llaw. Maen nhw yn mynd law yn llaw, ac mae llwyddiant i'r tri yn gorfod bod yn ffocws i’n gwaith ni ar bob tro ar hyd y daith. Creu fframwaith mae’r Bil, ac felly, wrth gwrs, mae'r ffocws yn troi yn awr at y cynllun ffermio cynaliadwy. Yn fanna fydd y glo mân, a dwi a Phlaid Cymru yn edrych ymlaen yn fawr iawn i chwarae'n rhan wrth ddylanwadu ar ffurf a chynnwys y cynllun hwnnw yn y cyfnod nesaf sydd i ddod.
Wrth i unrhyw Fil fynd ar ei hynt, dylid tynnu Gweinidogion bob ffordd. Dylai fod gofynion arnyn nhw o un ochr a'r llall i geisio addasu'r Bil. Hoffwn eich canmol, Gweinidog, oherwydd yn wynebu safbwyntiau eithaf gwahanol o ran yr hyn y dylai'r Bil amaethyddiaeth fod, rydych chi wedi siarad â llawer o grwpiau, llawer o sefydliadau, llawer o aelodau meinciau cefn hefyd, yn ogystal â llefarwyr ar y meinciau blaen, ac rydych chi wedi gwneud addasiadau, ac mae'r Bil hwn yn well o'r herwydd. Rydym ni wedi clywed am rai o'r agweddau sy'n adlewyrchu'r gymuned wledig, y gymuned amaethyddol, ffermwyr sy'n gweithio, ac yn y blaen.
Hoffwn hefyd eich canmol, er na chyflwynwyd gwelliannau i'r graddau hyn, am annog dadl yn gynharach, lle gwnaethom ni ofyn am yr ymrwymiadau sy'n cael eu cyflawni, i ddiweddaru'r memorandwm esboniadol i gyfeirio'n benodol at fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang COP 15 Kunming-Montréal, i sicrhau y bydd unrhyw gynllun yn y dyfodol a ddaw o'r Bil amaeth hwn yn ystyried strategaethau adfer natur a bioamrywiaeth a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o'r cyfarfod COP 15 y bu Julie James ynddo, ac yn y blaen. Fe wnaethoch chi gyfres o ymrwymiadau. Pan gyrhaeddwn ni ddiwedd y darn hwn, dylai pawb ar un ystyr fod ychydig yn anfodlon, oherwydd nid yw pawb wedi cael yr union beth maen arnyn nhw ei eisiau, ond mae'r Bil hwn yn unigol well oherwydd yr ymgysylltiad rydych chi a'ch tîm o swyddogion wedi'i gael ar bob cam, ac rwy'n eich canmol am hyn.
A gaf i hefyd ddiolch i bwyllgor ETRA? Nid y pwyllgor newid hinsawdd oedd y prif bwyllgor yn ymdrin â hyn, ond fe wnaethoch chi ein gwahodd i un o'ch sesiynau y gwnaethom ni gymryd rhan ynddi. Bu i ni nid yn unig fwynhau hynny, ond rwy'n gobeithio ein bod ni wedi ychwanegu rhywbeth at y cyfuniad o rai agweddau yn ogystal â'ch trafodaethau, ac fe wnaethom ni barhau i ymwneud â hyn wrth iddo fynd ar ei hynt.
Gweinidog, mae hyn yn dda iawn mewn gwirionedd, ond nid yw'r Bil amaethyddiaeth yn ddiwedd popeth. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy ar y gweill, y rheoliadau sy'n deillio o hyn, yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed heddiw yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar lywodraethu amgylcheddol yn y dyfodol a'r hyn a wnawn ni o ran adfer a thargedau natur. Nid dyma ddiwedd y daith, ond rwy'n credu mai'r hyn y gallwn ni gytuno arno yw'r sylw a wnaeth Sam gynnau: nid gêm o lwyddo neu fethu yw hon lle mae un ochr yn ennill, un arall yn colli; mae a wnelo hyn â phob un ohonom ni gyda'n gilydd yn darparu bywoliaeth dda mewn cymunedau da, mewn cymunedau gwledig gydag amaethyddiaeth yn ffynnu ac ar yr un pryd, yn adfer natur.
Yr un peth y byddaf yn ei ddweud—fe ddof yn ôl, Gweinidog, ond mae'n debyg na fydd a wnelo â chi'n uniongyrchol neu efallai fod rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn y cynllun ffermio cynaliadwy ac yn y blaen—yw mai'r darn na wnaethom ni gau pen y mwdwl yn iawn arno oedd y mater ynglŷn â mynediad. Rwy'n gwybod y caiff Biliau eraill eu cyflwyno, ond mae rhai pethau y gellid eu tynhau yn y camau olaf, wrth i'ch tîm o swyddogion eistedd yn y fan yna gan edrych i lawr, gan feddwl, 'Rydym ni wedi darfod'. Dim peryg, bydd y person yma'n dod yn ôl atoch chi'n dweud, 'Mae rhai newidiadau bach y gallwn ni eu gwneud yn y fan yma i sicrhau bod mynediad hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac agweddau eraill'. Ond bydd biliau eraill hefyd.
Gweinidog, da iawn yn wir, a diolch, o galon, am eich ymgysylltiad â hyn.
Y Gweinidog i ymateb? Na.
Rwy'n credu bod popeth wedi ei ddweud.
Felly, fe fydd yna bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil yma o dan Reol Sefydlog 26.50C a bydd hynna'n digwydd ar ddiwedd y prynhawn yma. Rŷn ni'n prysur cyrraedd diwedd y prynhawn, ond ddim cweit eto.