Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 27 Mehefin 2023.
Mae yn fraint cael cyfrannu am y tro cyntaf fel llefarydd newydd Plaid Cymru ar faterion gwledig. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda rhanddeiliaid, gydag Aelodau ar draws y Siambr, ac, wrth gwrs, craffu ar a chydweithio gyda'r Gweinidog hefyd.
Dwi'n meddwl ei bod hi yn addas ein bod ni yn dechrau drwy gydnabod y cyfraniad mae pawb wedi ei wneud tuag at y Bil yma, wrth iddo fe fynd ar ei daith—ac mae e wedi bod yn dipyn o daith, onid yw e, os ŷch chi'n cofion nôl i gyhoeddiad 'Brexit a'n tir' nôl yn 2018, a'r teitl yna'n ein hatgoffa ni, efallai, pam fod y Bil yn digwydd o gwbl. Ond mae'r Bil sy'n ein cyrraedd ni heddiw yng Nghyfnod 4 yn eithaf gwahanol i'r cynnig gwreiddiol hwnnw a amlinellwyd yn y man cyntaf bum mlynedd yn ôl. Mae bellach yn rhoi cydnabyddiaeth llawer mwy uniongyrchol, cryf a chyhyrog i'r angen i amddiffyn a chryfhau amaeth a'r cymunedau gwledig sydd mor ddibynnol ar y diwydiant. Roedd hi'n anodd credu, a bod yn onest, ar y dechrau fod cynhyrchu bwyd ddim yn cael ei gydnabod fel nwydd cyhoeddus neu public good. I fi, y public good pwysicaf oll yw bwydo'r genedl, ond o leiaf nawr mae'r Bil yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd fel un o rolau creiddiol y diwydiant yma yng Nghymru.
Mae'r Bil o'n blaenau ni heddiw hefyd, wrth gwrs, yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad pwysig y gymuned amaethyddol i’r economi wledig ac i'r angen i gryfhau cyfraniad y sector i hyfywedd yr economi wledig mewn ffordd efallai oedd ddim yn y Bil gwreiddiol. Yn yr un modd, wrth gwrs, mae cydnabod a chefnogi pwysigrwydd y sector amaeth i ddyfodol yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru hefyd yn nodwedd explicit yn y Bil mewn ffordd oedd ddim yno, efallai, ar y cychwyn. Mae’n bwysig, fel ŷn ni wedi clywed hefyd, cydnabod bod sicrhau cynllun cefnogi amlflwyddyn nawr yn nodwedd, mynd o dair blynedd i bum mlynedd. Mi fyddwn i yn atgoffa pawb ei bod hi'n saith mlynedd cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond dwi yn croesawu'r ffaith ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn.
Mae wedi bod yn daith, a dyw hi ddim ond yn deg i fi, fel eraill, gydnabod gwaith rhai o’m cyd-Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru: Mabon ap Gwynfor, wrth gwrs, yn lefarydd y blaid wrth i’r Bil yma fynd ar ei daith drwy’r Senedd; i Luke Fletcher, aelod o’r pwyllgor fuodd yn craffu ar y Bil; ac fel ŷn ni wedi clywed hefyd, i Cefin Campbell fel yr Aelod dynodedig, sydd wedi llwyddo i gael dylanwad ar y Bil yma drwy ei waith fel rhan o’r cytundeb cydweithio. Diolch iddyn nhw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i’r lleisiau cryf o gyfeiriad y sectorau perthnasol sydd wedi llwyddo eto i gael dylanwad helaeth ar y Bil yma.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma heddiw. Efallai ei fod e'n Fil amherffaith, fydd yn rhywbeth y byddwn ni yn dal i weithio arno fe wrth inni symud ymlaen nawr i’r phase nesaf, ond fyddai dim modd darparu unrhyw gefnogaeth i’r sector oni bai bod y Bil yma yn cael ei basio, a dwi'n siŵr bod neb am weld hynny'n digwydd. Ond nid dyma ddiwedd y daith, wrth gwrs, achos yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, mi ddywedodd e mai dyma’r cam cyntaf yn rhaglen y Llywodraeth i ddiwygio amaethyddiaeth. Felly, megis cychwyn mae’r daith mewn gwirionedd, ond megis cychwyn hefyd mae’r frwydr i sicrhau’r canlyniad gorau i amaethyddiaeth, i'r amgylchedd ac i gymunedau gwledig, ac fel ŷn ni wedi clywed, maen nhw yn mynd law yn llaw. Maen nhw yn mynd law yn llaw, ac mae llwyddiant i'r tri yn gorfod bod yn ffocws i’n gwaith ni ar bob tro ar hyd y daith. Creu fframwaith mae’r Bil, ac felly, wrth gwrs, mae'r ffocws yn troi yn awr at y cynllun ffermio cynaliadwy. Yn fanna fydd y glo mân, a dwi a Phlaid Cymru yn edrych ymlaen yn fawr iawn i chwarae'n rhan wrth ddylanwadu ar ffurf a chynnwys y cynllun hwnnw yn y cyfnod nesaf sydd i ddod.