1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 27 Mehefin 2023.
4. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r manteision o gyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio mewn etholiadau Cymreig? OQ59747
Diolch i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Rydym ni’n benderfynol o leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru drwy ddiwygio gweinyddiaeth etholiadol, gwella mynediad at etholiadau ac annog pobl i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Yn fy marn i, cyn cyflwyno dyletswydd sifig ffurfiol, byddai angen i bobl Cymru gefnogi newid o’r fath drwy’r broses maniffesto.
Mae 26 o wledydd wedi cyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio—Gwlad Belg ac Awstralia yn eu plith, lle mae'r ganran sydd yn pleidleisio yn gyson dros 90 y cant. Pe byddai Cymru yn medru efelychu'r lefel yna o gyfranogiad mewn etholiadau, byddai'n gweddnewid ein democratiaeth. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno gyda'r comisiwn cyfansoddiadol sydd ar y gweill, gyda Bil diwygio'r Senedd ar y gorwel, mai dyma'r amser delfrydol i ni gael y ddadl yna yng Nghymru? Ac a fyddai'r Llywodraeth yn fodlon cysidro comisiynu darn o waith ar y profiad rhyngwladol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn edrych ar y dystiolaeth fel rhan o'r prosiect sydd wedi cychwyn gan y Cwnsler Cyffredinol yn edrych mewn i iechyd ein democratiaeth yng Nghymru?
Diolch i Adam Price am godi'r cwestiwn pwysig yma. Fel mae e'n ei ddweud, mae'r dystiolaeth yn amlwg. Yn y gwledydd ble mae pobl yn pleidleisio o dan y system mae e wedi awgrymu, mae lot fwy o bobl yn pleidleisio, ac mae hwnna'n rhywbeth pwysig, dwi'n meddwl, o ran iechyd ein system ddemocrataidd. Ac nawr yw'r amser i ddechrau cael y ddadl, achos bydd Bil o flaen y Senedd yn yr hydref ac mae gwaith yn mynd ymlaen gyda phobl eraill hefyd. Gallaf drafod gyda'r Cwnsler Cyffredinol a oes achos dros gael mwy o ymchwil i'n helpu ni yma yng Nghymru i gael y ddadl, ond fel dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, i mi—dwi ddim yn siarad am fy marn bersonol—os rŷn ni yn mynd i symud i'r ffordd ble rŷn ni'n mynd i roi dyletswydd sifig ffurfiol ar bobl, bydd angen i ni gael y ddadl nid jest yn fan hyn, ond gyda phobl yng Nghymru, trwy'r broses o greu maniffesto a mynd mas i bobl i weld beth maen nhw'n ei feddwl. Ond nawr yw'r amser i gael y ddadl mae Adam Price wedi'i chodi mewn ffordd bwysig brynhawn yma.
A gaf i ddiolch i Adam Price yn gyntaf am y cwestiwn pwysig a gyflwynwyd ganddo, a dweud fy mod i'n cytuno'n llwyr ag ef ar y pwyntiau a gododd ynghylch y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio? Prif Weinidog, rwyf i hefyd yn croesawu'r cynnydd mawr y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cryfhau ein democratiaeth, yn enwedig drwy roi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio. Mae hyn yn hollol wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, wrth i Dorïaid y DU ei gwneud hi'n anoddach i bobl bleidleisio. Yn wir, gwrthodwyd yr hawl i tua 14,000 o bobl bleidleisio yn etholiadau lleol diweddar Lloegr. Mae hynny'n sicr yn anghywir, ac mae o ganlyniad i ddulliau newydd o brofi pwy ydych chi.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y gallai pleidleisio gorfodol arwain at gyfranogiad torfol fel nad ydym ni erioed wedi ei weld o'r blaen o ran cyfranogiad democrataidd poblogaeth Cymru? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cynllun treialu yng Nghymru?
Llywydd, diolch i Ken Skates am y pwyntiau pellach hynny. Mae yn llygad ei le mai polisi'r Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth eraill yn y Siambr hon, yw annog cyfranogiad yn hytrach na chychwyn ar bolisi o atal pleidleiswyr. Rydyn ni wedi gweld y canlyniadau o etholiadau lleol Lloegr, lle gwrthodwyd y gallu i filoedd o bobl a oedd yn dymuno pleidleisio bleidleisio oherwydd mesurau yr wyf i'n credu a ddisgrifiwyd gan Jacob Rees-Mogg fel ymgais syml i jerimandro. Wel, dyna oedd hi erioed, a datgelwyd hynny yn eglur gan y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y mesurau hynny tra oedd yn y swydd.
Cyfranogiad gorfodol—roedd hwnnw'n wahaniaeth pwysig a wnaeth Ken Skates, Llywydd. Does neb yn dadlau—nid wyf i wedi clywed pobl yn dadlau—iddi fod yn orfodol i bobl bleidleisio. Cyfranogiad gorfodol yw hyn. Gallwch droi i fyny ac ysgrifennu 'dim o'r uchod' ar y papur pleidleisio. Y weithred o gymryd rhan fel arwydd o'ch dyletswydd ddinesig yr ydym ni'n ei thrafod yma. Bydd cyfle pellach i'r Aelodau ei drafod yn fwy trylwyr eto yfory, ac mae'r syniad o gynllun treialu yn rhywbeth yr wyf i'n credu sy'n werth ei ystyried. Pe baech chi'n cael newid o'r maint hwn, byddech chi eisiau rhywfaint o dystiolaeth leol yn ogystal â rhyngwladol i gyfeirio ati, ac rwy'n gobeithio y bydd y syniad hwnnw'n cael ei ddatblygu ymhellach yn y ddadl brynhawn yfory.