1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 27 Mehefin 2023.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Yn eich atebion cynharach, Prif Weinidog, i gwestiynau, roedd yn ymddangos eich bod chi'n rhoi'r bai am holl ddiffygion Cymru ar Lywodraeth y DU. Roedd un o'r ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf yn amlwg yn faes y mae gennych chi reolaeth lwyr ohono, sef y cynnydd mewn amseroedd aros y GIG. Ychwanegwyd 6,000 o bobl ychwanegol at y rhestr lwybr; nawr, mae bron i 750,000 o bobl yng Nghymru ar lwybr. Gwelsom hefyd ostyngiad bach iawn yn nifer y rhai sy'n aros dwy flynedd neu fwy; mae dros 30,000 o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy. Mae un o bob pump o bobl sydd ar lwybr GIG yma yng Nghymru yn aros blwyddyn neu fwy—blwyddyn neu fwy i weld eu hunain yn symud ymlaen ar y rhestrau aros hynny. Pa obaith allwch chi ei roi i'r unigolion hynny sy'n aros dwy flynedd neu flwyddyn, a'r rhai sydd wedi cael eu hychwanegu at y rhestrau aros dro ar ôl tro, wrth i bob mis fynd heibio, y bydd y rhestrau hyn yn lleihau ac y bydd yr arosiadau dwy flynedd yn cael eu dileu yma yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn?
Y gobaith yr ydym ni'n ei gynnig i bobl yw cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu gwneud a'r llwyddiant y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei weld yn yr ymdrechion hynny. Fe wnaeth arosiadau dwy flynedd ostwng eto'r mis diwethaf am y trydydd mis ar ddeg yn olynol, gostyngodd arosiadau 52 wythnos i gleifion allanol eto'r mis diwethaf, ac fe wnaeth perfformiad adrannau wella'r mis diwethaf. Yn y ffigurau, mor anodd ag yw'r sefyllfa, ceir arwyddion bod y buddsoddiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud, a'r cynllun sydd ganddi ar gyfer y GIG yn y cyfnod ar ôl COVID, yn llwyddo. Dim ond i feddwl amdano fel hyn, i helpu'r Aelod, yn y chwe mis hyd at fis Mawrth 2023, y flwyddyn lawn ddiwethaf, gostyngodd rhestrau aros yng Nghymru 2.6 y cant, a gwnaethant gynyddu 2.7 y cant yn Llundain—bwlch o 5 pwynt canran mewn perfformiad o blaid GIG Cymru.
Prif Weinidog, rwyf i eisiau gwybod beth sy'n digwydd yma yng Nghymru a pha obaith rydych chi'n ei gynnig i bobl yma yng Nghymru. Ond os ydych chi eisiau defnyddio ystadegau Lloegr, mae 5 y cant o bobl yn aros blwyddyn neu fwy yn Lloegr ac mae 20 y cant o bobl ar restr aros yn aros am flwyddyn neu fwy yng Nghymru. Rydych chi'n sôn am y gostyngiad i arosiadau dwy flynedd; daeth 261 o bobl oddi ar yr arhosiad dwy flynedd hwnnw. Mae dros 30,000 o bobl yn dal i aros dwy flynedd neu fwy yma yng Nghymru. Yn Lloegr, maen nhw fwy neu lai wedi cael eu dileu, ac yn yr Alban hefyd, felly mae hwn yn eithriad sy'n digwydd yma yng Nghymru o dan eich goruchwyliaeth chi. Nid fy sylw i yw hwn; dyma sylw Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, pan fyddan nhw'n dweud bod y ffigurau hyn yn 'ysgytwad' i weld beth all Llywodraeth Cymru ei wneud nawr er mwyn sicrhau y bydd ychydig o le ganddynt cyn i ni gyrraedd pwysau'r gaeaf.
Felly, eto, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r rhestrau aros ystyfnig o uchel hyn, ac a wnewch chi sefyll wrth ymrwymiad i ddweud y bydd arosiadau dwy flynedd yma yng Nghymru yn cael eu dileu erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon? Nid yw'n llawer i'w ofyn, oherwydd roedd gennych chi yn y gorffennol darged i gael gwared ar yr arosiadau dwy flynedd hynny. A ydych chi wedi cefnu arnyn nhw?
Rwy'n sylwi, pan fo'n siwtio arweinydd yr wrthblaid i gymharu'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru a Lloegr, ei fod yn gwneud hynny ar bob cyfle, a'r munud yr wyf i'n tynnu ei sylw at rywbeth arall, mae'n dweud wrthyf i nad oes ganddo ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill—mae eisiau canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru am eiliad. Fel yr wyf i wedi ei ddweud wrtho, mae'r arosiadau hir hynny yn gostwng—maen nhw'n gostwng ymhlith cleifion mewnol ac maen nhw'n gostwng ymhlith cleifion allanol. Parhaodd arosiadau diagnostig ac arosiadau therapi i ostwng, yn enwedig o ran arosiadau therapi, y mis diwethaf. Ac 20 wythnos yw'r amser canolrif—yr amser safonol—y mae'n ei gymryd i gael eich trin yn y GIG yng Nghymru, o'r funud y mae eich meddyg yn eich cyfeirio i'r funud y daw eich triniaeth i ben. Dyna'r profiad safonol i glaf o Gymru: o'r funud y mae'n cael ei gyfeirio i'r funud mae ei driniaeth drosodd, mae'n cymryd 20 wythnos.
Dyna pam, pan ddaw'r Aelod yma bob amser i ddifrïo'r GIG, i ddweud wrthym ni nad oes unrhyw beth da y gall ddod o hyd iddo i'w ddweud amdano, nid yw'n taro tant ym mhrofiad pobl sy'n dibynnu ar y GIG, sy'n gwybod pa mor galed mae pobl yn gweithio ac sy'n gwybod pa mor flinedig yw ein staff o'r gofynion enfawr y maen nhw wedi eu hwynebu yn y cyfnod diweddar. Mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw; mae'n eu cefnogi nhw gyda buddsoddiad, mae'n eu cefnogi nhw trwy ddatrys anghydfodau cyflog heb y streiciau yr ydym ni wedi eu gweld yn Lloegr ac y byddwn ni'n parhau i'w gweld yn Lloegr, ac mae'n gwneud hynny trwy fod ag ymrwymiad i'r gwasanaeth hwnnw dim ond Llywodraeth Lafur fydd fyth yn ei ddarparu.
Rydym ni'n gwario llai yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth ar iechyd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Defnyddiais y ffigurau am arosiadau o flwyddyn a dileu arosiadau o ddwy flynedd yn Lloegr. Fe wnaethoch chi, ar ddau gwestiwn, fethu ag ateb a fyddech chi'n ymrwymo i ddileu'r arosiadau dwy flynedd hynny yma yng Nghymru. Pam na wnewch chi roi rhywfaint o obaith ac ysbrydoliaeth i gleifion y byddan nhw'n symud ymlaen, ac y gall y 32,000 hynny sy'n aros am ddwy flynedd neu fwy, neu'n wir yr oddeutu 150,000 o bobl sy'n aros am flwyddyn neu fwy, weld rhywfaint o gynnydd o ran eu hamseroedd aros?
Nid fy sylw i oedd y sylw a roddais i chi ei fod yn ysgytwad, sylw Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ydoedd. Pobl yw'r rheini sydd ar y rheng flaen, sy'n ymdrin â'r cleifion hyn ddydd ar ôl dydd. Fe wnaf i gynnig y trydydd tro a'r olaf i chi heddiw, Prif Weinidog, i roi'r ymrwymiad hwnnw i gael gwared ar yr amseroedd aros o ddwy flynedd yn y GIG. Gallaf glywed rhywfaint o chwerthin yn dod o'r meinciau Llafur. I'r 31,000 o bobl sy'n aros am ddwy flynedd, nid yw hynny'n fater i chwerthin yn ei gylch. Nid yw'n annheg gofyn i'r Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am y GIG yma yng Nghymru, ymrwymo i gael gwared ar yr arosiadau hynny o ddwy flynedd, sydd wedi digwydd yn yr Alban ac wedi digwydd yn Lloegr.
Yn gyntaf oll, gadewch i ni wneud yn siŵr bod y cofnod yn adlewyrchu gwariant yn gywir, oherwydd, yn syml, mae'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid yn anghywir. Mae gwariant fesul pen o'r boblogaeth ar y GIG yng Nghymru, ac ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn uwch nag mewn rhannau eraill o—[Torri ar draws.] Dywedais iechyd hefyd. Mae'n uwch ar iechyd—iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n uwch yng Nghymru nag mewn mannau eraill, nid fel y dywedodd yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol i mi.
Mae'r Gweinidog iechyd wedi cyflwyno ein huchelgeisiau i leihau arosiadau hir, gan gynnwys arosiadau o ddwy flynedd a llawer mwy hefyd. Wrth gwrs, rydyn ni'n cadw at yr ymrwymiadau hynny ac rydyn ni'n cymeradwyo'r holl bobl hynny sy'n gweithio mor galed bob dydd yn ein gwasanaeth iechyd i geisio gwneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Un o'r pethau sydd wedi bod yn braf ers dod yn arweinydd fy mhlaid ydy'r geiriau cynnes gan bobl sy'n falch o weld Aelod dros etholaeth yn y gogledd yn arweinydd yma yn y Senedd. Dwi'n credu’n gryf mewn uno Cymru, pob rhan o'r wlad, ond yn falch iawn o gynrychioli yr etholaeth fwyaf gogleddol. Mae o'n rhoi persbectif gwahanol i rywun mewn sawl ffordd, yn cynnwys o ran teithio rhwng y de a'r gogledd.
Yr wythnos diwethaf, roedd hi'n agosach at amser brecwast nag amser swper erbyn i mi gyrraedd adref o Gaerdydd ar ôl taith reilffordd chwe awr. Nid wyf i'n meddwl fy mod i erioed wedi gweld platfform gorsaf Bangor am 3 o'r gloch y bore o'r blaen. Ond nid wyf i yma i gwyno am fy nhaith fy hun. Mae'n drawiadol, fodd bynnag, pan fyddaf i ac eraill yn y Senedd hon yn codi ein rhwystredigaethau am drafnidiaeth, y llif o bobl sy'n codi eu pryderon eu hunain am oedi, am drenau wedi'u canslo, fel y pâr yn eu hwythdegau o fy etholaeth i yn ddiweddar y bu'n rhaid iddyn nhw sefyll am ddwy awr heb fynediad at y toiled ar y trên o'r gogledd i'r de. A yw'r Prif Weinidog yn credu bod y gwasanaeth rheilffordd presennol sy'n cael ei gynnig gan Trafnidiaeth Cymru yn dderbyniol?
Nac ydw, Llywydd, ac nid yw'r Gweinidog chwaith. Dywedodd y Gweinidog yn ddiweddar iawn bod yr heriau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru yn golygu nad yw'r gwasanaeth sydd wedi cael ei ddarparu mewn rhai rhannau o Gymru wedi bod o safon y mae gan deithwyr hawl i'w disgwyl. Dyna pam mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn cyfarfod â defnyddwyr y rheilffyrdd, yn enwedig yn y mannau hynny lle mae'r anawsterau hynny wedi bod fwyaf, i glywed yn uniongyrchol gan y teithwyr hynny, ac i weithio gyda nhw ac eraill i wella'r gwasanaeth sydd ar gael yma yng Nghymru. Ceir cyfres o resymau sy'n sail i'r anawsterau a gafwyd. Mae patrymau teithio wedi newid ers y pandemig—mae hynny'n sicr yn wir ar y rheilffyrdd, fel y mae wedi bod mewn gwasanaethau bysiau, fel yr ydym ni wedi ei drafod yma ar lawr y Senedd. Mae'r diwydiant rheilffyrdd ym mhobman yn gorfod ymdopi â newidiadau yn nifer y teithwyr ar y naill law a llai o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU ar y llaw arall. Dyna pam mae gwasanaethau prif reilffordd teithwyr yn ei ran ef o'r byd, ar arfordir y gogledd, wedi cael eu torri gan Avanti West Coast yn ddiweddar, sydd ynddo'i hun yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau lleol hynny a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru.
Rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cyfaddef bod problem—rwy'n credu ei bod hi'n gwbl amlwg bod problem—ac roedd yn dda clywed bod y Dirprwy Weinidog hefyd yn cyfaddef nad yw pethau'n ddigon da. Ond y pryder sydd gennyf i yw'r trywydd hwnnw yr ydym ni'n ei ddilyn. Mae'r rhain yn faterion difrifol: pedwar o bob 10 trên yng Nghymru wedi'u hoedi, a'r ffigurau 12 mis diweddaraf yn dangos darlun sy'n dirywio. Does bosib na ddylem ni allu disgwyl bod pethau'n gwella. Ym mis Ebrill, rwy'n credu, dywedodd y corff gwarchod annibynnol Ffocws ar Drafnidiaeth bod y sefyllfa'n anghynaladwy, gan alw ar Trafnidiaeth Cymru i roi cynllun cadarn ar waith yn amlinellu sut y byddan nhw'n adfer gwasanaethau ac yn cael pethau'n ôl ar y trywydd iawn i deithwyr. Pan gymerodd Trafnidiaeth Cymru, cofiwch, yr awenau oddi wrth Arriva yn 2018, fe wnaethon nhw ddweud y byddem ni'n cael addewid o wasanaeth rheilffordd wedi'i drawsnewid o fewn pum mlynedd. Nawr mae pum mlynedd wedi dod i ben; mae'n amlwg nad yw wedi digwydd yn unol â'r amserlen honno. Pryd all teithwyr ddisgwyl gweld gwelliannau gwirioneddol a pharhaus i'r gwasanaeth?
Nid wyf i eisiau dweud wrth yr Aelod y bydd llwybr hawdd i'r gwelliannau hynny. Fel yr ydym ni wedi ei drafod ar lawr y Senedd yma yn ddiweddar, mae Network Rail wedi cyhoeddi prosbectws buddsoddi sy'n rhoi Cymru ar waelod un y gynghrair fuddsoddi y maen nhw eu hunain yn dweud y bydd yn arwain at fwy o achosion o ganslo a mwy o oedi yn y dyfodol o ganlyniad i gynllun y maen nhw wedi ei gyhoeddi. Dyna'r cyd-destun hanfodol y mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithredu ynddo.
Ond, mewn cyferbyniad llwyr â'r diffyg buddsoddiad yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, rydyn ni'n buddsoddi dros £1 biliwn i drawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn y de yn unig, gyda threnau newydd ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru ym mhob rhan o Gymru, mwy o drenau newydd yn y gogledd nag yn unrhyw ran arall o Gymru, a mwy i ddod—trenau wedi'u hadeiladu yng Nghymru, trenau sy'n cael eu gweithredu yng Nghymru, a threnau a fydd yn arwain at well gwasanaeth i deithwyr. Ond mae'r cyd-destun y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu ynddo yn gwbl wahanol i'r un a ragwelwyd bum mlynedd yn ôl, heb sôn am y profiad sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd hynny. Nid wyf i'n mynd i sefyll yma a dweud wrth unrhyw Aelod y bydd y llwybr o ble’r ydym ni i le'r ydym ni'n dymuno bod yn un y gellir teithio ar ei hyd yn gyflym.
Mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio'n briodol at y problemau seilwaith a'r diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd. Mae'r Aelod dros Aberconwy yn dweud ei fod yn ymwneud â'r cerbydau. Wel, bydd cerbydau yn gwella, ond mae gwir angen i ni wella'r trac, ac mae gennyf i ofn bod Llywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol wedi methu dros gyfnod o ddegawdau i wneud yn siŵr bod gan Gymru ei chyfran deg, neu unrhyw le yn agos at ei chyfran deg, o fuddsoddiad mewn gwella seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Y diffyg seilwaith hwnnw sydd wedi arwain at ddiffyg rheilffyrdd wedi'u trydaneiddio—dim o gwbl tan yn ddiweddar—a'r diffyg cysylltiadau sylfaenol, fel o Bwllheli i Fangor. Roedd trên yn arfer bod yno. Mae trên yno o hyd, ond mae'n cymryd wyth awr. Nid dyna'r math o wasanaeth rheilffyrdd yr ydym ni ei eisiau yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae disgwyl i drethdalwyr gyfrannu at y rheilffordd cyflymder uchel 2. Dyna'r union ddiffiniad o anghyfiawnder economaidd. Mae hwn yn ddatblygiad rheilffordd sydd yn gyfan gwbl y tu allan i Gymru, ond mae Rishi Sunak a Keir Starmer yn ymddangos yn fodlon â'r anghyfiawnder hwnnw. Yng nghynhadledd ddiweddar Llafur Cymru, gwrthododd yr arweinydd Llafur ymrwymo i roi ei chyfran deg o gyllid HS2 i Gymru, pe bai'n cyrraedd Rhif 10. A wnaiff y Prif Weinidog ddefnyddio ei linell uniongyrchol i Keir Starmer i ofyn pam, o ran y tegwch economaidd sylfaenol hwn, ei fod yn dewis ochri â'r Llywodraeth Dorïaidd, ac nid pobl Cymru?
Rwy'n credu ei fod yn gamliwiad sylweddol i gymharu safbwyntiau Prif Weinidog y DU sydd yn y swydd, yn gwneud penderfyniadau heddiw i atal y cyllid i Gymru y dylai Cymru ei gael drwy fformiwla Barnett o ganlyniad i fuddsoddiad HS2, a llywodraeth nad yw hyd yn oed wedi cael ei hethol eto. Bydd Syr Keir Starmer yn pwyso a mesur yr opsiynau y bydd gan lywodraeth Lafur newydd o'i blaen pan fydd yn etifeddu trychineb economaidd record y Llywodraeth Geidwadol. Nid yw'n mynd i fod yn cynnig rhestr siopa hir o'r holl bethau y bydd neu na fydd yn eu gwneud ar y diwrnod y daw i mewn i'r swydd, ac ni ddylai neb gamgymryd hynny am benderfyniad cadarnhaol i beidio â gwneud rhywbeth. Y cwbl y mae'n ei ddweud, ar hyn o bryd, gyda blwyddyn i fynd tan etholiad, yw y bydd yn gorfod, mewn ffordd gyfrifol, gwneud penderfyniadau yn y cyd-destun y bydd yn cael ei hun ynddo. Mae safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru a safbwynt y Senedd wedi bod yn eglur iawn, ac nid ein safbwynt ni yn unig ydyw, fel y gwyddom, dyma safbwynt llawer o sylwebyddion annibynnol ymhell y tu hwnt i'r Siambr hon: nid yw HS2 yn gynllun sydd o fudd i Gymru. Dylid bod cyllid canlyniadol Barnett i Gymru, yn y ffordd y bu i'r Alban. Nid oes amheuaeth o gwbl gan Keir Starmer ynghylch ein safbwynt ni ar y mater hwnnw, a byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i'w fynegi iddo.