1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 27 Mehefin 2023.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi perchnogion tai yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu taliadau morgais uwch? OQ59749
Llywydd, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn trwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Dyrannwyd £40 miliwn i gyflwyno cynlluniau i gynorthwyo pobl sydd mewn trafferthion morgais yn gynnar i'w caniatáu i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n dda clywed bod y cynlluniau hynny yn datblygu, oherwydd mae llawer iawn o aelwydydd mewn sefyllfa enbyd. Dangosodd un o fy etholwyr ei ddatganiad morgais i mi, sy'n dangos, ar 30 Tachwedd eleni, y bydd ei daliad presennol, sef £617.81, yn codi i £932.96. Os oes mwy o gynnydd i'r gyfradd llog yn y cyfamser, mae'n ddigon posibl y bydd y taliad misol hwnnw yn cynyddu eto. Nid ydyn nhw'n gwybod ble y byddan nhw'n dod o hyd i'r arian ychwanegol hwnnw. Yn y cyfamser, mae Rishi Sunak yn gofyn i bobl 'ddal eu tir'. Mae'n hawdd dweud hynny pan fo gennych chi gyfoeth teuluol amcangyfrifedig o £529 miliwn. Mae'r cynllun achub morgeisi yn rhywbeth a ddatblygodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru yn effeithiol iawn yn ystod Llywodraeth Cymru'n Un. Yn rhan o'r gyfres o gynlluniau i amddiffyn perchnogion tai, a wnewch chi ystyried rhewi rhent yn y farchnad dai breifat i amddiffyn tenantiaid a fydd hefyd yn dioddef oni bai fod camau yn cael eu cymryd? Mae Llywodraeth yr SNP wedi pasio deddfwriaeth sydd wedi amddiffyn tenantiaid. Mae tenantiaid yng Nghymru yn haeddu'r un diogelwch, Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, diolch i Peredur Owen Griffiths am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, bod cymaint o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu biliau morgais sy'n cynyddu, lle nad ydyn nhw'n gwybod sut y byddan nhw'n ymdopi â'r codiadau a gyhoeddwyd eisoes, ac nad ydyn nhw'n gwybod pa godiadau pellach fydd yn dod yn y dyfodol. Bydd y cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu llunio gyda'r £40 miliwn hwnnw yn teithio o dan faner eang Cymorth i Aros. Felly, maen nhw wedi eu hanelu at anawsterau morgais cam cynnar, lle mae'n bosibl cymryd camau a fydd yn caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain. Nid yw'r cynllun y cyfeiriodd yr Aelod ato gan Lywodraeth Cymru'n Un erioed wedi cau; mae wedi bod ar agor drwy'r holl gyfnod ers hynny. Wrth gwrs, am gyfnod hir, â chyfraddau morgais yn isel iawn, roedd y nifer a oedd yn manteisio arno yn fach iawn. Ond mae'n dal i fod yno, ac mae'n dal i fod yn opsiwn i awdurdodau lleol yn arbennig i helpu pobl llawer pellach i lawr y llwybr anawsterau morgais.
O ran rhewi rhent, mae'n erfyn di-awch; mae'n arwain at lawer o ganlyniadau anfwriadol. Rydyn ni'n gwybod yn yr Alban ei fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu, gan fod pobl sydd wedi prynu eiddo ar sail prynu i osod eu hunain yn wynebu morgeisi sydd wedi codi'n sylweddol erbyn hyn. Mae Banc Lloegr yn amcangyfrif y bydd angen cynnydd o 20 y cant dim ond i renti sector preifat dalu'r costau ychwanegol y mae landlordiaid prynu i osod yn eu hwynebu bellach. Nid yw cynllun yr Alban yn rhewi rhent i bawb hyd yn oed; mae'n rhewi rhent i rai pobl, o dan rai amgylchiadau. Yng Nghymru, rydym ni'n credu bod mesurau eraill, ac arfau llai di-awch, sy'n caniatáu i ni ymateb i'r bobl sydd yn yr union anawsterau a ddisgrifiwyd gan yr Aelod.
Prif Weinidog, hoffwn ddechrau gyda dyfyniad:
'Does dim ateb i'r argyfwng morgeisi heb adeiladu mwy o gartrefi.'
Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, Prif Weinidog, ond geiriau'r AS Llafur, Lisa Nandy, mewn cyfweliad y penwythnos hwn. Mae hwn yn gyfnod hynod ansicr a phryderus i berchnogion tai, ac roeddwn i'n falch o weld Llywodraeth y DU yn datgelu cyfres o fesurau i helpu preswylwyr dim ond yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, i lawer o bobl yng Nghymru, nid yw'r syniad o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn ddim mwy na breuddwyd bell, ac mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yma yn goruchwylio argyfwng tai mawr, ac, yn anffodus, ddim yn gwneud llawer iawn i'w drwsio. Prin fod y Llywodraeth yn adeiladu 6,000 o gartrefi y flwyddyn, Prif Weinidog, pan, mewn gwirionedd, fod angen tua 12,000 arnom ni. Mae gennym ni tua 90,000 o bobl yma yn dioddef ar restrau aros am dai cymdeithasol, ac mae gennym ni fwy na 10,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro. Roedd gan ddau gyngor yng Nghymru aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol am fwy na 17 mlynedd. Mae hynny'n syfrdanol, Prif Weinidog. Gall y rhan fwyaf o bobl weld mai'r allwedd i ddatrys llawer o broblemau yw adeiladu mwy o gartrefi, mewn gwirionedd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â Lisa Nandy nad oes ateb i'r argyfwng morgeisi hwn heb adeiladu cartrefi newydd? Ac os felly, o gofio bod Llafur mewn grym yma, ac wedi bod ers 25 mlynedd, pryd allwn ni weld y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i osgoi cyfrifoldeb a gweithredu—[Torri ar draws.]—ar hyn?
Mae angen i ni gael rhywfaint o dawelwch fel y gall y Prif Weinidog glywed y cwestiwn. Roedd y sŵn yn dod o'ch meinciau cefn eich hun, gyda llaw, rhag ofn bod angen i chi wybod hynny, Prif Weinidog. [Chwerthin.]
Roeddwn i'n gallu clywed hynny. Llywydd, wel, wrth gwrs, roedd Lisa Nandy yn iawn fod rhaid i adeiladu mwy o gartrefi fod yn rhan o'r ateb i bobl sydd heb gartrefi ar hyn o bryd. Bydd hi wedi bod yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gefnu ar y cynlluniau yr oedd y Blaid Geidwadol wedi eu cyhoeddi yn gynharach yn y Senedd hon—y cefnu o dan bwysau aelodau Ceidwadol y meinciau cefn sydd wedi golygu y bu'n rhaid i Michael Gove gael gwared ar y cynlluniau a oedd ganddo i adeiladu mwy o dai yn Lloegr. Dyna'r pwynt yr oedd Lisa Nandy yn ei wneud.
Yma yng Nghymru, rydyn ni'n dal i fod wedi ymrwymo i 20,000 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol, wedi'u hadeiladu i'r safonau uchaf posibl. Tra bod cyfraddau morgeisi yn parhau i godi o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Geidwadol y DU, yna wrth gwrs ni fydd adeiladwyr tai yn cael eu hannog i adeiladu mwy o gartrefi. Dyna'r hyn y mae adeiladwyr tai yn ei ddweud wrthym ni. Wrth i gost benthyg godi, mae'n codi iddyn nhw, mae'n codi i fusnesau. Rydyn ni eisoes wedi clywed y prynhawn yma am yr effaith ar berchnogion tai a phobl sy'n ceisio rhentu eu cartrefi. Ond nid dyna'r unig broblem, nage? Mae'n cynnwys pobl sy'n rhedeg busnesau, gan gynnwys busnesau adeiladu tai hefyd, sydd bellach yn gweld eu biliau yn codi, ac mae gallu pobl gyffredin i fforddio tai sy'n cael eu hadeiladu yn lleihau. Felly, nid yw hwn yn fater syml o adeiladu mwy o gartrefi, ni waeth pa mor ddymunol yw hynny; mae'n fater o fforddiadwyedd y cartrefi hynny hefyd. A dyna pam mae'r cynnydd i gyfraddau yr ydym ni wedi ei weld yn y misoedd diwethaf yn cael effaith mor daglyd ar gyllidebau aelwydydd a gallu marchnadoedd i gyflenwi anghenion sylfaenol.
Wrth gwrs, mae Lisa Nandy, rydych chi, Prif Weinidog, rwyf innau ac mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod nad argyfwng cyfradd llog yw hwn; mae'n argyfwng cyfraddau llog Torïaidd, a grëwyd o ganlyniad i Brexit caled a chamreoli economaidd. Fe wnaethom ni i gyd weld—[Torri ar draws.] Gallwch chi weiddi gymaint ag y dymunwch. Fe wnaethom ni i gyd weld y ffordd y gwnaeth Liz Truss chwalu'r economi. Nid Liz Truss sydd bellach yn dioddef canlyniadau hynny; y bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yma, perchnogion tai a rhentwyr hefyd. A gall yr Aelod dros Lundain grio cymaint o ddagrau crocodeil ag y mae'n dymuno am y sefyllfa sy'n wynebu perchnogion tai. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod camreoli economaidd y Torïaid wedi gwneud tro gwael â pherchnogion tai, wedi gwneud tro gwael â rhentwyr, wedi gwneud tro gwael â phob un ohonom ni, a'r peth gorau sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth Lafur sy'n gallu ailadeiladu'r economi hon?
Llywydd, wrth gwrs, mae Alun Davies yn mynegi'r ateb pwysicaf i'r anawsterau y mae pobl gyffredin yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae hwn yn argyfwng a grëwyd yn Downing Street, gan breswylwyr olynol rhif 10 Downing Street. Rwyf i wedi gwrando yn ystod yr wythnos diwethaf ar Weinidogion Ceidwadol y DU yn dweud wrthym ni fod cyni wedi bod yn beth da iawn oherwydd ei fod wedi ein paratoi ni'n well ar gyfer coronafeirws. Rwyf i wedi clywed Gweinidogion Torïaidd yn dweud y buom yn ffodus o gael argyfwng Brexit gan fod argyfwng Brexit wedi golygu ein bod ni'n fwy parod ar gyfer argyfwng COVID. [Torri ar draws.] Dyna'r hyn a ddywedodd Oliver Dowden—[Torri ar draws.] Dyna'r hyn a ddywedodd Oliver Dowden; nid unwaith yn unig y gwnaeth ei ddweud, fe'i dywedodd dro ar ôl tro. A dweud y gwir, yr hyn a ddywedodd oedd bod trychineb Brexit—trychineb Brexit—wedi golygu ein bod ni mewn gwell sefyllfa ar gyfer trychineb coronafeirws. A nawr maen nhw eisiau dweud yr un peth eto—bod eu record drychinebus rywsut yn rhoi hawl iddyn nhw gael cyfle i unioni'r trychineb hwnnw. Mae'n gwbl amlwg ym mywydau pobl sy'n wynebu cynnydd i gyfraddau llog. Mae'r bobl hynny yn gwybod pwy sy'n gyfrifol. Maen nhw'n gwybod pwy sydd ar fai hefyd, a dyna pam y byddwn ni'n cael y Llywodraeth Lafur nesaf honno.