Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 21 Mehefin 2023.
Ar y ddau bwynt hwnnw, oni fyddai'n wych pe baem yn rhedeg y gwasanaeth carchardai a'r system gyfiawnder yma yng Nghymru, fel y gallwn unioni'r rheini? Ac rwy'n siŵr fod y rheini'n bwyntiau siarad mawr y gwnaethoch gyfeirio atynt yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Oni fyddwn innau wrth fy modd yn gallu cael y drafodaeth honno ar yr hyn sy'n digwydd gyda phlismona yng Nghymru? Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu gwneud hynny, oherwydd dywedir wrthym fod y system bresennol yn gweithio'n iawn. Nid wyf yn credu ei bod.