Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 21 Mehefin 2023.
Mae'r angen brys i ddatganoli pwerau dros gyfiawnder nid yn unig yn fater o egwyddor; fel y clywsom eisoes, mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau mwy o degwch i'n pobl, i helpu pobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Rydym eisoes wedi clywed am hiliaeth sefydliadol mewn rhannau o'n system gyfiawnder bresennol; hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffyrdd y mae ein system bresennol nid yn unig yn gwneud cam â menywod, ond yn gwaethygu eu trawma.
Gwn fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi edrych ar hyn, ac wedi canfod diffyg cynnydd pryderus ers gwaith y Farwnes Corston yn y maes 16 mlynedd yn ôl. Mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at ba mor wrthgynhyrchiol yw dedfrydau byr o garchar i droseddwyr benywaidd—unwaith eto, daw hyn o'n system bresennol—gan nodi tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai fod 60 y cant o'r dedfrydau carchar a roddwyd i fenywod yng Nghymru yn 2021 am gyfnodau llai na chwe mis. Bydd y rhain yn aml ar gyfer mân droseddau. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwyr plant, sy'n golygu y bydd eu carchariad yn peryglu eu teuluoedd. Ni fydd neb yn y teuluoedd hynny'n dod allan ohoni heb eu hanafu gan y profiad o wahanu, colled a thrawma—byddant yn cael eu rhwygo ar wahân.
Ni all carchariad o chwe mis—unwaith eto, daw hyn o'r system bresennol—gael ei gymell gan unrhyw obaith o adsefydlu person o fewn y gymdeithas, neu o'u hannog i newid eu ffyrdd. Mae'n gosb, wedi'i rhoi i bobl sy'n aml yn troseddu am resymau cymhleth—ymdeimlad o anobaith oherwydd diofalwch neu gam-drin neu'r ffaith nad yw gwasanaethau cymorth wedi bod yno i'w cael ar lwybr gwell, neu'n wir yr argyfwng costau byw. Gellid osgoi cymaint o fân droseddau pe baem yn buddsoddi mewn gofalu am bobl yn hytrach na'u troseddoli. Ac mae'n fater o adnoddau yn ogystal â gwneud yr hyn sy'n iawn. Mae carchariadau byr yn llawer mwy tebygol yn ystadegol o arwain at aildroseddu. Mae elusen Women in Prison wedi canfod bod dros 70 y cant o fenywod sy'n cael eu rhyddhau ar ôl dedfrydau o lai na 12 mis o garchar yn aildroseddu o fewn blwyddyn, sy'n golygu nad oes neb yn dysgu unrhyw beth o'r profiad—mae'n gwneud pethau'n waeth, dyna i gyd, ac yn sefydlu cylch o ddiofalwch, cefnu a beio.
Mae'r system hon yn gwneud cam gwael â menywod sydd wedi goroesi troseddau hefyd. Mae ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos mai dim ond 1.9—. Rydym wedi clywed yr ystadegau dirdynnol ynglŷn â chyn lleied o'r achosion o drais rhywiol a gofnodwyd sy'n arwain at euogfarn. Mae bron i 70 y cant o oroeswyr trais rhywiol yn tynnu'n ôl o ymchwiliadau oherwydd eu bod wedi colli ffydd yn y system. Fel y mae'r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi canfod, mae'n system sy'n ail-drawmateiddio goroeswyr trais oherwydd diffyg cefnogaeth mewn llysoedd teulu a llysoedd troseddol. Rwy'n gwybod o fy mhrofiad o weithio gyda goroeswyr stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth am yr effaith ddinistriol, ysgytwol y gall yr ail-drawmateiddio hwnnw ei chael—y cylch o ddiofalwch unwaith eto.
Ddirprwy Lywydd, ni fydd datganoli cyfiawnder ynddo'i hun yn arwain yn awtomatig at newid, ond bydd trosglwyddo'r pwerau hynny, os caiff ei wneud gyda gwaith ar lawr gwlad, drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol, llochesau, hyfforddiant i'r heddlu, ac integreiddio'r gwasanaethau hyn yn fwy effeithiol, yn dechrau golygu y bydd llai o fenywod yn cwympo drwy'r bylchau mawr yn ein system. Rwy'n gwybod bod y grŵp trawsbleidiol ar fenywod wedi edrych ar hyn hefyd. Gall ddechrau ail-gydbwyso’r fantol, ac yn lle meddwl am gyfiawnder fel system gosbi, gall olygu ei bod yn system ar gyfer trugaredd yn lle hynny. Trugaredd yw'r hyn sydd mor aml ar goll o'n system gyfiawnder—y rhinwedd nad yw byth dan straen, fel y mae Portia yn ein hatgoffa, ac sy'n gallu tymheru cyfiawnder. Ac yn ogystal â thrugaredd, efallai y gallwn anelu i fod yn gymdeithas lle ceir dyhead am les cyffredinol, lle mae'r cyfrifoldeb am lesiant pobl eraill yn gonglfaen i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Dyna sut y cawn gyfiawnder go iawn, oherwydd fel y dywedodd Helen Keller,
'Hyd nes y llenwir y mwyafrif mawr o bobl â'r ymdeimlad o gyfrifoldeb dros les ei gilydd, ni fydd modd sicrhau cyfiawnder cymdeithasol'.
Felly, gadewch inni roi'r dulliau i ni ein hunain wneud y buddsoddiad hwnnw yn ein cyd-ddinasyddion, i wneud y dewisiadau a fydd yn gwneud ein cymdeithas yn lle llai diofal, yn lle mwy diogel, ac yn fwy na dim, yn lle trugarog.