Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 21 Mehefin 2023.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am bob cyfraniad ac i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb o heddiw. Oes, mae yna lawer iawn o gytuno rhyngom ni yn y Siambr yma. Rydyn ni wedi clywed dadleuon mor gryf, onid ydyn ni, y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths, Heledd Fychan, Alun Davies, Joyce Watson—geiriau cryf iawn—a Delyth Jewell yn egluro difrifoldeb bod heb y pwerau yma rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw dros gyfiawnder a thros yr heddlu.
Do, mi ddywedwyd flynyddoedd maith yn ôl erbyn hyn mai proses, nid digwyddiad oedd datganoli, ac mi oedd yna elfen o fod angen rhywfaint o amynedd wrth inni gychwyn ar y daith ddemocrataidd yma fel gwlad. Ond, mae hi 10 mlynedd erbyn hyn ers ail adroddiad Silk, neu bron iawn yn 10 mlynedd ers i ail adroddiad Silk nodi bod angen datganoli'r heddlu, ac rydyn ni'n dal i aros. Mae'r rhwystredigaeth yn naturiol yn tyfu, ac mae methiant i wella bywydau pobl yn mynd yn rhywbeth ddylai ein gwneud ni, fel Senedd ac fel gwleidyddion unigol, yn fwy a mwy diamynedd.