Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 21 Mehefin 2023.
Gallaf eich sicrhau, drwy gydol yr holl waith sy'n mynd rhagddo o ran trafodaethau pan fo gwelliannau a chynigion yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi, yn enwedig, mae'r safbwyntiau hynny'n cael eu gwneud yn glir iawn.
Mae goblygiad y cysyniad nad ydym erioed wedi gofyn amdano, fel y dywedais, braidd yn rhyfedd, oherwydd rydym wedi galw'n barhaus am ddatganoli cyfiawnder. Fe wnaethom ni sefydlu'r comisiwn annibynnol ar gyfiawnder ac yn fwy diweddar fe wnaethom sefydlu'r comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn syth ar ôl etholiad cyffredinol 2019, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU yn cyflwyno'r achos unwaith eto dros ddatganoli cyfiawnder a chyllid teg ar gyfer cyfiawnder. Rydym wedi gwneud ein safbwynt, a safbwynt y Senedd hon, yn glir dro ar ôl tro, gyda nifer o Arglwydd Gangellorion dros y blynyddoedd ers i gomisiwn Thomas gael ei gyhoeddi. Mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu'r mandad sydd gennym ar gyfer hyn gan bobl Cymru a'r modd y maent wedi diystyru'r system gyfiawnder ers dros 13 mlynedd, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Nid yw'r system gyfiawnder erioed wedi bod mewn cyflwr mwy enbyd o ganlyniad i 13 mlynedd o doriadau ac esgeulustod Torïaidd.
I gloi, ein blaenoriaeth yw gweithredu adeiladol. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod eisoes wedi croesawu cydnabyddiaeth comisiwn Brown nad oes rheswm mewn egwyddor pam na ellir datganoli materion sydd wedi'u datganoli yn yr Alban i Gymru, gan gynnwys cyfiawnder a phlismona. Mae comisiwn Brown yn argymell dechrau'r broses o ddatganoli cyfiawnder drwy ddatganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid, er eu bod yn dweud yn glir mai mater i bobl Cymru, drwy'r Senedd hon, yw penderfynu beth fydd dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Gallaf ddweud wrth y Senedd hon, gyda newid ar fin digwydd yn y Llywodraeth, nad gwneud achos syml dros ddatganoli cyfiawnder yn unig a wnawn, ond fel Llywodraeth, rydym bellach yn paratoi ar gyfer datganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid, ac ar gyfer datganoli plismona wedyn. Cawn weld beth fydd yr argymhellion pellach gan y comisiwn cyfansoddiadol pan fydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni. Ar 25 Ebrill eleni, cyhoeddais ddatganiad ar y cyd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn amlinellu ein gwaith, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd eto yr wythnos nesaf. Diolch, Ddirprwy Lywydd.