Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 21 Mehefin 2023.
Rwyf am gefnogi'r egwyddor y dylid datganoli pwerau ar gyfiawnder a phlismona i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd ar drywydd yr achos hwnnw a pharatoi ar gyfer datganoli'r heddlu a chyfiawnder.
Mae pawb ohonom yma wedi gweld canlyniadau 13 mlynedd hir o fethiant Torïaidd—hyd yn oed ar y fainc honno, ni allant fod yn ddall i hynny. Maent wedi gweld esgeulustod, cyni, anghydraddoldeb, annhegwch, a system gyfreithiol sydd wedi torri o ganlyniad i'w polisïau. System aflwyddiannus, lle nad oes ond 1.3 y cant o achosion o drais rhywiol yn cael eu herlyn bellach; system doredig sydd wedi creu sgandalau fel Hillsborough, a brwydr 27 mlynedd dros gyfiawnder oherwydd absenoldeb cymorth cyfreithiol i gefnogi teuluoedd a dioddefwyr y drasiedi honno wrth iddynt geisio sicrhau llais iddynt eu hunain yn y system gyfiawnder, a'u galwad nawr am gyfraith Hillsborough, a hynny'n gwbl briodol.
Yn yr 11 mlynedd ers Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, rydym wedi gweld system gyfreithiol ddwy haen yn datblygu, gyda thorri cymorth cyfreithiol, ac amddifadu llawer o bobl Cymru o gyfiawnder. Mae mynediad at gyfiawnder a'r hawl i gyngor, cynrychiolaeth a chefnogaeth yn hawl ddynol sylfaenol. Mae'r cysylltiad rhwng cyfiawnder, mynediad at gyfiawnder a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb, a soniwyd am hynny nawr. Canfu comisiwn Thomas—mae'n ddrwg gennyf am ei alw'n gomisiwn Thomas—fod gwariant y pen ar gymorth cyfreithiol troseddol yn £11.50 yng Nghymru, o'i gymharu â £15 y pen yn Lloegr. Felly, pe bai'n cael ei ddatganoli a'n bod yn cael ein cyfran deg o gyllid, rwy'n cytuno'n llwyr y gallem ariannu cymorth cyfreithiol yn well. Byddem yn creu ein gwasanaeth cymorth a chyngor cyfreithiol Cymreig ein hunain, i wasanaethu pobl Cymru a darparu'r mynediad at gyfiawnder rydym i gyd yn credu ynddo.
Mae unigolion sy'n wynebu erlyniad troseddol a charchar yn ofni y gallai cost ariannol amddiffyn eu hunain eu gwneud yn fethdalwyr, hyd yn oed os ydynt yn llwyddiannus. Gall hyn olygu bod pobl—ac mae wedi golygu bod pobl—yn pledio'n euog i droseddau nad ydynt wedi'u cyflawni er mwyn diogelu eu cartrefi a'u hasedau ar gyfer gweddill eu teulu. Mewn achosion o drais rhywiol, mae'r amser cymedrig rhwng trosedd a chwblhau achos bellach dros ddwy flynedd a hanner, gyda dim ond 1.3 y cant o achosion yn cael eu herlyn. Mae'r oedi enfawr yn arwain at roi hyder i droseddwyr sy'n peryglu erlyniadau, a chanlyniadau dinistriol i'r dioddefwyr hynny—sefyllfa gywilyddus sydd, yn gwbl onest, yn fwy cydnaws â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg na'r unfed ganrif ar hugain.
Er nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac er nad oes adnoddau ar ei gyfer i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael cymorth cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i gefnogi pobl, a'r llynedd, fe wnaeth sicrhau bod mwy na £10 miliwn o gyllid ar gael i wasanaethau'r gronfa gynghori sengl yng Nghymru. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder, ac y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru. Hefyd, mae'n rhaid imi wrthwynebu'r hyn y mae'r Torïaid yn ei ddadlau—na fyddai heddlu yn Lloegr, rywsut, yn gwybod ble mae'r llinell, neu na fyddai heddlu Cymreig yn gwybod ble mae'r ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n siŵr eu bod yn llwyddo'n berffaith i wybod lle mae'r Alban yn gorffen a Lloegr yn dechrau, neu lle mae Lloegr yn gorffen a'r Alban yn dechrau. A dweud y gwir, os na fyddai rhywun yn gallu tynnu llinell ar fap neu ei ddeall, tybed a ddylent fod yn yr heddlu o gwbl.