Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 21 Mehefin 2023.
Maen nhw'n diystyru datganoli ar sail ideolegol, sy'n rhyfedd iawn, oherwydd mae Lord Hunt yn dweud, yn 1990, y gwnaeth e a Ken Clarke gytuno y byddai plismona yn cael ei ddatganoli i Swyddfa Cymru bryd hynny, ond ei fod e wedi cael ei rwystro gan bureaucracy yn Whitehall. Roedd ymateb Sir Robert Buckland yn dweud y cyfan wrth iddo dderbyn yr adroddiad—dim dadleuon cryf yn erbyn, jest bod awdurdod Cymru a Lloegr wedi gweithio ers canrifoedd, a dyna ni, i barhau. Wel, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, dyw hynny jest ddim yn wir.
Fel dywedodd Alun Davies a Mike Hedges, dwi'n methu gweld rhesymeg unrhyw unoliaethwr sy'n proffesu o fod o blaid datganoli i wrthwynebu datganoli cyfiawnder. Byddai'n creu system gymesur ledled Prydain. Dylai hynny arwain at drefn datganoli gliriach, ac arwain at lai o gecru rhwng llywodraethau, a byddai o gymorth i ddelio â phroblemau'r jagged edge, ac yn llawer haws i egluro egwyddorion ar sail gweinyddu cyfiawnder ledled y Deyrnas Unedig. Dyw'r system bresennol jest ddim yn gwneud sens.
Ac rŷn ni'n gweld y problemau hynny. Rŷn ni'n gweld y diffyg atebolrwydd. Er enghraifft, dim ond traean o gyllideb yr heddlu yng Nghymru sy'n dod o San Steffan. Daw'r gweddill i gyd o Gymru. Ac yn 2017-18, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am bron i 40 y cant o gyllideb y system gyfiawnder yng Nghymru, a hynny ddim yn cynnwys gwariant ar Wasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru o fewn cyfraith deuluol, ddim yn cynnwys timau troseddwyr ifanc, nac addysg a gofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r diffyg atebolrwydd yn glir i'r gwariant sylweddol yma.