Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 21 Mehefin 2023.
Dwi o blaid datganoli cyfiawnder. Dwi'n grediniol y bydd yn gwella'r system gyfiawnder i bobl yng Nghymru. Dyna oedd barn bendant y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Roedd yr Arglwydd Thomas yn erbyn galw'r comisiwn yn 'gomisiwn Thomas', oherwydd roedd e eisiau pwysleisio arbenigedd yr holl gomisiynwyr. Roedd y comisiwn yn ffodus iawn i gael ei gadeirio gan y cyn brif ustus, ond roedd y comisiwn hefyd yn cynnwys arbenigwyr rhyngwladol ym maes cyfraith gyfansoddiadol, carchardai, y gwasanaeth prawf, y proffesiwn cyfreithiol a phlismona. Cafwyd arbenigedd hefyd wrth ddrafftio'r adroddiad oddi wrth arbenigwyr ym maes dioddefwyr a hawliau dynol. Doedd y comisiynwyr ddim yn aelodau typical o fyrddau yng Nghymru. Doedden nhw ddim ychwaith yn ceisio gwthio rhyw agenda penodol. Doedden nhw ddim yn mouthpiece i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru mewn sawl man. Doedd dim cymhelliad ideolegol gyda'r comisiwn yma. Nid comisiwn o genedlaetholwyr oedd y rhain o gwbl.
Fe wnaeth y comisiwn cyfiawnder argymell datganoli wedi iddyn nhw bwyso a mesur yn ofalus y dystiolaeth yn fanwl: 205 darn o dystiolaeth ysgrifenedig, 46 o sesiynau tystiolaeth lafar, ac 87 o sesiynau ymgysylltu; adroddiad gan arbenigwyr, wedi'i seilio ar dystiolaeth fanwl. Mae'n anhygoel, felly, fod y blaid Dorïaidd, a chymaint o fewn grŵp Llafur San Steffan, yn fodlon diystyru’r adroddiad.