Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 21 Mehefin 2023.
'Ar lawer o fesurau allweddol, fe welwn fod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n perfformio hyd yn oed yn waeth na’r un yn Lloegr, gwlad sy’n haeddu cael ei hadnabod ymhlith y perfformwyr gwaethaf yng ngorllewin Ewrop. Gwelwn gyfraddau uwch o droseddau treisgar, data sy'n peri pryder ar hil yn y system drwyddi draw, cyfraddau carcharu sy'n uwch nag yn Lloegr, a chyfran uwch o’r boblogaeth sy'n ddarostyngedig i ryw fath o oruchwyliaeth brawf.'
Wrth i Aelodau ar draws y Siambr ystyried y cyfraniadau heddiw a gwneud eu cyfraniadau eu hunain, rwy'n annog pawb i ofyn iddynt eu hunain, 'Sut y gall hyn fod yn dderbyniol?' Er bod Llywodraeth y DU yn rhoi polisïau ar waith sy’n ceisio mynd i’r afael â materion a all fod yn gyffredin yn Lloegr, ni all fod yn iawn—ni all byth fod yn dderbyniol—i ni yng Nghymru orfod etifeddu atebion honedig nad ydynt yn gweithio i ni yma yng Nghymru.
Nawr, cyn imi droi at y diben, yr angen ymarferol i ddatganoli'r system gyfiawnder, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y wleidyddiaeth. Ymrwymodd maniffesto Llafur Cymru 2021 i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fel y'i nodwyd gan gomisiwn Thomas, ond serch hynny, yn y Siambr hon ddoe ddiwethaf, cymeradwyodd y Prif Weinidog gynnig gwahanol iawn a ddeilliodd o waith cyn-Brif Weinidog y DU, Gordon Brown, sef y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan ond yn datganoli pwerau dros y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn unig i’r Senedd.
Mae’n ganlyniad siomedig, a dweud y lleiaf, i gyfraniad Llafur i’r ddadl ar ddatganoli rhagor o bwerau. Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn rhwyfo gyda’n gilydd i’r un cyfeiriad, ond mawredd, mae’n peri rhwystredigaeth i mi pan fydd un yn rhwyfo’n gynt na’r llall. Y canlyniad yw eich bod yn troi mewn cylchoedd yn y pen draw, onid ydych? Mae’r briwsion cyfansoddiadol a gynigir yn wahanol iawn i’r hyn a addawyd gan ragflaenydd y Prif Weinidog, a ddywedodd, wrth basio Deddf Cymru yn 2017, na fyddai ein setliad datganoli presennol byth yn sefydlog heb ymgysylltiad ar faterion sylfaenol cyfiawnder ac awdurdodaeth.
A gaf fi annog Llywodraeth Cymru i fod mor uchelgeisiol â ninnau ar y meinciau hyn dros Gymru ar y mater penodol hwn? Ailadroddaf yr hyn a ddywedais ddoe: os na wnewch chi ofyn, ni wnewch chi gael. Oes, mae angen sicrhau bod darpar Brif Weinidog y DU, Keir Starmer, yn cadw at ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan Lafur eu hunain, ond mae’n rhaid gofyn y cwestiynau ffurfiol i Weinidogion presennol y DU. Darllenais gyda chryn siom yr ateb a roddwyd i gwestiwn ysgrifenedig fy nghyfaill, yr Arglwydd Wigley, yn Nhŷ’r Arglwyddi, a ddatgelodd, yn ôl y Gweinidog, nad yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn ffurfiol am drosglwyddo pwerau cyfiawnder a phlismona.
Nawr, clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yma yn y Siambr ddoe, nad yw'n wir nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio dylanwadu ar bolisi ar ddatganoli cyfiawnder, a gwn fod trafodaethau ar ddeddfu elfennau o gomisiwn Thomas wedi bod yn mynd rhagddynt, a rhoddodd y Prif Weinidog ddisgrifiad ddoe o rai o’r camau a gymerwyd. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth y Cwnsler Cyffredinol heddiw: peidiwch â rhoi rheswm i Weinidogion Ceidwadol yn San Steffan ddweud na wnaed cais ffurfiol am ddatganoli plismona a chyfiawnder. A gadewch imi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw: ysgrifennwch at Lywodraeth y DU i wneud y cais ffurfiol hwnnw am ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder yn llawn, a phan gyhoeddir y llythyr hwnnw yma yng Nghymru, byddaf yn falch iawn o'i gymeradwyo, ac yna, os daw Keir Starmer yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, byddwn yn sicrhau ei fod yn cadw at ei air ac yn gwireddu'r cais a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol yn enw Llywodraeth Cymru ac yn enw’r Senedd.
Heb amheuaeth, mae cyfiawnder yn un o sylfeini'r broses o lunio polisi. Mae'n caniatáu i Lywodraethau reoli diogelwch eu pobl. Mae'n hanfodol er mwyn caniatáu i lunwyr polisi ddatblygu'r math o gymunedau y maent yn dymuno eu cael, ac wrth wneud hynny, i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n amharu ar y weledigaeth honno. Heb bwerau dros gyfiawnder, mae rhwyg yn datblygu, lle mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb dros feysydd sy’n cysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â chyfiawnder a phlismona. Fel y dywedodd yr Arglwydd Thomas yn glir pan gwblhaodd ei waith manwl—ac rydym yn ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad i hyn—mae pobl yng Nghymru, meddai, yn cael eu hesgeuluso gan y system yn ei chyflwr presennol.
Nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn anghytuno, gobeithio, fod y ffordd y mae cyfrifoldebau wedi'u rhannu ar hyn o bryd rhwng San Steffan a Chaerdydd wedi creu cymhlethdod, dryswch ac anghydlyniaeth mewn sawl ffordd ym maes cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Ac nid yn unig ei fod yn gymhleth mewn ffordd fiwrocrataidd; mae'n cymhlethu bywydau pobl ac yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl. Mae’n creu anawsterau ymarferol, mae’n effeithio ar fynediad at gyfiawnder, mae’n effeithio’n anghymesur ar fynediad at gyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef yn sgil yr anghydraddoldebau sydd mor gyffredin yn ein cymdeithas. Rydym wedi gweld toriadau i gymorth cyfreithiol, mwy o bobl yn cynrychioli eu hunain yn y llys, gorddibyniaeth ar garcharu o gymharu ag adsefydlu, diffyg cyfleusterau i fenywod, a gor-gynrychiolaeth o bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r rhain yn bethau rwyf am ein gweld ni yng Nghymru yn gallu eu datrys. Maent yn ganlyniadau i benderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill ond a roddir ar waith yma, boed ein bod yn hoffi hynny ai peidio.
Mae’r Cwnsler Cyffredinol a minnau'n cytuno ar yr egwyddorion sy’n ymwneud â phlismona, yn sicr. Y prynhawn yma, roeddwn yn darllen geiriau’r Cwnsler Cyffredinol ei hun yn gynharach eleni. Mae'n
'rhesymegol, mae'n gwneud synnwyr', meddai am ddatganoli plismona, ac, yn ôl ym mis Chwefror, dywedodd fod pob comisiynydd heddlu a throseddu etholedig, yn cytuno y dylai ddigwydd;
'Rwy'n credu un diwrnod y bydd yn digwydd.'
Wel, gadewch inni weld hyn yn digwydd ynghynt. Dylai fod yr un mor rhwystredig â minnau ynghylch y negeseuon a ddaw gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur o dan Keir Starmer. Mae angen inni weld hyn yn digwydd.