Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 21 Mehefin 2023.
Mae Keir Starmer wedi rhoi ymrwymiad o gefnogaeth i adroddiad Gordon Brown. Mae adroddiad Gordon Brown yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes pwerau sydd, er enghraifft, yn yr Alban na all Cymru eu cael hefyd. Yr hyn a wnaeth, a oedd yn bwysig iawn yn fy marn i, oedd ildio'n benodol i farn y comisiwn annibynnol ar ddyfodol Cymru, a fydd yn cynhyrchu ei adroddiad, a dywedodd y dylid ymgysylltu'n adeiladol â'r argymhellion ar ôl hynny. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd gywir ymlaen.
Wrth gwrs, fel y dywedwch, ceir yr elfen gyfansoddiadol. Y Senedd yw'r unig Senedd y gwyddom amdani yn y byd cyfraith gyffredin sy'n gallu deddfu heb yr awdurdodaeth i orfodi ei chyfreithiau ei hun. Felly, mae'r cynnig yn sôn yn benodol am ddatganoli plismona, ac rydym yn cytuno, wrth gwrs, fod hon yn elfen bwysig o'r datganoli sydd ei angen—fe wnaeth nid yn unig y comisiwn cyfiawnder, ond Silk cyn hynny, argymell datganoli plismona. Rwy'n gwneud y pwynt yma: mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig yng Nghymru, y rhai sydd â mandad democrataidd ac a etholwyd gan bobl Cymru, yn cefnogi'r achos dros ddatganoli plismona. Fe wneuthum yr achos yn gryf dros ddatganoli plismona pan ymddangosais gerbron y comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru dan gadeiryddiaeth Laura McAllister a Rowan Williams, ac wrth gwrs rydym yn aros gyda diddordeb mawr i weld beth fydd barn y comisiwn.
Nid yw ein gwrthwynebiad i'r rhan o'r cynnig gan Blaid Cymru yn deillio o'r gwahaniaeth ynglŷn â lle rydym yn gobeithio ei gyrraedd o ran datganoli cyfiawnder. Mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â sut rydym yn cyrraedd yno a pham, ac er fy mod yn cytuno bod angen inni sefydlu awdurdodaeth Gymreig neilltuol yn ffurfiol a bod angen i blismona yng Nghymru fod yn gwbl atebol i'r Senedd, camgymeriad difrifol fyddai ceisio cysylltu hyn â safbwynt Plaid Cymru ar annibyniaeth. Nid yw'n rhyw fath o gam tuag at annibyniaeth, mae'n ymwneud â darparu cyfiawnder yn well. Synnwyr cyffredin yw sicrhau bod y gyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru yn cael ei chydnabod yn ffurfiol fel cyfraith Cymru, yn union fel y dylid galw'r gyfraith sy'n berthnasol i Loegr yn gyfraith Lloegr. Myth yw'r syniad fod y gyfraith yr un fath ar draws tiriogaeth Cymru a Lloegr. Nid yw'r safbwynt hen ffasiwn hwnnw'n adlewyrchu realiti bellach, felly bydd cydnabod lle mae cyfreithiau'n berthnasol yn cael effaith fuddiol ar eglurder a hygyrchedd y gyfraith, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i Loegr.
Yr ail reswm pam ein bod yn gofyn am welliant yw oherwydd nad ydym yn cydnabod yr honiad fod angen rhyw fath o broses ffurfiol i alw am ddatganoli cyfiawnder. Nid oes proses benodol ar gyfer y pethau hyn. Nid oes unrhyw eiriau swyn a fydd, os cânt eu dweud yn gywir wrth Lywodraeth y DU, yn newid safbwynt Llywodraeth bresennol y DU. Mae eu pennau yn y tywod, nid ydynt yn gweld synnwyr. Er mwyn sicrhau newid, mae angen newid Llywodraeth y DU ac ethol Llywodraeth Lafur.
Mae yna awgrym yn y cynnig hefyd, rywsut, nad ydym erioed wedi gofyn am ddatganoli cyfiawnder. Mae hynny braidd yn rhyfedd a dweud y gwir. Mae'r Llywodraeth hon wedi galw'n agored, yn gyson ac yn barhaus am ddatganoli cyfiawnder.