Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 21 Mehefin 2023.
Rwy'n croesawu cyfraniad arweinydd newydd Plaid Cymru yn fawr, a hoffwn ei longyfarch ar gael ei ethol yr wythnos diwethaf a dymuno pob dymuniad da iddo ar gyfer y dyfodol yn y rôl honno.
Mae datganoli plismona a chyfiawnder troseddol yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yma ar sawl achlysur, ac mae'n bosibl dod o hyd i'r papur sigaréts annelwig o wahaniaeth rhwng meinciau Plaid Cymru a'r meinciau Llafur ar y mater hwn. Yn hytrach na cheisio gwneud hynny, fy nghyngor i fyddai ceisio undod a cheisio cytundeb ar y materion hyn, yn hytrach na cheisio ymraniad, gan fod hwn yn argyfwng. Mae'n argyfwng parhaus yn ein gwlad. Nid cysyniad academaidd na haniaethol mohono, rhywbeth i gyfreithwyr siarad amdano yn hwyr y nos, rhywbeth i anoracs cyfansoddiadol siarad amdano pan fyddant wedi mynd yn brin o bob cysyniad haniaethol arall i sgwrsio yn ei gylch. Mae hwn yn argyfwng sy'n effeithio ar bobl yn y wlad hon heddiw, yfory, yr wythnos nesaf, y mis nesaf, y flwyddyn nesaf, a menywod, rwy'n credu, sy'n dioddef waethaf yn sgil methiant y system hon.
Mae gweinyddu cyfiawnder troseddol a phlismona yng Nghymru wedi torri. Mae wedi'i dorri—yn strwythurol—gan system na chafodd erioed mo'i chynllunio i weithio yng nghyd-destun hunanlywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru. Dylem gydnabod hynny. Yr hyn y byddwn i'n ceisio'i wneud, a—. Rwyf wedi clywed y ddadl hon, ac yn aml iawn mae arnaf ofn ein bod yn cael dadleuon diffrwyth iawn ar brynhawn Mercher ynglŷn â'r mater hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Mark Isherwood yn ymuno â'r ddadl mewn ychydig funudau a bydd yn dyfynnu araith a wnaeth yn 2018 neu 2017 a bydd yn dyfynnu ei araith eto o 2020 lle mae'n rhestru'r troseddau a gyflawnwyd gan bobl o Lannau Mersi neu rywle arall yng ngogledd Cymru. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn trafod y materion hyn, Mark, ond mae'n rhaid inni gael trafodaeth fwy deallus hefyd.
Os edrychwch ar blismona ar draws y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mae wedi'i ddatganoli ym mhob gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi'i ddatganoli mewn dinasoedd yn Lloegr, fel Manceinion a Llundain. Nid oes neb yn awgrymu bod y lleoedd hyn yn ynysoedd o drosedd heb unrhyw berthynas â lleoedd eraill. Nid oes neb yn awgrymu nad oes gan heddluoedd yng Nghymru unrhyw berthynas â heddluoedd dros y ffin nac mewn mannau eraill. Nid oes neb yn awgrymu nad ydym yn siarad â'n gilydd, nad ydym yn gweithio gyda'n gilydd. Nid oes neb yn awgrymu ein bod yn creu rhyw fath o len haearn ar draws ein ffiniau ac yn atal heddweision yma rhag siarad â chydweithwyr mewn mannau eraill. Nid oes neb yn awgrymu'r pethau hyn. Mae angen cydnabod y rhagdybiaethau bwriadol gyfeiliornus a gyflwynir i ddadlau'r achos yn erbyn datganoli am yr hyn ydynt.
Rwy'n credu yma fod y Ceidwadwyr, a rhai pobl o fewn y Blaid Lafur a dweud y gwir, yn camgymryd yn sylfaenol beth mae hyn yn ei olygu. Rwyf am weld Teyrnas Unedig gref ac rwyf am weld Teyrnas Unedig sefydlog, ac mae'n debyg fod y ffurf anghymesur ar ddatganoli a oedd gennym yn y Deyrnas Unedig yn ôl yn y 1990au yn adlewyrchu dymuniadau pobl Cymru'n deg ym 1999, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Ond nid yw'r hyn a adlewyrchai ein barn 25 mlynedd yn ôl yn adlewyrchu ein barn ynghylch strwythur llywodraeth heddiw, ac mae angen i lywodraeth symud ac mae angen i'r cyfansoddiad symud i gydnabod hynny. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod datganoli cymesur, yn sicr ar ynys Prydain rhwng Cymru, yr Alban a gweddill y DU—a Lloegr—yn bwysig o ran strwythur y Deyrnas Unedig a galluogi'r Deyrnas Unedig i gael y llywodraethiant sydd ei angen arnom i gyd.
Mae hwn yn bwynt rwyf am ei wneud i'n cyd-Aelodau Ceidwadol: camgymeriad yw drysu rhwng unoliaetholdeb a chanoliaetholdeb. Pe byddech chi wedi gwrando ar ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin beth amser yn ôl, roedd gennych rai o unoliaethwyr ffyrnicaf Gogledd Iwerddon yn dadlau dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru oherwydd eu bod yn cydnabod bod undeb cryf yn undeb lle mae gan bob rhan gyfansoddol o'r undeb hwnnw strwythurau tebyg a phwerau tebyg ar gael iddo, am fod hynny'n creu sefydlogrwydd o fewn yr undeb. Os oes gennych chi'r AS dros Strangford neu lle bynnag yn dadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, gallwch fod yn eithaf sicr nad ydynt yn ei wneud oherwydd bod Sinn Fein yn ei gefnogi hefyd. Gallwch fod yn eithaf sicr hefyd eu bod yn deall pwysigrwydd datganoli'r materion hyn i'r undeb yn y dyfodol.
Yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud—a hoffwn glywed ymateb y Cwnsler Cyffredinol i hyn—gan fod y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ger bron y Senedd yn Llundain ar hyn o bryd: beth yw barn Llywodraeth Cymru ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yma? Mae'n ymddangos i mi y dylid deddfu llawer o gynnwys y Bil hwnnw yma ac y dylai adlewyrchu blaenoriaethau'r lle hwn a Llywodraeth Cymru, ac nid Llywodraeth yn Llundain nad yw'n cydnabod pwysigrwydd y materion hyn i bobl yma yng Nghymru a'r strwythurau sy'n bodoli yng Nghymru er mwyn cyflawni polisi—