Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 21 Mehefin 2023.
Dwi'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod â'r ddadl yma ar lawr y Senedd y prynhawn ma. Dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau o bob ochr y Siambr. Dwi hefyd yn edrych ymlaen, wrth gwrs, i glywed ymateb y Cwnsler Cyffredinol, a dwi wir yn gobeithio y bydd y drafodaeth yma yn sbarduno rhywbeth o fewn Llywodraeth Cymru i fod eisiau cyflymu eu gweithredu ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn eu maniffestos ac mor aml yn gyhoeddus. Ond gallwn ni ddim gadael i eiriau fod yn eiriau yn unig; y gweithredu sydd yn bwysig. Os ydy pob un wlad arall normal yn y byd sydd efo pwerau deddfu a rheolaeth dros bolisi cyfiawnder a phlismona yn ei chymryd hi'n ganiataol mai felly y dylai hi fod, pa reswm sydd yna i Gymru fod yn wahanol? A faint o ddifrod sy'n digwydd i Gymru a dinasyddion Cymru drwy beidio â chael y pwerau yna? Ystyriwch y ddau gwestiwn yna. Ac onid ydy atebion y ddau gwestiwn sylfaenol yna yn arwain yn naturiol at y casgliad mai datganoli cyfiawnder ydy'r unig ateb synhwyrol?