8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol — Deintyddiaeth

– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 21 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:19, 21 Mehefin 2023

Mae hynny'n dod â ni at eitem 8, a hon yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth. Cadeirydd y Pwyllgor, felly, i gyflwyno'r ddadl. Russell George

Cynnig NDM8299 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Deintyddiaeth', a osodwyd ar 15 Chwefror 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 4:19, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn fy enw i.

Mae’n bleser mawr gennyf agor y ddadl y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth, a diolch i’r Gweinidog am ei hymateb i’r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad.

Gwn fod mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn fater sydd wedi bod yn rhan flaenllaw o waith achos yr Aelodau ac yn fater sy’n cael ei godi’n aml yn y Siambr hon. Nid yw'n teimlo fel llawer o wythnosau ers imi fod ar fy nhraed ddiwethaf mewn dadl yn siarad am ddeintyddiaeth. Rwyf wedi siarad o’r blaen am system ddwy haen, lle mae’r rhai sy’n gallu fforddio talu am driniaeth breifat yn gwneud hynny. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod system ddeintyddol breifat wedi bod ar gael erioed i'r rhai sy'n dewis ei defnyddio neu sy'n gallu fforddio gwneud hynny. Mewn un ffordd, wrth gwrs, rwy’n derbyn bod y Gweinidog yn iawn. Y gwahaniaeth nawr yw nad yw hyn yn ymwneud â phobl yn dewis cael triniaeth ddeintyddol breifat am eu bod yn gallu ei fforddio; mae'n ymwneud â phobl yn cael mynediad at driniaeth ddeintyddol breifat am nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall. I ormod o bobl, nid yw triniaeth ddeintyddol yn fater o ddewis mwyach, mae'n fater o anghenraid.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 4:20, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Nawr, dywedodd Rhian Davies o Rydaman wrthym nad oedd ei mab wedi gweld deintydd yn y pum mlynedd ers i’r ddeintyddfa GIG leol gau, a dywedodd fod y llythyr i ddweud wrthi fod y practis yn cau yn cynnig tri opsiwn ar gyfer practisau eraill. Roedd un o’r rheini 40 milltir i ffwrdd, felly dywedodd

'Rydym yn deulu o bedwar ac nid wyf eisiau mynd yn breifat, ond nid oes dewis gennyf.'

O rywfaint o fy ngwaith achos fy hun, gwn nad yw 40 milltir yn llawer o gymharu â'r pellter y byddai’n rhaid i lawer o fy etholwyr deithio er mwyn cael triniaeth GIG.

Yr hyn sy'n peri mwy fyth o bryder yw bod yna drydedd haen a haen gynyddol bellach hefyd: y rheini na allant gael deintydd GIG, ond na allant fforddio talu am driniaeth breifat. Nid oes ganddynt unrhyw ddarpariaeth o gwbl heblaw gwasanaethau deintyddol brys wrth gwrs.

Clywsom hefyd gan deulu ym Mhowys a oedd wedi bod yn ceisio cael mynediad at ddeintydd GIG ers chwe blynedd. Cafodd un o'r plant ddamwain a malu ei dant, wedyn nid oedd dewis ganddynt heblaw cysylltu â 111 i gael triniaeth ddeintyddol frys. Yn anffodus, nid yw hon yn stori anghyffredin, ac mae’r pwysau costau byw yn debygol o waethygu'r broblem.

Mae’n siomedig fod y gymuned ddeintyddol yn teimlo bod diffyg ymgynghori a gwybodaeth cyn ailddechrau'r rhaglen i ddiwygio’r contract deintyddol. Dywedwyd wrthym fod y diffyg rhybudd wedi peri cryn bryder i ddeintyddion nad oedd ganddynt fawr o amser i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch derbyn cynnig y contract ai peidio.

Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn derbyn bod y cynnig i amrywio'r contract ar gyfer 2022-23 wedi’i gyhoeddi’n hwyrach nag y byddai wedi'i ddymuno oherwydd amgylchiadau eithriadol pandemig COVID-19. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, rwy’n sicr yn credu, ac mae’r pwyllgor yn credu, y dylai Llywodraeth Cymru, oni bai bod yr amgylchiadau’n eithriadol, sicrhau bod y broses ymgynghori ynghylch newidiadau posibl i’r contract deintyddol yn cael ei chynnal o leiaf chwe mis cyn y bwriedir cyflwyno’r diwygiadau.

Credaf fod hwn yn fater gwirioneddol bwysig: canfu ein hymchwiliad nad oes darlun clir o nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ddeintyddol. Felly, nid oes darlun clir o'r bobl sy'n aros am driniaeth ddeintyddol. Os ydym am fynd i’r afael o ddifrif ag anghydraddoldebau mynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG, mae’n rhaid inni dargedu adnoddau yn y mannau lle mae’r angen mwyaf. Mae’n hynod o anodd gwneud hyn, os nad yn amhosibl, os nad oes gennym syniad faint o bobl sy’n aros i weld ddeintydd GIG. Credaf ei bod hefyd yn annerbyniol, ar ôl i bobl gael eu rhoi ar restr aros, y gallent fod yn aros hyd at 26 mis cyn cael apwyntiad.

Mewn tystiolaeth lafar, nododd y Gweinidog rai o’r anawsterau sydd ynghlwm wrth greu rhestr aros i Gymru gyfan. Rwy’n falch, felly, fod y Gweinidog wedi gallu derbyn yr argymhelliad hwn a bod trafodaethau eisoes yn mynd rhagddynt gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ystyried y cynllun ar gyfer rhestr aros ddeintyddol Cymru gyfan. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog egluro amserlen y gwaith hwn.

Mae data'n thema sy'n codi dro ar ôl tro yn ein holl waith ar y pwyllgor iechyd. Bob tro y byddwn yn sôn am ddiffyg data, rwy'n credu bod Jack Sargeant a minnau'n edrych ar draws yr ystafell bwyllgora ar ein gilydd, gan fod y thema hon yn codi dro ar ôl tro. Nid oedd yr ymchwiliad hwn yn eithriad yn hynny o beth ychwaith. Cesglir data ar nifer y cleifion sy'n derbyn triniaeth ddeintyddol GIG yn unig. Felly, mae’n anodd gwybod faint o angen heb ei ddiwallu a geir yn y boblogaeth gan na wyddom faint o bobl sy'n ceisio triniaeth breifat, neu sy'n cael gofal mewn argyfwng yn unig.

Clywsom hefyd fod 14 o systemau meddalwedd gwahanol yn cael eu defnyddio mewn practisau ledled Cymru ar hyn o bryd, a galwodd ein hargymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun clir ac amserlenni ar gyfer sut y bydd yn cyflwyno un system feddalwedd i’w defnyddio gan holl ddeintyddion Cymru. Ac er i'r argymhelliad hwn gael ei wrthod, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, mewn gwirionedd, i gynnal dadansoddiad o'r opsiynau o ran ei ymarferoldeb erbyn diwedd tymor yr haf 2023. Faint yw hynny? Dair wythnos i ffwrdd. Credaf fod pob un ohonom yn cyfri'r dyddiau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau y bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am ganlyniad hyn maes o law.

Ni ddylid diystyru effaith negyddol y pandemig ar y gweithlu deintyddol, a hoffwn ddiolch, ar ran y pwyllgor, i’r gweithlu yn hynny o beth. Er ein bod wedi cael sicrwydd fod gwasanaethau ar waith i helpu gyda llesiant corfforol a meddyliol y gweithlu, fel pwyllgor rydym yn pryderu am y pwysau ar y gweithlu sy’n golygu bod y gwasanaethau hyn mor angenrheidiol. Felly, rydym am weld yr amodau gwaith a'r amodau gwasanaeth cywir ar waith i gefnogi iechyd meddwl a lles y gweithlu deintyddol.

Ac er bod cyhoeddiad ffurfiol cynllun y gweithlu wedi’i ohirio o’r gwanwyn tan fis Gorffennaf 2023, y mis nesaf, byddwn yn croesawu sicrwydd y Gweinidog y bydd yn adlewyrchu’r newid yn y dyheadau o ran yr angen am fwy o gymysgedd sgiliau o fewn y gweithlu, fel y nodir yn ein hadroddiad.

Clywsom hefyd sut y gallai gwneud mwy o ddefnydd o’r tîm gofal deintyddol ehangach gael effaith enfawr ar y gwaith o fynd i’r afael ag anawsterau i gael mynediad at driniaeth ddeintyddol GIG. Dywedwyd wrthym y byddai angen newidiadau i ddeddfwriaeth i alluogi therapyddion deintyddol i gael rhif perfformiwr, felly fe wnaethom argymell y dylai hyn ddigwydd fel mater o frys. Felly, roeddwn yn falch fod ymateb y Gweinidog i hyn yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gallai ein hargymhelliad fod wedi gobeithio amdano. Ond yn dilyn cyhoeddiad gan GIG Lloegr y bydd therapyddion deintyddol a hylenyddion bellach yn cael cychwyn a chwblhau cyrsiau o driniaeth, mae cyngor cyfreithiol wedi cadarnhau y gellir efelychu hyn yng Nghymru, ac nad oes angen newidiadau deddfwriaethol mwyach. Felly, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn falch o hynny hefyd. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau bod therapyddion bellach yn trin cleifion ag anghenion lefel is, gan ryddhau deintyddion, wrth gwrs, i ganolbwyntio ar gleifion ag anghenion mwy cymhleth.

Ac yn olaf, hoffwn sôn am gyllid. Mae cyllidebau deintyddiaeth wedi cael eu capio ers tipyn go lew o amser. Felly, o ystyried y diffyg mynediad at ddeintyddiaeth GIG, effaith yr argyfwng costau byw, a’r anghydraddoldebau cynyddol o ran mynediad at wasanaethau, dylai Llywodraeth Cymru—rydym ni, fel pwyllgor, yn credu—adolygu i weld a yw’r lefelau ariannu presennol yn ddigonol i’r gwasanaeth gyflawni’r hyn y mae angen iddo’i gyflawni er mwyn lleihau’r ôl-groniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud asesiad o'r lefelau ariannu sydd eu hangen pan fydd y rhestr aros ganolog yn ei lle. Felly, credaf fod hynny'n angenrheidiol ac i'w groesawu.

Felly, diolch, Lywydd. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 4:28, 21 Mehefin 2023

Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr ymchwiliad yma i gyflwr deintyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir fod deintyddiaeth mewn sefyllfa argyfyngus, yn arbennig efallai mewn ardaloedd gwledig, gyda phrinder apwyntiadau, diffyg gweithlu digonol, a chytundebau NHS yn cael eu rhoi nôl i’r bwrdd iechyd.

Ac fel efallai pob Aelod yn y Siambr, dwi'n aml yn clywed am fwy o etholwyr sydd nawr heb ddeintydd NHS am y tro cyntaf yn eu bywydau—ac mae hynny'n cynnwys fi—neu etholwyr sydd wedi bod yn aros am flynyddoedd ar restr aros, a dwi'n pryderu'n arbennig am ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle nad oes unrhyw ddeintydd bellach yn fodlon cymryd oedolion ymlaen ar eu rhestrau.

A jest i ychwanegu at y broblem, fel y dywedodd Russell George, dŷn ni ddim wir yn deall maint y broblem o ran y rhestrau aros NHS. Dwi'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi derbyn un o argymhellion y pwyllgor fod angen inni greu'r rhestr ganolog yma a bod angen i’r byrddau iechyd i fynd ati i gyflwyno’r data yna i’r Llywodraeth, achos heb y data, mae’n anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol—anodd gwybod ble i gomisiynu gwasanaethau a ble mae angen recriwtio yn benodol o ran y bylchau. Felly, gaf i ofyn i'r Gweinidog beth yw’r diweddaraf am y dasg o greu rhestrau?

Dwi hefyd yn poeni am y diffygion o ran y bylchau yn y gweithlu mewn rhai ardaloedd sydd yn amharu ar y gallu i gael apwyntiadau NHS. Mae’r Llywodraeth, dwi'n gwybod, wedi cyflwyno cynllun i geisio mynd i’r afael â hyn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ond rwy’n amau a fydd hyn efallai ar ei ben ei hun yn mynd yn ddigon pell. Dwi'n credu bod y Llywodraeth wedi cydnabod, yn ei hymateb i’r adroddiad, fod myfyrwyr sydd yn astudio mewn rhyw fan yn dueddol o aros yn yr ardal ble maen nhw wedi cael eu hyfforddiant. Felly, mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda bwrdd iechyd Hywel Dda, fe ofynnais y cwestiwn iddyn nhw a fyddai modd ystyried y posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddiaeth rhywle yng ngorllewin Cymru. Felly, Weinidog, i orffen y darn bach yma wrthyf i, a fyddech chi'n barod i gynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gorllewin i gwrdd â’r heriau penodol sy'n wynebu ardaloedd gwledig? Diolch.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 4:31, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Dyma enghraifft lle mae pwyllgorau'n gweithio'n dda: archwilio maes sydd angen ei graffu'n fanwl a chael trafodaeth gyhoeddus yn ei gylch. Fel llawer o Aelodau eraill, rwy'n cael nifer fawr o ymholiadau ynghylch mynediad at ddeintyddion, yn enwedig pan fo practis deintyddol lleol yn rhoi'r gorau i weld cleifion GIG, yn aml heb unrhyw rybudd. Mae'n siomedig fod adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ddeintyddiaeth wedi rhybuddio na ellir targedu cefnogaeth yn y lle iawn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad gan nad oes darlun clir o faint o bobl sy'n aros i weld deintydd GIG ar hyn o bryd.

Er bod COVID-19 yn sicr o fod wedi cael effaith ddifrifol ar fynediad at ddeintyddiaeth y GIG, canfu'r adroddiad fod problemau hirsefydlog cyn y pandemig—a hynny, os caf ddweud, cyn i'r Gweinidog presennol ddod i'r swydd. Rydym yn siarad â'r Gweinidog presennol sydd wedi etifeddu hyn ynghyd ag ystod eang o broblemau eraill. Mae problemau o ran cael deintydd GIG. Mae nifer y practisau deintyddol yn lleihau, ac mewn rhai achosion, yn terfynu eu contractau GIG, gan gynnwys ar gyfer plant. Hoffwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, weld deintyddiaeth y GIG ar gael i bawb sydd ei eisiau, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ar hynny.

Mae deintyddion sy'n gwneud gwaith GIG wedi ymrwymo i egwyddorion y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd y materion a godwyd gan y deintyddion y cyfarfûm â nhw yn cynnwys y contract newydd a'r ffaith bod deintyddion wedi ymrwymo i'r contract heb y manylion, a ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach. Blwyddyn ddysgu oedd hon i fod, ond nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Roedd y drafodaeth ar y cynnig ar ddeintyddiaeth ar 25 Mai yn ymddangos fel pe bai'n tynnu sylw at rywfaint o ddryswch ynghylch sut y diffinnir claf newydd. Mae un o fesuriadau presennol y rhaglen ddiwygio yn ymwneud yn benodol â beth yw'r diffiniad hwn. Os yw claf yn symud i bractis arall, ymddengys eu bod yn cael eu dangos fel claf newydd pan fyddant yn ymuno â'r practis newydd, hyd yn oed os oeddent yn glaf GIG yn y practis blaenorol.

Rwy'n cefnogi argymhelliad Llywodraeth Cymru i sicrhau na ddylai'r ymgynghoriad ar newid posibl i'r contract deintyddol ddigwydd o fewn chwe mis i'r adeg y daw'r diwygiadau i rym, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Mae angen i negodiadau wrando ar Gymdeithas Ddeintyddol Prydain—nid gosod contract. Mae angen cyngor ar y Gweinidog gan bobl sydd naill ai wrthi'n gweithio, neu sydd wedi gweithio, fel deintyddion GIG yn y gymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Weithiau rydym yn rhoi bai ar y Gweinidog, ond nid yw peth o'r cyngor y mae'r Gweinidog yn ei gael o fudd.

Enw'r system gontractau ddiweddaraf, a gyflwynwyd yn 2019, yw diwygio'r contract—wrth gwrs, bob tro y clywaf y termau 'diwygio' neu 'foderneiddio', rwy'n mynd yn chwys oer drosof—unwaith eto, digwyddodd hyn cyn i'r Gweinidog ddod i'w swydd. O dan y system, telir deintyddion am gyfres o unedau o weithgarwch deintyddol bob blwyddyn, sef 25 y cant o werth eu contract, gyda dangosyddion perfformiad allweddol eraill yn ffurfio'r 75 y cant arall, gyda'r pwyslais ar ofal ataliol a chanlyniadau i gleifion, sy'n dda, ond mae adfachu wedi creu pryderon enfawr i bractisau deintyddol.

Mae yna ddryswch hefyd yn y gweithlu deintyddol lleol ynglŷn â sut mae'r metrigau'n gweithio—o ble y deilliant a pha dystiolaeth a geir o'u dilysrwydd. Mewn rhai achosion, mae'n amhosibl i rai practisau gyflawni rhai o'r metrigau. Er enghraifft, mae nifer targed y cleifion hanesyddol sydd i'w gweld mewn blwyddyn gontract yn seiliedig ar ganran o werth y contract. Mewn rhai practisau, mae nifer y cleifion hanesyddol yn is na'r targed, ac felly mae'n amhosibl ei gyflawni. Mae deintyddion yn awgrymu rhai atebion: contractau deintyddol a delir ar yr un gyfradd am bob eitem o driniaeth a ddarparir ganddynt, cynllun y pen wedi'i bwysoli—fe gofiwch mai dyna oedd yn arfer bod gennym—ac y dylid gwobrwyo deintyddion am weld cleifion risg uwch yn fwy rheolaidd a darparu triniaethau mwy cymhleth, sy'n cymryd mwy o amser.

Cafwyd llwyddiant gyda diogelu dannedd plant, a hynny drwy'r Cynllun Gwên. Pan ymwelais ag ysgol cyn COVID a gofynnodd plentyn 10 oed yn St Thomas i mi, 'Beth yw llenwad?', i rywun fel fi sydd â mwy o amalgam mercwri yn fy ngheg nag unrhyw beth arall, roedd hwnnw'n llwyddiant ysgubol, ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn llwyddiant. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn dyddio'n ôl i ddyddiau Edwina Hart. Mae'n ymddangos bod gennym fwlch yn y canol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Gwên yn cael ei adfer i lefelau cyn y pandemig cyn gynted â phosibl.

Mae yna ffordd arall o wella iechyd deintyddol, sef fflworid yn y dŵr, fel y nododd y pwyllgor. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i'r gwerth i iechyd y cyhoedd ac agweddau tuag at gyflwyno fflworid i'r system ddŵr gyhoeddus yng Nghymru ac ymrwymo i gyhoeddi canfyddiadau'r ymchwil. Mae atal bob amser yn well na thrin.

Mae yna brinder deintyddion cymwys yn gwneud gwaith deintyddol y GIG yng Nghymru. Mae'n debyg mai dyna'r rheswm pam ein bod yn cael y drafodaeth hon heddiw. Mae hyn, i mi, yn dangos bod angen ysgol ddeintyddol newydd yng Nghymru, ac rwyf wedi awgrymu Prifysgol Abertawe fel safle posibl yn y gorffennol, er fy mod yn siŵr y bydd pobl o'r gogledd yn awgrymu Bangor. Mae'n hollbwysig cael canolfan addysgu ddeintyddol arall yn fuan, ar safle lle mae gennym ysgol feddygol eisoes, ac os daw Bangor neu Abertawe yn gyntaf, daw'r llall yn ail.

Yn olaf, yn dilyn Brexit byddwn wedi colli nifer fawr o ddeintyddion o dde a dwyrain Ewrop, gan gynnwys yn y practis deintyddol rwy'n mynd iddo. Beth sy'n cael ei wneud i ganiatáu i ddeintyddion cymwys o'r tu allan i'r UE ymarfer yng Nghymru?

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr 4:37, 21 Mehefin 2023

Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu heddiw.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Mae mynediad at ddeintyddiaeth yn fater y gwn ei fod yn ffurfio'r rhan fwyaf o fewnflychau gwaith achos ein Haelodau, ac rwyf wedi siarad am y mater o'r blaen. Rhaid imi longyfarch y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar eu hadroddiad manwl, a ddarllenais gyda llawer o ddiddordeb, a nodaf yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor a'r ymatebion a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Manteisiais hefyd ar y cyfle i ailddarllen y llythyr a dderbyniais ym mis Chwefror eleni gan bwyllgor deintyddol lleol Dyfed-Powys. Mae yna ychydig o bwyntiau yr hoffwn eu trafod.

Yn gyntaf, mae argymhellion 1 a 2 yr adroddiad yn trafod yr angen am gyfnod ymgynghori digonol ar y contract newydd, yn ogystal â sicrhau bod y cydbwysedd cywir o apwyntiadau cleifion yn cael eu gosod a'u monitro, a dyma'r union bwyntiau a godwyd gyda mi gan y pwyllgor deintyddol lleol. Roeddent yn teimlo eu bod wedi wynebu, 'wltimatwm' i fwrw ymlaen â'r diwygiadau contract ym mis Mawrth 2020, er gwaethaf pryderon—a dyfynnaf eto—'am dargedau a fyddai'n cael eu gosod.' Roeddent yn dweud, 'Nid oedd tystiolaeth ar gael ar y pryd i ddangos sut y cafodd targedau contract eu creu, ac roeddem yn dal i aros am y dystiolaeth hon.' Y peth mwyaf pryderus oedd y farn, er gwaethaf y ffaith yr ymgynghorwyd â hwy, nad ystyriwyd yr adborth gan ddeintyddion mewn perthynas â'r contract newydd.

Mae argymhelliad 10 yn cyfeirio at yr angen i greu mwy o leoedd hyfforddi, yn benodol yn yr achos hwn drwy agor ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru. Mae'r deintyddion sydd wedi siarad â mi yn cydnabod yr angen i sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael i alluogi'r proffesiwn i dyfu, a hoffwn glywed barn y Gweinidog ynglŷn ag a ellid ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngorllewin Cymru hefyd, ochr yn ochr ag ysgol ddeintyddol gogledd Cymru. Fel gyda llawer o rolau yn y maes meddygol, mae cyfleoedd cyflogaeth parhaol yn haws i'w llenwi'n agosach at lle mae'r myfyrwyr wedi hyfforddi, ac os oes carfannau rheolaidd o fyfyrwyr yn graddio yng ngorllewin Cymru, mae mwy o obaith y caiff y llefydd hynny eu llenwi.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 4:39, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur

(Cyfieithwyd)

A fyddech chi'n cytuno bod angen inni ei gael yn agos at ysgol feddygol, neu mewn ysgol feddygol, oherwydd y manteision i bobl sy'n gweithio rhwng y ddau?

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hwn yn gyfle hollol realistig. Rwy'n nodi bod fy mwrdd iechyd yn fwrdd iechyd prifysgol, ac mae gan orllewin Cymru nifer o lefydd gwag yn y maes deintyddol, ond yn bendant mae yna ystyriaeth a chryfder mewn cael y gwasanaethau hynny a'r hyfforddiant hwnnw mor agos at ei gilydd â phosibl.

Yn olaf, gan symud ymlaen, Weinidog, hoffwn ofyn am rywfaint o eglurhad ar y sylw a wnaed gan Brif Weinidog Cymru i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan mewn perthynas â deintyddiaeth. Rwy'n dyfynnu'r Prif Weinidog:

'Un o'r pethau y byddem yn hapus i'w harchwilio gyda gweddill y Deyrnas Unedig yw'r ffordd y daeth ein contract deintyddol newydd i rym ym mis Ebrill eleni, gan arwain at filoedd yn fwy o apwyntiadau GIG ar gyfer cleifion deintyddol, gan gynnwys yn ardal Hywel Dda, lle rwy'n credu bod bron i 10,000 yn rhagor o apwyntiadau ar gael o ganlyniad i'r contract newydd.'

O ystyried galwad briffio bwrdd iechyd Hywel Dda yr wythnos diwethaf, ymddengys nad oedd arweinyddiaeth Hywel Dda yn cydnabod y dadansoddiad hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gellid cynnig sicrwydd fod tystiolaeth y Prif Weinidog yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa, a hoffwn weld dadansoddiad o sut mae'r apwyntiadau ychwanegol hyn yn rhannu ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd. Mae'n hanfodol fod y contract deintyddol newydd yn gwrando ar bobl ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer cleifion ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig fod mynediad at ddeintyddiaeth yn gwella, a bod y Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, yn llwyr sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn deall difrifoldeb y sefyllfa.

Mae adroddiad y pwyllgor yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond mae bellach yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector i sicrhau bod newid yn digwydd a bod mynediad yn gwella. Diolch, Lywydd. 

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:41, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar fater mor bwysig ac amserol sy'n wynebu'r mwyafrif o bobl yng Nghymru. Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddiolch i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r adroddiad deintyddol, a holl glercod, ymchwilwyr a staff y pwyllgor am ddod â'r cyfan at ei gilydd ar lefel weithredol. 

Mae llawer o drafodaethau i'w cael ynghylch deintyddiaeth a diffyg triniaeth gyflym, effeithiol ar gyfer problemau deintyddol yn y GIG, sydd wedi lleihau yn anffodus ers pandemig COVID-19 a chyn hynny. Mae'n un o'r pynciau mwyaf a godwyd gan etholwyr Dyffryn Clwyd, sy'n cysylltu'n rheolaidd â mi ynglŷn â'r diffyg mynediad at driniaeth yng ngwasanaethau deintyddol y GIG, yn enwedig canghennau Mydentist ym Mhractis Deintyddol Elwy yn y Rhyl ac ar y stryd fawr ym Mhrestatyn. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw iechyd y geg, gan ei fod yn cyfrannu at gymaint o fanteision iechyd ac esthetig, a hyd yn oed manteision canlyniadol i'r galon ac organau mawr eraill yn y corff. 

Un elfen o'r ddadl bellgyrhaeddol hon yr hoffwn ganolbwyntio arni heddiw, ac a glywsom mewn tystiolaeth yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yw'r contract GIG a gynigir i ddeintyddion gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn rydym wedi'i glywed mewn tystiolaeth yw'r ffaith nad yw contract y GIG yn gallu cystadlu â chynnig y sector preifat. Ac o ystyried hyn gyda'r ffaith bod deintyddion yn y GIG yn ddarostyngedig i fwy o fiwrocratiaeth a rheolaeth ganol, mae'n methu cystadlu â'r sector preifat sy'n cynnig tâl gwell, telerau ac amodau gwell a llai o benaethiaid. I unrhyw un call, mae'n amlwg pam eu bod yn dewis dilyn gyrfa yn y sector preifat. 

Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y realiti hwn, ac edrych ar sut mae contract y GIG yn cael ei greu, a sut y gall gystadlu orau gyda'r sector preifat i sicrhau bod gyrfaoedd ym maes deintyddiaeth y GIG yn cystadlu â'r sector preifat, ac yn annog darpar ddeintyddion i ddilyn gyrfa yn y sector cyhoeddus, neu hyd yn oed helpu i symud gweithwyr proffesiynol yn y sector preifat, a allai fod wedi eu denu i'r sector preifat mewn blynyddoedd a fu, yn ôl i mewn i'r GIG.

Gadewch inni ganolbwyntio ar realiti gwleidyddol hyn am eiliad. Mae gennym Lywodraeth Lafur wrth y llyw yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn wir ers dechrau datganoli yng Nghymru ym 1997 ac etholiadau cyntaf y Cynulliad ers 1999. Un o egwyddorion sylfaenol Aneurin Bevan, a chreu'r GIG ym 1948, oedd creu parch cydradd rhwng practisau iechyd a deintyddiaeth a'r sector preifat a fyddai'n rhoi cyfle i bob dyn, menyw a phlentyn gael mynediad at ofal iechyd o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim pan fo angen. Cafodd hyn ei danseilio amser maith yn ôl gan Lywodraeth Lafur y DU o dan Tony Blair, a addawodd ym 1999 y byddai gan bob person yn y DU fynediad at ddeintydd GIG, a gorfod cyfaddef, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 2005, nad oedd dim y gallai ei wneud am y peth a chyfaddefodd ei fod wedi methu yn ei weledigaeth flaenorol.

Yn 2006, ail-ysgrifennodd Llywodraeth Lafur y DU gontract y GIG. O dan yr hen system, câi deintyddion eu talu am y gwaith a wnaent, ac o dan y system newydd, câi ffi sefydlog o tua £80,000 y flwyddyn ei thalu iddynt am gyflawni hyn a hyn o unedau o weithgarwch deintyddol. Mae arnaf ofn fod y dull hwn o weithredu gan Blair wedi methu'n llwyr, a chafodd ei gondemnio gan rai o'i Aelodau Seneddol mwyaf ffyddlon ar y pryd hyd yn oed. Go brin ei bod yn enghraifft ddisglair o'r Blaid Lafur yn cyflawni egwyddorion sylfaenol 1948. Yr hyn rydym yn dechrau ei weld, mewn cyd-destun datganoledig, yw Llywodraeth Cymru yn ailadrodd camgymeriadau a wnaed 20 mlynedd yn ôl, oherwydd mae tystiolaeth yn awgrymu nad cyhuddiad gwleidyddol yn unig yw hyn, ond un a gefnogir gan dystiolaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr hyn y mae gweithwyr proffesiynol yn dweud iddo ddigwydd o ganlyniad i bolisi Llywodraeth. 

Mae gennyf funud ar ôl, ond rwyf am gloi fy sylwadau drwy annog y Gweinidog i adolygu contract y GIG a gweithio mewn ffordd sydd o fudd i gleifion yng Nghymru yn hytrach na gwneud yr un camgymeriadau gwleidyddol ag a wnaed flynyddoedd yn ôl. Diolch.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 4:45, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad am hyn. Rwy'n croesawu'r adroddiad heddiw'n fawr, Lywydd, a hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r Cadeirydd am weithio mor galed ar yr adroddiad hwn ac am eu hymrwymiad i hyn. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â phopeth y mae Cadeirydd y pwyllgor newydd ei ddweud.

Fel y dywed yr adroddiad, cafodd y pandemig COVID-19 effaith ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddol, ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei gydnabod yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r adroddiad yn nodi'n briodol ei fod wedi creu ôl-groniad o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth ddeintyddol. Rwy'n cydnabod llawer o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn yr adroddiad hwn, ac rwy'n rhannu'r pryderon difrifol ynglŷn â chontractau deintyddol yn fy rhanbarth innau hefyd.

Wrth siarad ag etholwr sydd wedi bod yn berchen ar bractis deintyddol ers degawd, nododd rai materion amlwg. Dywedodd fod y contract yn iawn pan oedd yn cael ei gyflwyno'n araf; roedd y cam profi'n caniatáu i ymarferwyr addasu. Ar ôl iddo gael ei orfodi drwodd ar ôl COVID, mae'r perchennog bellach yn wynebu'r posibilrwydd y caiff degau o filoedd o bunnoedd eu hadfachu gan Lywodraeth Cymru am beidio â chyrraedd y targedau, er eu bod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed. Deillia hyn o gost y practis am orfod gweithio am ddim. Ochr yn ochr â hyn, dywedodd fod prosesau olrhain data yn anghywir ac yn ddiffygiol, ac rwy'n falch fod yr adroddiad wedi cydnabod hyn ac wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried un rhestr aros ganolog ledled Cymru, a bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.

Er eu bod yn gweld 400 o gleifion newydd, dywedodd fy etholwr mai dim ond 200 sy'n ymddangos ar y system, gan mai dim ond ar ôl cwblhau'r driniaeth lawn y gallant fewnbynnu'r data, ond eto mae'r targedau ar gyfer niferoedd cleifion yn golygu nad oes digon o apwyntiadau i weld cleifion presennol, rhai newydd, a chwblhau'r driniaeth i gleifion sy'n dod yno am y tro cyntaf ac sydd angen apwyntiadau lluosog. Dywedodd y byddai tua 90 y cant o gleifion angen apwyntiadau lluosog, ac nid yw'r system newydd ond yn cyfnewid un ymarfer trin ffigurau am un arall; nid yw'n ystyried bod rhai cleifion yn nerfus iawn, neu heb weld deintydd ers blynyddoedd. Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y gall apwyntiadau un unigolyn gymryd dwywaith cymaint o amser ag apwyntiad unigolyn arall.

Rwy'n falch fod yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw'r lefelau presennol o gyllid yn ddigonol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion. Mae'r cyllid hwn, wrth gwrs, yn allweddol, fel y dywedwyd eisoes, ac mae ei angen yn fwy nag erioed os ydym am fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng deintyddol yng Nghymru a'r diffyg mynediad y mae fy etholwyr yn ei ddisgrifio i mi. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar argymhellion allweddol yr adroddiad hwn, ac yn ystyried difrifoldeb y sefyllfa y mae gwasanaethau deintyddol ledled Cymru yn ei hwynebu. Diolch.

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 4:48, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf am wneud cyfraniad byr i'r ddadl bwysig hon ar ddyfodol deintyddiaeth y GIG. Yn anffodus, mae nifer o fy etholwyr wedi cael llythyrau yn ystod y misoedd diwethaf yn dweud nad yw eu practis deintyddol bellach yn mynd i weld cleifion GIG. Mae hynny wedi digwydd yn Rhuthun, ym Mhractis Deintyddol Rhuthun, lle mae 9,000 o gleifion wedi cael y llythyrau hynny, ac mae hefyd wedi digwydd yr wythnos diwethaf ym Mhractis Deintyddol White Gables ym Mae Colwyn, gyda miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu siomi, a naill ai'n gorfod talu'n breifat am driniaeth y bydd rhai ohonynt prin yn gallu ei fforddio, neu beidio â chael deintydd o gwbl a gorfod dibynnu ar y gwasanaeth deintyddol brys. Yn amlwg, dyma ddechrau ecsodus, i bob golwg, o ddeintyddion GIG yn gadael deintyddiaeth GIG mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld ers blynyddoedd lawer.

Wrth gwrs, mae'r proffesiwn deintyddol, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, wedi rhybuddio y byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i'r rhaglen ofnadwy o ddiwygio a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, rhaglen roedd pawb wedi gobeithio y byddai'n arwain at ddenu mwy o bobl i broffesiwn deintyddiaeth y GIG, mwy o bobl yn cael mwy o ddiogelwch gyda'u contractau fel y gallent weld mwy o gleifion. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Mae'r Gweinidog wedi cael ei rybuddio dro ar ôl tro fod y rhaglen honno bellach yn methu a bod angen ei hailwampio. Rwyf eisiau eich annog chi, Weinidog, i ailfeddwl a gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i lunio dull gwahanol a newydd o wneud y contract, fel y gallwn gael cynnig deintyddiaeth GIG mwy cynaliadwy ledled Cymru y gall cleifion elwa ohono. Ac yn y cyfamser, Weinidog, mae'n gwbl hanfodol fod gennym wasanaeth deintyddol brys sy'n gweithio ac sy'n hawdd i bobl gael mynediad ato. Nid yw'n gweithio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd; mae yna bobl sy'n cysylltu'n rheolaidd â fy swyddfa etholaethol, sy'n dweud wrthyf eu bod yn wynebu rhwystrau a heriau enfawr wrth geisio cael mynediad at wasanaethau deintyddol sydd eu hangen arnynt. Maent naill ai'n cael eu cynghori i fynd at ddeintydd a thalu'n breifat, ac mae llawer ohonynt yn methu gwneud hynny, neu eistedd mewn poen, ac aros nes eu bod yn cyrraedd y trothwy lle maent yn gymwys i gael rhywfaint o driniaeth frys. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system sy'n canolbwyntio'n well ar fynd i'r afael ag anghenion pobl, a sicrhau y gallwn gael canolfannau y gall pobl fynd iddynt a chael mynediad at driniaeth ddeintyddol frys pan fydd ei hangen arnynt. Nid yw'r mynediad hwnnw ar gael yn ddigon hawdd iddynt ar hyn o bryd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:51, 21 Mehefin 2023

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfrannu nawr—Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Cyn i mi ymateb, hoffwn gofnodi fy meddyliau a fy mhryderon am yr holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r digwyddiad difrifol iawn yn ysbyty Llwynhelyg heddiw. Hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau sy'n helpu i ymateb ar gymaint o frys.

Hefyd, hoffwn gofnodi fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad ar eu hymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru. Fel pob Aelod o'r Senedd, rwyf wedi derbyn llawer o negeseuon e-bost gan etholwyr pryderus ynglŷn â mynediad at ddeintyddiaeth yn enwedig. Mae llawer i'w wneud i ddatrys problem mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, ond rydym yn gweithio ar greu ateb cynaliadwy hirdymor sy'n cynnwys bwrw ymlaen â'r mwyafrif o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych nad oes ateb cyflym mewn perthynas â deintyddiaeth, ac er mwyn inni ddatrys y sefyllfa, bydd yn costio llawer iawn o arian sy'n anodd iawn dod o hyd iddo ar hyn o bryd. Nawr, ni allaf wneud cyfiawnder o ran ymateb i'r adroddiad mewn ychydig funudau, felly byddaf yn rhoi ymateb ysgrifenedig i'r llythyr a gefais gan Gadeirydd y pwyllgor, er mwyn ymhelaethu ar rai o'r atebion heddiw.

Mae peth blagur gwyrdd i'w weld serch hynny, a hoffwn roi rhywfaint o amser heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd rydym wedi'i wneud gyda rhai o'r argymhellion rydych chi fel pwyllgor wedi'u gwneud ers imi roi fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad mis Chwefror. Felly, yn gyntaf oll, ar y cymysgedd sgiliau, roedd hyn ar ein radar cyn ymchwiliad y pwyllgor, a bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fod yn rhaid inni wneud gwell defnydd o sgiliau'r tîm deintyddol cyfan. Er mwyn hwyluso hyn, rydym eisoes wedi dadflocio'r mater rheoleiddiol a oedd yn atal hylenwyr a therapyddion deintyddol yn y gorffennol rhag darparu triniaeth yn annibynnol, heb fod angen i ddeintydd awdurdodi'r driniaeth, neu, i ddefnyddio'r term technegol, 'agor a chau triniaeth GIG'. Felly, mae hyn wedi'i wneud nawr heb fod angen rhoi rhif perfformiwr i'r aelodau hyn o'r tîm deintyddol, ac wrth inni symud ymlaen i ddatblygu contract deintyddol newydd, mae angen inni sicrhau ei fod yn darparu'r fframwaith cywir i annog a galluogi cymysgedd sgiliau o fewn timau deintyddol y GIG.

Ar lefel ehangach, roedd y pwyllgor yn cydnabod yr anhawster i recriwtio pobl i ardaloedd gwledig—ac mae llawer o bobl wedi cyffwrdd â'r mater hwnnw yn benodol—ac i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw, felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi llunio cynnig gwell, sy'n anelu at annog hyfforddeion deintyddol y dyfodol i gwblhau eu blwyddyn sylfaen mewn practisau deintyddol ar hyd a lled cefn gwlad Cymru, yn hytrach nag yn yr ardaloedd trefol mwy poblogaidd. Felly, yn ogystal â chodiad cyflog o £5,000, bydd deintyddion sy'n manteisio ar y cynnig hefyd yn cael cefnogaeth academaidd a lles gwell drwy gydol y rhaglen, a gobeithio y bydd hyn yn helpu i gynyddu mynediad at ofal GIG i bobl leol yng nghefn gwlad Cymru.

Ar hyn o bryd mae AaGIC hefyd yn datblygu cynllun gweithlu ar gyfer deintyddiaeth a fydd yn canolbwyntio, nid yn unig ar dyfu'r gweithlu, ond ar ei gadw hefyd. Nawr, yn gynharach eleni, cyhoeddais gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu—roedd yn rhaid i hwnnw ddod yn gyntaf, felly fe wnaethom aros i hwnnw gael ei gyhoeddi yn gyntaf. Mae hwn yn ymrwymo i gyflawni cynllun gweithlu strategol ar gyfer deintyddiaeth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n sylweddoli nad yw hynny'n cyd-fynd ag argymhellion y pwyllgor o ran cyflymder, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud hyn yn iawn, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn rhoi amser i wrando ar aelodau presennol y proffesiwn, ynghyd ag aelodau'r dyfodol, ynglŷn â'r hyn a fyddai'n gweithio a beth fyddai'n eu hannog i aros yn y GIG. A hefyd, mae yna seilwaith y mae angen inni feddwl amdano. Mae llawer o bobl wedi sôn am agor ysgolion deintyddol, ac yn y blaen; ni allwch wneud hynny dros nos—mae angen ichi weithio ar y pethau hynny gyda phrifysgolion, gydag addysg bellach. Felly, rwy'n credu ei fod yn cymryd mwy o amser na'r hyn y mae'r pwyllgor wedi'i roi i ni.

Felly, mae AaGIC yn gweithio gydag israddedigion presennol i ddeall beth maent ei eisiau ar gyfer eu gyrfa mewn deintyddiaeth GIG yn y dyfodol, a'r hyn a fyddai'n eu hannog i aros yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio ein bod eisoes wedi buddsoddi swm enfawr o arian yn y bobl hyn, ac rwy'n credu, ar ryw bwynt, fod yn rhaid inni feddwl am amodoldeb—os ydym wedi gwario cymaint o arian yn hyfforddi pobl, lle mae ein had-daliad ni, o ran yr hyn rydym wedi'i roi i mewn, fel trethdalwyr, i'r bobl hyn? Ac mae honno'n sgwrs rwy'n ei chael nawr gyda fy swyddogion, ac mae angen sgwrs lawer ehangach ar hynny yn fy marn i.

Rwy'n credu mai'r safbwyntiau byd go iawn hyn fydd yn ein helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu sy'n mynd i wneud gwahaniaeth. Mae'n amlwg fod angen inni hyfforddi mwy o ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol, ac rydym yn edrych ar hynny'n agos iawn ar hyn o bryd. At ei gilydd rwy'n cefnogi ysgol ddeintyddol newydd, ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad hirdymor. Bydd angen buddsoddiad sylweddol, ac ar hyn o bryd, rydym yn brin iawn o arian. Yn y cyfamser, rydym yn archwilio gyda Phrifysgol Caerdydd sut y gallwn gynyddu nifer y lleoedd israddedig ar gyfer deintyddiaeth a therapi deintyddol o fewn y cyfleusterau hyfforddi presennol, ac rydym yn obeithiol—

Photo of Alun Davies Alun Davies Llafur 4:57, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?

Photo of Alun Davies Alun Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Mae'r hyn rydych chi newydd ei ddweud am y capasiti i gynyddu lleoedd hyfforddi yn hynod ddiddorol, oherwydd credaf mai un o themâu ein dadleuon ar bob mater yn ymwneud ag iechyd dros yr 16 mlynedd y bûm yma yw'r gweithlu a'r anallu i hyfforddi gweithlu. Ac os edrychwn yn ôl ar 75 mlynedd o'r gwasanaeth iechyd gwladol, rydym yn gyson wedi methu hyfforddi gweithlu—bob amser roedd rhaid ichi ddod â phobl i mewn a oedd wedi hyfforddi dramor i gynnal a chefnogi ein holl weithgarwch iechyd. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth arwain dadl ar y materion hyn, fel y gallwn ystyried, fel Senedd, sut y gallwn fuddsoddi mewn gweithlu, a sut y byddem yn talu am hynny? Oherwydd rwy'n credu y byddai'r gwrthbleidiau hefyd yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael y sgwrs am yr angen i flaenoriaethu hyfforddi gweithlu proffesiynol i gynnal gwasanaethau iechyd ar gyfer y dyfodol.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 4:58, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, rydym yn hyfforddi mwy o bobl nag erioed o'r blaen. Rydym yn gwario £280 miliwn y flwyddyn ar hyfforddi pobl, felly rydym eisoes yn y system. Rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn cael enillion ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, mae gennym gynllun gweithlu—ac yn Lloegr, nid wyf yn credu eu bod wedi cael cynllun gweithlu ers 2003. Felly, mae gennym gynllun gweithlu. Mae gennym strategaeth erbyn hyn, mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer y gweithlu erbyn hyn. Felly, mae hyn i gyd yn datblygu i sicrhau ein bod yn edrych ar hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae gennym lawer o bethau ar waith. Gallem wneud llawer mwy pe bai gennym lawer mwy o arian, ond rwy'n credu bod rhai materion ehangach y mae angen inni siarad amdanynt, o ran, os ydym yn rhoi cymaint â hynny i mewn, a ydym yn hollol siŵr ein bod yn cael yr hyn rydym ei eisiau ohono, ac a ydynt yn aros gyda ni ar ôl i ni eu hyfforddi? Felly, rwy'n derbyn hynny, ac mae'n sicr yn rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy swyddogion wneud ychydig mwy o waith arno.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 4:59, 21 Mehefin 2023

Roedd un arall o'r argymhellion yn ymwneud ag adfer y gwasanaeth Cynllun Gwên mewn ysgolion. Dŷn ni'n gwybod bod y gwasanaeth yma wedi cael effaith bositif iawn ar iechyd deintyddol plant hyd at saith oed ers iddo gael ei sefydlu 13 blynedd yn ôl—a diolch i Mike am godi hynny. Mae'r adroddiad blynyddol ar gyfer y llynedd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd, a dŷn ni'n hyderus y bydd camau sylweddol tuag at adferiad wedi cael eu cymryd. Fe wnaf i rannu'r adroddiad â'r Aelodau pan fydd hwnnw ar gael.

Fe ddywedais i yn fy natganiad ychydig fisoedd yn ôl mai'r grŵp oedran rŷm ni'n awyddus i ganolbwyntio arno nesaf yw plant oedran uwchradd. Mae hyn yn gyson ag un arall o argymhellion y pwyllgor. Dyma'r oed ffurfiannol pan fydd plant yn dechrau gwneud dewisiadau mwy annibynnol am yr hyn maen nhw yn ei fwyta ac yn ei yfed. Nes ymlaen y mis yma, bydd uned ddeintyddol symudol yn cael ei threialu ar safle Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Dros nifer o wythnosau, bydd pob plentyn yn yr ysgol yn cael cyfle i gael archwiliad dannedd a chyngor ar sut i gadw'r geg a'r dannedd yn iach, a chael eu cyfeirio ymlaen at unrhyw driniaeth sydd ei hangen. Mae hwn yn ddatblygiad dwi'n meddwl sy'n gyffrous iawn, a bydd yn cael ei gloriannu yn llawn i ddeall y budd i'r grŵp oedran penodol yma cyn symud ymlaen i gyflwyno'r ddarpariaeth yma yn fwy eang. 

Gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni wedi dechrau'r broses a fydd yn arwain at drafodaeth ffurfiol am gontract ddeintyddol newydd. Mae'r mandad tair rhan sy'n nodi'r holl eitemau mae Llywodraeth Cymru, yr NHS a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dymuno eu trafod yn mynd drwy'r camau cymeradwyo. Nawr, dwi'n gwybod bydd hwn yn gyfnod heriol mewn mannau, ond dwi'n hyderus y bydd y broses negodi ei hun yn rhoi mecanwaith tryloyw i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng anghenion a dymuniadau pawb sy'n cymryd rhan. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i nodi a chael gwared ar unrhyw faich gweinyddol neu ddyblygu sy'n gysylltiedig â darparu deintyddiaeth yr NHS, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor.

Nawr, rydych chi hefyd wedi sôn bod chi eisiau gweld data. Felly, mae angen inni godi'r data, sydd yn dod i mewn i'r pwysau gweinyddol yma. Felly, mae'n rhaid inni gael y balans yn iawn. Yn anochel, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn gysylltiedig â'r trafodaethau ar gyfer y cytundeb newydd. Dwi yn meddwl bod rhaid inni fynd ati i'w newid hi rhywfaint. Dwi wrthi yn ceisio siarad gyda deintyddion ar lawr gwlad jest i gael gwell syniad oddi wrthyn nhw sut maen nhw'n teimlo ar hyn o bryd. Dyma'r sylfaen, dwi'n meddwl, ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol, ac, unwaith bydd hwn yn ei le, bydd e'n troi, dwi'n gobeithio, yn sail gadarn i fynd i'r afael â diwygio deintyddol ehangach sy'n ganolog i lawer o argymhellion y pwyllgor. 

Dwi'n cydnabod bod llawer i'w wneud i wella mynediad at ddeintyddiaeth yr NHS; mae'n un o fy mlaenoriaethau pennaf i. Byddaf i'n rhoi diweddariad rheolaidd i'r Aelodau ar y cynnydd ac ar y gwaith rŷm ni wedi ei wneud. Mae lot fawr i'w wneud. Byddem ni'n gallu gwneud lot mwy pe byddai mwy o arian gennym ni, ac mae hwnna yn broblem i ni. Mae sawl person wedi sôn am y ffaith bod problemau costau byw gyda lot o bobl ar hyn o bryd. Y ffaith yw yng Nghymru, ar gyfer band 3, mae angen talu £203. Yn Lloegr, mae angen talu £306. Felly, mae faint rŷm ni'n ei godi ar bobl i gael y driniaeth yn yr NHS lot yn llai yn fan hyn, a dwi yn meddwl bod hi'n werth dweud mai dim ond am dair blynedd roedd deintyddiaeth ar gael am ddim yn y wlad yma, o 1948 i 1951. Felly, dyw hi ddim wedi bod am ddim yn y wlad yma ers 1951, er bod gyda ni, wrth gwrs, ffordd yn y wlad yma o sicrhau bod y bobl sydd wirioneddol ddim yn gallu talu yn cael yr help sydd ei angen, a doedd 311,000 o bobl ddim wedi talu am y driniaeth llynedd o'r 1.3 miliwn a oedd wedi derbyn gwasanaeth gan yr NHS. 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth imi wrando’n astud ar y Gweinidog, gallaf ddweud bod Janet Finch-Saunders, fy nghyd-Aelod wrth fy ymyl, yn pasio losinen i mi, felly meddyliais na ddylwn ei rhoi yn fy ngheg wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma. [Chwerthin.] Ond a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon, a diolch hefyd i dîm y pwyllgor, y tîm ymchwil, y tîm integredig ehangach a thîm allgymorth y Senedd am eu gwaith?

Rwy'n cytuno â barn Cefin Campbell am y ffaith bod deintyddion mewn sefyllfa anodd iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roeddwn yn gwybod nad oedd gan Bowys unrhyw ddeintydd GIG a oedd yn fodlon derbyn oedolion ar eu rhestrau aros; ni wyddwn fod hynny’n wir ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru i gyd, sy'n ardal lawer ehangach. Ond soniodd Cefin hefyd am bryderon ynglŷn â'r gweithlu, fel y gwnaeth eraill. Yna, roedd mater yn ymwneud â'r ysgol a chyfleusterau hyfforddi. Credaf fod gorllewin Cymru wedi achub y blaen wrth ofyn am hynny. Credaf fod Cefin wedi crybwyll hynny, a gwnaeth Sam Kurtz hefyd, a soniodd Mike Hedges am Abertawe, a waeth i minnau ofyn am un yng nghanolbarth Cymru hefyd. Ond na, rwy’n gwerthfawrogi ymateb y Gweinidog a'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei hymateb ynglŷn â’r ysgol yng ngogledd Cymru yn ei chyfraniad.

Soniodd Mike am ddeintyddion yn ymrwymo i’r contract heb gael gwybodaeth glir yn ei gylch, ac wrth gwrs, roedd gennym argymhelliad ynghylch y pwynt hwnnw. Nodais fod Mike wedi dweud y byddai’n hoffi pe bai deintydd GIG ar gael i bawb, a chredaf y byddem wedi meddwl mai dyna’r norm ychydig flynyddoedd yn ôl. A bellach, dyna rydym yn gofyn amdano—dim ond hynny. Dylai hynny, wrth gwrs, fod yn ofyniad sylfaenol.

A thynnodd Sam Kurtz sylw at yr ymgynghoriad annigonol ar ddiwygio deintyddol, a nododd Gareth Davies yr un peth hefyd o ran y contract GIG yn methu cystadlu â’r sector preifat, gyda Laura Anne Jones yn gwneud pwyntiau tebyg yn hynny o beth. Dechreuodd Darren Millar drwy ddweud ei fod yn mynd i wneud cyfraniad byr ac yna aeth ymlaen am bum munud a hanner, ond roedd Darren hefyd yn gwneud pwyntiau tebyg, a rhai heriol hefyd, gan wneud yr her briodol honno i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, wrth gwrs, ar ddiwygio yn y dyfodol hefyd, a sicrhau bod digon o amser.

Er bod COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar ddeintyddiaeth y GIG yn anochel, credaf ei bod yn amlwg fod problemau hirsefydlog yn bodoli cyn y pandemig, pwynt a godwyd gan Mike Hedges a Laura Anne Jones hefyd. Ond os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau mewn deintyddiaeth yn y GIG a gwella canlyniadau deintyddol i bobl ledled Cymru, mae angen inni gael mwy o ddata wedi'i ddadgyfuno. Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi mynd ar drywydd hynny yn ddiweddarach yn ei chyfraniad, oherwydd heb ddata o’r fath, ni allwn nodi’r rhwystrau sy’n effeithio ar rai grwpiau nac asesu a yw’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn mynd i gael yr effaith rydym am ei gweld. Felly, diolch, Weinidog. Fe fyddwch wedi derbyn y llythyr gennym ychydig ddyddiau yn ôl. Roeddem am anfon hwnnw atoch cyn y ddadl, a diolch am fynd ar drywydd rhai o’r pwyntiau, ond rwy’n ddiolchgar eich bod yn mynd i ymateb ymhellach i ni hefyd.

Wrth gwrs, rwy’n cytuno nad oes ateb cyflym i lawer o’r materion a nodwyd gennym yn yr adroddiad a rhai o’r materion a nodwyd mewn perthynas â deintyddiaeth, ond wrth gwrs, credaf mai rhan o’r mater yw cynllun y gweithlu, y dywedoch chi y byddai ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, diolch i’r Gweinidog am ei hymateb yn hynny o beth hefyd. Ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:08, 21 Mehefin 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.