Undebau Credyd

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am ar 21 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Ceidwadwyr

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae undebau credyd yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru? OQ59701

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:05, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Joel James. Rydym yn gweithio'n agos gydag undebau credyd i ddarparu benthyciadau a chynilion moesegol, a ddarperir drwy 13 prosiect. Yn ogystal, rydym yn darparu £1.2 miliwn ar gyfer cynllun ehangu benthyciadau. Rwyf hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd â benthycwyr cyfrifol, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw.

Photo of Joel James Joel James Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn ôl eu gwefan, mae Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, er yn gwerthu eu hunain fel sefydliad sydd, ac rwy'n dyfynnu,

'yn cynnig benthyciadau hyblyg ar delerau teg, gyda chyfraddau isel, dim ffioedd' yn ymddangos fel pe baent yn cynnig cyfraddau llog eithaf syfrdanol ar fenthyciadau sy'n uwch na chyfraddau'r farchnad. Mewn gwirionedd, Weinidog, byddai benthyciad teuluol safonol o £1,000 yn arwain at gyfradd llog o 41.2 y cant, a byddai benthyciad teyrngarwch o £1,000 yn golygu bod rhywun yn talu 40.2 y cant mewn llog. Yn wir, roedd y rhan fwyaf o'r cyfraddau a gynigiwyd ganddynt ar fenthyciadau o symiau gwahanol gryn dipyn yn uwch nag y byddai rhywun yn ei gael gan fanc neu gymdeithas adeiladu. Ac er eu bod yn cynnig cyfraddau benthyg cystadleuol, mynediad cyfyngedig a geir at y rhain ac ni fyddant ar gael i lawer o bobl a fydd yn gwneud cais amdanynt. Rwy'n poeni'n fwy na dim y bydd Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro nawr yn derbyn budd-dal plant fel dull o dalu am fenthyciadau teuluol, a restrir ar gyfer gwisgoedd ysgol, tripiau, y Nadolig a gwyliau teulu. Felly, gellir defnyddio'r budd-dal sy'n cael ei dalu i deuluoedd i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo a'u gwisgo'n briodol i dalu'r llog o 41.2 y cant ar fenthyciadau i'r undeb credyd. Sut bynnag yr edrychwch chi ar hyn, Weinidog, mae'n anghywir i deulu sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd angen arian ar gyfer gwisgoedd ysgol dalu llog o 41.2 y cant, sy'n gyfradd llog nad yw'n annhebyg i gyfraddau llog y cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog gwarthus. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n credu bod y gyfradd hon yn cosbi pobl am fod yn dlawd ac nad yw o fewn ethos nodau datganedig yr undeb credyd o delerau teg a chyfraddau isel? Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:07, 21 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am y cwestiwn. Rwy'n aelod balch iawn—dylwn ddatgan y buddiant hwnnw—o Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, fel y mae cymaint o bobl eraill, a byddwn yn eich annog i ymweld ag Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro. Fe wnaethom ymweld ag undebau credyd ar ôl y Nadolig i'w llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud ac yn wir, i'w cefnogi fel benthycwyr moesegol, sy'n darparu mynediad at gredyd fforddiadwy, yn sefydlu hybiau cymunedol, ac yn gweithio gyda theuluoedd drwy gynllun cynilo'r ysgolion.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud ein bod wedi eu cefnogi gyda'r cynllun ehangu benthyciadau hwn. Felly, mae £1.2 miliwn wedi'i ddarparu i 10 undeb credyd ar gyfer y cynllun ehangu benthyciadau, ac mae'n caniatáu i bobl sydd â hanes credyd gwael gael mynediad at gredyd fforddiadwy. Hyd at fis Mawrth eleni, rhoddwyd bron i 1,700 o fenthyciadau drwy'r cynllun hwn, ac mae hynny'n parhau i gynyddu. Mae yna heriau ariannol yn wynebu aelwydydd ledled Cymru, ond mae'r undebau credyd ledled Cymru—ac rwyf wedi ymweld â llawer ohonynt, ac rwy'n annog yr Aelodau i wneud hynny, ar draws y Siambr—wedi croesawu'r cynllun penodol hwn i ehangu benthyciadau. A gadewch inni wynebu'r peth, ar gyfer cefnogi costau byw, rhoddwyd £1.2 miliwn i undebau credyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i ehangu eu benthyca. Mae hwnnw wedi'i ailgylchu i mewn i'r flwyddyn ariannol hon, a'r sector undebau credyd moesegol sy'n denu ac yn gwasanaethu'r aelodau newydd hynod fregus yn ariannol hynny.

Ond a gaf fi hefyd achub ar y cyfle i ddweud bod mwy na 35 y cant o fenthycwyr undebau credyd yn rhieni sengl â phlant dibynnol? Maent yn darparu benthyciadau teuluol, lle caiff ad-daliadau eu didynnu'n awtomatig o daliadau budd-dal. Mae'n boblogaidd iawn—mae'n agor mynediad at gredyd fforddiadwy a chyda'r elfen gynilo, mae'n helpu rhieni i gynilo'n fwy rheolaidd. Maent yn ymwneud yn agos â'u haelodau, undebau credyd. Maent yn fforddiadwy, yn ddi-elw ac yn foesegol.

Ac yn olaf, a gaf fi ddweud ein bod hefyd yn ymuno â Fair4All Finance? Ac rydym yn ymuno â'r Alban—yr holl genhedloedd datganoledig, yn ogystal â Lloegr—rydym yn ymuno â nhw, a benthycwyr cyfrifol, i brofi cynllun benthyciad dim llog, ac rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddo. Felly, bydd undebau credyd yng Nghymru yn bartneriaid cyfeirio ar ei gyfer. Mae'n cael ei ddarparu gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, Fair4All a Salad Money, a byddaf yn falch o adrodd ar sut mae'r peilot hwnnw'n mynd.