7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

– Senedd Cymru am 5:24 pm ar 13 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:24, 13 Mehefin 2023

Eitem 7 heddiw yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, a galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Cynnig NDM8290 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 5:24, 13 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn ac am yr adroddiadau y maen nhw wedi'u cyhoeddi. Rwy'n falch bod mwyafrifoedd ar y ddau bwyllgor yn cytuno'n fras â'r safbwynt a nodwyd gan y Llywodraeth yn ei memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Ac rwyf hefyd yn nodi, ac rwyf eisoes wedi ymateb, i argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Dirprwy Lywydd, rydym yn gwybod bod gwneud ensyniadau, rhwystro llwybr rhywun yn ymosodol, eu dychryn ac aflonyddu rhywiol arall yn gyhoeddus yn broblem sylweddol sy'n effeithio'n wael iawn ar iechyd corfforol a meddyliol llawer o bobl yng Nghymru. Gall effeithio'n negyddol ar les unigolyn a gall ofn aflonyddu o'r fath arwain at effeithiau niweidiol ar les grŵp ehangach o bobl. Gan fod menywod a merched yn dioddef y math hwn o aflonyddu yn anghymesur, gall hyn ymwreiddio materion anghydraddoldeb ymhellach.

Ym mis Mai 2022, canfu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 82 y cant o fenywod yn teimlo'n anniogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn parc neu fan agored arall. Profodd un o bob dwy fenyw rhwng 16 a 34 oed o leiaf un math o aflonyddu yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda 38 y cant o fenywod rhwng 16 a 34 oed wedi profi ensyniadau, chwibanau, sylwadau rhywiol digroeso, jôcs, a 25% wedi teimlo eu bod yn cael eu dilyn. Roedd pobl a nododd eu bod yn teimlo'n anniogel yn ystod y dydd ac ar ôl iddi dywyllu wedi newid eu hymddygiad o ganlyniad. Er mwyn newid ymddygiad, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wynebu'r rhai sy'n cyflawni'r gamdriniaeth; rhaid i ni gefnogi goroeswyr; rhaid i ni newid diwylliant casineb at fenywod ac aflonyddu sy'n cymell y cam-drin. Felly, gwnaeth fy swyddogion archwilio'n ofalus iawn y dewis y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Bil ei hun, ond daeth yn amlwg na fyddai hyn wedi bod yn ddewis amserol yn yr achos hwn. Ac mae ein hegwyddorion yn darparu bod amgylchiadau lle gallai fod yn synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaeth i Gymru, a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru o fewn Biliau Senedd y DU gyda chaniatâd Senedd Cymru wrth gwrs.

Bil untro yw hwn, yn unol â'n rhaglen lywodraethu a'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ac felly, mae ein hargymhelliad i gydsynio i'r Bil hwn yn gwbl gyson â'r egwyddorion hynny er mwyn sicrhau bod mater difrifol yn cael sylw mor amserol â phosibl. Felly, mae'n iawn i Gymru gael ei chynnwys yn y ddeddfwriaeth hon fel nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu gadael mewn sefyllfa lle gellid eu hystyried yn llai diogel rhag peryglon aflonyddu ar y stryd ac aflonyddu cyhoeddus ar sail rhyw. Fodd bynnag, rwy'n cytuno hefyd â'r pryderon a godwyd ynghylch nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r modd i i Weinidogion Cymru gychwyn y Bil. Roedd amseru'r ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU ar y Bil hwn yn annerbyniol, a wnaeth ymdrechion i sicrhau pwerau cychwyn yng Nghymru yn anodd iawn, a waethygwyd gan y cyfle cyfyngedig i ddiwygio'r ddeddfwriaeth oherwydd prosesau seneddol ynghylch Biliau Aelodau preifat.

Oherwydd pwysigrwydd y mater a ddim eisiau i fenywod a merched yng Nghymru fod yn llai diogel nag yn Lloegr, fe wnaethom ni gytuno yn y pen draw i femorandwm cyd-ddealltwriaeth ynghylch dechrau'r darpariaethau perthnasol. Mae hyn bellach wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi. Fodd bynnag, gall Aelodau fod yn dawel eu meddwl fy mod hefyd wedi gwneud ein safbwynt yn glir ac wedi cadarnhau na ddylid ystyried hyn fel cynsail ar gyfer Biliau yn y dyfodol. Ar wahân i'r mater hwn, mae adroddiadau'r pwyllgor ar y memoradwm cydsyniad deddfwriaethol yn nodi'n glir pam y dylai'r Senedd hon gefnogi'r Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus. Yn greiddiol iddo, bydd y Bil yn helpu i sicrhau diogelwch menywod a merched yng Nghymru, sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n galw ar i Aelodau o'r Senedd gydsynio i'r cynnig hwn. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 13 Mehefin 2023

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

Diolch, Llywydd. Fe wnaeth fy mhwyllgor gyflwyno adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus yr wythnos diwethaf. Gofynnom ni i'r Gweinidog egluro nifer o faterion cyn y ddadl y prynhawn yma. Rwy’n diolch i'r Gweinidog am ei hymateb brynhawn ddoe.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 5:29, 13 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar dri mater: dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu; mae'r darpariaethau yn y Bil yr ystyriwn yn ei gwneud hi'n ofynnol cael cydsyniad y Senedd; a'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i lofnodi gyda Llywodraeth y DU ar arfer y pŵer cychwyn.

Yn gyntaf, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ei hun yn ymrwymo i,

'Cryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod yn y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref.'

Mae hynny yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ei hun. Felly, ar y sail honno, rydym yn parhau i fod yn aneglur fel pwyllgor pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun ar y mater hwn, o ystyried yr ymrwymiad clir hwn. Gadewch i mi ehangu ychydig.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'n barn ni, lle nodir cyfleoedd deddfwriaethol newydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fod ffordd wahanol ymlaen: gallai ein Seneddau priod ddeddfu, ond yn gyfochrog ac ar y cyd. Felly, gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad i'r Gweinidog egluro pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei Bil ei hun i greu'r drosedd newydd hon. Nid oes a wnelo hyn â pholisi'r Bil, ond a'r broses o greu'r Bil. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni fod y swyddogion wedi archwilio'r dewis y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Bil ei hun, ond, fel y mae hi newydd egluro, na fyddai wedi bod yn ddewis amserol ac y byddai wedi cael effeithiau niweidiol ar ddarparu Biliau eraill. Felly, diolchwn i'r Gweinidog am yr ymateb pellach hwnnw.

O ran pa ddarpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, rydym yn cytuno bod y cymalau a nodwyd yn y memorandwm yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, credwn y dylid gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 4 y Bil yn ei gyfanrwydd, ac nid dim ond ar gyfer dau is-adran ynddo.

Nawr, yn olaf, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU ar arfer y pŵer cychwyn yn y Bil. Fe'i llofnodwyd ar 1 Mehefin a'i anfon atom ar 2 Mehefin. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gytundeb â Llywodraeth y DU ar Fil sy'n destun y broses cydsyniad deddfwriaethol, rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddarparu copi o'r cytundeb hwnnw i'r Senedd cyn y gofynnir i Aelodau'r Senedd wneud penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol.

Yn argymhelliad Rhif 2, gofynnon ni i'r Gweinidog gadarnhau a wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn am bŵer ar wyneb y Bil i Weinidogion Cymru ddechrau cymalau 1 a 3 o'r Bil fel y maen nhw'n berthnasol yng Nghymru cyn cytuno i lunio Memorandwm gyda Llywodraeth y DU, ac mae'r Gweinidog—rydym yn ddiolchgar—wedi cadarnhau i ni y bu iddi yn wir ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar dri achlysur i ddadlau yn gryf dros bŵer ar wyneb y Bil i Weinidogion Cymru—ein Gweinidogion Cymru ni—i gychwyn y darpariaethau perthnasol yma yng Nghymru, ond gwrthodwyd y cais, sy'n siomedig.

Yn argymhelliad 3, gofynnon ni i'r Gweinidog gadarnhau a oes unrhyw drafodaethau wedi digwydd a/neu beth yw dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o'r hyn a olygir gan 'amser rhesymol', sy'n ymddangos yn nhelerau y memorandwm dealltwriaeth. Mae'r Gweinidog wedi ateb, gan ddweud y byddai hyn yn amrywio o achos i achos, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, ac nid yw'n ystyried y bydd yn arwain at unrhyw broblemau.

Felly, pe bai Gweinidogion Cymru yn cynnig dyddiad cychwyn amgen i'r un a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, yn argymhelliad 4, fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog gadarnhau sut y bydd proses ffurfiol o ddatrys anghydfod yn cael ei chynnwys pe na bai Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU yn gallu cytuno ar ddyddiad cychwyn addas. Nododd y Gweinidog yn ei hymateb yr hyn a nodir yn y memorandwm dealltwriaeth, y bydd swyddogion yn ceisio cytuno ar ddyddiad, ac rydym yn deall hynny. Roedd ein hargymhelliad yn ceisio darganfod beth sy'n digwydd os na all swyddogion gyfaddawdu—felly, Gweinidog, nid wyf yn gwybod a allwch chi adlewyrchu ychydig ymhellach ar hynny yn eich sylwadau clo.

Yn olaf, yn argymhelliad 5, Llywydd, few wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog egluro beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu peidio â chynnig dyddiad cychwyn ar gyfer cymalau 1 a 3 o'r Bil. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni, os na chaiff y Bil ei gychwyn, y byddwch yn ystyried dewisiadau pellach i ddeddfu am drosedd debyg yng Nghymru, oherwydd bod aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus yn wir yn un o flaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn y rhaglen lywodraethu. Felly, Gweinidog, unwaith eto, o gofio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros ddechrau rhywbeth sy'n flaenoriaeth allweddol, efallai y gallech chi adlewyrchu ychydig ar y dull yr ydych chi wedi'i fabwysiadu yn y ddeddfwriaeth hon o ran hynny. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:34, 13 Mehefin 2023

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe wnaethom ni ystyried y cynnig hwn ar 15 Mai, a chredwn fod y ddeddfwriaeth yn gyfle ymarferol ac effeithlon i sicrhau gwarchodaeth gyfartal rhag aflonyddu ar sail rhyw yn gyhoeddus yng Nghymru, o gofio nad oes Bil Senedd cymharol wedi'i gynllunio yn y tymor byr neu ganolig, ac felly roeddem yn teimlo ei bod hi'n bwysig cefnogi hyn, gan fod hwn yn fater sylweddol. Mae'n rhywbeth sydd wedi codi pan fyddwn wedi ymchwilio i anghenion penodol menywod mudol, a allai fod yn destun camfanteisio ac aflonyddu, ac yn wir mewn perthynas lle cânt eu rheoli. Mae gennym ni ddiddordeb parhaus yn y ffordd yr ydym ni'n atal trais ar sail rhywedd, a byddem yn awyddus i wybod sut y bydd y drosedd newydd yn cefnogi ein hymdrechion andeddfwriaethol i ymdrin ag aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus, sy'n ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Felly, mynegodd un o'n Haelodau bryder ynghylch egwyddor Bil Llywodraeth y DU yn gweithredu deddfwriaeth o'r fath, yn hytrach na bod y Bil yn cael ei llunio yng Nghymru, ond credaf fod y rhan fwyaf ohonom ni'n gryf o'r farn bod angen i ni fanteisio ar hyn o bryd ar yr hyn sy'n Fil defnyddiol i amddiffyn pobl a allai wynebu aflonyddwch cyhoeddus fel arall.  

Photo of James Evans James Evans Ceidwadwyr 5:35, 13 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn oherwydd mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn ni i sicrhau ein bod yn gwarchod pobl rhag aflonyddu ar sail rhyw yn gyhoeddus. Rwyf i a'm grŵp yn cefnogi unrhyw fesurau i gryfhau'r gyfraith yn y maes hwn i sicrhau bod y tramgwyddwyr hynny'n cael eu dwyn gerbron llys. Nid oes lle mewn cymdeithas i unrhyw drais yn erbyn menywod nac unrhyw un yn ein man gwaith, nac yn gyhoeddus, nac yn unrhyw le yn y wlad hon.

Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes gwaith allweddol i Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn gwybod ei fod yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu i chi. Fodd bynnag, rydym yn siomedig na chyflwynwyd hyn fel deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd credwn ei bod hi'n bwysig iawn yma bod deddfau'n cael eu gwneud yn y Senedd ar gyfer pobl Cymru, ac mae hwn yn faes datganoledig. Rydym yn credu ar y meinciau hyn, pe byddem ni wedi cyflwyno hyn fel Bil Llywodraeth Cymru, y byddai wedi rhoi llawer mwy o gyfle i'r sefydliadau hynny gyfrannu at hyn, ac i Aelodau'r Senedd yma graffu ar hyn yn iawn. Rwy'n deall eich sylw, Gweinidog, lle gwnaethoch chi ddweud am amser a risg i Filiau eraill, ond nid wyf yn derbyn hynny mewn gwirionedd, oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Biliau eraill drwy'r Senedd hon mewn byr o dro, a allai fod wedi cyflymu hyn i sicrhau ein bod yn gwneud hyn ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.

Felly, rydym yn cefnogi hyn mewn egwyddor, ond hoffwn wybod mewn gwirionedd beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn y dyfodol i gyflwyno deddfwriaeth Gymreig yn y maes hwn, oherwydd credaf fod cefnogaeth eang i Fil fel hyn, a ddatblygwyd yn y Senedd, i ddileu aflonyddu ar sail rhyw yma yng Nghymru, ac rwy'n credu y dylem ni gael Bil ar y llyfr statud hwn, a wnaed yma yn y Senedd.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:37, 13 Mehefin 2023

Mae trais yn erbyn menywod yn endemig yng Nghymru a Lloegr ac ar draws y byd. Mae'n werth ailadrodd y ffigurau cywilyddus, brawychus ar bob cyfle, sef bod un o bob tair menyw yn profi trais ar sail rhywedd, a bod 71 y cant o fenywod yn y Deyrnas Gyfunol wedi profi aflonyddu mewn man cyhoeddus, sy'n codi i 86 y cant yn y menywod sydd rhwng 18 a 24 oed—86 y cant. Mae 29 o fenywod yn eistedd yn y Siambr hon. Mae hynny'n golygu, yn ystadegol, fod 20 ohonom wedi profi, neu y byddwn ni'n profi, aflonyddu mewn man cyhoeddus yn sgil ein rhywedd.

Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil yma, mae Cymorth i Ferched Cymru yn tynnu sylw at y cynnydd aruthrol sydd wedi bod yn y galwadau am aflonyddu a stelcian i linell gymorth Byw Heb Ofn—229 y cant o gynnydd rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2022. Mae graddfa'r broblem yn glir hefyd yng nghanfyddiadau ei adroddiad 'No Grey Area', sef bod pedair o bob pump o fenywod yng Nghymru wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith, a'r mwyafrif ohonynt wedi profi achosion lluosog o aflonyddu rhywiol gan gyflawnwyr lluosog.

Yn y cyfarfod y cadeirias i heddiw o'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, fe glywon ni eto am raddfa y broblem o aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac ar y ffordd i ac o'r gwaith. Defnyddiwyd y term 'epidemig' i ddisgrifio'r sefyllfa. Felly, mae'n broblem enfawr, ddifrifol, y maen rhaid i ni wneud mwy i'w thaclo yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth yma yn debyg o wneud hynny yn effeithiol. Mae'r arbenigwyr pennaf yn y sector atal trais ar sail rhywedd yn gytûn ar hyn. Mae'r system gyfiawnder wedi torri i'r fath raddau, meddai'r Glymblaid Diweddu Trais yn Erbyn Menywod, na fydd yn medru gweithredu unrhyw gyfraith newydd. Mae Plan International ac Our Streets Now yn tanlinellu nad yw'r Bil yma yn mynd i'r afael â chau'r bylchau yn y gyfraith o ran aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus, ac wrth eithrio ymddygiad rhywiol digroeso o'r darn yma o ddeddfwriaeth, mae'n peryglu eithrio nifer o fathau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus o gwmpas y drosedd.

Mae Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn tanlinellu mai taclo trais ar sail rhywedd, nid rhyw yn unig, dylai fod y ffocws yma, gan bwysleisio nad yw aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn digwydd oherwydd rhyw rhywun yn unig. Ac mae hwn yn bwynt pwysig. Er bod menywod yn dioddef lefel anghymesur o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, mae aflonyddu rhywiol yn digwydd i bobl fel modd o greu ofn a datgan grym a rheolaeth, a gall hynny fod am resymau neu ffactorau sy'n ychwanegol neu ar wahân i'w rhyw. Er enghraifft, cynhaliodd y TUC yr arolwg mawr cyntaf i aflonyddu rhywiol ar bobl LHDT+ yn y gweithle, a chanfod bod 68 y cant o bobl LHDT+ wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gwaith. Mae Cymorth i Ferched Cymru felly'n credu na fyddai'r achosion hyn yn debyg o gael eu cwmpasu gan y fframwaith gyfreithiol yma, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi eu barn bod yn rhaid mynd i’r afael yn deg ac yn gydradd â phob math o drais rhywiol, ac y dylai deddfwriaeth fod yn gyson ar draws pob math o drais rhywiol. Rydym yn rhannu'r pryder hefyd nad oes unrhyw gydnabyddiaeth yn y Bil o aflonyddu mae goroeswyr camfanteisio rhywiol a niwed drwy'r diwydiant rhyw yn ei wynebu—trais sy'n aml yn digwydd mewn lleoliadau cyhoeddus fel ceir, parciau a strydoedd cefn.

Wrth gwrs, mae hanfod y Bil, sef ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad sy'n achosi siẁd niwed a loes, siẁd drawma a pherygl i filoedd ar filoedd o fenywod, i'w groesawu. Ond cred plaid Cymru bod angen i ni gymryd y cyfrifoldeb a'r grym sydd ei angen arnom i greu deddfwriaeth ffit i bwrpas, system gyfiawnder troseddol a fydd yn galluogi newid, a system decach a mwy cyfartal sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu yn gynnar, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, a gwneud misogyny yn drosedd o gasineb.

Ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig fel mater o egwyddor. Yn wahanol i'r pleidiau eraill yn y Siambr hon, rŷn ni'n credu mai Senedd Cymru ddylai greu cyfreithiau i bobl Cymru. Ond, i'r rheini ohonoch sy'n anghytuno â'r safbwynt hwnnw, rwy'n eich annog i ddilyn ein hesiampl o wrthod ein caniatâd i'r Mesur am y rhesymau rwyf wedi eu nodi, sydd wedi dod gan arbenigwyr yn y maes.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:42, 13 Mehefin 2023

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb nawr. Jane Hutt

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i chi i gyd—diolch i chi i gyd am wneud sylwadau mor bwysig yn y ddadl hon. A dweud y gwir, onid yw'n bwysig bod gennym ni gyfle i drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn? Unwaith eto, mae wedi tynnu sylw at faint y broblem, ac mae'n hanfodol deall faint o aflonyddu a cham-drin cyhoeddus y mae menywod a merched yn ei wynebu, a bod y niwed a achosir yn cael ei gydnabod yn iawn. Rhoddais yr holl ystadegau i chi; rydym ni wedi clywed eto effaith hyn ar fywydau merched a menywod. A hefyd, dim ond i dawelu meddyliau'r Aelodau, mae ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol bellach yn cael ei hymestyn i edrych ar drais ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae gennym ni ffrwd waith sy'n cael ei harwain gan Shavanah Taj, ochr yn ochr â rhywun o awdurdod yr heddlu. Mae gennym ni ffrwd waith hefyd ar fynd i'r afael â thrais mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal â ffrwd waith sy'n gweithio gyda goroeswyr.

Felly, codwyd llawer o'r pwyntiau o ran yr hyn yr ydym ni'n parhau i'w wneud i weithio gyda'n gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o'r materion anghydraddoldeb a diogelwch sy'n wynebu menywod a merched, i roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i holl bobl Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid. Ond rydym yn gweld y gallai'r cyfle deddfwriaethol hwn ddarparu un offeryn arall pellach yn y frwydr i newid ymddygiad a grymuso goroeswyr, unwaith eto, i sicrhau ein bod yn gwella arferion ac yn ennyn hyder mewn goroeswyr i adrodd am achosion o gamdriniaeth a thrais pan fyddant yn digwydd, i ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif.

Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Byddant yn cyfrannu at ein strategaeth ddiwygiedig a'r ffrydiau gwaith. A hefyd, rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod wedi derbyn yr holl argymhellion hynny, ac rwy'n gwybod bod yna lawer o gwestiynau y mae angen i ni wedyn eu cyflwyno o ran y pwyntiau a godwyd. A byddaf yn rhannu copi o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac yn cydnabod, fel y dywedais, nad yw hyn mewn unrhyw ffordd yn rhoi unrhyw fath o gynsail i ymdrin â hyn o ran y ffordd ymlaen.

Fe wnaethom ni archwilio'r dewis o gyflwyno ein Bil ein hunain, ond nid oedd yn bosibl am y rhesymau rwyf wedi sôn amdanyn nhw. Ac mae'n mynd yn ôl i'r ffaith bod angen i ni ddarparu'r un amddiffyniad yng Nghymru ag a fyddai'n cael ei gynnig i fenywod yn Lloegr. Dyna'r pwynt. Dyna pam rydym ni wedi gwneud y penderfyniad hwn, oherwydd does arnom ni ddim eisiau i fenywod a merched fod ar eu colled oherwydd y dewis hwn, o ran amddiffyniad. Ond rwy'n ystyried y sylwadau a wneir am ddysgu gan ein darparwyr arbenigol a'n grŵp trawsbleidiol heddiw, wrth gwrs, o ran deall y materion hyn. Ond hoffwn sicrhau bod yr un amddiffyniad yn cael ei gynnig, a dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn a pheidio ag anwybyddu'r cyfle deddfwriaethol hwn.

Felly, rydym yn gobeithio y bydd y Bil yn cyflawni'r effaith bendant a chadarnhaol hon ar fenywod a merched yn ogystal â phobl amrywiol o ran rhywedd, i helpu i newid agweddau hen ffasiwn a dangos na fydd aflonyddu ar sail rhyw yn gyhoeddus yn cael ei oddef. Ac os gallaf sicrhau'r Aelodau ar draws y Siambr hon, os na chychwynnir Bil am unrhyw reswm—ac rydym wedi cael problemau ynghylch y cychwyn, fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol—byddaf yn archwilio dewisiadau pellach i ddeddfu yng Nghymru. Ond gofynnaf i'r Aelodau gydsynio i'r Bil hwn i wella'r amddiffyniad i fenywod a merched a phobl amrywiol yng Nghymru. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:46, 13 Mehefin 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.