– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 13 Mehefin 2023.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin—trugaredd. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yn bum mlynedd ar hugain ers cychwyn yr Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos nesaf, a byddwn yn dathlu unwaith eto y cyfraniadau y mae ceiswyr lloches yn eu gwneud at Gymru. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i greu gwell dealltwriaeth yn ein cymunedau a hybu integreiddio a chydraddoldeb i bawb.
Mae Wythnos Ffoaduriaid yn ein hatgoffa o ddewrder a chadernid y rhai sy'n gorfod gadael eu teulu, eu ffrindiau a'u cartref i ddianc rhag erledigaeth neu ryfel. Rydym ni'n parhau i glywed straeon creulon am effaith gweithredoedd anghyfreithlon Putin yn Wcráin, fel enghraifft amlwg a phroffil uchel o hyn, ac rydym ni'n parhau i gydsefyll yn gryf gyda phobl Wcráin. Ond mae llawer o'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi i'r DU hefyd yn cael eu herlid dim ond am fod yn pwy ydyn nhw, ac yn aml mae gan geiswyr noddfa hanesion dirdynnol a chymhleth o gam-drin a achosodd iddyn nhw ddod yma.
'Tosturi' yw thema eleni. Mae tosturi wedi bod yn rhan o ddiwylliant Cymru ers tro. Yn 1914, croesodd 16,000 o bobl y sianel mewn un diwrnod i ddianc rhag erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf. Croesawodd Cymru 4,500 o Wlad Belg a oedd yn ffoi o'r gwrthdaro hwnnw. O'r 1930au, cyrhaeddodd ffoaduriaid Iddewig y DU yn ffoi rhag y casineb hiliol a chrefyddol a arweiniodd yn y pen draw at yr Holocost. Yn ddiweddar, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud gwaith ymchwil ardderchog yn cofnodi profiadau plant y Kindertransport yng Nghymru.
Yn fwy diweddar, yn 2016, fe wnaeth pob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig noddfa i Syriaid a oedd angen dod i Gymru. Yn 2021, fe wnaethom ni weithio'n galed i gynorthwyo ymadawiadau o Afghanistan, gan greu dull arloesol gydag Urdd Gobaith Cymru, rhanddeiliaid allweddol lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y gallem ni ddarparu ar gyfer ceiswyr lloches yng nghysgod yr union adeilad hwn. Rydym ni'n credu bod tua 1,000 i 2,000 o bobl o Hong Kong wedi dod i Gymru i ffoi o gyfraith diogelwch cenedlaethol gwladwriaeth China ers i'r llwybr fisa newydd gael ei agor yn 2021.
Ers mis Chwefror 2022, mae ein gweledigaeth cenedl noddfa wedi cyrraedd uchelfannau newydd sylweddol. Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru wedi noddi yn uniongyrchol fisâu 3,100 o bobl o Wcráin sydd wedi teithio i'r DU, â 1,500 o unigolion â fisâu yn aros y tu allan i'r DU ond â'r tawelwch meddwl o wybod y gallan nhw ddod i ddiogelwch os oes angen. Yn bwysicach fyth, mae aelwydydd Cymru wedi agor eu drysau a'u calonnau i'r rhai sydd angen dianc. Daeth dros 3,600 o bobl o Wcráin i'r DU, wedi'u noddi gan unigolion o Gymru, ac mae llawer mwy o aelwydydd yn darparu llety i bobl o Wcráin yn anffurfiol. Mae aelwydydd wedi rhoi ar waith y weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer Cymru, ac mae hyn wir wedi bod yn achos o'r genedl noddfa ar waith.
Gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw bod £8 miliwn wedi cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU i Gymru gefnogi integreiddio pobl o Wcráin, a gall pobl o Wcráin barhau i ddefnyddio eu trwyddedau gyrru drwy gydol eu harhosiad yn y DU.
Dirprwy Lywydd, fel y mae'r crynodeb byr hwn yn ei ddangos, ar draws tonnau o ail-leoli, mae cymunedau Cymru, llywodraeth leol, y trydydd sector a phartneriaid allweddol eraill wedi gweithio'n ddiflino i gynorthwyo ceiswyr lloches sy'n dod i Gymru o bob cwr o'r byd. Mae Cymru wedi dangos, dro ar ôl tro dros y ganrif ddiwethaf a mwy, bod croeso yma. Wrth gwrs, er gwaethaf ein balchder yn yr ymdrechion aruthrol hyn, mae mwy i'w wneud i gynorthwyo'r rhai sy'n cyrraedd a'r cymunedau sy'n eu derbyn. Rydym ni'n effro iawn i ddyfodiad y dde eithafol, ac rydym ni'n gwybod nad yw Cymru yn ddiogel rhag y casineb a'r anoddefgarwch yr ydym ni wedi eu gweld mewn mannau eraill. Hyd yn oed yn y fan yma rydym ni wedi gweld protestiadau y tu allan i safleoedd llety, a hoffwn ailbwysleisio yn eglur nad yw Cymru yn gartref i gasineb.
Mae'n fraint gennym gynnig noddfa i'r rhai sy'n cyrraedd Cymru. Ym mis Ionawr 2019, lansiwyd ein cynllun cenedl noddfa ac, ers hynny, rwyf i wedi cael fy nghalonogi'n wirioneddol gan yr ymateb ledled Cymru. Mae siarter dinas noddfa wedi llywio sefydliadau mewn sawl sector, gan gefnogi'r weledigaeth cenedl noddfa gyffredinol. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyfarfod ag ysgolion sydd wedi ennill statws ysgol noddfa, gan gynnwys plant o ddwy ysgol yng Nghaerdydd. Byddaf yn eu croesawu ar risiau'r Senedd i'w croesawu yn rhan o'r daith heddwch. A hoffwn ddiolch o galon i'r ysgolion, y colegau, y prifysgolion, y trefi a'r dinasoedd noddfa yng Nghymru am yr ymroddiad a'r brwdfrydedd a ddangoswyd yn eu hamser fel conglfeini noddfa yn eu cymunedau. Rwy'n cymeradwyo gwaith elusen Dinas Noddfa sy'n cefnogi ac yn cymeradwyo'r sefydliadau hyn yng Nghymru.
Rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud i gynorthwyo pobl sy'n ceisio noddfa, a dyna pam yr wyf i wedi ymrwymo i adnewyddu ein cynllun cenedl noddfa eleni. Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys ceiswyr noddfa, awdurdodau cyhoeddus a'r trydydd sector, i sicrhau bod y cynllun diwygiedig yn cyflwyno fframwaith eglur ar gyfer gwelliant yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym ni wedi gweld llawer o straeon eleni am bobl yn croesi mewn cychod bach, ac er fy mod i'n cytuno bod yn rhaid osgoi teithiau peryglus fel hyn, mae'n anghywir honni mai cynlluniau presennol Llywodraeth y DU yw'r unig ffordd o fynd i'r afael â'r mater hwn. Er i nifer yr achosion o groesi gynyddu yn 2021 a 2022, rhan fawr o'r rheswm bod llety yn orlawn yw oedi ym mhrosesau'r Swyddfa Gartref. Mae dros 130,000 o achosion ledled y DU yn aros, gan ddisgwyl am benderfyniad cychwynnol. Mae hyn yn golygu bod pobl sy'n aml yn hynod fedrus ac yn llawn cymhelliant i gyfrannu at ein heconomi ac integreiddio â chymunedau yn cael eu gadael yn aros mewn limbo am flynyddoedd.
Y peth tosturiol i'w wneud fyddai prosesu hawliadau yn llawer cyflymach a chaniatáu yr hawl i weithio pan fo hawliadau yn cymryd mwy na chwe mis. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi galw sawl gwaith am sefydlu llwybrau diogel, fel y gall pobl hawlio lloches yn gyfreithlon yn y DU, gan roi terfyn ar wastraffu potensial dynol y rhai sydd eisoes yma. Ac rwyf i eisoes wedi cyflwyno ffordd fwy tosturiol mewn datganiad ysgrifenedig ar 31 Mawrth. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cytuno bod angen dull o'r fath ar gyfer cenedl noddfa.
Rydym ni'n gofyn am welliant ar frys gan Lywodraeth y DU o ran pob un o'r cynlluniau lloches a gwasgaru sy'n gweithredu yng Nghymru. Rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog Materion Cyn-filwyr i drafod cau gwestai ar gyfer pobl o Afghanistan, ac rwyf i wedi ysgrifennu at Weinidog Mewnfudo y DU i geisio gwell ymgysylltiad a pharch at ddatganoli o dan y system loches.
Yn olaf, hoffwn ddweud bod 22 Mehefin yn nodi 75 mlynedd ers i HMT Empire Windrush ddocio yn Tilbury, y foment sy'n symbol o genhedlaeth Windrush. Nid oedd y rhai a gyrhaeddodd ar y Windrush a'r llongau a ddilynodd yn ffoi rhag rhyfel nac erledigaeth, fe'u gwahoddwyd i ddod i'r DU. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gwrthdroi ei phenderfyniad i dorri ei haddewid i weithredu argymhellion yr adolygiad gwersi a ddysgwyd yn sgil Windrush, neu fel arall bydd sloganau brathog am 'weld yr wyneb y tu ôl i'r achos' yn gwbl ddiwerth. Fodd bynnag, fel ceiswyr lloches, daeth cenhedlaeth Windrush â sgiliau, talent, syniadau newydd a gwaith caled i gyfoethogi ein cymunedau. Mae eu straeon yn straeon Cymreig, ac maen nhw wedi ein helpu i'n gwneud ni yn bwy ydym ni fel cenedl heddiw. Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi dyrannu cyllid ar gyfer cynnal digwyddiadau Windrush ledled Cymru, a dathliad yma yn y Senedd ar 22 Mehefin. Diolch yn fawr.
Mae Wythnos Ffoaduriaid yn digwydd rhwng 19 Mehefin a 25 Mehefin. Fel yr ydym ni eisoes wedi ei glywed, 2023 hefyd yw pumed pen-blwydd ar hugain yr Wythnos Ffoaduriaid. Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl gelfyddydol a diwylliant fwyaf y byd, yn dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio noddfa, a sefydlwyd ym 1998 yn y DU ac a gynhelir bob blwyddyn o amgylch Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin. Thema'r Wythnos Ffoaduriaid 2023, fel yr ydym ni wedi ei glywed, yw tosturi, a ddewiswyd yn y gred y gallwn ni, gyda'n gilydd, greu dealltwriaeth gyffredin o dosturi i sicrhau ein bod ni'n ei ymestyn yn eang i bawb.
Wrth ymateb i'ch datganiadau blaenorol ar yr Wcráin a'r genedl noddfa, codais fater tai dro ar ôl tro, a thai modiwlaidd arfaethedig yn rhan o'r ateb, fel ar draws y dŵr yn Iwerddon. Yn eich ymateb i mi ar 9 Mai, fe wnaethoch chi gyfeirio at yr angen i symud ein gwesteion o Wcráin i lety tymor hwy, y mae rhywfaint ohono yn llety modiwlaidd a ddatblygwyd ledled Cymru. Felly, pa ddyraniad penodol, os o gwbl, sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid?
Hefyd, nawr bod y gronfa £150 miliwn i helpu Wcreiniaid i mewn i'w cartrefi eu hunain wedi cael ei chyhoeddi yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr £8 miliwn i Gymru y gwnaethoch chi gyfeirio ato, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y bydd hwn yn cael ei ddyrannu ac a fydd yn cael ei ddosbarthu trwy Lywodraeth Cymru a/neu i gynghorau i helpu teuluoedd o Wcráin i gael llety rhent preifat a dod o hyd i waith, fel yn Lloegr?
Fel yr ailbwysleisais i chi yn fy ateb ar 9 Mai,
'ers amser maith, rydym ni wedi darparu hafan ddiogel i ddioddefwyr erledigaeth, trais, glanhau ethnig a hil-laddiad o bob cwr o'r byd, a hir y parhaed hynny, oherwydd pe byddai hynny'n mynd yn angof gennym ni, fe fyddem ni wedi colli ein dynoliaeth a'n gwir hunaniaeth.'
Yn y cyd-destun hwn, sut mae'r Gweinidog yn ymateb i adroddiad yr wythnos hon gan y Pwyllgor Materion Cartref yn Senedd y DU—trawsbleidiol, ond a gadeiriwyd gan AS Llafur—a ganfu fawr ddim tystiolaeth i ddynodi niferoedd sylweddol o wladolion Albania mewn perygl yn eu gwlad eu hunain ac angen lloches yn y DU, er, ac mae hyn yn hollbwysig,
'bydd rhai dinasyddion Albania sy'n gwneud hawliadau lloches wedi cael eu masnachu, ac mae menywod mewn perygl anghymesur o'r math hwn o drosedd. Mae gan y DU rwymedigaeth i gynorthwyo dioddefwyr masnachu a dylid eu dychwelyd i Albania dim ond os oes mesurau diogelu priodol ar waith.'
Sut ydych chi'n ymateb i'r cytundeb a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf i ailwampio prosesau lloches yr UE—yn amlwg, nid ydym ni'n rhan ohonyn nhw, ond maen nhw ar ein ffiniau—gan sicrhau bod rhai ceiswyr lloches yn cael eu prosesu ar unwaith ar y ffin, gan ei gwneud hi'n haws dychwelyd y rhai y gwrthodir eu ceisiadau, a chaniatáu i wledydd roi'r gorau i brosesu pobl ar y ffin os byddan nhw'n cyrraedd terfyn penodol?
Wrth ymateb i chi ar 9 Mai, cyfeiriais at bryderon a godwyd gan drigolion Neuadd Llaneurgain, sir y Fflint, ynghylch cynlluniau i gartrefu 400 o geiswyr lloches gwrywaidd sengl yn hen westy Northop Hall, lle'r oedd cadeirydd cyngor cymuned Neuadd Llaneurgain wedi dweud:
'Bydd 400 o ddynion sengl yn cynyddu cyfanswm poblogaeth y pentref gan 25 y cant. Ni allaf i gredu na fydd galw pellach ar gyfleusterau cymunedol sydd eisoes dan bwysau.'
Gyda dim ond tri gwasanaeth bws yn y pentref bob dydd, ni fyddai gan bobl unrhyw le i fynd.
Yn eich ymateb, fe wnaethoch chi ddweud, er nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol
'am gaffael a darparu llety i'r rhai sy'n cael eu gwasgaru i Gymru', bydd yn rhaid i hyn fynd drwy'r broses gynllunio yng Nghymru, ac roeddech chi mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr urddas a'r parch y dylid eu dangos i geiswyr lloches sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Yn ddiweddarach y mis hwn, ar eu cais nhw, byddaf yn cyfarfod â Grŵp Gweithredu Pentref Neuadd Llaneurgain, er mwyn iddyn nhw roi gwybod i mi beth sy'n cael ei gynnig ar gyfer eu pentref a'u pryderon am seilwaith annigonol ac mai dyma'r lle anghywir i geiswyr lloches gael eu lleoli tra byddan nhw'n cael eu sgrinio. Felly, pa neges hoffech chi i mi ei rhoi iddyn nhw ynglŷn â'ch ymgysylltiad â hyn, fel y Gweinidog yma?
Pan ymwelais ddiwethaf â Chanolfan Byd Gwaith yr Wyddgrug, darganfyddais am y gwaith gwych yr oedden nhw'n ei wneud i gynorthwyo pobl o Wcráin sy'n awyddus i weithio a chyfrannu. Yn y cyd-destun hwn, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill—ESOL—ac a oes modd trosglwyddo eu cymwysterau i Gymru?
Yn olaf, rydych chi'n cloi trwy gyfeirio at genhedlaeth Windrush. Gyda 22 Mehefin yn nodi 75 mlynedd ers i HMT Empire Windrush ddocio yn Tilbury, gadewch i ni gofio felly bod eu dyfodiad yn foment arloesol yn hanes Prydain ac wedi dod yn arwydd o amrywiaeth gyfoethog teulu o genhedloedd y DU. Diolch.
Diolch yn fawr, Mark Isherwood, a diolch am gydnabod hanes Wythnos Ffoaduriaid. Mae'n bum mlynedd ar hugain ers yr Wythnos Ffoaduriaid gyntaf, ac mae'n cydnabod pwysigrwydd y thema tosturi.
I roi sylw i gymaint o bwyntiau ag y gallaf o'ch cwestiynau, o ran y symud ymlaen, sy'n digwydd yn gyflym—symud ein gwesteion o Wcráin sy'n dod i Gymru ymlaen—mae'n galonogol gweld y ffigurau diweddaraf. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 1,700 o'r rhai sy'n cyrraedd o dan y llwybr uwch-noddwr bellach wedi symud ymlaen i lety tymor hwy, â dros 1,000 o'r rheini yn ymgartrefu yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn—a chydnabuwyd hyn yn gynharach yn yr ymateb i'r datganiad ar gysylltiadau rhyngwladol—bod symud ymlaen a chefnogaeth i'n gwesteion—yn wir, i'n holl geiswyr lloches a ffoaduriaid—yn sicr yn rhan o ddull tîm Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol i chwarae eu rhan.
A gaf i ddweud heddiw, eto, diolch i'n hawdurdodau lleol yng Nghymru—ac rwy'n siŵr y byddech chi'n ymuno â mi, ac y byddai'r Aelodau yn ymuno â mi yn hynny—am ddarparu'r ymateb dyngarol hwnnw ni bobl o Wcráin, ac am y ffaith ein bod ni wedi gwneud cyllid ar gael, drwy'r rhaglen cyfalaf llety pontio, a wnaed ar gael o ganlyniad i fenter y Gweinidog Newid Hinsawdd, i sicrhau bod buddsoddiadau mewn llety pontio? Ariannwyd naw cant tri deg a chwech eiddo o dan y rhaglen cyfalaf llety pontio—cartrefi ychwanegol a ariannwyd ar gyfer eleni ac i mewn i'r flwyddyn nesaf. Ac mae'n amrywiaeth o atebion llety ledled Cymru, nid tai modiwlaidd yn unig, ond hefyd dod ag eiddo gwag neu segur yn ôl i ddefnydd, gan drosi adeiladau, dymchwel, ac adeiladu rhai newydd hefyd. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweld hyn yng nghyd-destun canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddarparu llety i ffoaduriaid o Wcráin, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r cam, yn enwedig y symud ymlaen i lety tymor hwy, gyda buddsoddiad ychwanegol o £40 miliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Ceir pwyntiau pwysig yr ydych chi'n eu codi yn eich cwestiynau am y ffaith bod gennym ni bolisi lloches ac ail-leoli, nad wyf i'n credu y gall lwyddo oni bai bod gennym ni, fel yr wyf i wedi ei nodi, y llwybrau diogel a chyfreithlon hynny. Yn wir, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud ei hun bod y system loches wedi torri. Ond, os yw'n mynd i newid, Llywodraeth y DU sy'n gorfod gwrthdroi ei strategaeth amgylchedd gelyniaethus a datblygu'r llwybrau diogel a chyfreithlon hynny i geiswyr lloches. Ac mae hawlio lloches o'r tu allan i'r DU yn golygu nad oes angen teithiau peryglus ac mae'n amharu ar fodel busnes smyglwyr pobl, sy'n dal, yn amlwg, yn cael effaith o ran y cwestiynau yr ydych chi'n eu codi, ac mae'n cynnwys y rhai o Albania.
Fel yr oeddem ni'n ei ddweud, os oes gennym ni lwybrau diogel a chyfreithlon, byddai hynny'n cynnwys cytundebau dychwelyd effeithiol i'r rhai sydd â hawliadau annilys. Ond mae proses eithriadol yn hanfodol i ni fel cenedl noddfa, i sicrhau y gellir hawlio lloches o hyd o fewn y DU o dan amgylchiadau eithriadol, a phrosesau sy'n gweithredu'n effeithlon. Rwy'n credu mai dyna lle mae angen i ni dorri model busnes masnachwyr a smyglwyr pobl. Rwy'n croesawu argymhellion Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin, gan gynnwys cynnig ar gyfer treialu cyfleuster prosesu yng Nghymru. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn gweithio ac yn gwario eu harian a'u hadnoddau, a pholisi, ar y llwybrau diogel a chyfreithlon hynny, a hefyd yn edrych ar y system loches o ran yr oedi annerbyniol? Mae 160,000 o achosion yn aros am benderfyniad. Dyma lle'r ydym ni hefyd yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd nawr o ran trin a rheoli'r hyn sy'n llety dros dro i geiswyr lloches.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn gwneud sylwadau ar safleoedd penodol a gynigir ar gyfer llety lloches, ond rydym ni'n gwybod bod y problemau sy'n codi o ganlyniad i gynigion sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i ddiffyg ymgysylltiad neu eglurder gan y Swyddfa Gartref, diffyg ymgysylltiad amlasiantaeth, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ni groesawu ac integreiddio. Oherwydd, rydym ni'n cefnogi'r uchelgais o ehangu gwasgariad lloches yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru sy'n cydweithio i gyflawni hyn. Ond ni allwn wneud hyn oni bai fod y Swyddfa Gartref yn gweithio'n adeiladol gyda ni. Fel y dywedais, rwyf i wedi ysgrifennu at Robert Jenrick am hyn i chwilio am ffordd well o weithio yng Nghymru, a hefyd gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru yn hyn o beth.
Hefyd, mae yn fy natganiad y dylai Llywodraeth y DU gydnabod ei dibyniaeth ar Lywodraethau datganoledig a swyddogaeth y gwledydd datganoledig a'u hawdurdodau lleol i gyflawni ei chynlluniau amrywiol yn ddigonol a chydnabod eu cefnogaeth hirsefydlog. Eto, byddwn yn dweud—fel y dywedais yn flaenorol, Mark—ni fyddwn yn gwneud sylwadau ar faterion yn ymwneud â chynllunio, ond yr hyn yr ydym ni'n galw amdano gan Lywodraeth y DU yw ymgysylltu effeithiol gwell a chydnabyddiaeth bod ganddyn nhw'r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw. Maen nhw wedi esgeuluso eu cyfrifoldebau o ran y system loches ers cyhyd.
Hoffwn ddweud fy mod i, a Phlaid Cymru, yn cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog ynglŷn â'r ffaith nad ystadegau na phwnc ar gyfer y cyfryngau yw ceiswyr lloches a ffoaduriaid ond pobl, sydd i gyd wedi cael siwrneiau a phrofiadau anodd. Nhw yw ein brodyr a'n chwiorydd. Mae tosturi, thema Wythnos Ffoaduriaid eleni, yn cael ei ddiffinio fel teimlad o dosturi, cydymdeimlad a dealltwriaeth tuag at rywun sy'n dioddef.
Gweithredu ar y tosturi hwnnw yw sail pob gweithred ddyngarol. Yn dilyn ymosodiad barbaraidd ac anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin lle gorfodwyd miliynau i ffoi o'u cartrefi, cofleidiodd llawer o lywodraethau a phobl gyffredin ledled y byd yr her o ddarparu noddfa i'r grŵp newydd hwn o ffoaduriaid yn eu cenhedloedd, gan gynnwys, wrth gwrs, yma yng Nghymru. A Gweinidog, rwy'n diolch yn fawr iawn i'r awdurdodau lleol, sefydliadau fel Urdd Gobaith Cymru, a theuluoedd a chymunedau ledled Cymru am y croeso y maen nhw wedi'i ddarparu. Ond mae'r arddangosiad cyfunol a thrawiadol hwn o dosturi i ffoaduriaid Wcráin hefyd wedi datgelu llawer am natur a chyfyngiadau'r tosturi hwn. Rydym ni wedi gweld tensiynau a chwestiynau yn codi am y ffordd yr ydym ni'n trin rhai mathau o ffoaduriaid o'u cymharu ag eraill. Mae rhai yn cael eu gweld gan rai gwleidyddion a'r wasg yn fwy haeddiannol nag eraill.
Nod prosiect The Arithmetic of Compassion yw codi ymwybyddiaeth o sut mae hyn yn digwydd, a'i effaith ar ein penderfyniadau dyngarol. Mae ymchwilydd a chyd-grëwr y prosiect, seicolegydd o Brifysgol Oregon, Paul Slovic, wedi dangos po fwyaf y nifer o bobl sydd mewn angen, y llai tueddol rydym ni'n aml yn teimlo i'w helpu. Dywed Dr Slovic bod ein teimladau gryfaf pan fo un person mewn trallod. Nid yw dau berson mewn trallod yn ein poeni ddwywaith cymaint. Unwaith y byddwn yn cyrraedd y degau o filoedd, dim ond rhifau ydyn nhw. Mae ymchwilwyr fel Dr Slovic yn dweud bod angen i ni ddeall yr ymateb hwn sef bod ein tosturi tuag at nifer fawr o bobl mewn trafferth yn crebachu pan fyddwn yn dechrau teimlo wedi ein llethu, er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen ein tosturi a'n cefnogaeth yn derbyn ein tosturi a'n cefnogaeth.
Mae rhethreg yr Aelodau Ceidwadol yma yng Nghymru ac yn San Steffan wedi tanio yn hytrach na cheisio mynd i'r afael â'r ymateb emosiynol hwn—yn gywilyddus, ac ar gyfer dibenion gwleidyddol sinigaidd. Nid yw polisïau creulon Llywodraeth y DU yn erbyn ffoaduriaid yn dangos unrhyw dosturi, o gartrefu ffoaduriaid mewn cychod camlas ar ffurf carchar a gwersylloedd milwrol segur, i orfodi ceiswyr lloches i rannu ystafelloedd gwestai cyfyng, neu eu halltudio yn y pen draw i Rwanda—does dim pen-draw i'r anhosturi hyn. Mae'r cynlluniau diweddar a gyhoeddwyd, heb ymgynghori, i gartrefu 200 o geiswyr lloches mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli yn enghraifft o bolisi nad yw'n cael ei arwain gan dosturi, ond gan ddull annynol o ymdrin â sefyllfaoedd pobl eraill. Dim empathi, dim dealltwriaeth, dim cefnogaeth.
Mae Plaid Cymru yn rhannu'r nod i Gymru ddod yn genedl noddfa, ac rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i leddfu profiad ymfudwyr a phobl sy'n ceisio lloches. Bu sir Gaerfyrddin yn awdurdod croesawgar erioed, ac mae hyn wedi'i ddangos yn eu cefnogaeth i lawer o raglenni adsefydlu, gan gynnwys, fel y sonioch chi, Syria, Afghanistan, Wcráin a nawr ceiswyr lloches cyffredinol. Fodd bynnag, fel y mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud, nid yw gosod ffoaduriaid mewn gwestai yn ddewis addas. Eu hanghenion nhw sy'n gorfod bod yn ganolog i'r cwestiwn yma, ac mae Plaid Cymru yn condemnio tanseilio eu gallu i deimlo bod croeso iddyn nhw a gallu chwarae rhan lawn yn y gymuned drwy ddefnyddio mesurau fel y rhain.
Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymgysylltu'n ddigonol ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ac anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda chynlluniau fel y rhain, a'i bod yn gwbl ddidostur? A pha sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU ynghylch llesiant ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y mathau hyn o gynlluniau? A fyddai nifer o safleoedd yn y gymuned sydd â ffyrdd o gael mynediad at wasanaethau allweddol yn ffordd fwy effeithiol o ddarparu ar gyfer y rhai yr ydym ni'n ceisio eu helpu a'r rhai sy'n ceisio eu helpu? Ac a oes lle i Lywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio dod o hyd i ateb sy'n berthnasol i Gymru gyfan lle gallwn ni ddatblygu model mwy gwasgaredig o gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid?
Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r angen i ddatganoli mewnfudo, fel y gall Cymru lynu at ei nod o fod yn genedl noddfa? Nid oes unrhyw faint o adnewyddu ein cynllun cenedl noddfa tra rydym ni ynghlwm wrth Lywodraethau San Steffan o bob lliw yn mynd i gyflawni hynny. Byddant wastad yn aberthu tosturi ar allor cynnydd etholiadol.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Fel y dywedwch chi, mae Cymru yn genedl noddfa. Diolch am ein goleuo gyda'r ymchwil honno gan Brifysgol Oregon. Rwy'n edrych ymlaen at edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni ddysgu o'r dystiolaeth o sut y gallwn ni fod yn genedl noddfa wirioneddol, hyd yn oed gyda therfynau ein pwerau, ond byddwn yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb y tu hwnt i'n pwerau. Rydym ni'n gwybod hynny. Mae arnom ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu'r croeso cynnes hwnnw yn y tymor byr, a sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu cyfoethogi gan sgiliau a phrofiad yn y dyfodol agos iawn. Bu'r croeso hwnnw yn rhyfeddol yng Nghymru yn ystod y ddegawd neu ddwy ddiwethaf. Rwyf hefyd wedi sôn am y croeso i'n ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin wrth iddyn nhw gyfoethogi cymunedau, cartrefi, ysgolion, yr holl sectorau. Onid yw'n bwysig? Mae hyn yn rhywbeth y mae arnaf mewn difrif eisiau ei gymeradwyo heddiw.
Mae gan elusen City of Sanctuary UK, y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymosod arni mewn gwirionedd, ysgolion, prifysgolion, colegau, trefi, cymunedau ledled Cymru yn ymuno â hi, a hefyd, yn Lloegr, cynghorau Ceidwadol hefyd, a'r rhwydwaith awdurdodau lleol. Rwy'n condemnio'r ymosodiad hwnnw, oherwydd mae hynny'n ysgogi camddealltwriaeth am y siarter. Unwaith eto, rwy'n tynnu sylw ato yn fy natganiad, oherwydd ein bod yn cymeradwyo hyn—mae hon yn elusen sy'n gweithio mor galed—oherwydd ei bod ni mewn gwirionedd yn galluogi pobl i ddeall cryfder mawr bod yn genedl noddfa ar bob lefel. Rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yn ymuno â mi i groesawu'r ysgolion hyn. Mae ysgol Santes Fair y Wyryf i lawr y ffordd, ysgol yr Eglwys yng Nghymru, sy'n ysgol aml-ffydd, integredig iawn, wedi cael wythnos gyfan o ddigwyddiadau, ac mae ar garreg ein drws, a bydd rhai ohonyn nhw'n dod. Maen nhw'n dathlu'r ffaith mewn difri bod ganddyn nhw wobr ysgol noddfa, ac fe ddylem ni fod yn eu dathlu nhw yma heddiw, fel rwy'n siŵr y byddwn ni.
Ond dim ond eisiau dweud ydw i, o ran eich sylw, mae hyn yn ymwneud â'r ffaith ein bod yn cael ein dal yn ôl gan Lywodraeth y DU, gan y Swyddfa Gartref, yn enwedig o ran sut rydym ni'n cefnogi ceiswyr lloches sy'n aros mewn gwestai wrth gefn yng Nghymru. Maen nhw wedi cyrraedd naill ai'n uniongyrchol, neu byddant yn cyrraedd, o ganolfan brosesu Manston neu westy wrth gefn arall yn Llundain. Nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw gymorth ffurfiol o dan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Rhoddir prydau iddyn nhw. Rhoddir wyth punt yr wythnos iddyn nhw i gefnogi cyflenwadau sylfaenol, ac mae'r taliad hwnnw wedi parhau, ond nid pawb sy'n cael y cyllid hwnnw. Mae'r Groes Goch Brydeinig, Cyngor Ffoaduriaid Cymru—rydym ni'n cefnogi'r ddau sefydliad hynny, rydym ni'n eu hariannu—wedi bod yn eu helpu.
Dyma lle mae eich ymateb a'ch cwestiynau i mi mor bwysig o ran y cyfrifoldeb sydd gennym ni. Rydym yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau hynny gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau y gallwn ni wneud ein gorau o ran yr amgylchiadau hyn. Ond oni bai bod y Swyddfa Gartref yn gweithio'n adeiladol ac amlasiantaethol gyda'n hawdurdodau lleol, gyda'r byrddau iechyd, gyda'r heddlu hefyd, y trydydd sector—maen nhw i gyd yno yn aros, eisiau cymryd rhan er mwyn gwneud eu rhan—yna cawn y cynnydd hwn o densiwn a diffyg cydlyniant cymunedol.
Ond diolchaf ichi am y sylwadau hynny, am eich cefnogaeth i'r hyn rydym ni'n ei wneud, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon unwaith eto i gydnabod bod hyn yn fethiant ym mholisïau mewnfudo Llywodraeth y DU. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn ni o ran ein pwerau, ein cyfrifoldebau, ein cyllid, fel yr ydym ni wedi'i wneud, i bawb sy'n ceisio cymorth ac sy'n cael ei groesawu yma yng Nghymru.
Rwy'n cefnogi Cymru yn fawr fel cenedl noddfa, ac rwy'n falch o ddweud ei bod wedi cael ei chofleidio gan Gyngor Dinas Casnewydd, ysgolion lleol a chymunedau lleol. Mae Casnewydd yn amrywiol ac yn gartref i nifer sylweddol o geiswyr lloches a ffoaduriaid. Rwy'n siŵr, Gweinidog, y byddech yn cytuno â mi y dylem ni fod yn ddiolchgar i'r rhai sy'n rhoi cartref i bobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, er enghraifft y teulu yn Langstone yn fy etholaeth sy'n rhoi lloches i fenyw ifanc Wcreinaidd ac sy'n gadarnhaol iawn am y profiad. Yn ogystal â choleddu eu cyfeillgarwch â hi yn fawr, mae'r teulu'n gadarnhaol iawn am y profiad i'w merched eu hunain—fel maen nhw'n dweud, gan roi mwy o werthfawrogiad iddyn nhw o'r hyn sydd ganddyn nhw, gan wella eu sgiliau cymdeithasol, ar ôl dysgu rhannu eu cartref gyda rhywun arall y tu allan i'w teulu agos, gan ddysgu empathi a thosturi iddyn nhw, a sut gall hyd yn oed gweithred fach o garedigrwydd gael effaith sylweddol. Maen nhw mor falch eu bod nhw wedi gallu helpu'r fenyw ifanc Wcreinaidd hon, a byddant wastad yn ei hystyried yn rhan o'u teulu.
Diolch yn fawr, John Griffiths. Nid oes raid i mi ymateb yn fwy na dweud y bu eich datganiad yn rymus iawn. Rwy'n llongyfarch Casnewydd am fod yn ddinas noddfa, ac edrychaf ymlaen at ddod i ymweld ag ysgol ym Maendy yr wythnos nesaf.
Nos Wener, byddaf yn cyflwyno gwobrau i'r grŵp ffoaduriaid lleol a'r enillwyr yno o gystadleuaeth farddoniaeth a llenyddiaeth. Hoffwn ganmol a chanu clodydd Cyngor Sir Powys, yn ogystal â'r holl gynghorau eraill ledled Cymru, sydd wedi croesawu cymaint o ffoaduriaid ac sydd mewn gwirionedd wedi gwneud cymaint o ymdrech i'w cynnwys. Mae'r thema ynghylch trugaredd mor bwysig eleni, onid ydyw?
Hoffwn ddim ond crybwyll pobl ifanc y mae dadl am eu hoedran. Mae hwn yn grŵp y mae pobl yn bryderus iawn amdano ac nad ydyn nhw wedi eu cwmpasu mewn gwirionedd. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw am dros chwe blynedd. Ac fe hoffwn i yn fawr dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i ni gofio bod y Bil Mudo Anghyfreithlon presennol yn dweud mewn gwirionedd y gallai'r bobl ifanc hynny y mae anghydfod ynghylch eu oedran gael eu carcharu, sy'n cynnwys llawer o ddioddefwyr masnachu pobl. Dywedodd Robert Jenrick, ym mis Tachwedd 2022, fod ar 20 y cant o oedolion a gyrhaeddodd y DU eisiau honni eu bod yn blant, ac eto dangosodd data'r Swyddfa Gartref fis diwethaf mewn gwirionedd mai dim ond 1 y cant oedd y nifer— ffigurau cwbl anghywir, sydd mewn gwirionedd yn fflamio'r holl ddadl ac ymosodiadau ar ein ffoaduriaid a'n ceiswyr lloches. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi, Gweinidog, i ddweud pa mor bwysig yw hi fod gan bob un ohonom ni'r ffeithiau'n gywir ac ar flaenau ein bysedd a'n bod yn cefnogi'r bobl ifanc hynny, yn enwedig pobl ifanc y mae anghydfod ynghylch eu hoedran. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Credaf fod pob rhan o Bowys, ond cyngor Powys—. Rwy'n ymwybodol iawn o noddfa'r Gelli, Aberhonddu a Thalgarth i ffoaduriaid, o ran cydnabod y cynhesrwydd, y gefnogaeth a'r ymateb gwych a welwn ni ym mhob rhan o Gymru o ran y gwobrau hynny y byddwch chi'n eu rhoi yr wythnos nesaf.
Yr wythnos nesaf, byddwn yn cael dadl cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Rydych chi wedi gweld fy natganiad yn barod. Ni allwn ni gefnogi Bil y mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi'i ddisgrifio fel un sy'n gyfystyr â gwaharddiad lloches, a fyddai'n torri'r confensiwn ffoaduriaid. Yn wir, rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at Gyd-bwyllgor Hawliau Dynol y Senedd-dai, a gyhoeddodd eu hadroddiad yr wythnos diwethaf. Daethant i'r casgliad
'nad yw amryw ddarpariaethau'r Bil yn gydnaws â'r Confensiwn neu â nifer o rwymedigaethau cyfreithiol rhwymol eraill ar y DU.'
Nawr, mae hwn yn grŵp trawsbleidiol, ar draws Senedd San Steffan a Thŷ'r Arglwyddi, gydag aelodau Ceidwadol, gyda chadeirydd SNP, a gyda Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn cymryd rhan. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig am fy memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac mae ein swyddogion eisoes yn paratoi ar gyfer hynny, yw nad ydym ni'n cefnogi unrhyw leihad ar y swyddogaeth rôl arweiniol, swyddogaeth broffesiynol, ein gweithwyr cymdeithasol wrth asesu'r hyn sydd er budd gorau plant. Rydym ni wedi gofyn am wybodaeth am hyfforddi swyddogion mewnfudo o ran asesu oedran yn unol â gwasanaethau cymdeithasol Cymru ac, yn bwysicaf oll, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ni fu ymateb erioed, ac rydym yn bryderus iawn am y ffaith y gallai hyn leihau ein dyletswyddau cenedlaethol presennol yng Nghymru, gan ein bod yn gofalu am yr holl blant sy'n chwilio am loches ar eu pen eu hunain ac yn eu trin fel plant sy'n derbyn gofal. Mae'n unol â'n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, hefyd.
Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n amlwg yn ei drafod yr wythnos nesaf, a gwn fod hyn yn rhywbeth lle rydyn ni'n teimlo bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei difetha gan hyn yn ogystal â, yn amlwg, o ran diystyru Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r iaith yn bwysig iawn yma. Mae angen i ni siarad am bobl, nid ystadegau, felly pan fyddwn yn siarad am bobl sy'n ceisio lloches, cyfeirir atyn nhw yn aml fel 'ymfudwyr anghyfreithlon' a dyna lle mae angen i ni wahaniaethu. Felly, pan fo'r Torïaid yn cyflwyno Bil mewnfudo anghyfreithlon, maen nhw'n gwneud hynny'n union, maen nhw'n fwriadol yn creu rhaniadau yn y fan yna. Maen nhw'n cynyddu tensiynau ac yn creu amgylchedd gelyniaethus, yn troi pobl sydd wedi dioddef trallod yn fwch dihangol. Mae hynny wedyn yn tynnu sylw oddi ar eu methiannau eu hunain yn y maes hwn, sydd, mewn gwirionedd, i gynhyrchu modd o deithio'n ddiogel, i ymdrin â'r pentwr enfawr o hawliadau lloches.
Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod yn ymwybodol o'r sefyllfa yn Llanelli, a'ch bod chi wedi cwrdd ag arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ddoe ynglŷn â chynlluniau'r Swyddfa Gartref i osod 207 o bobl fregus mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty Parc y Strade, ac nid oes ganddyn nhw'r gefnogaeth briodol. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd yw bod staff yn poeni am eu swyddi, mae busnesau lleol yn poeni am sgil-effeithiau economaidd, a thrigolion am y diffyg cyllid. Maen nhw'n bryderon dilys y gellir mynd i'r afael â nhw gyda chyfathrebu priodol. Yr hyn nad yw'n gyfreithlon yw—
Joyce, mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Fe wnaf i—dychryn gan labystiaid adain dde eithafol yn lledaenu camwybodaeth a chasineb. Mae angen trugaredd. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog—rwy'n gwybod y buoch chi mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn—a ydych chi wedi cael rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU, neu a ydym ni i gyd i fod i aros nes eu bod yn ymateb inni?
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Diolch yn fawr iawn am y pwyntiau allweddol hynny, a byddwn yn trafod y Bil Mudo Anghyfreithlon. Rwyf wedi datgan yn hollol glir ein gwrthwynebiad i'r Bil Mudo Anghyfreithlon. Nid yn unig y mae'n mynd yn groes i Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig o ran y confensiwn hawliau dynol, nid yw'n cydymffurfio ag ef—roedd hyd yn oed yr Ysgrifennydd Cartref yn cydnabod na all hi ddweud bod y Bil yn cydymffurfio â'r confensiwn hawliau dynol—ond hefyd, mae'n anymarferol. Bydd yn parhau i adael llawer o bobl rhwng dwy stôl, bydd yn tanseilio blaenoriaethau eraill y Swyddfa Gartref i atal gweithio anghyfreithlon neu gaethwasiaeth fodern yn y DU.
Nawr, rwyf wedi nodi yn fy natganiad, unwaith eto, ar 31 Mawrth y ffordd ddiogel a chyfreithiol y gallwn ni fynd i'r afael â—a'r ffordd y dylai Llywodraeth y DU fod yn mynd i'r afael â—a chredaf ei bod hi hefyd yn bwysig i ni gofio fod hyn wedi'i wneud o'r blaen. Dylai'r Swyddfa Gartref ailystyried ei bod yn tynnu'n ôl o'r cynllun Dubs, er enghraifft. Rydych chi i gyd yn cofio'r cynllun Dubs. Roedd hwnnw'n llwybr diogel cyn i'r DU adael yr UE, a gallai Llywodraeth y DU ailgyflwyno cynllun fel cynllun Dubs, sy'n bwysig iawn o ran y cwestiynau sy'n cael eu gofyn am blant bregus ar eu pen eu hunain. Gallent ddod i'r Deyrnas Unedig yn ddiogel. Mae gennym ni gynllun cymwys i blant dan oed o Wcráin sy'n darparu model. Cafodd hynny ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, felly mae ganddyn nhw fodel nawr y gallen nhw ei ddefnyddio ar gyfer fersiwn fwy effeithiol o'r cynllun Dubs. Ond nifer y penderfyniadau gan y Swyddfa Gartref—yn 2021, o'r 50,000 cais a mwy, dim ond 1,400 a mwy o benderfyniadau cychwynnol a wnaed. Felly, nid yw'n syndod bod diffyg gwasgariad, llety a gwelyau ar gael. Ac eto, maen nhw'n llunio cynlluniau fel y cynllun o ran cynllun honedig Rwanda, sy'n anfoesol, rwy'n credu, fel mae Archesgob Caergaint wedi ei ddisgrifio, sydd mewn gwirionedd yn arwain y gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi yn erbyn y Bil Mudo Anghyfreithlon. Dyna'r math o arswyd moesol sydd wedi cael ei ddisgrifio am y Mesur Mudo Anghyfreithlon.
Ond byddaf yn dweud fy mod yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i weithio gyda'r awdurdodau sy'n ymwneud â'r amgylchiadau penodol hynny rydych chi ac Aelodau eraill wedi'u datgelu heddiw, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ymdrin â hyn yn briodol ac yn gyfrifol.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw, ac rwy'n adleisio sylwadau fy nghyd-Aelod Sioned Williams. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i rywun rydych chi'n ei adnabod yn dda iawn ac yr wyf innau'n ei adnabod yn dda iawn, ac rwy'n siarad, wrth gwrs, am ein cyfaill, y Parchedig Aled Edwards. Yn ddiweddar mae wedi ymddeol o'i swydd yn Cytûn ac fel aelod bwrdd a chyn gadeirydd Displaced People in Action, ac roeddwn i'n ddigon breintiedig i allu gweithio ochr yn ochr ag ef yn y ddwy swyddogaeth hynny.
Mae ei ymrwymiad, ei dosturi a'i ymroddiad i drafferthion ffoaduriaid a cheiswyr lloches dros y degawdau wedi bod yn anfesuradwy. Un o lwyddiannau allweddol ei gyfnod yn DPIA oedd datblygu'r cynllun ffoaduriaid sy'n feddygon, ac fe wnaethoch chi helpu datblygu'r cynllun hwnnw. Llwyddiant y prosiect fu cynorthwyo dros 200 o ffoaduriaid o Syria, Irac ac Affganistan oedd yn feddygon i weithio yn ein GIG.
Rwy'n siŵr yr hoffech chi ddweud 'diolch' twymgalon wrth Aled am ei waith caled, a tybed ai teyrnged addas i'r gwaith caled hwnnw a gwaith caled y DPIA fyddai datblygu'r cynllun gwobrwyo i gwmpasu ffoaduriaid a cheiswyr lloches proffesiynol eraill. Ers y tro diwethaf i mi siarad â chi am y pwnc hwn, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd a fu i ddatblygu'r cynllun ym meysydd deintyddiaeth, bydwreigiaeth ac ym maes nyrsio? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Peredur. A gaf i ymuno â chi i ganmol Aled Edwards? Y rhyfeddol Aled Edwards, a ddaeth, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd cyntaf, ataf a dweud, 'Allwn ni wneud rhywbeth—?' Roedd hyn bron i 25 mlynedd yn ôl: 'Allwn ni wneud rhywbeth o ran meddygon sy'n ffoaduriaid?' a llwyddodd i ddatblygu cynllun yn ymwneud ag addysg uwch, iaith, Cymdeithas Feddygol Prydain, y Cyngor Meddygol Cyffredinol—i gyd yn gysylltiedig. Felly, ledled Cymru yn y gwasanaeth iechyd, mae yna ffoaduriaid oedd yn feddygon sydd wedi dod drwy'r cynllun dyfarnu hwnnw.
Roedd yn gefnogwr mor gryf i ddatganoli. Roedd arno eisiau iddo weithio a defnyddio pa bwerau oedd gennym ni, ond trwy Displaced People in Action, mae wedi galluogi gweithwyr proffesiynol. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn berthnasol iawn i'n gwesteion o Syria, Affganistan ac Wcráin, a'r proffesiynau eraill. Felly, cysylltaf â chi gyda diweddariad ar y cynllun hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog.