– Senedd Cymru am 2:30 pm ar 13 Mehefin 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y rheolau ynghylch ceisiadau cynllunio ôl-weithredol, hysbysiadau gorfodi ac apeliadau, os gwelwch yn dda? Mae gennyf broblem yn fy etholaeth lle cafodd cais cynllunio ôl-weithredol ei wneud bedair blynedd yn ôl, ac er iddo gael ei wrthod ar dri achlysur gwahanol, mae apêl arall wedi'i chyflwyno, sy'n golygu na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan y flwyddyn nesaf. Nid oes modd goresgyn un o'r amodau y mae'r cais wedi'i wrthod arno. Felly, mae cymuned yn rhwystredig bod gwaith adeiladu wedi parhau, ac y caniatawyd i ail a thrydydd cais ôl-weithredol gael eu cyflwyno.
Yr hyn sydd hefyd wedi achosi rhwystredigaeth yw bod apêl wedi'i chyflwyno hefyd yn erbyn yr hysbysiad gorfodi. Siawns pan nad oes modd goresgyn amod cynllunio—nad oes modd ei oresgyn yn ffisegol—yna mae caniatáu i geisiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno am yr ail a'r trydydd tro, ac apeliadau, yn ymarfer costus, llafurus i awdurdodau cynllunio sydd eisoes dan bwysau. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad yn unol â hynny? Diolch, Llywydd.
Diolch. Mae'r Gweinidog yn adolygu'r rheoliadau ynghylch caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n ei ofyn yn benodol iawn, iawn ac mae'r Gweinidog yn ei lle ac wedi'ch clywed chi. Rwy'n credu y byddai'n well pe baech chi'n ysgrifennu ati'n uniongyrchol.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Y cyntaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am recriwtio a hyfforddi deintyddion, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i wella recriwtio dramor i'r proffesiwn. Rwyf i wedi cwrdd â llawer o ymarferwyr yn ystod y misoedd diwethaf, ac rwy'n gwybod bod gennym ni adroddiad gwerthfawr iawn gan y pwyllgor iechyd ynghylch deintyddion. Un o'r materion yw mai recriwtio dramor yw'r unig ymateb gwirioneddol yn y tymor byr. Felly, hoffwn i ddeall ble rydym arni o ran hynny, os gwelwch yn dda.
Ac, yn ail, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch deddfwriaeth diwygio bysiau a'r amserlen ynghylch hynny, os gwelwch yn dda. Ddydd Gwener, cwrddais â thrigolion y Borth, Ceredigion, i glywed am eu pryderon am ddirywiad gwasanaethau bysiau yn eu cymuned. Rydyn ni wedi cael datganiad ar y sefyllfa tymor byr, ond mae'n hen bryd cael deddfwriaeth, a byddwn i'n ddiolchgar, fel rwy'n siŵr y byddai eraill hefyd, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am gynnydd y cynigion deddfwriaethol hyn, a'r amserlenni hefyd ar gyfer y ddeddfwriaeth. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i ddenu graddedigion tramor ac, yn wir, deintyddion rhyngwladol i weithio yma yng Nghymru. Mae'r deintyddion hynny sydd â gradd gyntaf o'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn gymwys i gofrestru'n llawn gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar unwaith. Mae hynny'n caniatáu iddyn nhw wedyn i ymuno â rhestr perfformwyr y GIG, i weithio mewn practis deintyddol gofal sylfaenol. Os nad oes gan unigolyn y graddau hynny, os ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda sefydliad nad yw'n aelod o'r UE neu sefydliad nad yw'n rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yna mae'n rhaid iddyn nhw gwblhau'r arholiad cofrestru tramor. Yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yw sicrhau eu bod ar gael i'r deintyddion rhyngwladol hynny, ac rwy'n gwybod bod nifer y lleoedd i sefyll yr arholiad yr haf hwn wedi treblu fel rhan o adferiad yr arholiad yn dilyn pandemig COVID. Mae'r Gweinidog hefyd yn awyddus iawn, fel y dywedais i, i ddenu graddedigion rhyngwladol ar y rhaglen fisa haen 5 mewn ysbytai.
O ran eich ail gwestiwn ynghylch deddfwriaeth bysiau, byddwch chi'n ymwybodol bod y Prif Weinidog, bob blwyddyn, yn cyflwyno datganiad yn y Siambr, a'r llynedd, yn ei ddatganiad deddfwriaethol i'r Siambr, dywedodd y bydden ni'n cyflwyno Bil diwygio bysiau yn nhrydedd flwyddyn tymor y Senedd hon.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am fynediad at wasanaethau cyswllt toresgyrn yng Nghymru? Mae toriadau sy'n cael eu hachosi gan osteoporosis yn effeithio ar hanner y menywod dros 50 oed, ac un o bob pump o ddynion. O ran blynyddoedd sy'n cael eu colli i farwolaethau ac anabledd cynamserol, torri esgyrn yw'r pedwerydd cyflwr iechyd mwyaf dinistriol. Mae therapïau effeithiol yn bodoli, ond mae'r loteri cod post ar gyfer gwasanaethau cyswllt toresgyrn yn golygu bod miloedd o bobl sydd ei angen yn colli'r cyfle i gael triniaeth. Y canlyniad yw miloedd o doriadau asgwrn cefn a chrac trwch blewyn y byddai modd eu hatal sy'n newid bywydau i bobl ac sy'n gostus i'r GIG. Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig, yn nodi ei bod yn disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar gael i bawb erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Yr wythnos hon, bydd y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol yn lansio ymgyrch i ddod â'r loteri cod post i ben ar gyfer gwasanaethau cyswllt toresyrn ledled y DU. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi amlinellu'n glir iawn y mathau niferus o niwed a all gael eu hachosi gan dorasgwrn—nid y toriad ei hun yn unig, ond y materion sy'n newid bywyd sy'n gallu dilyn yn aml, yn enwedig toriadau cymhleth iawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i barhau i weithio, yn enwedig gyda'n trydydd sector, i fod yn rhagweithiol iawn i geisio sicrhau bod pobl yn osgoi cwympo yn y lle cyntaf, er enghraifft, fel nad oes angen iddyn nhw wedyn gael triniaeth yn yr ysbyty ac, fel y dywedwch chi, y therapïau ar ôl hynny. Gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig yn ôl ym mis Chwefror. Mae cryn dipyn o amser o hyd—tua 16 mis yn ôl pob tebyg—cyn y dyddiad cau a bennodd hi ar gyfer y byrddau iechyd, felly nid wyf i'n meddwl bod angen datganiad ar hyn o bryd. Ond rwy'n siŵr, os yw'r Gweinidog yn teimlo bod rhywbeth y gall hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei gylch, y bydd yn hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig.FootnoteLink
Rwy'n galw am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffeibrosis systig yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod yr wythnos hon yn nodi Wythnos Ffeibrosis Systig. Mae ffeibrosis systig yn gyflwr genetig cynyddol sy'n bennaf yn achosi i'r ysgyfaint a'r system dreulio gael eu tagu â mwcws, ac mae'n effeithio ar oddeutu 500 o bobl ledled Cymru. Yn ogystal ag effeithio arnyn nhw'n gorfforol ac yn feddyliol, mae hefyd yn effeithio arnyn nhw'n ariannol. Ac yn ôl adroddiad diweddar gan Brifysgol Bryste, mae'r gost ychwanegol o fyw gyda ffeibrosis systig dros £6,500 bob blwyddyn. Er bod yr oedran marwolaeth canolrifol presennol i rywun â ffibrosis systig yn drasig o ifanc, yn 38 oed yn unig, mae hyn yn golygu, yn ystod ei oes, y bydd yn wynebu tua £0.25 miliwn o gostau ychwanegol. Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei strategaeth i gyflymu'r gwaith o ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer ffeibrosis systig, ac i ymdrin â'r angen am gymorth ariannol i bobl sy'n byw gyda ffeibrosis systig.
Rwyf i hefyd yn galw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar y gofal a'r driniaeth sydd ar gael i oroeswyr polio yng Nghymru. Fel noddwr Cymrodoriaeth Polio Prydain, fe wnes i noddi a siarad yn y digwyddiad nos Fercher diwethaf yn y Senedd, gan lansio eu llwybr gofal clinigol gorau posibl ar gyfer pobl y mae polio yn effeithio arnyn nhw, a gafodd ei fynychu gan lawer o oroeswyr polio sy'n byw yng Nghymru, a bwysleisiodd pa mor bwysig yw'r llwybr iddyn nhw. Gwnaeth miloedd ddal y feirws polio pan oedden nhw'n blant, ac maen nhw'n parhau i ddioddef o'i ganlyniadau tymor hir. Mae'r llwybr yn llwybr sydd wedi'i argymell i gleifion drwy'r system gofal iechyd, a fydd yn sicrhau bod goroeswyr polio yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir, ac mae angen iddo gael ei fabwysiadu gan y GIG, byrddau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru. Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, yn manylu ar sut y bydd hi'n ymgysylltu â Chymrodoriaeth Polio Prydain ynghylch gweithredu'r llwybr, a'r angen i leihau'r amrywiaeth mewn gofal i oroeswyr polio sy'n byw yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'n dda gweld—. Gallaf i weld eich bod chi'n gwisgo'ch bathodyn yn cydnabod yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'i gwneud ei disgwyliadau ynghylch hynny'n glir iawn i fyrddau iechyd, ac, yn amlwg, mae cyffuriau newydd sy'n cael eu cyflwyno i helpu gyda'r clefyd dinistriol hwn yn cael eu hystyried fesul achos.
O ran goroeswyr polio, fel y dywedwch chi, mae llawer o oroeswyr polio yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid wyf yn ymwybodol o broses y llwybr, ond yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod i'r Aelodau os oes unrhyw beth penodol yn cael ei wneud o ran hynny.
Diolch i'r Trefnydd.