1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 13 Mehefin 2023.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddynodi ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy fel parc cenedlaethol? OQ59644
Mae cyflawni'r ymrwymiad i ddynodi parc cenedlaethol newydd yn parhau ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn ystod tymor y Senedd hon. Gyda thîm prosiect wedi'i sefydlu a'r dadansoddiad cychwynnol wedi'i gwblhau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi symud ymlaen erbyn hyn i gasglu'r dystiolaeth fanwl sydd ei hangen, ac ymgysylltu â phreswylwyr, defnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol y parc cenedlaethol newydd hwnnw.
Rwy'n croesawu'r cynnydd, Prif Weinidog; mae hynny'n dda iawn i'w glywed. Un pryder cyffredin yw rheoli twristiaeth fel ei bod yn gynaliadwy, ac rwy'n credu bod yr ardal o harddwch naturiol eithriadol eisoes yn dda iawn am wneud hyn. Un fenter sydd ganddyn nhw yw'r bws camu 'mlaen a chamu ffwrdd sy'n teithio o gwmpas dyffryn Dyfrdwy. Mae'n llwybr cylchol sy'n rhedeg bob dydd Sadwrn rhwng 1 Ebrill a 4 Tachwedd, gan gysylltu Llangollen a'r pentrefi cyfagos â chyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn yr ardal leol, gan gynnwys traphont ddŵr Pontcysyllte, gwarchodfa natur Wenffrwd, Rhaeadr yr Oernant, abaty Glyn y Groes, tŷ hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant. Prif Weinidog, a wnaiff Trafnidiaeth Cymru hyrwyddo'r fenter hon ynghyd ag ymgyrch gyffredinol i gael mwy o bobl ar drafnidiaeth bysiau cyhoeddus? Mae'n dda iawn defnyddio'r bws hwn i ymweld ag atyniadau lleol, yn hytrach na mynd â'r car. Ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch pryd yr ydych chi'n disgwyl i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r ailddynodi gael ei gynnal gyda'r bobl leol leol sy'n byw yn yr ardal? Diolch.
Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am y cwestiynau hynny. Ar ei phwynt olaf, mae'r broses o ennill dynodiad parc cenedlaethol yn un sylweddol, ac mae cyfres o rwymedigaethau cyfreithiol y mae'n rhaid eu cyflawni ar hyd y llwybr. Daw pwynt yn y broses lle bydd ymgynghoriad ffurfiol. Rydyn ni'n disgwyl i hynny ddigwydd yn 2024, a'r hyn a fydd yn digwydd cyn hynny fydd yr ymarfer ymgysylltu y cyfeiriais i ato yn fy ateb gwreiddiol.
O ran y bws camu 'mlaen a chamu ffwrdd sy'n ymweld ag atyniadau twristiaeth, un o bleserau cwestiynau'r Prif Weinidog yw dod yn fwy cyfarwydd â rhannau o ogledd Cymru wrth i ni ddilyn yr Aelod ar ei theithiau bws o'i chwmpas, felly rwy'n ddiolchgar iddi am hynny. Rwy'n siŵr bod y bws ym Mryniau Clwyd, ardal Dyffryn Dyfrdwy, yn chwarae rhan bwysig iawn wrth leihau tagfeydd a chynyddu mynediad a, Llywydd, mae tystiolaeth dda iawn i'w defnyddio i wella'r gwasanaethau hynny yn y parc cenedlaethol newydd, oherwydd bod Sherpa'r Wyddfa, sy'n wasanaeth newydd yr wyf wedi sôn amdano yma o'r blaen wrth ateb cwestiynau gan Siân Gwenllian, wedi bod â gwasanaeth tebyg ym mharc cenedlaethol Eryri ers 2021. Yn 2021, cafodd y gwasanaeth hwnnw ei ddefnyddio gan 267,000 o deithwyr, a thyfodd i 380,000 o deithwyr mewn un flwyddyn, yn y flwyddyn 2022. Felly, rydyn ni'n disgwyl twf arall yn y gwasanaeth hwnnw ac rwy'n credu ei fod yn dangos y llwyddiant y mae modd ei gael o ddarparu trafnidiaeth bws sy'n canolbwyntio ar y manteision penodol a ddaw yn sgil bod yn barc cenedlaethol, a sicrhau bod ymwelwyr yn gallu defnyddio'r rhannau hardd hynny o Gymru mewn ffordd sy'n gyfleus iddyn nhw, ond sy'n gynaliadwy i'r rhai sy'n byw yn yr ardal honno hefyd.
Cwestiwn 10 yn olaf. Jack Sargeant.