1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 13 Mehefin 2023.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru? OQ59669
Llywydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cynnydd da o ran trydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd. Mae'n anochel bod y gwaith uwchraddio yn achosi rhywfaint o darfu i deithwyr, ond mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn cwblhau'r gwaith o drawsnewid y rhwydwaith ac i gyflawni'r newid cenedliadol i wasanaethau y bydd yn ei sicrhau.
Prif Weinidog, mae'n wych nodi'r cynnydd o ran trydaneiddio. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod y gwelliant hwn yn cynyddu'r risgiau i'r rhai sy'n tresmasu ar y rheilffordd yn sylweddol, gan gynnwys yng Nghwmbach yn fy etholaeth i, lle ceir croesfan i gerddwyr ac un o'r cyfraddau tresmasu uchaf a gofnodwyd yng Nghymru. Gyda bron i 1,000 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thresmasu ar linell graidd y Cymoedd yn unig yn 2022, a chydag offer llinell uwchben yn cyflenwi 100 gwaith y trydan a gyflenwir i gartref arferol, mae canlyniadau tresmasu bellach yn hynod ddifrifol. Mae ymgyrch 'dim ail gyfle' Trafnidiaeth Cymru yn ymyrraeth ddefnyddiol iawn, gan dynnu sylw at y perygl o farwolaethau. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog Aelodau yn y Siambr hon a'n cymunedau yn ehangach i helpu i ledaenu'r neges hanfodol bwysig hon?
Wel, yn sicr, Llywydd, byddwn i'n hapus iawn i wneud hynny. Mae'r ymgyrch 'dim ail gyfle' yn ymgyrch drawiadol i unrhyw un ohonoch chi sydd wedi gweld y deunydd y mae'n ei ddefnyddio, ond mae angen iddo fod hefyd, oherwydd mae'r llinellau uwchben sydd nawr yn fyw yn peri risg wirioneddol a difrifol i unrhyw un sy'n tresmasu ar y rhwydwaith. Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru, fel rhan o'r datblygiad, yn mynd ati i wella diogelwch. Maen nhw'n cynyddu diogelwch o gwmpas y rhwydwaith, gyda ffensys ychwanegol, estyniadau i rwystrau diogelwch ar bontydd ac yn y blaen, ond nid y bobl sy'n dilyn y rheolau y mae angen i ni boeni amdanyn nhw fan hyn; y bobl hynny sydd, yn y gorffennol, wedi cymryd rhan mewn tresmasu neu weithiau mewn fandaliaeth hefyd, oherwydd mae'r risgiau iddyn nhw o'r datblygiadau hyn yn real iawn.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i fod yn gwneud gwaith yng Nghanolfan Dewi Sant yng Nghaerdydd i gyfleu'r newidiadau sydd wedi digwydd ac i drosglwyddo negeseuon yr ymgyrch. Ac yn ystod y 18 mis nesaf, byddan nhw'n ymweld â dros 200 o ysgolion yng Nghaerdydd ac yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i ofyn i Trafnidiaeth Cymru roi manylion y rhaglen honno i bob Aelod, ac i nodi unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn unigol, yn yr ardaloedd yr ydym ni'n eu cynrychioli, i atgyfnerthu'r neges honno bod pethau wedi newid gyda thrydaneiddio llinellau'r Cymoedd. Mae pethau wedi newid yn fawr er gwell, ond mae risgiau'n gysylltiedig hefyd, ac mae gan bobl ifanc, ac unrhyw un arall nad yw'n ymwybodol o hynny, hawl i wybod am y newidiadau hynny i sicrhau nad ydyn nhw'n gwneud pethau sy'n rhoi eu hunain mewn perygl sylweddol iawn.
Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, gwnes i a fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ymweld â'n cymheiriaid yng Nghaeredin i weld yn uniongyrchol lwyddiant eu system trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n cynnwys cymysgedd o drenau, bysiau a thramiau rheolaidd. Yn wir, mae llinell tramiau yn rhedeg yn uniongyrchol i'w maes awyr rhyngwladol ac oddi yno, gan gludo twristiaid i galon eu prifddinas. Rwy'n ddiolchgar am gwestiwn fy nghyd-Aelod ynghylch trydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y de, ond ar hyn o bryd mae'n cymryd unrhyw beth o 50 munud i awr a hanner i gyrraedd Maes Awyr Caerdydd o ganol y ddinas. Mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd â Maes Awyr Caerdydd. Diolch.
Wel, Llywydd, ni fydd cysylltiadau â Maes Awyr Caerdydd yn dibynnu ar drydaneiddio llinellau Cymoedd y de, a oedd yn destun y cwestiwn hwn.
Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yng Nghaeredin dros hanner tymor, ac rwy'n cytuno â'r Aelod bod y llinell tramiau sy'n cysylltu'r maes awyr â chanol y ddinas wir yn ddarn effeithiol iawn o drafnidiaeth gyhoeddus. Fel y bydd yr Aelodau yma yn cofio, yr oedd flynyddoedd lawer a miliynau lawer o bunnoedd yn hwyr a thros y gyllideb erbyn iddi ddigwydd. Mae trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i Faes Awyr Caerdydd, Llywydd; nid ydyn nhw'n dibynnu ar drydaneiddio rheilffordd de Cymru.
Mae cwestiwn 6 [OQ59658] a 7 [OQ59670] wedi'u tynnu nôl. Cwestiwn 8, Gareth Davies.