– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 9 Mai 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. A dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cynllun darparu ar gyfer 'Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio'. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru, yn enwedig o ran gwaith cynnal a chadw asedau cefnffyrdd heb ei drefnu? Felly mae dwy bont yn ardal Abergele yn fy etholaeth i, sy'n croesi'r A55. Ar hyn o bryd mae gan y ddwy ohonyn nhw reoliadau traffig dros dro yn eu lle, ac mae ganddyn nhw oleuadau traffig ar waith. Mae un set wedi bod yno ers 13 o flynyddoedd, sy'n cyfyngu'r defnydd o'r bont honno i un lôn ar y tro yn unig, ac mae'r llall wedi bod yno ers tro hefyd. Yn ystod y mesurau dros dro hynny sydd ar waith, mae dros £230,000 o arian trethdalwyr wedi'i wario. Rwy'n gwerthfawrogi bod angen gwneud gwaith ar y pontydd hynny er mwyn eu gwneud yn ddiogel i gerbydau modur basio, ond hoffwn i weld y gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn gyflym, oherwydd yr anghyfleustra y mae modurwyr yn ei wynebu yn fy etholaeth i o ganlyniad i'r ddwy broblem hyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar sut mae gwaith cynnal a chadw heb ei drefnu yn cael sylw yn y rhwydwaith cefnffyrdd, er mwyn i ni allu symud hyn ymlaen, oherwydd nid wyf yn credu y bydd trethdalwyr yn gwerthfawrogi bod tua £250,000 yn fuddsoddiad da iawn, o ystyried mai dim ond mesurau dros dro yw'r rhain hyd yma?
Diolch. Wel, fy nealltwriaeth i yw bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ateb hyn mewn cwestiwn ysgrifenedig. Nid wyf i'n siŵr os chi oedd dan sylw, ond gwnaf i'n siŵr bod gennych chi'r wybodaeth honno.
Trefnydd yn ddiweddar mae Rishi Sunak wedi dweud nad dyma'r amser i gael mwy o ddatganoli. Hoffwn i ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymateb i hynny, oherwydd mae'n debyg nad dyma'r amser, pan fo argyfwng ynni yn ein traflyncu, a gallai Cymru gael mwy o bwerau dros adnoddau naturiol ac Ystad y Goron; pan fo biliynau yn cael eu gwrthod i Gymru drwy'r iawndal y dylem ni fod yn ei gael oherwydd HS2 a Northern Powerhouse Rail, sy'n cael eu galw'n sarhaus yn brosiectau 'Cymru a Lloegr'; pan allai ein dŵr gael ei ddargyfeirio i Loegr unwaith eto, oherwydd mae'n rhatach gwneud hynny na thrwsio pibellau sy'n gollwng. Mae'n debyg nad nawr yw'r amser i roi mwy o bwerau i Gymru, oherwydd ei fod e'n credu bod San Steffan yn gwneud yn iawn gyda nhw.
Felly, a all y Llywodraeth wneud datganiad, os gwelwch yn dda, wrth ymateb i'r haerllugrwydd hwn y gwnaeth Rishi Sunak ei ddangos, sydd, fel pob Tori yn San Steffan, yn ymddangos mor daer i fygu potensial Cymru, a'n twf anochel ni fel cenedl? Oherwydd fel mae'r hen air yn ei ddweud, 'Ni fu erioed un genedl eto a wnaeth reoli un arall yn dda.'
Diolch. Nid ydw i'n credu y byddwn ni'n gwneud datganiad llafar mewn ymateb i rywbeth y mae Prif Weinidog y DU wedi'i ddweud, ond yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig iawn yw bod Gweinidogion yn parhau i gael sgyrsiau gyda gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Felly, er enghraifft, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cael trafodaethau ynghylch Ystad y Goron, ac a fyddai datganoli yn gysylltiedig â hynny, yn ogystal ag agweddau eraill, yn amlwg. A gobeithio, ar ôl yr etholiad cyffredinol, y bydd gennym ni Lywodraeth Lafur yn Rhif 10 y gallwn ni weithio gyda hi ynghylch mwy o ddatganoli.
Gweinidog, heddiw yw Diwrnod Ewrop, pryd yr ydym ni'n gallu nodi pen-blwydd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a threchu Natsïaeth yn 78 oed. Mae'n ddiwrnod pryd y gallwn ni gofio'r aberth y mae pobl wedi'u gwneud i ddod ag eraill at ei gilydd, ac, wrth gwrs, y prosiect heddwch mwyaf mewn hanes ac yn y byd yw'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n gwybod y manteision y mae Cymru wedi'u cronni o'r Undeb Ewropeaidd. Gweinidog, a gawn ni sicrhau bod dadl yn cael ei chynnal yma bob blwyddyn ar Ddiwrnod Ewrop i nodi Diwrnod Ewrop ac i sicrhau ein bod ni'n parhau i ddatblygu ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd?
Ac a fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi gwybodaeth yn rheolaidd i ddangos trychineb Brexit a'r niwed sy'n cael ei wneud i bobl Cymru, cymuned Cymru, cyllid Cymru, economi Cymru a chyfleoedd pobl Cymru, i sicrhau bod pobl ar draws Cymru gyfan yn gwybod am y celwyddau a gafodd eu dweud wrthyn nhw rai blynyddoedd yn ôl a'u bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth y gallan nhw ddibynnu arni er mwyn gwneud penderfyniadau am ein dyfodol pan fo angen? Felly, mae'n bwysig cael dadl i nodi Diwrnod Ewrop a sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y niwed mae Brexit yn ei wneud i'r wlad hon.
Diolch. Wel, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, yn wir, heddiw yw Diwrnod Ewrop, felly nid ydw i'n credu ein bod ni'n gallu cael datganiad gan y Llywodraeth heddiw, ond yn sicr, rwy'n derbyn eich pwynt chi am gyhoeddi gwybodaeth am y drychineb sef yr hyn yw Brexit i'n gwlad ni. Rydyn ni'n ei weld mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Fel y dywedwch chi, caiff ei gynnal bob blwyddyn, ac mae'n dathlu heddwch ac undod yn Ewrop. A'r trydariad cyntaf a welais i'r bore 'ma, pan edrychais i ar Twitter, oedd o'r Arlywydd Macron yn dathlu Diwrnod Ewrop. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cofio, ac mae'n bwysig iawn hefyd dangos yr ymrwymiad sydd gan Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag Ewrop drwy lawer o sefydliadau Ewropeaidd, drwy ein rhwydweithiau a drwy berthnasoedd cenedlaethol a rhanbarthol â blaenoriaeth. Rwy'n credu ei fod yn gyfle da hefyd—ac yn wir fe wnaethoch chi hynny yn eich cwestiwn heddiw i'r Prif Weinidog—i ddweud ein bod ni'n parhau i sefyll i gefnogi pobl Wcráin sy'n gwrthsefyll yn ddewr yr ymosodiad ar eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'r hawl i hunanbenderfyniaeth.
Mi hoffwn i gael datganiad ar lafar neu yn ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth i egluro'n union yr amgylchiadau ynglŷn ag argymhellion gafodd eu gwneud dros 30 mlynedd yn ôl i ailosod yr hangers sydd yn dal ffordd pont Menai—pont y Borth—yn eu lle. Rydyn ni'n gwybod bellach fod yna 40 hanger newydd wedi cael eu gosod yn 1991, a bod adroddiad peirianwyr y llynedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod argymhelliad wedi ei wneud bryd hynny, yn 1991, i newid yr hangers i gyd dros amser. Dwi eisiau gwybod beth ddigwyddodd i'r argymhelliad hwnnw. Pam na weithredwyd ar hynny? Achos, pe bai hynny wedi digwydd, fyddem ni ddim wedi wynebu'r sefyllfa lle gafodd y bont ei chau yn ddirybudd ym mis Hydref y llynedd.
Mi wnaf ddefnyddio'r cyfle yma i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n dal angen cryfhau gwytnwch croesiad y Fenai. Mi gaewyd pont Brittania oherwydd damwain yr wythnos diwethaf. Beth welson ni yn croesi pont Menai oedd lorïau hyd at 40 tunnell a ninnau efo uchafswm pwysau o 7.5 tunnell. Mae'n rhaid symud ymlaen i roi cynllun mewn lle i ddeuoli ffordd y Brittania i sicrhau'r gwytnwch hwnnw, ond tra rydyn ni'n parhau i wneud yr achos hwnnw, mae'n rhaid cael atebion am pam ein bod ni wedi wynebu'r sefyllfa argyfyngus yma efo pont y Borth.
Diolch. Wel, roedd yr adroddiad cychwynnol y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn argymell y dylai'r hongwyr gael eu harchwilio, yn hytrach na'u newid yn awtomatig, ac roedd hynny fel rhan o raglen archwilio dreigl. Ac mae'r archwiliadau hynny wedi eu cynnal, ac yna cafodd 40 o'r hongwyr eu newid, fel y cyfeirioch chi atyn nhw, ac nid oedd yr archwiliadau yn argymell newid rhagor o hongwyr ar bont grog Menai. O ran y gwaith presennol, mae peirianwyr wedi cwblhau'r ymchwiliad cychwynnol i brofi'r hongwyr newydd i helpu i lywio cam nesaf y gwaith, ac, wrth gwrs, mae angen archwiliadau rheolaidd o'r gwaith dros dro, tra bod y gwaith newid hongwyr yn cael ei gynllunio. Cafodd yr archwiliad diweddaraf ei gynnal ar 26-28 Ebrill, ac er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel yn amlwg roedd yn rhaid cau lôn, ond mae'n bwysig bod yr archwiliadau hynny'n digwydd. Rwy'n deall y bydd archwiliadau eraill bob chwe wythnos i wirio'r gwaith dros dro.
Hoffwn ofyn am gyfle i'r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau ar lawr y Siambr hon mewn cysylltiad â'r goblygiadau i Gymru o gamddefnyddio neu hyd yn oed gam-drin y Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 newydd a dadleuol. Mae'r Heddlu Metropolitanaidd heddiw wedi mynegi gofid dros arestio chwe unigolyn yn Llundain dros y penwythnos, wedi i adolygiad ganfod nad oedd tystiolaeth bod y bobl dan sylw yn bwriadu defnyddio dyfeisiau clo ar hyd llwybr gorymdaith y coroni. Mae cyn-brif swyddog Heddlu Manceinion Fwyaf, Syr Peter Fahy, wedi dweud bod swyddogion yr heddlu wedi cael eu rhoi yn y sefyllfa anodd o orfod dehongli deddf a basiwyd ar frys, ychydig ddyddiau'n unig cyn y coroni. Ac mae'r AS Ceidwadol a'r cyn-Weinidog Cabinet David Davis wedi disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un 'rhy eang' a 'rhy amrwd'. Eto i gyd, mae'r Ysgrifennydd Cartref yn cefnogi'r darn o gyfraith amrwd, brys, gorgyrhaeddol, gormesol, a dyfynnaf y Prif Weinidog Rishi Sunak, sy'n mynnu mai'r gyfraith yw 'y peth iawn i'w wneud', dyfynnaf.
Mae'n anodd iawn gwrthsefyll ymyrraeth wleidyddol mewn plismona o dan y gyfraith ddidostur hon, pan wnaeth dirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol, Lee Anderson, geryddu comisiynydd yr Heddlu Metropolitanaidd yn gyhoeddus ymlaen llaw, gan ddweud,
'Ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i chi adael y tŵr ifori a mynd allan i Whitehall a rhoi trefn ar y bobl hyn?'
Mae'n iasol: 'rhoi trefn ar y bobl hyn'. Gweinidog, bydd gan nifer ohonom atgofion hir am gam-drin pŵer gwladol gan ddefnyddio'r heddlu fel estyniad o ddictad y Llywodraeth mewn gwrthdaro diwydiannol blaenorol o fewn cof.
Ar 27 Ebrill, galwodd Volker Türk, Uwch-gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r Bil Trefn Gyhoeddus hynod ofidus hwn. Y penwythnos hwn, cafodd 64 o bobl eu harestio yn Lloegr o dan y ddeddfwriaeth hon. Felly, a allem ddod o hyd i amser am gyfle, drwoch chi eich hun neu'r Pwyllgor Busnes neu'r Llywydd, i gwestiynu'r Cwnsler Cyffredinol ar oblygiadau i Gymru, fel na fydd, o leiaf hyd yn oed os nad yw'r gyfraith hollbresennol hon yn cael ei gwrthdroi gan Lywodraeth Geidwadol y DU, yn cael ei chamddefnyddio na'i cham-drin yma yng Nghymru a byddwn yn sicrhau bod ein prif gwnstabliaid, ein comisiynwyr yr heddlu yma yng Nghymru yn dehongli'r gyfraith wael hon mewn ffordd fel bod yr hawl sylfaenol i brotestio—rhan hanfodol o'n democratiaeth—yn cael ei hamddiffyn yn gadarn yma yng Nghymru, hyd yn oed os caiff ei thanseilio a’i dymchwel yn Lloegr?
Diolch. Ac mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom yn hynod bryderus o glywed am arestio protestwyr heddychlon, i bob golwg, yn Llundain cyn coroni'r Brenin dros y penwythnos. Fel y gwnaethoch yn glir iawn, mae gorfodaeth a phlismona yn faterion a gedwir yn ôl, ac mae'r heddlu'n gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth. Ond, yn amlwg, egwyddor ganolog o'n democratiaeth yw'r hawl i brotestio'n heddychlon. Gwelais Brif Weinidog y DU yn cael ei gyfweld neithiwr ar y newyddion, ac roeddwn i'n meddwl mai'r hyn yr oedd yn ei ddweud amdano oedd bod hwn yn fater gweithredol. Ar hyn o bryd, nid yw'n glir a yw'r broblem gyda'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus—fel y dywedwch, a ddaeth i rym yn ddiweddar—neu a yw'r broblem yn fwy gweithredol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall amgylchiadau llawn yr achos, i sicrhau, os oes unrhyw broblemau gyda'r ddeddfwriaeth, eu bod yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael eu hunioni. Ni chawsom unrhyw arestiadau dros benwythnos gŵyl y banc yma yng Nghymru, sy'n galonogol iawn, ac rwy'n meddwl y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn hapus i wneud datganiad llafar i'r Siambr hon.
Diolch i'r Trefnydd.