2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am ar 29 Mawrth 2023.
2. A fydd argymhellion terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn dylanwadu ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i gynigion ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol? OQ59332
Diolch am y cwestiwn. Y gwir amdani yw wrth gwrs y bydd o—o, mae'n ddrwg gennyf. Credaf fod gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn, ac fe fydd, yn gyfraniad hanfodol i'r trafodaethau sydd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae wedi fy nharo i ers tro fod rhai o'r cynigion mwyaf arloesol ar gyfer diwygiadau angenrheidiol i'r undeb yn dod o Gymru, yn hytrach nag o San Steffan a Whitehall ei hun. Ond boed hynny fel y bo, a fyddai'n cytuno â mi, os cyflwynir diwygiadau sy'n ceisio perthynas wahanol a pherthynas sy'n fwy modern rhwng gwledydd a rhanbarthau'r DU, y dylai pawb, nid yn unig y rhai ohonom yma yng Nghymru ond pawb yn San Steffan a mannau eraill ledled Lloegr, fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â chynigion o'r fath a allai gyflwyno undeb diwygiedig a chryfach mewn gwirionedd? Mae gan bob un ohonom farn wahanol yn y Siambr hon, ond mae'n sicr fod hynny'n hanfodol i unrhyw un sy'n credu nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.
Diolch. Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mae'n debyg mai'r peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw, tra bo'r drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi datblygu'n dda yng Nghymru a'r Alban dros y ddau ddegawd diwethaf, ac yn wir yng Ngogledd Iwerddon, mae wedi bod braidd yn ddifywyd yn Lloegr, a'r hyn sy'n galonogol nawr yw'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o ba mor bwysig yw datganoli grym i rymuso pobl a chymunedau mewn gwirionedd, ac yn enwedig yn Lloegr.
Felly, mae'r sylwadau sydd wedi eu gwneud gan Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, mewn perthynas â gor-ganoli yn Llywodraeth San Steffan, a siarad am ddatganoli, a chomisiynu adroddiad Gordon Brown, yn hynod o bwysig. Oherwydd mae'r ddadl honno sy'n digwydd yn Lloegr yr un mor bwysig i ni hefyd, oherwydd mae'n gydnabyddiaeth o'r angen i gysoni'r strwythurau hynny a'u hail-gydbwyso. Mae ein comisiwn annibynnol ein hunain, wrth gwrs, yn ymwneud â'n barn am y math o ddyfodol rydym ei eisiau i Gymru, a sut y dylai'r berthynas honno newid—nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei benderfynu yn rhywle arall. Ond wrth gwrs, ochr yn ochr â hynny mae adroddiad Gordon Brown, sydd hefyd yn cydnabod nifer o'r materion rydym yn ymwneud â hwy—sybsidiaredd a'n cydraddoldeb o ran pwerau o fewn yr Alban. Ac rwy'n credu mai'r pwynt pwysig a wnaed yn adroddiad Gordon Brown—ac mae Gordon Brown, wrth gwrs, wedi rhoi tystiolaeth i'r comisiwn annibynnol, fel y byddaf innau'n ei wneud, ac yn wir fel y bydd Gweinidogion eraill yn ei wneud maes o law mae'n siŵr—yw'r cyfeiriad at ymgysylltu adeiladol. Felly, mae'n ymwneud â chydnabod bod angen moderneiddio ein perthynas gyfansoddiadol, i sicrhau newid, ond hefyd fod yn rhaid iddo fod yn rhywbeth y ceir consensws yn ei gylch ymhlith y bobl yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU gyfan.