Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Elin Jones
Plaid Cymru
2:26,
30 Tachwedd 2022
Fe ystyriaf y pwynt a godwyd gan yr Aelod. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yma i gael ei chraffu ar bob mater yn ei phortffolio, sy'n cynnwys gweithrediad y cytundeb cydweithio, ond fe roddaf ystyriaeth bellach i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn flwyddyn ers i'r cytundeb cydweithio gael ei roi ar waith. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ei fod yn destun craffu ym mhwyllgor craffu'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae'n amser addas inni fyfyrio ar y materion hyn. Diolch i'r Gweinidog am y craffu y prynhawn yma.