Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 11 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Alun Davies am ddod â'r ddadl bwysig hon i Senedd Cymru a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r drasiedi sy'n datblygu ar hyn o bryd yn Wcráin, ac rydym wedi trafod hyn droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig inni fyfyrio ar adegau yn y gorffennol pan wnaed pethau a danseiliodd ein dynoliaeth gyffredin.
Rydym yn coffáu profiadau o hil-laddiad ac erchyllterau yn y Siambr hon a ledled Cymru yn rheolaidd, ond ni wnaethom neilltuo amser sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i siarad am Holodomor. Ond wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, wedi tynnu ein sylw ar sawl achlysur at ddioddefaint pobl Wcráin yn ystod yr Holodomor, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol gref i'r cynnig hwn heddiw, a'r cyfraniadau i'r ddadl.
Mae naw deg mlwyddiant yr erchyllterau hyn a'r ffocws presennol ar Wcráin yn ysgogiad pwysig inni daflu goleuni ar anghyfiawnderau'r gorffennol a cheisio osgoi ailadrodd hanes—fel y dywedodd Alun Davies, nid gwrando a chofio yn unig, ond dysgu hefyd.
Un o'r ychydig newyddiadurwyr gorllewinol a adroddodd ar y newyn yn Wcráin a'i achosion oedd y Cymro, Gareth Jones. Roedd yn dod o'r Barri ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Merthyr Dyfan. Cafodd ei anrhydeddu'n lleol, dan arweiniad Cyngor Tref y Barri, a bydd plac yn cael ei osod uwchben ei fedd neu yn y cyffiniau. Mae'n dal i gael ei ystyried yn arwr yn Wcráin a rhaid inni ddechrau codi ymwybyddiaeth o'i rybuddion heddiw.
Roedd Gareth Jones yn dyst i'r dioddefaint yn Wcráin, ac fe ddywedodd y gwir am yr arswyd a ganfu. I ddechrau, cyhoeddwyd ei straeon yn eang, ond yn ôl y sôn cafodd ei wrthod yn gyflym a'i anfon i'r anialwch newyddiadurol, ac mae llawer y byddwn yn ei ddysgu am hynny a'r rhesymau pam, rwy'n siŵr, yn y digwyddiad yma yn y Senedd yfory, i goffáu Gareth Jones, a noddir gan Mick Antoniw, a digideiddio hollbwysig yr archifau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau'n bresennol, i ddysgu mwy am un o'n harwyr o Gymru sy'n aml heb gael y sylw y dylai fod wedi'i gael.
Mae'r cyfryngau rhyngwladol wedi newid yn ddramatig ers yr adeg yr oedd Gareth Jones yn newyddiadurwr, ac mae'n llawer haws inni weld â'n llygaid ein hunain y gweithredoedd barbaraidd y mae Putin wedi'u cyflawni yn Wcráin. Fodd bynnag, mae'n dal yn hanfodol ein bod yn tystio i galedi pobl Wcráin, ac yn gwneud popeth a allwn i warchod eu hawliau. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud llawer i estyn llaw cyfeillgarwch i Lywodraeth Wcráin, ac rydym yn eu cefnogi'n llwyr yn hynny o beth. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £4 miliwn at apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, wedi darparu cymorth meddygol ymhlith ymdrechion eraill yn Wcráin a'r rhanbarth, ac rydym yn cefnogi Wcreiniaid eu hunain i ddod i ddiogelwch ein cenedl noddfa.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd yr hyn a wnawn i gefnogi deiliaid fisâu o Wcráin, oherwydd coffáu'r gorffennol a wnawn heddiw, ond rwyf am ddweud ein bod yn meddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y gallwn gynorthwyo Wcreiniaid sy'n cyrraedd yma i gofnodi'r hyn y maent wedi'i brofi yn rhan o'r ymchwiliadau i droseddau rhyfel. Ni fyddwn yn troi cefn ar y rhai sydd wedi dioddef, fel a ddigwyddodd yn ystod Holodomor.
Mae'n amlwg fod gweithredoedd bwriadol yr Undeb Sofietaidd, wrth gyfunoli tir ac atafaelu adnoddau, wedi chwarae rhan allweddol yn achosi'r newyn. Fel y dywedodd Gareth Jones ar y pryd:
'Edrychwn ar y plant â'u coesau a'u breichiau afluniedig a theimlo trychineb y newyn a grëwyd gan ddynion a afaelodd am y wlad.'
Mae'r cysylltiad Cymreig â phobl Wcráin yn mynd yn ôl yn bell. Ymhell cyn Holodomor, teithiodd John Hughes i Donetsk i sefydlu gwaith haearn a glofeydd, yn rhan o'r hyn a elwid ar y pryd yn Hughesovka. Yn awr, gwelwn y ddinas honno sydd â dros 1 filiwn o drigolion yn cael ei bomio, ac mae ein calonnau'n gwaedu dros ei thrigolion. Mae hanes teulu Gareth Jones yn berthnasol yma. Roedd ei fam, Annie Gwen Jones, yn athrawes gartref i blant John Hughes yn Donetsk, a'i straeon am Wcráin a ysbrydolodd Gareth Jones, ei mab, i ymweld pan oedd yn ddigon hen. Graddiodd hithau o Brifysgol Aberystwyth fel ei mab, ac roedd yn ynad ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch, ac mae'n cael ei hanrhydeddu'n fawr, fel ei mab, yn nhref y Barri. Hyd yn oed wrth sefydlu'r Siambr hon, ceir cysylltiadau ag Wcráin yn Calon Cymru, sydd yn y llawr yng nghanol ein Senedd. Fe'i crëwyd gan Alexander Beleschenko, artist o Abertawe a anwyd i rieni o Wcráin.
Syfrdanwyd pawb ohonom gan ddewrder pobl Wcráin yn ystod y gwrthdaro presennol. Yn ystod yr Holodomor, mae'n rhaid bod y dioddefaint yn aruthrol, ond adroddodd Gareth Jones am ddewrder y bobl, a ofynnodd am beidio â chael neb yn tosturio wrthynt am fod pobl mewn rhannau eraill wedi dioddef hyd yn oed yn waeth. Mae Wcreiniaid wedi dangos dro ar ôl tro fod ganddynt hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain, a byddwn yn sefyll gyda hwy yma yng Nghymru.
Cyn y gwrthdaro hwn, roedd Cymru'n gartref i oddeutu 500 o Wcreiniaid, ond cyn bo hir disgwyliwn fod yn gartref i fwy na 10 gwaith y nifer hwnnw. Byddwn yn eu croesawu ac yn dysgu o'u profiadau i gryfhau ein cymunedau. Er ei bod yn amlwg i'r cyhoedd yng Nghymru fod Putin wedi ymosod ar genedl sofran, nid yw'r anghyfiawnderau hanesyddol dyfnach a achoswyd gan Stalin, megis yr Holodomor, mor gyfarwydd i bobl. Rwy'n hapus i ymrwymo Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth a chofio'r drasiedi a ddigwyddodd yn Wcráin 90 mlynedd yn ôl. Fe gofiwn y dioddefwyr ac annog mwy o undod â'r bobl o Wcráin sydd bellach yn cael noddfa yng Nghymru.