Effaith y Sancsiynau Economaidd ar Rwsia

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 3:14, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Peter Fox a rhoi sicrwydd iddo y byddwn yn ymrwymo i weithio gyda’r bwrdd pensiwn i sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau'n fuddsoddiadau moesegol? Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru ei hun, drwy’r contract economaidd sydd ganddi â busnesau, yn hybu economi sy’n cael ei harwain gan werthoedd, ac rydym ni fel Comisiynwyr hefyd yn awyddus i sicrhau, lle rydym yn buddsoddi, ein bod yn buddsoddi mewn busnesau—yn bennaf yng Nghymru lle y gallwn, ond busnesau mewn mannau eraill hefyd—a chanddynt sylfeini moesegol cadarn. Mae adran benodol ar y fewnrwyd, y datganiad gan y bwrdd, sy’n nodi,

'Ym mis Mawrth 2022, yn unol â pholisi prisio gwerth teg y rheolwr buddsoddi, penderfynodd y rheolwr buddsoddi nodi’r daliant hwn— sef yr elfen fach honno o ddaliannau Rwsiaidd—

'yn sero.'

Mae hynny'n dangos bod y bwrdd yn gweithio'n agos iawn gydag arbenigwyr Aviva i sicrhau na ellir buddsoddi unrhyw arian mewn endidau Rwsiaidd. Fel y dywedwch, byddai’n gwbl anghywir buddsoddi mewn unrhyw fusnesau Rwsiaidd ar hyn o bryd, ac felly, mae’r Comisiynwyr a’r bwrdd pensiwn yn ymwybodol iawn o’r angen i sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau’n cael eu gwneud mewn ffordd foesegol ac yn cael eu buddsoddi mewn busnesau sy'n foesegol hefyd.