Effaith y Sancsiynau Economaidd ar Rwsia

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 3:13, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Gomisiynydd. Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn i'r Aelodau ac i eraill sy'n gwylio. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae llawer o bobl ledled y DU a'r byd yn awyddus i ddadfuddsoddi o fusnesau yn Rwsia yn ogystal â stociau a chyfranddaliadau. Wrth gwrs, ar adegau normal, mae’n arferol defnyddio pethau fel cynlluniau pensiwn i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau tramor, ond mae ymosodiad anghyfreithlon a diangen Rwsia ar Wcráin wedi golygu ei bod yn bwysig sicrhau nad yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n anfwriadol i gefnogi cyfundrefn sydd wedi dangos nad oes ganddi unrhyw barch at ddemocratiaeth na’r drefn ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau.

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau ei ymrwymiad—a chredaf fy mod yn gwybod beth yw'r ateb—i weithio gyda’r bwrdd pensiwn a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiadau sy’n deillio o gynlluniau pensiwn staff ac Aelodau yn cael eu dadfuddsoddi o unrhyw fusnesau yn Rwsia? Ac a wnewch chi ateb: sut y mae'r Comisiwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y polisïau pensiwn perthnasol yn cefnogi buddsoddiadau cyfrifol?