Canllawiau Gweithio Gartref

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 2:50, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'r canllawiau presennol i gyflogwyr mewn perthynas â gweithio gartref wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau eang o dan ddeddfwriaeth iechyd a Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyhoeddi canllawiau ar faterion iechyd cyhoeddus.