Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 16 Mawrth 2022.
Rwy'n ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dweud i'r trafodaethau fod yn adeiladol. Yn amlwg, gwn mai un o'r materion y mae Llywodraeth Cymru yn bryderus yn ei gylch yw dulliau adnabod pleidleiswyr. A byddem ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yma yn eich annog yn gryf iawn i fabwysiadu dulliau adnabod pleidleiswyr ar gyfer pob etholiad yma yng Nghymru fel bod rhywfaint o gysondeb pan fydd pobl yn pleidleisio. A ydych yn derbyn y gallai peidio â chael cysondeb achosi problemau sylweddol i bleidleiswyr drwy wneud pethau'n ddryslyd iddynt, yn enwedig os cynhelir etholiadau ar gyfer pethau fel etholiad cyffredinol Llywodraeth y DU neu etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ar yr un diwrnod ag etholiadau i'r Senedd?