Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 2:31, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, ac a gaf fi gysylltu fy hun â'r undod a ddangoswyd yn y Siambr heddiw mewn perthynas â phobl Wcráin?

Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda Llywodraeth y DU a'ch swyddogion ynglŷn â mabwysiadu darpariaethau Bil Etholiadau Llywodraeth y DU?