Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Ceidwadwyr 1:51, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Iawn. Mae Swyddfa Gartref y DU wedi cefnogi’r gwasanaeth hwn yn Lloegr, ac yng Nghymru, mae Hourglass yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn eu hunain i ariannu’r gwasanaeth. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly i sicrhau’r un lefel o gymorth arbenigol i bobl hŷn sydd mewn perygl, ac a wnewch chi gyfarfod ag Hourglass Cymru i drafod y gwasanaeth hanfodol hwn ac ystyried darparu cymorth arbenigol?