1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 1 Mawrth 2022.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi? OQ57691
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ledled y byd. Heddiw yn unig, cynhelir digwyddiadau yn Tokyo, Dulyn, Llundain, Washington, Brwsel, Dubai, Beijing a Bangalore.
Diolch, Prif Weinidog. Ac a gaf i ddechrau drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi, eich teulu, a phawb yn y Siambr hon? Prif Weinidog, gyda chymaint o ansicrwydd a dinistr yn y byd, mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar ar ein diwrnod arbennig yma yng Nghymru, fod Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at rai o'r pethau anhygoel yr ydym ni'n eu gwneud yma yng Nghymru, o'r bwyd a diod gwych yr ydym yn ei gynhyrchu, i hyrwyddo'r Gymraeg, ein hanes cyfoethog, ein diwylliant a'n treftadaeth, a'r croeso cynnes yr ydym yn ei roi i bawb. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei hyrwyddo'n ehangach nag yma yng Nghymru—mae ein sector busnes yn gwneud hyn drwy Wythnos Cymru Llundain, lle mae llawer o fusnesau gorau Cymru yn mynd i hyrwyddo'u busnesau a'u cynnyrch i gynulleidfa ehangach, i hybu cyfleoedd masnach a thwristiaeth i Gymru, ynghyd â digwyddiadau eraill ledled y byd. Felly, Prif Weinidog, pa waith a chymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, i'n busnesau a phobl Cymru, i ddarparu manteision economaidd i bawb? Diolch, Llywydd.
Llywydd, diolch i James Evans am y cwestiwn yna. Mae'n dda iawn cael y cwestiwn hwn, wrth i Ddydd Gŵyl Dewi lanio ar ddydd Mawrth eleni. Ac mae'n rhoi llwyfan gwirioneddol i ni allu codi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru. Roeddwn i'n falch iawn fy hun i ddechrau'r diwrnod, yn eithaf cynnar y bore yma, drwy lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraethwr talaith Ōita yn Japan, gan adeiladu ar y cysylltiadau a osodwyd pan oedd tîm rygbi Cymru wedi'i leoli yn y rhan honno o Japan yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, a'r croeso gwych a gafodd y tîm yn y rhan honno o Japan. Ac mae wedi arwain ers hynny at gysylltiadau economaidd, cysylltiadau diwylliannol, cysylltiadau rhwng pobl ifanc o Gymru a'r rhan honno o Japan, ac fe wnaethom lwyddo i ffurfioli hynny mewn memorandwm newydd rhwng Cymru ac Ōita y bore yma.
Mae Gweinidog yr economi, fel y dywedais yn gynharach, yn Dubai heddiw, lle mae pafiliwn y DU yn nigwyddiad Expo'r Byd yn cael ei neilltuo'n llwyr i Gymru, diwrnod cyfan i Gymru yno, ac mae hynny'n canolbwyntio'n bennaf ar fwyd a diod ac ar fusnesau sy'n hyrwyddo'r hyn y gall Cymru ei wneud yn y rhan honno o'r byd. Byddaf i fy hun, ddiwedd heddiw, Llywydd, yn llysgenhadaeth Canada yn Llundain, unwaith eto gyda grŵp o bobl eraill, oherwydd 2022 yw blwyddyn Cymru yng Nghanada. Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan Lywodraeth Canada, a gan Lywodraeth Québec lle mae gennym ni gysylltiadau arbennig, a bydd y prynhawn yma'n gyfle i roi proffil ar lefel wahanol i'r flwyddyn honno ac i roi'r math o egni i'r flwyddyn honno a fydd yn golygu y bydd yn cyfateb i lwyddiant digwyddiadau Cymru yn yr Almaen y llynedd, a fu'n eithriadol o lwyddiannus o ran codi proffil Cymru fel cyrchfan economaidd, fel cyrchfan i dwristiaid, fel man cyfnewid rhwng sefydliadau diwylliannol a chwaraeon, ac felly i hyrwyddo dealltwriaeth pobl o Gymru a'r cyfleoedd y mae'r cysylltiadau hynny'n eu darparu ar eu cyfer ac yn eu darparu ar ein cyfer ni hefyd.
Un cwestiwn olaf, felly, cyn i chi fynd i hyrwyddo Cymru yn yr holl leoedd hynny. [Chwerthin.]
Cwestiwn 5, Paul Davies.