Rhestrau Aros Orthopedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Ceidwadwyr 2:01, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae nifer y bobl sy'n aros am lawdriniaethau neu asesiadau orthopedig yn cynyddu—mae'r data yno—yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nid problem i Gymru yn unig yw hon, mae hon yn broblem i'r DU, gyda phobl yn aros am lawdriniaethau. Mae pobl bellach yn byw mewn poen o ddydd i ddydd. Canfu astudiaeth yn y DU fod 71 y cant o bobl hŷn a oedd yn aros am driniaeth yn dweud bod eu hiechyd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Mae llawer o bobl ar eu colled yn eu bywydau ac maen nhw'n cymryd benthyciadau preifat fel y gallan nhw gael triniaeth yn y sector preifat. Rwyf i wedi bod yn siarad â gweithwyr meddygol proffesiynol ar draws y GIG sydd o'r farn bod angen i ni ystyried cael dau ysbyty arbenigol, un yn y de ac un yn y gogledd, sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ofal orthopedig ac adsefydlu, oherwydd nid yw'r model presennol o bob ysbyty yn gwneud popeth yn gweithio gyda'r gofynion enfawr ar le llawdriniaeth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried edrych ar y model hwn i leihau rhestrau aros orthopedig, fel y gallwn ni roi rhywfaint o obaith a rhywfaint o oleuni i'r bobl hynny sydd mewn poen ym Mhowys ac ar draws gweddill Cymru? Diolch, Llywydd.