8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:05 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:05, 19 Ionawr 2022

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r pleidleisiau hediw ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau COVID. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 11 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cyfyngiadau COVID, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 28, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3337 Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cyfyngiadau Covid, cyflwynwyd yn enw Darren Millar

Ie: 13 ASau

Na: 28 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 8 ASau

Wedi ymatal: 11 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:05, 19 Ionawr 2022

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 1, wedi'i gyflwyno gan Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.  

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 3338 Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 39 ASau

Na: 13 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 8 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 19 Ionawr 2022

Mae'r bleidlais nesaf, y bleidlais olaf, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM7891 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

3. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 19 Ionawr 2022

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymeig—cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 3339 Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymeig - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 52 ASau

Absennol: 8 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 19 Ionawr 2022

Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am y prynhawn yma. Felly, rŷn ni'n mynd i symud ymlaen at y ddadl fer.