– Senedd Cymru am 4:01 pm ar 29 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Economi—gwarant i bobl ifanc. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pobl a busnesau ledled Cymru wedi wynebu un o'r blynyddoedd anoddaf yn ystod cyfnod o heddwch. Yn fy swydd o fod yn Weinidog economi Cymru, fy mlaenoriaeth yw sicrhau ein bod, yn yr adferiad, yn rhoi'r cymorth cywir i unigolion a busnesau i helpu pob un ohonom i adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus.
O fewn hynny, mae angen i ni roi gobaith i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol a sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gadael ar ôl. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau a'r profiadau y bydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo, boed hynny mewn cyflogaeth, addysg neu drwy ddechrau eu busnes eu hunain.
Mae ein rhaglen lywodraethu wedi ymrwymo i ddarparu gwarant i bobl ifanc. Bydd hon yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r bwriad o roi cynnig o gymorth i bawb o dan 25 oed ledled Cymru i'w helpu gyda gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Gyda'r warant hon, rwyf eisiau sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yma yng Nghymru.
Mae gwarant i bobl ifanc yn rhan allweddol o'n hymdrechion i helpu pobl ifanc i fynd i mewn i fyd gwaith a llywio'u ffordd drwyddo. Rwyf wedi ymrwymo i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i ddechrau a newid eu stori, gan gefnogi eu taith wrth iddyn nhw adael yr ysgol, wrth iddyn nhw symud i, neu adael, coleg neu brifysgol, a chefnogi'r rhai sy'n wynebu diweithdra neu hyd yn oed ddiswyddiadau.
Hoffwn gydnabod a diolch i'r llu o fusnesau, darparwyr hyfforddiant ac addysg sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi ein pobl ifanc i fyd gwaith a thrwy'r byd gwaith. Mae hyn yn cynnwys eu gwaith gyda ni ac eraill i gyflwyno rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru, hyfforddeiaethau, prentisiaethau, Busnes Cymru, Syniadau Mawr Cymru, ReAct, Kickstart, Ailgychwyn a'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd. Mae gennym eisoes lawer o'r cydrannau y mae mawr eu hangen i roi'r sail i ni ar gyfer gwarant llwyddiannus i bobl ifanc. Fodd bynnag, bydd ymrwymiad i bob un o'n pobl ifanc 16 i 24 oed yn gofyn am ganolbwyntio o'r newydd ar gydgysylltu cyfleoedd, yn lleol ac yn genedlaethol.
Felly, heddiw, rwyf i eisiau rhannu a nodi'r camau cychwynnol y bwriadaf eu cymryd i sicrhau ein bod yn datblygu gwarant llwyddiannus i bobl ifanc. Ac mae'n bwysig nodi mai dim ond y camau cyntaf y byddwn yn eu cymryd yw'r rhain. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r rhaglen hon esblygu.
Yn gyntaf, rwy'n lansio galwad i weithredu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, y trydydd sector, y sector preifat, y sectorau addysg a hyfforddiant, a chyda phartneriaid yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru, i sicrhau ein bod yn darparu'r cynnig gorau posibl i'n pobl ifanc.
Rydym eisiau i leisiau pobl ifanc fod wrth wraidd datblygiad ein gwarant. Dyna pam, dros yr haf, y byddaf yn cynnal sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc ac yn dechrau ymgynghori â phobl ifanc a rhanddeiliaid.
Yn drydydd, rwyf wedi gofyn i Cymru'n Gweithio fod yn borth i'n gwarant i bobl ifanc, i adeiladu ar eu model cryf a llwyddiannus eisoes o ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd a chymorth cyfeirio. O 30 Medi eleni ymlaen, bydd ganddyn nhw dîm ar waith i ddechrau olrhain a monitro ein cynnig wrth iddo ddatblygu a chefnogi pobl ifanc.
Rwyf yn cydnabod tirwedd newidiol cyfleoedd cyflogaeth. Mae angen i ni ysbrydoli a chefnogi mwy o'n hentrepreneuriaid ifanc. Dyna pam y mae rhan o'n cynnig yn cefnogi pobl ifanc sydd ag uchelgais i ddechrau eu busnes eu hunain. Byddwn yn sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael gafael ar y cymorth cywir i'w helpu i oresgyn rhwystrau i ddechrau a chynyddu cynaliadwyedd mentrau newydd. Bydd Busnes Cymru, gyda chymorth wedi'i deilwra drwy Syniadau Mawr Cymru, yn rhoi'r cymorth hwn i bobl ifanc.
A bydd Cymru'n Gweithio yn dechrau cynllun arbrofol newydd i baru swyddi. Bydd y cynllun arbrofol hwn yn helpu pobl ifanc a gefnogir gan Cymru'n Gweithio i sicrhau cyflogaeth ac yn helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag. Nawr, mae'r cynllun arbrofol hwn eisoes wedi dechrau ar sail gychwynnol yng ngogledd Cymru a Chaerdydd, a byddwn yn annog pob cyflogwr sydd â swyddi gwag yn yr ardaloedd hyn i gysylltu â Cymru'n Gweithio.
Gwyddom fod ein pobl ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru yn y dyfodol. Mae eu doniau, eu sgiliau a'u creadigrwydd yn hanfodol i sicrhau twf a chystadleurwydd ein gwlad. Fel gwlad, rydym yn dal i wynebu heriau enfawr nawr a phan fydd y pandemig ar ben o'r diwedd. Rwy'n falch o arwain y gwaith ar warant i bobl ifanc, ac rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau ar draws y Siambr yn cefnogi nod y Llywodraeth hon i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yma yng Nghymru. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn gyffredinol, rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac rwy'n croesawu sylw'r Gweinidog am sicrhau na chollir cenhedlaeth yn dilyn y pandemig a chytunaf ei bod yn hanfodol bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer swyddi heddiw ac yn wir, ar gyfer y dyfodol.
Nawr, er mwyn dechrau mynd i'r afael â maint yr her hon, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparwyr sgiliau ledled Cymru, ac rwy'n falch o weld galwad i weithredu ar draws pob sector, er efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am yr alwad hon i weithredu a pha fath o ymgysylltu fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf i sicrhau bod pob sector yn cydweithio er mwyn darparu'r cynnig gorau posibl i'n pobl ifanc.
Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud yn glir bod angen diwylliant o gydweithio â darparwyr sgiliau a chyflogwyr wrth ddatblygu gwarant i bobl ifanc, a dyna pam y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymrwymo i ymgynghoriad cynhwysfawr â'r rhai a allai wneud y cynllun hwn yn llwyddiant.
Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cadarnhau mai Cymru'n Gweithio fydd y porth i'r warant hon, a chroesawaf eu swyddogaeth fel sefydliad cygysylltu canolog ar gyfer y warant. Rwy'n falch o weld bod y cynllun paru swyddi arbrofol wedi cychwyn yng ngogledd Cymru a Chaerdydd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am ganlyniadau'r cynlluniau arbrofol hynny, gan ei bod yn hanfodol bod Cymru'n Gweithio yn cysylltu â busnesau i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gefnogi o ddifrif. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud ychydig mwy wrthym ni am sut y bydd gwarant i bobl ifanc yn cael ei gwneud yn ddeniadol i fusnesau ym mhob rhan o Gymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog mwy o gyflogwyr i gymryd rhan yn y rhaglen yn y dyfodol.
Nawr, gwyddom fod pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith economaidd anghymesur ar bobl ifanc ledled Cymru, a dangosodd adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pryderon difrifol am bobl ifanc o ran rhagolygon swyddi a'r posibilrwydd o orfod talu mwy o dreth yn y dyfodol i dalu am y cynlluniau cymorth ariannol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig. Yn wir, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod oddeutu 11,000 o bobl ifanc 16 i 18 oed a 36,000 o bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yng Nghymru. Felly, er bod y nod o gynnig hyfforddiant neu gyflogaeth i bob person ifanc yn ganmoladwy, mewn gwirionedd gall fod yn eithaf anodd ei gyflawni, ac felly mae'n hanfodol bod gwarant i bobl ifanc yn cael ei hariannu'n ddigonol i fynd i'r afael â maint yr her.
Nid yw'r datganiad heddiw yn rhoi syniad i ni o lefel yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo i'r warant, ond mae'n hanfodol bod y wybodaeth honno ar gael fel y gallwn graffu ar y gwariant hwnnw. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym faint yn union o arian a fydd yn cael ei neilltuo i sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiant.
Dirprwy Lywydd, yr hyn sy'n allweddol i sicrhau llwyddiant y cynllun yw monitro ac adolygu effeithiolrwydd y warant yn rheolaidd, felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymrwymo heddiw ynghylch sut y mae'n bwriadu monitro cynnydd y cynllun yn y dyfodol a pha mor rheolaidd y mae'n bwriadu cyhoeddi data a gwybodaeth am ganlyniadau a'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun ymhlith pobl ifanc a busnesau ledled Cymru. Nawr, rydym wedi gweld gwarant i bobl ifanc ar waith yn yr Alban ac mae gwaith da yr wyf yn siŵr y gellir ei ddysgu o hynny, yn enwedig o ran sut mae Llywodraeth yr Alban yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes a sut y mae'n sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed wrth ddatblygu'r warant, ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa wersi y mae wedi eu dysgu o fodel yr Alban a sut mae hynny wedi llywio datblygiad y warant i bobl ifanc yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, un gwahaniaeth rhwng model yr Alban a'r un yng Nghymru yw'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys hunangyflogaeth yn y warant i bobl ifanc. Mae data gan Dŷ'r Cwmnïau yn dangos bod dros 19,000 o gwmnïau newydd o Gymru wedi'u creu yn 2020 wrth i nifer cynyddol o unigolion benderfynu sefydlu eu busnesau eu hunain, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o hybu a chefnogi entrepreneuriaeth ledled Cymru. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn sôn am swyddogaeth Busnes Cymru a chynllun Syniadau Mawr Cymru er mwyn darparu cymorth, er y byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am ei gynlluniau i gefnogi entrepreneuriaid ifanc a chynyddu cynaliadwyedd mentrau newydd.
Mae'n bwysig bod cyrhaeddiad y warant i bobl ifanc yn cael ei deimlo ledled Cymru, a gwn o gynrychioli etholaeth sy'n aml yn teimlo ei bod wedi ei hesgeuluso gan Lywodraeth Cymru nad yw holl gynlluniau'r Llywodraeth yn cael eu datblygu ledled y wlad. Mae'r datganiad heddiw yn sôn am sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr ymgynghoriad a sut y mae'n mynd i sicrhau bod barn pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru yn cael ei chlywed, ac efallai y gwnaiff gadarnhau pa un a fydd gwybodaeth yn cael ei chasglu ar lefel awdurdod lleol fel y gellir cymryd camau pellach wedyn, os nad yw ardaloedd yn ymgysylltu.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a dweud unwaith eto fy mod i'n gobeithio bod y warant i bobl ifanc yn llwyddiant? Rydym yn rhannu'r un uchelgais yn y fan yma, a hynny yw cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant wrth i ni symud allan o'r pandemig. Ond mae'n rhaid cael cydweithrediad cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, darparwyr addysg a sgiliau a'r gymuned fusnes i wneud y warant i bobl ifanc yn llwyddiant, ac mae'n rhaid i'r warant fod yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion pobl ifanc sy'n byw ym mhob rhan o Gymru heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn deall, o ystyried nifer y cwestiynau y mae wedi eu gofyn, na fyddaf yn gallu ymdrin â phob un ohonyn nhw mewn un eisteddiad, neu fel arall ni fydd unrhyw siaradwr arall yn cael cyfle i gyfrannu, a byddaf yn trethu amynedd y Cadeirydd.
O ran eich pwyntiau ehangach am—[Torri ar draws.] O ran eich pwyntiau ehangach am randdeiliaid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mewn gwirionedd, dyma un o'r pethau sydd, yn fy marn i, yn gyfle gwirioneddol yn yr haf, felly mae gwneud datganiad cynnar yn ymwneud yn rhannol â'i gofnodi er mwyn i'r rhanddeiliaid hynny ymgysylltu'n fwy ffurfiol â ni. Rydym eisoes wedi gweld nifer o fusnesau sy'n frwdfrydig iawn ynghylch potensial y warant yn cysylltu cyn i mi wneud cynnig, ac rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn, mewn gwirionedd. Rydym eisoes wedi cael ColegauCymru—mae'r sector addysg bellach yn gweld bod ganddyn nhw yn bendant ran i'w chwarae; maen nhw eisiau ymgysylltu ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i adeiladu ar yr hyn y maen nhw eisoes yn ei ddarparu—ac amrywiaeth o randdeiliaid o lywodraeth leol i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac, wrth gwrs, i'r bobl ifanc eu hunain.
Ond rhan o'r rheswm y soniais am yr Adran Gwaith a Phensiynau yw bod ganddyn nhw swyddogaeth eisoes o ran darparu rhai cyfleoedd i bobl fynd i fyd gwaith, a'r hyn yr wyf eisiau ei sicrhau yw bod gennym ni ddull nad yw'n darparu dull anghyson, gan olygu ein bod yn gwneud pethau sy'n torri ar draws pethau y maen nhw yn eu gwneud ac i'r gwrthwyneb hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn awyddus i wneud mwy ym maes cyflogadwyedd unwaith eto, felly rwyf eisiau sicrhau bod gennym ni ddull cydnaws. Felly, mae swyddogion yn cyd-dynnu'n dda iawn ac mae angen i ni sicrhau bod yr atebion cywir yn cael eu darparu i helpu pobl i fyd gwaith.
Ac ar eich pwynt am y cynllun paru swyddi arbrofol, ydw, rwy'n gobeithio y bydd y cynllun arbrofol hwnnw yn ein helpu i gyflwyno'n genedlaethol, oherwydd mae hwn yn gynnig cenedlaethol gwirioneddol. Mae gan Cymru sy'n Gweithio ôl troed cenedlaethol gwirioneddol; byddan nhw'n gallu ein helpu ar draws y wlad gyfan gyda phartneriaid eraill hefyd. Ond, mewn gwirionedd, mae angen i ni ddeall y cynllun arbrofol ac yna gweld a oes angen i ni ei wella ymhellach i'w gyflwyno ym mhob rhan o'r wlad, gan gynnwys wrth gwrs yn y gorllewin; nid oes angen i rannau eraill o Gymru ofni cael eu hanwybyddu.
Ac rwy'n credu bod rhywbeth yn y fan yma ynghylch adeiladu ar yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud i helpu pobl i fynd i fyd gwaith a'r hyn y gallwn ei wneud eisoes. Felly, mae gennym raglen eisoes gyda phrentisiaid ifanc, lle mae cyflogwyr eisoes yn cael cymorth ychwanegol i gyflogi prentisiaid iau. Mae gennym ni eisoes ein rhaglen ReAct a mwy; rydym mewn gwirionedd yn darparu cymhorthdal cyflog yn y flwyddyn gyntaf i bobl sy'n cael eu derbyn hefyd. Felly, mae gennym ni nifer o ysgogiadau a chyfleoedd yr ydym eisoes yn eu defnyddio, ac mae'n ymwneud â sut yr ydym yn adeiladu ar y rheini yn llwyddiannus i sicrhau nad ydym ond yn goddef nifer y bobl ifanc y tu allan i fyd addysg a hyfforddiant. Dyna pam y bydd angen i ni weithio ochr yn ochr â phobl sy'n gweithio cyn i bobl fod yn barod i ailymuno â byd addysg, hyfforddiant neu waith hefyd.
O ran eich pwyntiau bras am y gyllideb, mae adnoddau eisoes wedi eu rhoi yn y maes hwn ym mhob adran beth bynnag. Wrth i ni fynd drwy'r haf a bod gennym gynnig wedi ei ffurfio'n llawnach, byddaf yn gallu ei amlinellu yn well yn yr hydref, gan gynnwys eich pwynt ar sut yr ydym yn monitro llwyddiant, byddaf yn gallu dweud mwy am sut yr ydym yn ymrwymo gwahanol rannau o gyllidebau, nid yn unig o fewn fy adran i, ond mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru hefyd, i wneud hyn yn llwyddiant, ac fel bod pobl yn gallu gweld yn dryloyw sut y byddwn yn monitro'r llwyddiant hwnnw hefyd.
Mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau rheolaidd â Llywodraethau ledled y DU, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban, ac rwy'n siŵr y bydd yr SNP yn falch iawn o gael Torï Cymreig i ganmol peth o'u gwaith. Rydym yn edrych ar sut maen nhw wedi gwneud rhywfaint o hyn, i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio, a dyna'r pwynt: peidio â phoeni am y gwahaniaeth ideolegol, ond deall beth sy'n gweithio, a sut, a byddwn yn gwneud hynny drwy sicrhau y ceir sgwrs ystyrlon gyda phobl ifanc. Bydd angen i hynny fod yn seiliedig ar y sefydliadau sy'n bodoli eisoes, felly byddai'n rhyfedd pe na byddem ni'n gofyn i Senedd Ieuenctid Cymru beth oedd eu barn, er enghraifft, ond hefyd i wneud rhywfaint o ymgysylltu pwrpasol â phobl ifanc mewn gwahanol rannau o'r wlad i ddeall rhai o'r gwahanol heriau, oherwydd gallai pobl ifanc yma yng Nghaerdydd y gallwn i fod yn eu cynrychioli, wynebu cyd-destun gwahanol i bobl sy'n byw, er enghraifft, ar benrhyn Llŷn, neu yn rhan yr Aelod o Gymru hefyd.
Yn olaf, ar y pwynt hwnnw am ymgynghori, rwy'n disgwyl i hyn beidio â chael ei wneud mewn ffordd draddodiadol, gan ofyn i bobl ymateb i ymgynghoriad ac anfon nodiadau ysgrifenedig, ond yn hytrach yn y ffordd yr ydym ni wedi arfer gorfod gweithio pan nad ydym i gyd yn yr un lle, ond hefyd ar-lein, i annog pobl i fynegi barn i'n helpu i gyflawni'r math cywir o ganlyniadau. Rwyf yn croesawu ei gefnogaeth gadarnhaol ar y cyfan i'r warant i bobl ifanc gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad heddiw. Mae'n debyg iawn i gynnig Plaid Cymru yn ystod yr etholiad. Edrychwn ymlaen at weld y manylion, a byddwn yn cadw llygad ar ei weithrediad er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Mae'n gadarnhaol gwybod bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar enghreifftiau eraill, nid yn unig yn y DU, gobeithio, ond yn yr UE hefyd. Rwyf yn dweud yn aml—ac mae'n eithaf anodd i ni gyfaddef weithiau—pan fo gennym syniad da, mai'r tebygolrwydd yw bod rhywun eisoes wedi meddwl am y syniad hwnnw, felly mae bob amser yn dda dysgu o brofiadau pobl eraill, fel nad ydym yn syrthio i'r un trapiau.
Pan weithredwyd cynlluniau tebyg yn Ewrop, cydnabu staff lleol sy'n gweithio ar y gweithredu nad oedd interniaethau a lleoliadau gwaith bob amser o'r safonau uchaf. Er bod mesurau'n cael eu cymryd i sicrhau ansawdd, nid oedd bob amser yn bosibl i staff lleol fonitro lleoliadau mewn modd systematig. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, yn rhan o swyddogaeth Cymru'n Gweithio, y byddan nhw'n sicrhau bod ansawdd swyddi yn bodloni safonau y cytunwyd arnyn nhw? Roedd asesiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o gynlluniau tebyg yn amlygu diffyg data dibynadwy, ac roedd yn anodd dod ar draws dangosyddion. Roedd anawsterau wrth gasglu data a dangosyddion yn amlwg ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol o ran y boblogaeth darged, gwasanaethau a chanlyniadau. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael data ar gyfrannau'r bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at bob dewis posibl yn y cynllun? Hefyd, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adrodd ar y rhai sy'n cael gwaith diogel o ganlyniad i gymryd rhan yn y cynllun?
Os caf i hefyd symud ymlaen at hawliau gweithwyr ifanc am eiliad, mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag undebau i sicrhau bod adferiad economaidd Cymru yn canolbwyntio ar swyddi o ansawdd da a grymuso gweithwyr ifanc, ac mewn gwirionedd, maen nhw wedi lansio ymgyrch newydd i godi aelodaeth undebau ymhlith gweithwyr ifanc. Mae arolwg TUC Cymru a YouGov wedi dangos bod degau o filoedd o weithwyr yn wynebu triniaeth annheg a diffyg cyfle yn y gwaith. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall gweithwyr ifanc osgoi'r swyddi ansicr ac o ansawdd gwael sy'n nodweddu'r adferiad o'r dirwasgiad diwethaf?
Yn olaf, o ran yr adferiad gwyrdd, mae gennym ni gyfle gwirioneddol i helpu ein pobl ifanc a'n planed drwy sicrhau bod y swyddi hyn yn helpu i gyfrannu at ein hadferiad economaidd gwyrdd. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r warant i fod yn rhan allweddol o'n hadferiad cyflym yng Nghymru, a allai flaenoriaethu cartrefi gwyrddach, gwell cludiant cyhoeddus, ynni adnewyddadwy a band eang cyflym? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. O ran eich pwynt cyffredinol cyntaf am ansawdd y cyfleoedd a ddarperir, rydym ni wedi bod drwy rywfaint o hyn o'r blaen, o ran creu Twf Swyddi Cymru, am y cyfraddau cyflog sydd ar gael, ac am ansawdd y gwaith a ddarperir, ond hefyd yn yr hyn a wnawn eisoes i fonitro'r canlyniadau mewn prentisiaethau. Rydym mewn gwirionedd wedi cael adborth da gan brentisiaid eu hunain, ond hefyd busnesau sydd wedi helpu i'w derbyn.
Yn yr ymweliadau yr wyf wedi gallu eu gwneud, rwyf wedi cwrdd â chyfres o brentisiaid yn y ddau gwmni mawr, pan ymwelais ag Airbus yn y gogledd, ond hefyd rwyf wedi bod yn Toyota, yn gweld rhai o'u prentisiaid, a gweld yr hyn y maen nhw'n ei wneud i fuddsoddi mewn mwy o brentisiaid. Mae hynny'n newyddion da iawn. Roedden nhw o bosibl yn edrych ar ddyfodol gwahanol, ond maen nhw'n parhau i fuddsoddi mewn niferoedd uchel o brentisiaid, ac mae hynny'n ddarpariaeth yr ydym yn awyddus iawn i'w weld mewn cyflogwr mawr o'r math hwnnw, ond mewn busnesau llai hefyd. Dyna pam, pan fyddwch yn edrych ar y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ar amrywiaeth o bethau, er enghraifft, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, nid yw hynny'n darparu cyfleusterau dysgu o ansawdd uchel yn unig. Ond oherwydd y ffordd yr ydym ni wedi gweithio ar fudd-daliadau cymunedol, mae gennym ni bron bob amser weithwyr ifanc a phrentisiaid newydd yn dod drwodd yn y prosiectau adeiladu hynny hefyd, ac yn cael gyrfa mewn sector y gwyddom ei fod mewn lle da i ddarparu cyflogau gwaith o ansawdd da sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y dyfodol.
Felly, rydym ni'n cymryd hynny o ddifrif, ac mae'r un peth yn wir mewn hyfforddeiaethau pan fyddwch yn ystyried rhoi cyfleoedd i bobl sydd o dan 18 oed i ymgymryd â mwy o brofiad ym myd gwaith, hyd yn oed os ydyn nhw wedyn yn mynd ymlaen i ddewis opsiynau hyfforddiant yn hytrach na mynd i fyd gwaith yn uniongyrchol bryd hynny.
Felly, ydw, rwy'n disgwyl i ni allu paru a deall ansawdd yr hyn sy'n digwydd. Mae hynny oddi mewn, os hoffech chi, i safbwynt y system, ond hefyd yn yr adborth uniongyrchol gan unigolion eu hunain hefyd. A byddwch yn ymwybodol bod gan lawer o'n darparwyr systemau datblygedig i ddeall yr adborth am eu darpariaethau eisoes, a pha un a yw'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc sy'n manteisio ar y cyfleoedd hynny.
O ran olrhain canlyniadau yn ehangach, dyna pam y soniais am Cymru'n Gweithio a'r hyn y mae'n mynd i'w wneud o ddiwedd mis Medi, oherwydd bydd y tracio hwnnw yn ein helpu i ddeall mwy am yr hyn sy'n cael ei wneud, gyda'r hyn yr ydym eisoes wedi ei ddechrau i adeiladu arno a'r hyn yr ydym wedyn yn ei ddechrau ac yn ei wella hefyd, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall effaith yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Fel arall, os ydym ni ddim ond yn parhau â'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, yna nid ydym mewn gwirionedd yn ychwanegu at yr hyn yr ydym eisoes yn ei ddarparu ac nid ydym mewn gwirionedd yn bodloni maint yr her y gwyddom sy'n bodoli.
Ac mae'n mynd ymlaen, mi gredaf, at eich pwynt chi am TUC Cymru a'u hymgyrch, oherwydd mae'r byd gwaith eisoes wedi newid. Roedd yn newid cyn y pandemig ac mae llawer o gyflymu wedi bod yn y newid ym myd gwaith o ganlyniad iddo. Mae hynny'n amlwg yn golygu bod angen i undebau llafur newid y ffordd y maen nhw'n trefnu, ac rydym ni wedi gweld llwyddiannau yn hynny o beth, er enghraifft, GMB a'u cydnabyddiaeth o fewn Uber, ond mae llawer o rannau eraill o'n heconomi sydd wedi newid yn sylweddol ers i mi fod yn berson gwirioneddol ifanc yn hytrach na'r cyfnod o fy mywyd yr wyf yn canfod fy hun ynddo yn awr.
Ond mae hyn i gyd yn rhan o agenda yr ydym yn ei hadnabod, oherwydd rydym wedi gweld cyflymu ym myd manwerthu ar-lein, er enghraifft, sut mae gennym ni hynny ochr yn ochr ag adeiladau ffisegol ar ein strydoedd mawr, a phobl ifanc yn gweld gyrfaoedd—mae llawer o bobl ifanc yn gweithio ym maes manwerthu, lletygarwch ac eraill ac nid swyddi tymhorol yn unig ydyn nhw o reidrwydd. Gallan nhw fod yn swyddi o ansawdd da ar gyfer gyrfa hirach a phriodol hefyd. Ac rydym yn cydnabod yr agenda ar waith teg ym mhob rhan o'n heconomi. Felly, gallwch ddisgwyl i Weinidogion mewn mwy nag un rhan o'r Llywodraeth barhau nid yn unig i siarad am waith teg, ond bydd Aelodau'n craffu ar sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny mewn nifer o adrannau. A byddwch yn gweld hynny, er enghraifft, yn y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael, ond hefyd y gwaith y bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt yn parhau i gymryd diddordeb ynddo hefyd.
Yn ddiddorol—byddaf yn gorffen ar hyn, Dirprwy Lywydd, y pwynt hwn—ar y pwynt am her yr amgylchedd a'r cyfleoedd i gael swyddi gwyrddach ac ardaloedd twf, mae hynny'n rhan fawr o'r hyn yr ydym eisoes yn ei weld. Felly, yn fy ymweliadau ac yn y cyhoeddiad heddiw am dechnoleg batris, roeddwn yn siarad â Yuasa Battery yng Nglynebwy am yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac mae hynny yn gyfle mawr i'n sector adnewyddadwy hefyd, a nifer y gweithwyr sydd ganddyn nhw yno, yn yr un ffatri honno a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i rannau eraill o'n heconomi. A phan gyfarfûm â phobl ifanc ar ymweliad blaenorol â Gyrfa Cymru yr wythnos diwethaf, roedden nhw’n glir iawn eu bod yn deall effaith y ffordd yr ydym yn cynhyrchu pŵer, y ffordd yr ydym eisoes yn symud ac yn mynd o amgylch ein byd, a'r rhagolygon ar gyfer eu dyfodol ac ar gyfer y plant y maen nhw eto i'w cael hefyd. Felly, mewn gwirionedd, mae pobl ifanc yn gyfarwydd iawn â'r ffordd y mae'r byd yn gweithio nawr a'r hyn y mae'n ei olygu i ddyfodol y blaned, ac maen nhw eisiau math gwahanol o ddyfodol.
Cyfeiriodd y Gweinidog at Gyrfa Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at y rhan y byddan nhw'n ei chwarae wrth gyflawni'r warant i bobl ifanc. Sut y bydd e'n sicrhau y byddan nhw'n cael eu cefnogi, y byddan nhw'n cael digon o adnoddau a bod eu staff yn cael eu talu'n briodol i gyflawni'r rhaglen hon?
Mae'n un o'n heriau mawr ni. Rwy'n cofio'n dda siarad â Gweinidogion sydd wedi symud ymlaen i wahanol rannau o'r Llywodraeth, am yr her honno, sef sut yr ydym am sicrhau adnoddau ar gyfer Gyrfa Cymru, a'r heriau cyllidebol mawr iawn yr oedd yn rhaid i ni eu hwynebu. Dyna ran o'r rheswm pam, o ran cylch nesaf y gyllideb, y mae angen i ni weld yn yr ystod o wasanaethau hyn, eu heffaith o ran y Llywodraeth gyfan. A phan euthum i Gyrfa Cymru yng Nghaerdydd i gwrdd â phobl a oedd wedi cael eu cefnogi, roedd yr effaith y mae'r mentoriaid a'r cynghorwyr wedi ei chael ar helpu pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain yn glir iawn.
Felly, yn gyffredinol, gallaf roi ymrwymiad i chi y byddwn yn parhau i gymryd diddordeb yn y ffordd yr ydym yn darparu adnoddau ar gyfer Gyrfa Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ni ar eu cyfer, a'u rhan hwy mewn cyflawni'r warant. A byddwn, wrth gwrs, yn gweithio ochr yn ochr â nhw gan y bydd angen iddyn nhw gyflawni eu rhwymedigaethau fel cyflogwr. Os oes gan yr Aelod bwyntiau mwy penodol, byddaf yn hapus i gwrdd ag ef y tu allan i'r Siambr i drafod y rheini.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae cynllun paru swyddi arbrofol Cymru'n Gweithio yn swnio'n gadarnhaol iawn o ran integreiddio'r cyflenwad a'r galw. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau, serch hynny, fod swyddi gwag a gynigir yn swyddi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol, a hefyd bod cyfleoedd cyflogaeth mewn cymunedau fel Cwm Cynon yn cael eu hehangu a'u meithrin fel nad ydym yn gweld pobl o'r Cymoedd yn gorfod teithio i ddinasoedd er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd?
Yn olaf, rwy'n croesawu'r sylwadau ynghylch cefnogi pobl ifanc i ddod yn entrepreneuriaid. Mae'n ymddangos i mi y gallai fod cyfleoedd ychwanegol i gefnogi mathau tebyg o fentergarwch drwy fodelau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol. A wnewch chi hefyd edrych ar sut y gellid integreiddio'r rhain a'u cefnogi yn y cynnig?
Ie. O ran eich pwynt cyntaf, ynglŷn â sicrhau bod gennym ni olwg briodol ar ansawdd y swyddi a'r cyflogau sy'n cael eu talu a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl sy'n mynd i fyd gwaith, mae hynny'n rhan o'r pwynt yr oeddwn i'n ceisio ei wneud mewn ymateb i Luke Fletcher hefyd, ynglŷn â'r ffaith ein bod yn cymryd diddordeb yn ansawdd yr hyn yr ydym yn ei ddarparwn. Ni all hyn ymwneud â sianelu pobl i swyddi o ansawdd gwael nad oes ganddyn nhw ddyfodol yn y tymor hwy, oherwydd mewn gwirionedd nid yw hynny'n mynd i roi profiad o'r byd gwaith yr ydym ni eisiau i bobl ei gael, ac ni fydd yn ein helpu i adeiladu'r economi decach, wyrddach a mwy ffyniannus y mae pob un ohonom ni eisiau ei gweld, ac mae hynny'n cynnwys ystod o gymunedau'r Cymoedd.
Roeddwn i'n falch iawn o ymweld â chi yng Nghwm Cynon a gweld rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddod â phobl yn ôl i fyd addysg a hyfforddiant gyda phobl nad ydyn nhw'n llwyddo mewn addysg brif ffrwd a'r hyn y mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd wrth eu paratoi i fynd i fyd gwaith yn llwyddiannus. Mae hynny'n ymwneud â chreu swyddi mewn cymunedau lleol, yn ogystal â darparu mynediad i ganolfannau cyflogaeth eraill, ac rwyf hefyd yn credu, wrth gwrs, y bydd gwella trafnidiaeth ledled y wlad yn golygu bod cyfleoedd i fusnesau dyfu gyda sylfaen gostau wahanol y tu allan i rai o'n dinasoedd hefyd. Ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam y mae gennyf ddiddordeb mewn busnesau newydd, oherwydd gwyddom nad oes gennym ni yr un lefel o fusnesau newydd yng Nghymru, ac nid yn unig twf y busnesau hynny ond faint o'r busnesau hynny sy'n goroesi y tu draw i'w blwyddyn gyntaf. Felly, mae'n her allweddol i ni weld mwy o fusnesau yn tyfu i oroesi, i fod yn llwyddiannus, ac yna i'r busnesau hynny sy'n tyfu i ddod yn gyflogwyr canolig eu maint, ac os byddant yn tyfu i fod yn gyflogwyr mawr, faint o'r rheini a fydd yn dal i fod ym mherchnogaeth Cymry ar y diwedd, i feddwl sut y bydd economi'r dyfodol yn edrych. Mae hwn yn gyfle mawr i helpu i newid y ffordd y mae'r byd gwaith yn gweithio ar hyn o bryd, ac nid dim ond gorfod derbyn byd sy'n newid o'n cwmpas.
Ac yn olaf, Buffy Williams.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ar ôl gweithio a gwirfoddoli mewn addysg a chymunedau yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf i bob amser wedi dweud, os rhowch chi gyfle i bobl ifanc, naill ai drwy gyflogaeth neu wirfoddoli, ei bod yn rhyfeddol beth y gallan nhw ei gyflawni. Roeddwn i'n falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn cynnwys gwarant i bobl ifanc, naill ai gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Bydd y datganiad heddiw gan y Gweinidog yn newyddion da i bobl ifanc yn y Rhondda. Mae talent yn dod ar sawl ffurf, a bydd gwarant i bobl ifanc yn gadael i'n pobl ifanc ddisgleirio ac yn caniatáu iddyn nhw wneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymunedau. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi i drafod sut y bydd y warant i bobl ifanc yn llesol i bobl ifanc yn y Rhondda?
Gwnaf, byddaf yn hapus i gwrdd â hi yn unigol i siarad am y Rhondda. Gwn fod diddordeb gan Aelodau etholaethol eraill o'i chwmpas i gael sgwrs am yr hyn y bydd hyn yn ei olygu i'r Cymoedd, ac mae gennyf i ddiddordeb mawr yn y cyfleoedd y gallwn ni eu creu ar gyfer pobl yn eu cymunedau eu hunain, yn ogystal ag mewn cymunedau yn yr ardal teithio i'r gwaith ehangach. Felly, byddaf yn hapus iawn i wneud hynny a'i drefnu gyda'm swyddfa.
Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.