4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb

– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:16, 29 Mehefin 2021

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog: diwygio ein hundeb. Galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

Wel, Dirprwy Lywydd, rydw i'n ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Rydym ni'n cyhoeddi dogfen 'Diwygio ein Hundeb' ar ei newydd wedd, dogfen sy'n cynnwys ein cynigion ymarferol ar gyfer llywodraethu ar y cyd yn y Deyrnas Unedig. Cafodd hon ei chyhoeddi yn gyntaf gennym yn 2019.

Rydw i wedi dweud sawl gwaith cyn hyn, yn ystod yr etholiad y mis diwethaf, ac wedi hynny, fod y Llywodraeth Cymru hon yn credu mewn undeb cryf a llwyddiannus. Mae uniad gwirfoddol o wledydd sy'n gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth yn dda i Gymru. Ar yr un pryd, mae'r Deyrnas Unedig ar ei hennill fod Cymru yn un o'r partneriaid hynny sy'n rhan ohoni hi. Mae ein dinasyddion ni'n cael budd go iawn o'r bartneriaeth honno. Rydym ni'n elwa ar rannu adnoddau ac ar ein hanes cyffredin o gynnydd cymdeithasol. Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn beiriant pwerus ar gyfer ailddosbarthu adnoddau, a gall fod eto.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:18, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr, Dirprwy Lywydd, pan fydd yr undeb yn gweithredu yn y ffordd honno—creu'r GIG, sefydlu isafswm cyflog, pasio Deddf priodas gyfartal—mae hynny'n cryfhau'r berthynas sy'n ein rhwymo ni gyda'n gilydd. Yn anffodus, mae Llywodraeth bresennol y DU yn feunyddiol yn methu o ran helpu i gyflwyno'r achos dros undeb o undod rhwng pobloedd y wladwriaeth amlwladol hon a'r holl fanteision y gall yr undeb eu cynnig i ni. Canlyniad hynny, fel y dywedodd Syr David Lidington, y cyn ddirprwy Brif Weinidog ddwy flynedd yn ôl, mewn darlith fis diwethaf, yw bod yr undeb, meddai ef,

'mewn mwy o berygl nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ystod fy oes i.'

Nawr, Llywydd, mae'r sefyllfa honno'n gwneud yr achos dros ailgyhoeddi 'Diwygio ein Hundeb' yn fwy arwyddocaol byth.

Yn ystod tymor hwn y Senedd, fe fydd yn rhaid i'r Aelodau fynd i'r afael â chyfres o gwestiynau cyfansoddiadol, fel effaith protocol Gogledd Iwerddon, a bwriad datganedig Llywodraeth yr Alban i gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth i'r Alban. Nawr, Dirprwy Lywydd, fe ddywedir byth a beunydd wrthyf i nad oes neb yn codi'r materion hyn ar garreg y drws, ac mae hynny'n wir o ran theori gyfansoddiadol bur, ond fel mater o ganlyniad ymarferol, mae'n sicr yn bwysig eu hystyried ac mae'n gwneud gwahaniaeth i bob un o'n cyd-ddinasyddion ni bob dydd, boed hynny'n gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru sy'n ceisio allforio i Ogledd Iwerddon neu'n deuluoedd sy'n ceisio cyfiawnder mewn system llysoedd y mae'r cyn Arglwydd Brif Ustus Arglwydd Thomas wedi dod i'r casgliad ei bod yn achos siomiant iddynt. Ac mae hynny'n golygu fod yna her o ran arweinyddiaeth i bob plaid a phob Aelod unigol o'r Senedd hon wrth fynd i'r afael o ddifrif â'r materion cymhleth a heriol hyn.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:20, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Nid yw haeriadau syml bod annibyniaeth yn cynnig ateb hud a lledrith i ddatrys pob problem yn ddigonol i ateb yr her honno. Ond mae'r rheini nad oes ganddynt fwy i'w gynnig na chwifio'r faner a chanu'r anthem Brydeinig yn fwy euog byth. Ni chaiff y Deyrnas Unedig ei hachub gan symbolaeth wag fel hyn. A llai byth y gellir ei diogelu gan gythruddion bwriadol Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, trwy ddileu pwerau a chronfeydd, diystyru confensiwn Sewel dro ar ôl tro, na mynd trwy'r holl bethau dinistriol sy'n deillio o'r ymddygiad unochrog ymosodol sy'n aml yn nodwedd rhy amlwg o Lywodraeth bresennol y DU.

Ond, Dirprwy Lywydd, nid oes raid iddi fod fel hyn, fel y dengys 'Diwygio ein Hundeb'. Mae'r ddogfen hon yn ailedrych ar ein cynigion ni ar gyfer Teyrnas Unedig lwyddiannus a chadarn ac yn eu mynegi nhw o'r newydd. Mae'n rhoi'r dadleuon hyn yn y cyd-destun newydd a ddaeth i fodolaeth oherwydd digwyddiadau ers ei chyhoeddiad gwreiddiol ym mis Hydref 2019: ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, etholiad cyffredinol, y profiad o ddelio â phandemig byd-eang, gwaith y grŵp ffederaliaeth radical, sefydlu confensiwn cyfansoddiadol i'w lywyddu gan y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown, a'n hetholiad ni yng Nghymru ym mis Mai eleni. Ac er gwaethaf y llwyfan cymhleth a chystadleuol ar gyfer ei lansiad, yn ei hanfod, mae 'Diwygio ein Hundeb' yn nodi fformiwla ar gyfer undeb a all dyfu a ffynnu, nid er gwaethaf datganoli, ond oherwydd datganoli.

Mae'n cychwyn o'r cynnig radical ond syml fod sofraniaeth, bron 25 mlynedd ers dechreuad prosiect datganoli, wedi cael ei gwasgaru erbyn hyn ymysg pedair deddfwrfa etholedig y Deyrnas Unedig. A bod y Deyrnas Unedig yn gallu parhau i fodoli, nid oherwydd bod un corff sofran yn San Steffan, sy'n gallu gwrthdroi popeth y mae pobl yn y pedair gwlad yn penderfynu arno, ond oherwydd, fel mae'r grŵp diwygio cyfansoddiadol hynod nodedig hwnnw'n ei awgrymu, bod pobloedd y Deyrnas Unedig wedi dewis parhau i gronni eu sofraniaeth a diogelu'r hawliau cymdeithasol ac economaidd y mae dinasyddion ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi eu hennill—wedi brwydr galed—iddyn nhw eu hunain.

Nawr, pan gaiff y cynnig canolog hwn ei amgyffred fe fydd yna lawer yn deillio o hynny: sefydlogrwydd datganoli, ac eithrio drwy benderfyniad gan bobl Cymru yn ein hachos ni; ail-lunio'r ffin ddatganoledig, neilltuedig; codio a lleihau cwmpas confensiwn Sewell; diwygio ac ymwreiddio peirianwaith newydd gan lywodraeth i ddod â'r pedair gwlad at ei gilydd at ddibenion cyffredin; a threfniadau newydd yn lle fformiwla Barnett, yn seiliedig ar angen a dirymu gallu mympwyol y Trysorlys sy'n llesteirio'r setliad presennol o hyd.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddweud eto heddiw, fel y gwneuthum yn 2019, nad yw'r 20 cynnig a nodir yn ein dogfen ni'n cael eu cyflwyno ar y sail eu bod yn cynnwys yr atebion i gyd. Cyhoeddi'r ddogfen yw ein cyfraniad ni i'r ddadl, dadl na ellir ei hosgoi ac sydd ag angen dirfawr amdani. Yn hyn o beth, bydd Llywodraeth Cymru yn nodi cyn toriad yr haf sut rydym am fynd ati i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymdeithas sifil a dinasyddion Cymru ynglŷn â'r materion hyn, ac fe fydd 'Diwygio ein Hundeb' ar gael bellach ar ei ffurf ddiweddaraf i lywio'r ddadl hon.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:25, 29 Mehefin 2021

Dirprwy Lywydd, hoffwn orffen ar nodyn gobeithiol. Rydw i wedi fy argyhoeddi yn ddi-os ei bod hi'n bosibl adnewyddu ac adfywio ein hundeb mewn ffyrdd a fydd yn caniatáu iddo ffynnu ar gyfer y tymor hwy. I wneud hynny, bydd angen meddwl yn ofalus, defnyddio ein dychymyg a chydweithio. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, a rhaid inni barchu ein gilydd, pob un.

Ni ddylai'r rhai sy'n credu ym manteision yr undeb ei gymryd yn ganiataol. Mae'n rhaid cyflwyno'r achos cadarnhaol dros y Deyrnas Unedig, a'i gyflwyno unwaith eto, dro ar ôl tro. Dylai'r achos hwnnw fod yn seiliedig ar gapasiti ar gyfer diwygio, a rhaid edrych tua'r dyfodol. Rhaid inni beidio â chamu nôl i'r gorffennol, na gwneud y camsyniad amlwg fod y system bresennol yn gweithio'n dda. Mae'r achos cadarnhaol hwnnw yn cael ei gyflwyno yn y ddogfen rydym ni'n ei chyhoeddi heddiw. Rydw i'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymateb iddi yn yr un ysbryd. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae'n eironig, braidd, pan ddihunais i y bore yma ac edrych ar y penawdau ar WalesOnline a gwefan y BBC, a gweld bod Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu Senedd Cymru mewn dull ymosodol, ac wrth imi edrych heddiw ar drefn y cyfarfod a gweld nad oes datganiad addysg yma, er gwaethaf, yn amlwg, y gynhadledd i'r wasg a gynhaliwyd ddoe gan y Gweinidog addysg, ac nid oes datganiad wedi bod gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â mynd i'r afael ag amseroedd aros. Y rhain yw'r materion mawr y mae pobl yn awyddus i siarad â mi amdanynt, fel Aelod o'r Senedd hon. Rwyf i o'r farn mai'r rhain yw'r materion y dylem ni fod yn canolbwyntio arnynt, yn hytrach nag ar ddadl gyfansoddiadol a thrafodaeth chwe wythnos yn unig ar ôl yr etholiad—neu saith wythnos ar ôl yr etholiad.

Ond, chi yw'r Llywodraeth, a chi sydd â'r hawl i bennu busnes y dydd, ac rydym ni'n trafod ac yn dadlau yn ôl busnes y dydd. Mae'n ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru, dro ar ôl tro, yn sôn am bwerau sydd wedi cael eu dihysbyddu. Fe fyddwn i'n falch o gael gwybod pa bwerau sydd wedi cael eu dwyn oddi ar y sefydliad hwn, yn eich barn chi, wedi refferendwm a dadl Brexit. Nid wyf i fy hunan erioed wedi clywed Gweinidog yn dod ymlaen ac yn dweud beth sydd wedi ei ddwyn.

Fe fyddwn i'n falch o gael deall pam hefyd, yn eich datganiad ysgrifenedig, yr ydych yn sôn am Dorïaid o blith y rhai a ddaeth i mewn i'r Senedd yn 2021 yn chwifio llieiniau sychu llestri. A yw hynny'n helpu'r ddadl mewn gwirionedd? Rwy'n cytuno â chi o ran y Goruchaf Lys, Tŷ'r Arglwyddi, a chysylltiadau rhynglywodraethol, ond nid wyf yn cytuno â chi pan gaiff rhywbeth sarhaus ei fynegi fel hyn.

Mae'n rhaid i'r ddadl o blaid yr undeb gael ei mynegi a'i dadlau a'i thrafod trwy'r amser. Y rhaglen frechu, y buddsoddiad o £8.2 biliwn, dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru: mae'r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol yn y ddadl gyfansoddiadol. Ond, nid ydym yn derbyn bod angen datganoli cyfiawnder troseddol a phlismona. Yn wir, pan edrychodd comisiwn Silk ar hynny, roedd yn dweud y byddai hynny'n costio £100 miliwn. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gost pe byddai'r pwerau hyn yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae'r ffigur hwnnw bron yn 10 mlwydd oed erbyn hyn?

Rwy'n awyddus i gael dadl adeiladol gyda Llywodraeth Cymru o ran newid cyfansoddiadol a datblygu. Ond, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio ar faterion ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd, addysg a'r economi yn ein gwlad wych ni o ddydd i ddydd. Rwy'n credu'n angerddol fod yr undeb yn well undeb o fod â Chymru gref yn rhan o'r undeb hwnnw, ac rwy'n credu, fel y dywedais i, fod yna ddadl i'w chael ynghylch y Goruchaf Lys, Tŷ'r Arglwyddi, a chysylltiadau rhynglywodraethol. Ond, ni fydd y Llywodraeth hon yma ym Mae Caerdydd yn llwyddo wrth siarad am chwifio Jac yr Undeb ar lieiniau—neu Dorïaid yn chwifio llieiniau sychu llestri—nodaf na wnaeth y Prif Weinidog ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yn ei anerchiad i'r Senedd heddiw, ond mae yno yn ei ddatganiad ysgrifenedig. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am atebion i'r cwestiynau hyn a ofynnais iddo.

Ond, gallaf gadarnhau, o'r meinciau hyn, ein bod ni'n ymfalchïo yng Nghymru, ein cenedl wych ni, o fewn y Deyrnas Unedig ac yn angerddol yn ei chylch, ac fe fyddwn ni'n dadlau'n gyson o blaid ei lle hi o fewn y Deyrnas Unedig, mewn undeb cryf o genhedloedd, sy'n gyfartal ac yn uchel eu parch. Nid ydym ni o'r farn fod y ddadl y mae Llywodraeth Cymru yn ei herlyn o ran mater cyfiawnder troseddol yn un sy'n gyfredol nac yn un y mae pobl Cymru yn dymuno ei gweld yn digwydd, ond rwy'n credu y gellir gweld cynnydd mewn meysydd eraill.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:30, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gyfraniad ef. Dechreuodd drwy ddweud y byddai'n well gan bobl Cymru inni siarad am addysg a'r gwasanaeth iechyd, ac eto i gyd, rwy'n nodi, pan gafodd ef gyfle i ofyn cwestiynau i mi, ei fod ef wedi dewis peidio ag ymdrin â'r naill fater na'r llall. Yn wir, ni allaf i ond nodi, yn ystod yr wythnosau sydd wedi mynd heibio ers yr etholiad erbyn hyn, nad yw wedi dewis gofyn cwestiwn imi am y pandemig byd-eang sy'n parhau i ddal ei afael ar Gymru. Felly, gwneud dewisiadau yr ydym ni i gyd, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn gwneud ei ddewisiadau yntau.

Nid wyf i'n cytuno ag ef o ran ei awgrym cyffredinol na ddylem ni ganolbwyntio cymaint ar faterion cyfansoddiadol. Nid oes gennym ni ddewis ond canolbwyntio arnyn nhw. Rydym ni'n ymdrin â nhw bob dydd. Pan fyddaf i'n cyfarfod, fel y gwnaf i'n wythnosol, â Michael Gove ac arweinwyr y Seneddau eraill yn y DU, rwy'n gweld gyda mwy o fanylder pa mor fawr yw'r straen sydd ar Ogledd Iwerddon, a'r effaith y mae protocol Gogledd Iwerddon yn ei chael ar y berthynas rhwng y Llywodraeth yno a'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.

Fe etholwyd Llywodraeth yr Alban ar gynsail refferendwm arall ar annibyniaeth i'r Alban. Pe byddai hynny'n digwydd, fe fyddai'n digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. Sut allem ni beidio â mynd i'r afael â'r materion hynny yn y fan hon os ydym ni o ddifrif yn eu cylch nhw? Rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid o ddifrif yn ei ymrwymiad ef i barhad y Deyrnas Unedig. Y pwynt yr wyf i'n ceisio ei wneud y prynhawn yma yw na fyddwn ni'n gallu cyflwyno'r achos hwnnw os na threuliwn ni rywfaint o amser nawr yn ystyried sylwedd yr achos hwnnw. Fe fydd yn rhaid inni berswadio pobl ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig ei bod er eu lles nhw i barhau i fod yn perthyn i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddwn ni'n gwneud hynny heb gynnal y dadleuon i'w hargyhoeddi nhw o hynny, ac i'r diben hwnnw y cynlluniwyd ein dogfen ni. Fe'i cynlluniwyd i ddangos bod yna ffordd arall o drefnu'r Deyrnas Unedig a fyddai, yn fy marn i, yn meithrin achos cymhellol dros ei pharhad hi. Ni fyddwch chi'n meithrin yr achos hwnnw drwy ddwyn penderfyniadau oddi ar y Senedd a etholwyd i'w gwneud nhw.

Os na all yr Aelod feddwl am un, gadewch imi roi'r tri hyn iddo. Fe benderfynodd Llywodraeth y DU ein dihysbyddu ni o'r pwerau sydd gennym i lunio cynllun iawndal ar gyfer pysgotwyr yma yng Nghymru. Cafodd hynny ei ddatganoli inni ers dechrau datganoli, ac eto, yn ystod y cyfnod ar ôl Brexit, yn hytrach na'n bod yn gallu cynllunio system a fyddai'n addas i Gymru, ac yna'n defnyddio cyllid i weithredu'r cynllun hwnnw, fe benderfynodd Llywodraeth y DU mai hi sy'n llunio'r cynllun i Gymru, ac roedd hynny'n osgoi unrhyw graffu yma yn y Senedd drwy weithredu felly. Mae Llywodraeth y DU yn aml yn bygwth—roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud hynny dim ond yr wythnos diwethaf—gorfodi porthladd rhydd ar Gymru heb unrhyw gytundeb gan Lywodraeth Cymru. Ac i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud y byddwn ni'n barod i gytuno ar borthladd rhydd ar y telerau a nodir gennym ni yn ein llythyr dyddiedig fis Chwefror y llynedd, llythyr na chafwyd ateb iddo byth.

A dyma'r drydedd enghraifft iddo: anwybyddu barn ddiamwys y Senedd hon o ran confensiwn Sewel—nid dim ond nawr o ran materion gwladol pwysig. Er nad wyf i'n cytuno â defnydd Llywodraeth y DU o gonfensiwn Sewel, gallaf o leiaf ddeall pam mae'n teimlo bod angen iddi wneud felly yn yr amgylchiadau hynny. Ond yn ystod ein hetholiad ni yma, fe welsom enghraifft o fater arferol iawn, pryd y dylid bod wedi gofyn i'r Senedd hon am ei chydsyniad—gan fod hynny'n gyfleus i Lywodraeth y DU fe aeth ati a gweithredu beth bynnag, heb i hynny gael ei roi gerbron yr Aelodau yn y fan hon fel sy'n ofynnol yn y setliad cyfansoddiadol. Dyna ddiffyg parch i'r setliad datganoli heb falio dim, sydd wedi mynd yn nodwedd o feddylfryd Llywodraeth bresennol y DU. Mae hyn yn difrodi datganoli, mae'n difrodi'r Deyrnas Unedig.

Mae yna well ffordd na honno. Mae ein dogfen ni'n ei nodi, nid am fod yr holl atebion gennym eisoes, ond am ein bod ni'n credu mewn dadl sy'n ddifrifol. Fe gefais fy nghalonogi gan rai o'r pethau a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ei ymrwymiad ef i'r ddadl ddifrifol honno. Ni fynegais i'r sylwadau a ailadroddodd ef sawl gwaith yn ei gwestiynau, oherwydd mae pob datganiad y mae Gweinidog yn y Llywodraeth yn ei wneud yn nodi 'gwiriwch yn ôl y traddodi' ar ei ddiwedd. Roedd yr Aelod yn gwirio, ac eto i gyd nid oedd wedi ystyried y byddai'n dilyn yr hyn a ddywedais yn hytrach na dogfen nad oeddwn i wedi ei defnyddio. Fe benderfynais i ymatal rhag defnyddio'r ymadrodd hwnnw am rai o'r rhesymau a amlinellodd ef ei hun.

Gadewch inni obeithio, ar draws y Siambr, y gallwn ni barhau i gael y trafodaethau hollol angenrheidiol hyn—y rhai ohonom ni sy'n credu bod achos i'w ddadlau o blaid y Deyrnas Unedig ond ni ellir gwneud hynny heb ei fod ar sail dyfodol amgen i ni, dyfodol sy'n ystyried ein buddiannau cyfunol ni mewn cymdeithas wirfoddol o genhedloedd—rwy'n dyfynnu Mrs May, ei Brif Weinidog Ceidwadol blaenorol ef—lle'r ydym ni'n aros gyda'n gilydd gan ein bod ni'n gwybod fod yr achos dros wneud hynny mor rymus.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ond gadewch imi ddweud wrthych yn fy marn i ble fydd y cynllun hwn sydd gennych yn dechrau dadfeilio. I mi, ym mrawddeg gyntaf un y rhagair y mae hynny. Y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn yn y frawddeg gyntaf honno yw hwn: sut mae gwneud ein hundeb ni'n gryf ac yn gadarn? Siawns mai'r cwestiwn allweddol y dylai Prif Weinidog Cymru fod yn ei ofyn yw sut y gellir gwasanaethu buddiannau Cymru a buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau i'r dyfodol, sut y gallwn ni feithrin cenedl a all gyflawni dyheadau pobl Cymru yn y ffordd orau, a all gynllunio ar gyfer dyfodol tecach, mwy cyfiawn, mwy agored a mwy llewyrchus. Beth bynnag fo'r dadleuon a gyflwynwyd gennych chi ar yr ymylon, mae mynnu mai'r ffordd orau o wasanaethu ein dyfodol ni yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig hon, doed a ddelo—y DU hon o anghydraddoldebau sefydledig, llwgrwobrwyo COVID, elitiaeth coleg Eton—a bod yn rhaid cadw'r DU hon wrth wraidd pob ateb cyfansoddiadol, ar wahân i fethu â deall cyflwr presennol y ddadl ar ddyfodol Cymru, yn anwybyddu'r dystiolaeth eglur na fydd Llywodraethau'r DU, o ba liw bynnag, byth yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf, neu'n wir prin y byddan nhw'n eu hystyried nhw wrth wneud rhai penderfyniadau allweddol.

Rydych yn dweud eich bod yn gwrthod yr hyn yr ydych chi'n ei alw yn ymddygiad unochrog ymosodol Llywodraeth y DU. Ond er y gallai'r Llywodraeth arbennig hon yn y DU, ie, fod yn fwy amlwg ei jingoistiaeth, ac yn fwy awyddus na llawer o Lywodraethau blaenorol i ddatgan rhyw fath o enedigaeth o'r newydd i'r ymerodraeth, y gwir amdani yw, hyd yn oed wrth i ddatganoli, y broses ei hun, flodeuo, fod gan Lywodraeth y DU y pŵer terfynol hwn bob amser i ymaflyd yn yr awenau yn unochrog. Rydym ni wedi gweld bod y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan bellach yn ceisio tanseilio Senedd a Llywodraeth genedlaethol Cymru mewn dull systematig. Ac i'r Ceidwadwyr yn y fan hon, mae dweud y byddai'n well ganddyn nhw fod yn siarad am iechyd ac addysg na chanolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol, ar wahân i'ch atgoffa chi eich bod wedi dewis treulio awr yr wythnos diwethaf yn siarad am y refferendwm Brexit bum mlynedd yn ôl, rwy'n eich atgoffa chi mai'r rheswm am hyn yw ein bod ni'n dymuno gallu gwneud penderfyniadau gwell o ran iechyd ac addysg a swyddi y mae angen inni fod â'r seiliau gorau i adeiladu'r genedl newydd hon arnyn nhw.

Prif Weinidog, mae eich adroddiad chi'n rhoi'r cyd-destun i ni—eich egwyddorion arweiniol, fel petai. Rydych chi'n dweud eich bod wedi credu bob amser yn undod pobl gwledydd cyfansoddol y DU. Rwyf innau hefyd yn credu yng ngrym yr undod hwnnw, mewn llawer ffordd. Ond fe all yr undod hwnnw fod ar sawl ffurf. Fe allai Cymru annibynnol hefyd—ac rwy'n meiddio dweud y byddai'n dymuno, rwy'n siŵr—fod yn rhan o gymdeithas ehangach o wledydd yr ynysoedd hyn, a'r tu hwnt o ran hynny, gan ddewis cydweithredu a chefnogi ei gilydd, mewn llu o ffyrdd gwirfoddol. Mae pobl fel fi'n cael eu galw'n ymneilltuwyr yn aml, ond nid dyhead i ymneilltuo oddi wrth unrhyw beth sy'n fy sbarduno i, nid wyf i'n cael fy ngyrru gan ddyhead i dorri pethau i fyny. Rwy’n ymddiddori mewn adeiladu pethau: meithrin Cymru newydd ac, wrth wneud hynny, meithrin perthynas newydd rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn a thu hwnt.

Mae angen inni gael dadl wirioneddol sydd heb fod yn gibddall. Mae hynny'n wir o ran dwy ochr y drafodaeth ar annibyniaeth. Ni ddylai unrhyw un dwyllo ei hun y bydd cymryd rheolaeth derfynol o'n tynged ni ein hunain yn beth hawdd iawn o'r cychwyn cyntaf. Fe geir heriau difrifol yn gysylltiedig â'r newidiadau mwyaf difrifol. Ond os ydych chi, Prif Weinidog, o ddifrif ynghylch meithrin awdurdod Cymru, mae'n rhaid ichi gofleidio pob dewis hefyd—a pheidio â bod yn gibddall—hyd yn oed os mai eich greddf chi, fel y gwyddom ni, yw ceisio cadw'r undeb.

Yr hyn sydd gennym ni yn yr adroddiad hwn yw ailysgrifennu cynigion blaenorol Llafur, ac mae gennych chi bob hawl i wneud hynny. Mae elfennau o'r hyn a gynigiwch yn gynigion yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn eu hybu ers blynyddoedd lawer fel modd i atgyfnerthu datganoli yn y byrdymor. Ond yn sicr, ar yr adeg hon yn ein taith genedlaethol, a chyda bygythiad mor wirioneddol â'r bygythiad o du Llywodraeth y DU i gywirdeb democratiaeth ein cenedl ni, ni allwn ganiatáu i hyn ddisodli'r math o ddadleuon y gwn i ein bod ni, fel cenedl, yn ddigon aeddfed i'w cynnal. Felly, gadewch inni beidio â thincera, a chan ein bod ni'n cynnig cyfrannu gyda'n gilydd at ailgynllunio'r hyn yr ydym yn ei adnabod nawr fel y DU, er ein lles ni i gyd, gadewch imi ofyn hyn i chi: beth am gael trafodaeth ar botensial Cymru annibynnol, hyblyg, deg ac uchelgeisiol yn flaenoriaeth inni, ac nid dim ond setlo i gadw'r DU doed a ddelo? 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:42, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Rhun ap Iorwerth am hynny. Nid wyf i am feirniadu'r Aelod am ddadlau achos ei blaid ef ei hun. Mae wedi gwneud hynny'n huawdl y prynhawn yma, ac mae ganddo bob hawl bosibl i wneud hynny. Ond yr hyn sydd gennyf i i'w ddweud wrtho ef yw hyn: fe ofynnodd pam nad ydym ni'n gweld y foment hon yn foment i ddechrau trafod y posibilrwydd a nododd ef. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho ein bod ni newydd gael y foment honno; dim ond ychydig iawn o wythnosau yn ôl y daeth y foment honno. O stiwdio i stiwdio roeddwn i'n sefyll yn ymyl arweinydd ei blaid ef wrth i hwnnw roi'r posibilrwydd sydd newydd gael ei amlinellu gerbron pobl Cymru. Dro ar ôl tro, wrth wraidd ymgyrch y blaid honno oedd y posibilrwydd a'r prosbectws yr ydym ni newydd ei glywed. Honno oedd y foment i drafod hynny, ac fe gawsom ni ddyfarniad ar hynny gan bobl Cymru.

Dyna pam rwy'n credu nad hon yw'r foment i barhau i feddwl y dylem ni dreulio'r pum mlynedd nesaf yn siarad am gynnig na chaiff ei roi gerbron pobl Cymru. Yr hyn y dylem ni fod yn sôn amdano yw sut rydym am wneud y mwyaf o'r trefniadau sydd gennym, a dyna'r hyn y mae'r ddogfen hon yn ceisio ei wneud. Mae hwn yn brosbectws sylfaenol wahanol i'r un a nodwyd gan Rhun ap Iorwerth. Mae ef yn sôn am rym undod, ond mae'n debyg nad wyf i erioed wedi credu mai'r ffordd orau o arddangos grym undod yw drwy ymadael â rhywbeth. Rwyf i o'r farn eich bod yn dangos grym undod drwy aros ynddo a thrwy lunio dyfodol lle gallwn barhau i arddangos y pethau sy'n ein huno ni â'n gilydd, yn hytrach na'r pethau a all ein gwahanu ni. Mae hwnnw'n fater anos sydd â thaer ofyn amdano, oherwydd y Llywodraeth sydd gennym ni.

Fe ddywedodd llefarydd Plaid Cymru fod Llywodraethau'r DU bob amser wedi bod â'r gallu i ddadwneud penderfyniadau a ddatganolwyd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe wêl yn ein cynnig ni ein bod ni'n dweud na ddylai hyn ddigwydd, y dylid rhoi'r gorau i ymarfer yr hawl honno nawr. Ond hyd nes i'r Llywodraeth hon fod mewn grym, roedd pob Llywodraeth flaenorol wedi gweithredu gyda deddfiad ymataliol yn y cyswllt hwn. Rhoddodd pob Llywodraeth Lafur yn ystod degawd cyntaf datganoli fwy o bwerau, a mwy o gyfrifoldebau i'r Senedd, ac ni chymerwyd yr un pŵer yn ôl ac ni weithredwyd erioed yn erbyn unrhyw gynnig a basiwyd gan y Senedd hon dan gonfensiwn Sewel. Hyd yn oed pan oedd Mrs May yn Brif Weinidog, roeddem ni'n gallu dod i gytundeb â Llywodraeth y DU mewn trafodaethau dan arweiniad David Lidington, mewn ffordd a oedd yn osgoi rhai o'r peryglon y gallai'r ddau ohonom ni eu dirnad pe bai Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau a oedd yn ei meddiant. Dim ond ers mis Rhagfyr 2019 yr ydym ni wedi gweld Llywodraeth sy'n benderfynol o ddefnyddio'r pwerau hynny, a dyna pam mae cyhoeddi ein dogfen ni mor bwysig, oherwydd mae'n cynnig gobaith gwahanol i'r un a nodwyd gan yr Aelod, ac a oedd, fel y dywedais, wedi ei roi'n uniongyrchol iawn gerbron pobl Cymru ychydig wythnosau yn ôl ac wedi cael ei wrthod yn uniongyrchol iawn ganddyn nhw hefyd.

Rwyf i o'r farn fod yna sgyrsiau amgen i'w cael. Fe wn i y bydd yna Aelodau o'i blaid ef yn fodlon cael hynny. Nid oherwydd y cânt eu cludo i'r man delfrydol yn eu golwg nhw, ond am eu bod nhw'n cydnabod bod tir eto i'w ennill yn y cyfamser. Iddyn nhw, fe fydd honno'n sefyllfa dros dro; i eraill fe fydd yn rhywbeth mwy parhaol. Ond rwy'n dal i gredu bod y sgwrs yn un y byddai unrhyw un yn y Senedd hon sydd â diddordeb difrifol yn nyfodol y Senedd, ei lle hi yn y Deyrnas Unedig—unrhyw un sydd â diddordeb gwirioneddol yn dymuno ymrwymo i gael y sgwrs honno.

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:47, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i allu gwneud yn siŵr bod pawb sydd wedi rhoi eu henwau i lawr yn cael cyfle i siarad, felly a gaf i eich atgoffa mai un munud sydd gennych chi? Ac yn y munud hwnnw gofynnwch eich cwestiynau, a pheidiwch â mynd dros eich munud, os gwelwch chi'n dda. Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae gennyf i dri sylw a dau gwestiwn. Ni all undeb o bedair rhan weithio pan yw Lloegr rhwng pump a chwe gwaith yn fwy o faint na'r tair arall gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i ddatganoli fod yr un fath ar gyfer pob gwlad a rhanbarth datganoledig, fel y mae yn achos taleithiau America a Länder yr Almaen, ond mae'n rhaid i ddatganoli beidio â diweddu yng Nghaerdydd.

Yr unig bobl hyd yma sydd â pholisïau cyson yw Plaid Cymru o ran annibyniaeth ac Abolish o ran dod â'r Senedd i ben, ac mae'r ddwy blaid am i hynny fod yn unig ddewis. Rwyf i wedi bod yn cefnogi 'devo-max' ers tro byd, ac rwy'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu yn fy meddwl i, ond rwy'n siŵr bod gan eraill ddiffiniadau gwahanol o hynny, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen inni ddechrau ei drafod.

Y ddau gwestiwn yw: yn gyntaf, pa bwerau y mae angen eu cadw ar gyfer San Steffan? Ac a ellir cynhyrchu rhestr lawn a phwynt terfyn ar gyfer datganoli er mwyn eu trafod? Fel y dangoswyd gan Ogledd Iwerddon, fe ellir datganoli gwahanol bwerau ar wahanol adegau.

Yn ail, pa drafodaeth a gawsoch chi gyda meiri rhanbarthol yn Lloegr? A ddylem ni hefyd gynnwys arweinwyr siroedd mawr Lloegr fel y gallwn gael trafodaeth gydlynol ar ddatganoli, fel nad yw datganoli'n ymwneud â dim ond Lloegr fawr iawn a thri lle bach iawn arall?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:48, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n cynnig fy marn i ar gwestiwn cyntaf Mike Hedges, ond fy marn i yw honno, ac fe fydd pobl eraill yn amrywio. Rwyf i o'r farn mai aelod-wladwriaethau sydd fwyaf cymwys i gynnal materion tramor, fel y byddai wedi bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o amddiffyn a chynnal y lluoedd arfog yw ar sail y DU gyfan. Ac fel y nodais i mewn ateb cynharach y prynhawn yma, rwy'n credu bod system nawdd cymdeithasol sy'n symud arian ac adnoddau o amgylch y Deyrnas Unedig i'r lle y mae'r angen mwyaf yn rhywbeth sy'n cael ei weithredu orau yn y ffordd honno. Felly, dyna dair enghraifft, ac efallai y bydd gan bobl eraill rai eraill neu fwy na hynny.

O ran meiri rhanbarthol yn Lloegr, rwyf wedi cael cyfarfod diweddar gyda'r mwyafrif o bell ffordd o feiri rhanbarthol. Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig: nid ymwneud â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn unig y mae datganoli. Mae'n ymwneud â Lloegr hefyd. Mae mynd i'r afael â mater Lloegr a sut mae pobl yn Lloegr yn eu gweld nhw eu hunain o fewn yr undeb hwn yn rhan angenrheidiol a phwysig iawn o'r sgwrs hon.

Photo of James Evans James Evans Ceidwadwyr 3:49, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Aeth wythnos arall heibio, mae ein heconomi ni dan bwysau, mae rhestrau aros y GIG dan bwysau, mae ein sector addysg ni dan bwysau, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn awyddus i wastraffu amser hanfodol yn siarad am ddiwygio pellach i'r undeb. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae gan fy etholwyr i, y Senedd hon a Llywodraeth Cymru faterion llawer pwysicach i ymdrin â nhw. Dros y blynyddoedd, mae mwy a mwy o bwerau wedi cael eu datganoli i'r lle hwn, mewn ymdrech i wella bywydau pobl Cymru a gwneud penderfyniadau yn nes adref. Mae mynnu mwy o bwerau a diwygio'r undeb, yn fy marn i, yn gamgymeriad difrifol.

Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r materion y tynnais i sylw atynt yn gynharach, oherwydd dyna mae'r bobl yn dymuno inni fwrw ymlaen â'i wneud. Mae pobl Cymru wedi cael llond bol ar y gemau cyfansoddiadol hyn, ac mae cyflwyno dadleuon fel hyn, a datganiadau, yn llen fwg i fethiannau eich Llywodraeth chi. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi a'ch Llywodraeth ymrwymo nawr i dynnu'r freuddwyd gwrach hon oddi ar y bwrdd?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Democratiaid Rhyddfrydol

(Cyfieithwyd)

Rwyf i'n croesawu'r papur hwn—diolch yn fawr iawn i chi, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r papur hwn am ei fod yn ymwneud â busnes, yn ymwneud â bargeinion masnach sy'n effeithio ar ein ffermwyr a'n busnesau sy'n cael eu gwneud heb unrhyw fewnbwn oddi wrthym ni. Mae'r papur yn ymwneud ag iechyd a sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y pandemig hwn yn cael ei reoli. Mae'n ymwneud â Chymru ac mae'n ymwneud â dyfodol Cymru, a dyna pam mae'n bwysig.

Yr hyn yr wyf i am ei ofyn, Prif Weinidog, yw eich bod chi'n ystyried rhaglen o ymgysylltu â phobl Cymru. Rwy'n cytuno â chi, yn yr etholiadau diwethaf i'r Senedd, fod y rhan fwyaf o bobl wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth, ond ni wnaeth llawer ohonyn nhw, yn enwedig y bobl ifanc. Roedd niferoedd mawr o bobl, yn sgil Yes Cymru, yn awyddus i roi ystyriaeth i annibyniaeth, neu â diddordeb yn hynny, ac felly fe fyddwn i'n croesawu'r cyfle i ymgysylltu ag ystod eang o bobl i sicrhau bod gennym Gymru gref a holliach o fewn y DU. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

(Cyfieithwyd)

Pleser oedd clywed cyfraniad difrifol i'r ddadl hon. Ac fe fydd fy nghyd-Weinidog Mick Antoniw yn cyflwyno cynigion pellach ynghylch sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen â'n hymrwymiad ni i gael sgwrs gyfansoddiadol ar gyfer Cymru. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Jane Dodds, sef bod yn rhaid i'r sgwrs hon fynd y tu hwnt i bleidiau gwleidyddol, mae'n rhaid iddi fynd y tu hwnt i'r bobl hynny sy'n rhan o'r sgwrs eisoes, ac mae'n rhaid iddi estyn allan i gymdeithas ehangach Cymru lle mae gan bobl ddiddordeb yn y pethau hyn. Rwyf i o'r farn mai diystyriol iawn, fel y gwnaeth yr holwr blaenorol, yw amddifadu pobl yng Nghymru fel pe na baent yn ddigon atebol i gymryd diddordeb yn eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain. Mae pobl o lawer o gefndiroedd, mewn llawer o sefydliadau ac, fel y dywedodd Jane Dodds, ein pobl ifanc ni hefyd, yn deall arwyddocâd yr hyn sydd yn y fantol yma, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at sgwrs sy'n eu cynnwys nhw mewn ffordd rymus i'n helpu ni i feddwl am y materion pwysig iawn hyn a'r hyn y maen nhw'n ei olygu i'w dyfodol nhw yn ogystal â'n dyfodol ni.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:53, 29 Mehefin 2021

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich cynllun chi.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn amau eich didwylledd chi o gwbl, na didwylledd y Cwnsler Cyffredinol, ond eto i gyd cael eu gwrthod a wnaiff eich galwadau chi am hunanlywodraeth gan y Llywodraeth yn San Steffan, Llywodraeth sydd ag obsesiwn ynglŷn â chanoli pwerau. Drwy'r canrifoedd a thros y cyfandir, mae San Steffan wedi anwybyddu'r alwad am hunanlywodraeth nes ei bod yn rhy hwyr a hynny'n digwydd yn anochel—annibyniaeth—sefyllfa de facto y cenhedloedd yn y byd sy'n annibynnol erbyn hyn. Ac rwy'n ategu geiriau fy nghyd-Aelod Jane Dodds sef na chafodd annibyniaeth ei wrthod ar y papur pleidleisio. Prif Weinidog, rydych chi'n ymwybodol o ymgeiswyr yn eich plaid chi eich hun sydd o blaid annibyniaeth. Mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol, wrth gerdded o amgylch Gorllewin Caerdydd, o dai sydd â phosteri Yes Cymru yn ogystal â rhai Llafur ar eu ffenestri, ac o sylw Jane Dodds am lawer o bobl ifanc sydd â diddordeb yn hynny. Nid yw'r cynllun hwn yn mynd yn ddigon pell, Prif Weinidog. Fe ddylai ystyried lles ac fe ddylai ystyried yr hyn a fydd yn digwydd yn anochel sef y bydd y Llywodraeth Geidwadol yn gwrthod eich cynllun. A wnewch chi ystyried hynny, os gwelwch chi'n dda? Diolch yn fawr.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

(Cyfieithwyd)

Wel, mae e'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gellir datblygu'r cynllun hwn ymhellach, beth arall y gellid ei ychwanegu ato, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed ymhellach ganddo am y pethau hynny. Nid wyf yn credu, serch hynny, y bydd yn hyrwyddo ei achos ef ei hun os nad y'n barod i wynebu'r dewis uniongyrchol iawn a roddwyd i bobl Cymru yn ôl ym mis Mai, ac yn fy marn i, dyma'r dewis mwyaf amlwg yn holl hanes datganoli. Fel y dywedais i, fe fûm i'n sefyll mewn stiwdios teledu, ac ar y naill law imi roedd yno rywun yn dadlau dros ddiddymu datganoli yn gyfan gwbl, a diddymu'r Cynulliad yn gyfan gwbl, ac fe ddadleuodd ef ei achos i bobl Cymru. Ar y llaw arall imi roedd yno rywun a oedd yn ceisio perswadio pobl y dylid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl, ac fe roddodd yr achos hwnnw wrth galon ei ymgyrch ef. Ac fe gollodd Plaid Cymru dir—nid ennill tir, fe gollodd dir yn yr etholiad hwn, ac nid wyf i'n credu y gallaswn i fod yn fwy eglur, dro ar ôl tro, mewn darllediadau, mewn taflenni, ar bob cyfle a gefais, i ddweud bod y Blaid Lafur yn sefyll dros ddatganoli grymus oddi mewn i Deyrnas Unedig lwyddiannus. Ac yn y pen draw, dyna oedd dewis pobl yng Nghymru, ac rwy'n credu bod angen hefyd i bobl ym Mhlaid Cymru fod yn barod i—. 'Agwedd gibddall', meddai Rhun ap Iorwerth.  Wel, mewn byd cibddall, yna rwy'n credu bod rhaid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hynny hefyd.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 3:56, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Beth bynnag yw ein barn ni, yr unigolion sydd yn y Siambr hon, boed hynny'n status quo, annibyniaeth, devo-max, diwygiad radical o'r undeb, nid oes unrhyw amheuaeth fod hwn yn ymyriad enfawr gan Lywodraeth etholedig yn y ddadl ynghylch diwygio cyfansoddiadol yma yng Nghymru, ond o ran sut y byddai hynny'n effeithio ar y DU yn ehangach hefyd. Ac fe geir rhai cynigion radical yn hyn o beth. Er nad yw'n mynd mor bell ag y byddai rhai'n ei ddymuno ac yn mynd yn rhy bell ym marn eraill, mae'r rhain yn gynigion difrifol nad oes gennyf i amser i'w rhestru'n llawn, ond corff goruchwylio annibynnol newydd ar gyfer cyllid; datganoli yn nodwedd barhaol na ellir ei dadwneud heb ewyllys pobl Cymru na'r Alban na Gogledd Iwerddon; Tŷ'r Arglwyddi i fod yn senedd, yn adlewyrchu rhannau daearyddol o'r DU, a Gweinidogion Cymru yn cael dweud eu dweud o ran cysylltiadau a masnach ryngwladol. Ond gadewch imi ofyn, yn fy unig gwestiwn i: rydym ni'n edrych ymlaen at fanylion ymgysylltiad y gymdeithas sifil yng Nghymru, ond beth am yr ymgysylltu â Thŷ'r Arglwyddi yn ei sefyllfa gyfredol, a'r pleidiau sydd â diddordeb cyfansoddiadol yn y fan honno? Oherwydd er nad yw Llywodraeth y DU yn awyddus i wrando ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd, mae'n ddigon posibl y byddan nhw'n dymuno gwrando a helpu i lunio dyfodol y DU, yn ogystal â Chymru, ar agenda o ddiwygio.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:57, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am yr hyn a ddywedodd ef am ddifrifoldeb y ddogfen. Fe gyfeiriais i yn fy natganiad at y grŵp diwygio cyfansoddiadol. Aelodau Tŷ'r Arglwyddi yw aelodau'r grŵp hwnnw i raddau helaeth, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae yna waith difrifol iawn, iawn yn cael ei wneud gan bwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag yn Nhŷ'r Arglwyddi. Efallai nad yw'r Llywodraeth yn gwrando eto, ond fe fydd yn rhaid i'r Llywodraeth hon wynebu gwirionedd yr hyn a wnaeth o ran Gogledd Iwerddon, a phryd y bydd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cymryd ei mandad o ran cynnal refferendwm. A phan fydd yn rhaid iddi wynebu'r gwirioneddau hynny, o leiaf fe fydd yn gweld bod yna gronfa o waith. Mae hyn yn cynnwys y gwaith a wneir yma yng Nghymru, ond y gwaith sy'n cael ei wneud yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd, ac, fel y dywedais i, y tu allan i'r Llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies am ein parodrwydd ni i gymryd rhan yn y sgyrsiau hynny hefyd, ac mae cyhoeddi'r ddogfen hon yn rhan o hynny. Dyna pam rydym ni wedi gwneud hyn: er mwyn cael rhywbeth yno sydd wedi'i ddiweddaru ac sy'n cynrychioli cyflwr presennol meddylfryd Llywodraeth Cymru; a gall y rhannau eraill hynny o'n peirianwaith cyfansoddiadol ni sy'n barod i gymryd diddordeb difrifol yn hynny i gyd o leiaf wybod beth rydym ni'n ei feddwl, a sicrhau bod hynny'n rhan o'u hystyriaethau nhw wrth iddynt ddod i gyfrannu at y gronfa o syniadau y mae arnom ni eu hangen yn fawr iawn.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 3:59, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn y fersiwn ysgrifenedig o'ch datganiad llafar chi heddiw, fe wnaethoch gyfeirio at chwifio baner yr undeb gan rai o'm cyd-Aelodau yn y Senedd hon yn 'symbolaeth wag'. Y dyfyniad uniongyrchol oedd:

'Ni fydd y Deyrnas Unedig yn cael ei hachub gan y math o symbolaeth wag sydd, yn anffodus, wedi bod yn amlwg hyd yn oed yn ein trafodion ni ein hunain—Torïaid llieiniau sychu llestri 2021'— meddech chi. Prif Weinidog, mae pobl ledled Cymru yn chwifio baner yr undeb oherwydd yr hyn y mae'n arwydd ohono: balchder yn y wlad yr ydym ni'n byw ynddi, ac nid yw hynny'n wahanol i'm cyd-Aelodau yn y Senedd yn gwneud yr un peth. Fe wn i, yn eich ateb chi i Andrew R.T. Davies, eich bod wedi ceisio ymbellhau oddi wrth fersiwn ysgrifenedig eich datganiad llafar, ond dogfen oedd honno a anfonwyd yn eich enw chi gan eich Llywodraeth chi, ac felly y chi sy'n gyfrifol am ei chynnwys. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a ydych chi wedi myfyrio ar y sylwadau hyn ac a ydych chi o'r farn fod y bobl gyffredin hynny mewn cymunedau ledled Cymru sy'n teimlo balchder ym maner yr undeb yn ymhél â symbolaeth wag hefyd? 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 4:00, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, dydw i ddim eisiau treulio fy mhrynhawn yn gorfod rhoi gwersi elfennol i aelodau newydd o'r wrthblaid am y ffordd y mae'r Senedd yn gweithio. Rwy'n gyfrifol am yr hyn yr wyf yn ei ddweud a'r hyn sydd ar Gofnod y Senedd. Os ydych chi eisiau gwybod beth yr wyf yn ei ddweud, dyna lle mae'n rhaid i chi fynd. Caiff Aelodau y fraint o gael copïau ymlaen llaw o'r hyn y gallwn i ei ddweud, ac mae'n dweud ar y gwaelod y dylech wirio hynny yn erbyn yr hyn a ddywedaf mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n credu—. Gobeithio na fydd angen i mi ailadrodd hynny eto, oherwydd mae'n wers elfennol iawn ar y ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu.

Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd: mai Llywodraeth yw hon sy'n ymddangos ei bod yn ymroi i wacter symbolau, sy'n credu, drwy chwifio baneri a pherswadio pobl y bydd corws o'r gân Brydeinig rywsut yn cadarnhau'r undeb—. Wel, rwy'n credu i hynny lwyddo o leiaf i uno pobl mewn ymdeimlad o ddirmyg tuag at y syniad hwnnw, mai dyma lefel y difrifoldeb y maen nhw wedi gallu ei fagu fel Llywodraeth sydd i fod i ysgwyddo'r cyfrifoldebau hynny.