2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 29 Mehefin 2021.
3. Pa gefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru am ei rhoi i gymunedau fedru cael mynediad at well gwasanaeth bandeang? OQ56711
Diolch yn fawr, Llywydd, i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Nid yw cyfrifoldeb dros wasanaethau band eang wedi ei ddatganoli i Gymru. Er hynny, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi mewn mynediad gwell drwy ein cronfa band eang lleol, ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'n cynllun ffeibr.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Byddwn i'n falch petaech chi'n cadarnhau bod y cronfeydd yna i gyd yn agored ac yn fyw ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyswllt gan rai cymunedau, yn cynnwys cyngor Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a chyngor Cyffylliog yn sir Ddinbych, sydd wedi cytuno i weithio gyda chwmni i ddod â band eang ffeibr i’r ardal, a chymryd mantais, wrth gwrs, o’r cyllido sydd a’r gael o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r bwriad wedyn o fanteisio ar yr ariannu ychwanegol sy’n dod o gyfeiriad Llywodraeth Cymru. Cyn yr etholiad mi ddywedwyd bod yr ariannu hwnnw yn dod i ben oherwydd y cyfnod etholiadol. Ers hynny, maen nhw'n dal i aros am sicrwydd bod y cronfeydd hynny bellach ar agor unwaith eto. Mae hynny, wrth gwrs, fel y gallwch chi ei ddychmygu, yn destun rhwystredigaeth, oherwydd mae yna dros 1,000 o gartrefi yn yr ardal dwi’n sôn amdani hi—y rhan fwyaf ohonyn nhw â mynediad sâl at fand eang. Ac rŷn ni'n gwybod am ardaloedd eraill ar hyd a lled Cymru, sydd yn bennaf, wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig, sy’n wynebu yr un sefyllfa. Felly, allwch chi gadarnhau pryd fydd y cymunedau hyn yn cael cadarnhad fod ariannu ar gael er mwyn taclo problem sydd, wrth gwrs, yn dal i fod yn broblem yn fwy na fyddai unrhyw un ohonom ni yn ei ddymuno?
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol yna. Y broblem yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid y cynllun sydd gyda nhw. Maen nhw newydd lansio sgîm newydd i helpu pobl yn y sefyllfa y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio ato. Rŷn ni wedi cytuno nawr gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y cynllun newydd, ac rŷn ni’n dal i fod yn benderfynol i roi arian ychwanegol ar ben cynllun y Deyrnas Unedig i bobl yma yng Nghymru. Dwi’n meddwl, heddiw, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi datganiad sy’n rhoi mwy o fanylion am y cynllun newydd ac yn cadarnhau y bydd yr arian sydd wedi dod o’r blaen o’r Llywodraeth yma yng Nghymru—£3,000 i unigolion, £7,000 i fusnesau—yn parhau. Dwi ddim cweit yn siŵr pryd bydd cynllun y Deyrnas Unedig yn agor i bobl, ond o beth dwi wedi'i weld heddiw, fydd hwnnw ddim yn rhy bell nawr.
Brif Weinidog, amcangyfrifir bod tua 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi nodi eu bod yn teimlo'n unig bob amser neu'n aml, ac mae'n amlwg bod yn rhaid ystyried unigrwydd ac arwahanrwydd fel blaenoriaeth iechyd cyhoeddus. Felly, i bobl hŷn, mae mynediad at wasanaeth band eang gweddus yn hollbwysig. Mae hyn wedi helpu pobl i aros yn gysylltiedig â theulu a ffrindiau a chael mynediad at wasanaethau ar-lein defnyddiol, yn enwedig yn ystod y pandemig. Brif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gynyddu cynhwysiant digidol ledled y wlad? A sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan bobl hŷn, ym mhob rhan o Gymru, fynediad at wasanaethau band eang priodol er mwyn diogelu iechyd meddwl a lles pobl hŷn?
Diolch i Paul Davies hefyd am y cwestiwn. Gwelais i'r ymchwil roedd e'n cyfeirio ato am yr effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain ac ar yr henoed yn enwedig. Rŷn ni'n bwrw ymlaen gyda'r buddsoddiadau rŷn ni wedi'u rhoi fel Llywodraeth. Fel y dywedais i yn yr ymateb gwreiddiol, nid ein cyfrifoldeb ni yw e i roi gwasanaethau band eang yma yng Nghymru, ond rŷn ni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i helpu i ddosbarthu y gwasanaethau yna i bobl ym mhob cwr o Gymru. O ran pwysigrwydd ei wneud e, mae'r pandemig wedi rhoi golau ar hynny. Rŷn ni'n mynd i fwrw ymlaen gyda phob cynllun sydd gyda ni a rhoi mwy o arian i wneud hynny hefyd. Ar ben yr arian rŷn ni'n mynd i'w roi i helpu pobl sy'n mynd ar ôl cynllun newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rŷn ni'n bwrw ymlaen gyda chronfa leol sy'n rhoi £10 miliwn i awdurdodau lleol a busnesau i'w helpu nhw. Bydd mwy o arian ar gyfer y rhaglen sydd wedi dod ar ôl Superfast Cymru. Bwriad y Llywodraeth yw adeiladu ar bopeth rŷn ni wedi'i wneud yn barod, a'i wneud e mewn ffordd sy'n helpu pobl ym mhob cwr o Gymru, ac yn canolbwyntio ar bobl sydd ddim wedi cael band eang ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn y dyfodol.
A gaf i anfon dymuniadau gorau i'r Prif Weinidog a'i deulu hefyd?
Mewn arolwg ddechrau'r mis hwn, roedd mwy na 50 y cant o ymatebwyr o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy, yn enwedig pobl yn sir Benfro, Ceredigion a sir Gaerfyrddin. Dim ond 36 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig oedd â band eang cyflym iawn, o'i gymharu â 67 y cant mewn ardaloedd trefol. Tybed a allai'r Prif Weinidog wneud sylw am gyflwyno band eang cyflym iawn, gan ein helpu ninnau i gyd, hefyd, i fod yn glir ynglŷn â'r cyfrifoldeb dros gyflwyno band eang cyflym iawn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds, Llywydd, a diolch am beth ddywedodd hi i ddechrau.
O ran cyfrifoldeb, mae'n gwbl glir nad yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli; cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw. Yn y modd y byddech yn ei ddisgwyl, o gofio eu hoffterau ideolegol, yr oedden nhw'n credu y gallen nhw ddibynnu ar y farchnad i ddarparu gwasanaeth o'r math hwn. Yn amlwg, mae'r farchnad wedi methu, a bydd y farchnad bob amser yn methu yn y lleoedd hynny y mae Jane Dodds wedi cyfeirio atyn nhw. Bydd y farchnad yn gofalu am ardaloedd poblog lle mae arian i'w wneud ac ni fydd byth yn darparu gwasanaeth yn y Gymru anghysbell a gwledig, lle bydd y gost o ddarparu band eang cyflym i eiddo penodol bob amser yn fwy na'r arian sydd i'w adennill oddi wrth y bobl sy'n byw yno. Dyna pam y camodd Llywodraeth Cymru i mewn. Dyna pam yr oeddem ni'n rhan o Cyflymu Cymru yn nhymor blaenorol y Senedd—dros £200 miliwn wedi ei fuddsoddi a band eang cyflym a dibynadwy wedi ei ddarparu i 733,000 o adeiladau.
Mae mynediad at fand eang ffeibr llawn, ar 21 y cant o safleoedd yng Nghymru, yn uwch nag yn Lloegr ac yn yr Alban. Roedd yn siomedig, rwy'n meddwl, fod cynlluniau Llywodraeth y DU, a oedd i ddarparu band eang gigabit i bob safle yn y DU erbyn 2025, wedi eu cwtogi ers hynny. Yn hytrach na'i fod yn ymrwymiad o 100 y cant, fel y cyhoeddwyd ar y cychwyn, mae bellach wedi ei ostwng i 85 y cant, a'r broblem yw, fel yr oedd Jane Dodds yn awgrymu, rwy'n credu, y bydd y 15 y cant ychwanegol hwnnw yn parhau i fod y bobl hynny yn y rhannau gwledig a mwy anghysbell hynny o Gymru lle mae'r costau dan sylw yn sylweddol iawn. Byddwn ni'n parhau, gyda'n rhaglen olynol i Cyflymu Cymru, a chyda'r rhaglenni eraill yr wyf i wedi eu hamlinellu yn fy atebion cynharach, Llywydd, i ategu'r hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan wario arian Cymru lle y dylid buddsoddi arian y DU yn fwy hael, er mwyn parhau i geisio dod o hyd i ffyrdd o ddarparu'r math o gysylltiadau band eang cyflym a dibynadwy yr ydym i gyd wedi dysgu eu bod mor bwysig yn ystod y 15 mis diwethaf, ac sy'n arbennig o arwyddocaol yn y cymunedau gwledig hynny.