– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 22 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae rhagfarn yn faich sy'n drysu'r gorffennol, yn bygwth y dyfodol, ac yn gwneud y presennol yn anhygyrch. Mae'r geiriau hyn, a ynganwyd gan Maya Angelou dros 30 mlynedd yn ôl, yn dal i adleisio mor uchel heddiw. Mae heddiw'n nodi pedwerydd Diwrnod Cenedlaethol Windrush, diwrnod sy'n cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau dynion a menywod ar draws y Gymanwlad a helpodd i adeiladu Cymru fodern a gwneud y wlad hon yn gartref iddyn nhw, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu nifer o sefydliadau i nodi'r digwyddiad hwn ledled Cymru, i ailadrodd y straeon hynny ac i ddathlu'r cyfraniadau hynny i'n cenedl.
Mae mudwyr wedi bod yn rhan annatod o'n cenedl ers amser maith cyn ac ers i deithwyr y Windrush gyrraedd. A byddai'n esgeulus imi beidio â manteisio ar y cyfle hwn i atgoffa dinasyddion yr UE yng Nghymru fod straeon eich cyfraniadau, bod eich awydd i alw Cymru'n gartref i chi, yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi'n llwyr. A dyna pam yr ydym wedi gweithio'n ddiflino i atgoffa dinasyddion yr UE yng Nghymru i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac i wneud hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar 30 Mehefin.
Fel Llywodraeth Cymru rydym hefyd wedi cefnogi a chynnig noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers tro byd. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, a'r wythnos diwethaf cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi cyfraniad rhyfeddol ffoaduriaid i'r frwydr yn erbyn COVID-19 yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, os cymerwn eiliad i fyfyrio, 2020 oedd, heb amheuaeth, y flwyddyn pan fuom yn wynebu hiliaeth na welsom ei thebyg erioed o'r blaen, lle cawsom ein gorfodi i wynebu'r gorffennol a chyflwr presennol ein cysylltiadau hiliol. Roedd effaith COVID-19 yn parlysu'r byd. Ymhlith y rhai a ddioddefodd yr ergyd galetaf gan y pandemig oedd ein cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Anfonodd llofruddiaeth greulon George Floyd donnau ysgytwol ar draws y byd a sbarduno protestiadau byd-eang yn erbyn anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau hiliol, gan gynnwys yma yng Nghymru. Dyma rai o'r digwyddiadau a newidiodd ein byd a byddant yn cael eu cofio yn ein llyfrau hanes fel rhybudd amserol ar gyfer cyfiawnder hiliol a newid.
Roedd y 25 o Fai 2021 yn nodi blwyddyn ers marwolaeth Mr Floyd. I'w deulu, cafwyd rhyw fath o gyfiawnder pan gafodd rheithgor o 14 y swyddog heddlu Derek Chauvin, yn euog o'i lofruddiaeth. I ni, mae marwolaeth George Floyd yn ein hatgoffa ni bod yn rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â hiliaeth o bob math a symud ymlaen. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymdrechu i wneud hynny: symud ymlaen.
Ym mis Mawrth 2020, trafodais gyda Fforwm Hil Cymru y bwriad i ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a chyflymodd digwyddiadau 2020 ein penderfyniad i gyflawni cynllun erbyn diwedd tymor diwethaf y Senedd. A'r llynedd, cefnogodd y Senedd gynnig i ddileu hiliaeth ac ideolegau hiliol yn llwyr ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol systemig a strwythurol. Ac rydym wedi cymryd camau breision ers hynny yn ein hymdrech i weithio tuag at ddileu hiliaeth a chyflawni ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.
Ar 24 Mawrth, gwnaethom lansio'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft ar gyfer Cymru, Cymru wrth-hiliol, ar gyfer ymgynghori. Rwy'n falch mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i alw am wlad wrth-hiliol.
Roedd y dystiolaeth gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni gyd-adeiladu'r cynllun gweithredu yn gwneud graddfa a natur dreiddiol yr hiliaeth y mae pobl yn ei hwynebu bob dydd yn glir iawn. Roedd hyn yn atgyfnerthu'r angen am y cynllun gweithredu i hyrwyddo Cymru wrth-hiliol. Nid yw'n ddigon da dweud nad ydym yn hiliol. Mae effeithiau niweidiol hiliaeth sydd wedi eu hen sefydlu ac anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny yn gofyn am weithredu rhagweithiol, gwrth-hiliol.
Mae gwrth-hiliaeth yn alwad i unigolion a sefydliadau i ymrwymo i feddwl yn weithredol ac ymateb i effeithiau posibl eu strwythurau, eu prosesau, eu polisïau a'u harferion presennol o ran pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'n bryd inni symud y baich o fynd i'r afael â hiliaeth oddi ar ysgwyddau dioddefwyr gweithredoedd o'r fath, a'i drosglwyddo i bawb mewn cymdeithas. A dyna sut y byddwn ni'n cyflawni Cymru sy'n fwy cyfartal, sy'n decach ac sy'n hygyrch i'n holl ddinasyddion. Ac rwy'n ddiolchgar am ymdrechion cynifer o bobl a sefydliadau ledled Cymru a roddodd eu hamser, eu gwybodaeth a'u harbenigedd gwerthfawr ac i'r rhai a rannodd eu profiadau byw o hiliaeth wrth gyd-greu'r cynllun gweithredu.
Gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni cynllun drafft sy'n glir o ran diben, yn seiliedig ar weithredu, ac wedi'i hyrwyddo gan y bobl a fydd yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'n gynllun gweithredu sydd heb gywilydd yn ei benderfyniad i ddileu anghydraddoldebau hiliol erbyn 2030, ac mae'n gynllun y gallwn ei gryfhau ymhellach.
Er mwyn sicrhau bod y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael i bawb, rwyf wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori i 15 Gorffennaf 2021. Mae'n hanfodol bod yr ymgynghoriad yn ymestyn yn eang i gymunedau amrywiol, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer deialog hyblyg, a all fod ar sawl ffurf. Lansiais grant ymgynghori cymunedol ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i sicrhau bod cyfleoedd ymgynghori ar gael i gymunedau a grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, i'w galluogi nhw i ymateb i'r cynllun. Mae eu lleisiau'n hollbwysig yn y broses hon, gan ein bod am sicrhau ein bod yn cymryd yr amser i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau sy'n wynebu anghydraddoldebau hiliol, i gynnwys y safbwyntiau hynny yn ein cynllun. A byddwn yn cymryd yr hyn a ddysgwn o'r broses hon i lywio sut yr ydym yn gweithio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol.
Mae clywed gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yr un mor hanfodol hefyd, gan nad cynllun i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, mae'n gynllun i Gymru gyfan a'i phobl—mae pob un ohonom yn elwa ar Gymru gynhwysol a gwrth-hiliol. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni barhau i siarad am fynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru, a defnyddio cyfleoedd a gyflwynir i bawb yn y broses ymgynghori hon. Mae'n rhaid inni ymuno fel pleidiau gwleidyddol â chymdeithasau busnes, undebau llafur, cyrff cyhoeddus, y trydydd sector a chymdeithas sifil. Dim ond trwy ein hymdrech ar y cyd i gydnabod a dileu hiliaeth y gallwn ddileu hiliaeth yn wirioneddol a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol.
Mae mis Mehefin hefyd yn Fis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Mis Pride. Ac mae'r digwyddiadau hyn yn gerrig milltir allweddol sy'n rhoi cyfle i ni ddathlu ein hamrywiaeth a'r cryfder a ddaw yn sgil hynny i addysgu a chodi ymwybyddiaeth. Ac mae nodi pen-blwyddi pwysig fel Diwrnod Windrush, Wythnos Ffoaduriaid, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Mis Pride yn atgyfnerthu gwirionedd sylfaenol: ni ddylem, ac nid ydym yn cymryd ein cymunedau'n ganiataol. Yn hytrach, byddwn yn ymdrechu'n galetach i wneud Cymru'n wlad lle mae cydraddoldeb i bawb yn sicr ac nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth a enillir.
Felly, yn olaf, galwaf ar bawb yma i addo gweithio gyda ni yn ein gweledigaeth i sicrhau Cymru wrth-hiliol. Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd mae'n rhaid i ni ymrwymo i ddileu pob math o hiliaeth. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni ymdrechu i greu cymdeithas deg a chlir. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i'n gobeithion ar gyfer ein gwlad gyd-fynd â phenderfyniad i newid. Diolch yn fawr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Dirprwy Lywydd, diolch Gweinidog. Nid yw hiliaeth yn hawdd ei gweld, ei deall na'i chollfarnu. Pe na bai hynny'n wir, byddai'r dasg o adnabod gwrth-hiliaeth yn syml. Mae pobl yn teimlo nad yw rhywbeth yn hiliol os nad yw ymosodiad hiliol wedi digwydd, neu os nad yw'r gair 'N' neu 'P' wedi'u defnyddio. Credwn na all pobl dda fod yn hiliol, credwn mai dim ond yng nghalonnau pobl ddrwg y mae gwir hiliaeth yn bodoli, credwn fod hiliaeth yn ymwneud â gwerthoedd moesol, pan fo, yn hytrach, yn ymwneud â goroesiad y system o bŵer. Mae natur gudd hiliaeth strwythurol yn anodd ei dwyn i gyfrif. Mae'n llithro allan o'ch dwylo'n hawdd, fel arian byw o'ch dwylo—ni allwch ei weld. Mae Reni Eddo-Lodge yn dewis y term 'strwythurol' yn hytrach na 'sefydliadol', oherwydd ei bod yn credu ei fod wedi'i gynnwys mewn mannau llawer ehangach nag yn ein sefydliadau mwy traddodiadol. Mae hiliaeth strwythurol yn anhydraidd ac nid yw'n cael sylw, nid yw'n ymwneud â rhagfarn bersonol yn unig, ond mae'n effeithio ar ein rhagfarn ar y cyd. Dyma'r math o hiliaeth sydd â'r pŵer i gael effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl. Mae'r darlun cenedlaethol yn ddifrifol, ac mae'n effeithio ar grwpiau o fewn y cymunedau du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig yn wahanol.
Gwelwn hefyd y cyhuddiad rheolaidd o hiliaeth yn cael ei daflu yn erbyn unrhyw un sy'n cynnig cymeradwyo, addysgu, i gynnal gwerthoedd gwareiddiad gorllewinol. Mae ofn cael eu cyhuddo o hiliaeth wedi arwain sylwebyddion, gwleidyddion a heddluoedd ledled y byd gorllewinol i ymatal rhag beirniadu neu gymryd camau yn erbyn llawer o arferion troseddol amlwg sydd wedi ymsefydlu yn ein plith. Arferion fel priodas dan orfod, enwaedu menywod, lladd ar sail anrhydedd a bygythiadau cynyddol gan grwpiau crefyddol yn erbyn unrhyw un sy'n amlygu'r feirniadaeth leiaf o'u ffydd. Mae ymchwil o nifer o wahanol ffynonellau yn datgelu sut mae hiliaeth yn treiddio i wead ein byd. Mae hyn yn gofyn am ailddiffinio ar y cyd beth mae'n ei olygu i fod yn hiliol, sut mae hiliaeth yn amlygu ei hun, a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud i'w dileu.
Rwy'n pryderu bod bron i 79,000 o droseddau casineb hiliol wedi'u cofnodi yn 2019, cynnydd o 11 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Fel yr amlinellwyd yn ein maniffesto, ein gweledigaeth yw Cymru heb hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu, a dyna pam yr wyf am bwyso ar Lafur Cymru i arwain drwy esiampl a chymryd ymagwedd dim goddefgarwch tuag at bob math o wahaniaethu ledled Llywodraeth Cymru. Ni allwch ddisgwyl i eraill weithredu oni bai eich bod wedi rhoi trefn ar eich tŷ eich hun. Felly, a wnaiff y Gweinidog egluro beth fydd ei Llywodraeth ei hun yn ei wneud? Wrth ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol newydd, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r Senedd y bydd y ddogfen yn golygu rhywbeth y tu hwnt i'r geiriau cynnes sy'n aml yn gysylltiedig â mynd i'r afael â hiliaeth, ac, wrth adeiladu Cymru wrth-hiliol, eich bod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd i'r bobl? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch yn fawr am y geiriau pwysig iawn yna. Ac, fel y dywedwch chi, mae'n anodd mynd i'r afael â'n hiliaeth strwythurol a'i herio. Gall fynd yn ei blaen, ac mae wedi mynd yn ei blaen yn osgoi sylw am gyfnod rhy hir o lawer. Mae wedi'i chuddio, ac, wrth gwrs, mae wedi effeithio ar gyfleoedd cynifer o bobl. Felly, mae dileu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol—bob amser yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Ac rydym wedi rhannu yn y Siambr hon—rydym wedi cefnogi gyda'n gilydd—fel yr holl bleidiau a gynrychiolwyd y llynedd, ar fwy nag un achlysur, ein hatgasedd tuag at hiliaeth ac ideolegau hiliol.
Rwy'n credu eich bod yn gosod her bwysig i ni fel Llywodraeth Cymru. Ni ddylai fod yn eiriau cynnes yn unig. Mae'n wir—. Dyna pam y mae'r cynllun mor bwysig, oherwydd mae wedi'i adeiladu ar werthoedd gwrth-hiliaeth. Mae'n galw am ddim goddefgarwch, fel y dywedwch chi, o hiliaeth yn ei holl ffurfiau, ond mae wedi'i ddatblygu ar y cyd, ac rwy'n credu mai dyna yw ei gryfder, oherwydd nid y Llywodraeth sy'n dweud, 'Dyma'r hyn sy'n iawn yn ein barn ni.' Mae hyn wedi bod yn ymwneud â'r rhai y mae hiliaeth yn effeithio arnyn nhw, ac mae'r rheini sy'n gweithio yn ein proffesiynau ac sy'n byw yn ein cymunedau wedi gweithio gyda ni i gael y cynllun hwn i'r pwynt lle y gallwn ni ei weithredu wedyn, ac rydym yn bwriadu iddo fod yn gynllun ymarferol. Os edrychwch chi arno, ac edrychwn ymlaen at eich ymatebion, mae ganddo gamau gweithredu penodol iawn i'w cymryd, ac mae ar draws pob maes polisi. Felly, wrth ddatblygu'r cynllun, cyfarfûm â holl Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae gan bob rhan o Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb, a'u gweithredoedd ar ei draws—. Ac, ar ôl ei gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r gwaith o'i gyflawni a bydd yn atebol amdano.
Dim ond ychydig o bwyntiau yr oeddwn i eisiau eu dilyn, o ran y materion allweddol, ac rwy'n credu bod addysg yn hollbwysig, fel y dywedwch chi, oherwydd mae hyn yn effeithio ar gyfleoedd pawb. A chyfraniadau'r cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a Cynefin, yn y gweithgor cwricwlwm newydd, a gadeiriwyd gan yr Athro Charlotte Williams, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ac sy'n gweithio i'r Gweinidog addysg—a sefydlwyd fis Awst diwethaf. Ac fe wnaeth oruchwylio'r gwaith hwnnw o ddatblygu adnoddau dysgu sy'n hanfodol i'n hysgolion. Nododd fylchau yn yr adnoddau neu'r hyfforddiant presennol sy'n gysylltiedig â chymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau, ac, fel Aelodau o'r Senedd honno ddiwedd mis Mawrth a oedd yma, byddwch yn cofio i'r cyn-Weinidog Addysg dderbyn pob un o'r 71 o argymhellion yn adroddiad terfynol gweithgor y cwricwlwm newydd ar 19 Mawrth. Felly, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithredu'r argymhellion. Mae'r Gweinidog, Jeremy Miles, yn bwrw ymlaen â hyn yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, gan edrych arno fel rhan o'r broses newydd o weithredu'r cwricwlwm, ac mae gan gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru gyfres o argymhellion cynnar iawn a gyflwynwyd gan y grŵp ar adnoddau dysgu. Ond yna, wrth gwrs, mae'n golygu bod yn rhaid iddo ymgysylltu ag Estyn, consortia rhanbarthol, rhanddeiliaid cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol ac, yn wir, yr Athro Charlotte Williams, sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru mewn rôl gynghori wrth roi'r argymhellion ar waith.
Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth am droseddau casineb. Rydych yn sôn am gasineb a sut y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r bygythiadau a'r ofn sydd wedi treiddio i wead ein byd, fel y dywedwch chi. Ddoe, cyfarfûm â BAWSO—roedd yn bwysig iawn clywed ganddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud i gefnogi menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig drwy'r pandemig, a'r ffyrdd y maen nhw wedi ymladd yn erbyn sefyllfaoedd anodd iawn i'r rheini heb ffyrdd o gyrchu cymorth i gael arian cyhoeddus, y teimlwn ni wrth gwrs y dylid rhoi sylw i hyn—rydym yn gweithio arno yn Llywodraeth Cymru, ond mae angen cefnogaeth Llywodraeth y DU arno hefyd. Ond i ddweud i gloi, er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o droseddau casineb ac annog adrodd amdanyn nhw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi £180,000 yn natblygiad Mae Casineb yn brifo Cymru, ac mae honno'n ymgyrch i helpu i fynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb. Ac i wneud hynny, i ddatblygu'r ymgyrch honno, unwaith eto, buom yn ymgynghori â phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig i gael y math iawn o ymgyrch gyfathrebu ac i sicrhau ein bod wedi mynd i'r afael â hi mewn ffordd sy'n ddiwylliannol sensitif ond ein bod hefyd wedi edrych ar naws a'r neges ar gyfer yr ymgyrch, ac fe'i lansiwyd ar 9 Mawrth. Ac rydym yn parhau i ariannu'r adroddiad troseddau casineb cenedlaethol a'r ganolfan gymorth sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Byddwn yn cynghori'n fawr iawn, yn enwedig ein Haelodau newydd, a'n Haelodau sy'n dychwelyd, i ymweld â'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, sy'n gweithio mor galed yn y maes hwn. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno gennych chi eich hun, Altaf, ac yn amlwg gan Geidwadwyr Cymru heddiw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fel Aelod newydd i'r Senedd, rwy'n falch iawn o ymateb i'r datganiad hwn ar bwnc mor bwysig o fewn fy wythnosau cyntaf fel Aelod etholedig ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau. Mae gwaredu hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol yn fater cwbl greiddiol i Blaid Cymru ac yn un rwy'n benderfynol o weld cynnydd yn ei gylch erbyn diwedd tymor y Senedd. Gan ystyried bod creu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn rhan o faniffesto Plaid Cymru, rwy'n amlwg yn croesawu'r datganiad hwn yn fawr.
Agorodd y Gweinidog ei datganiad gan ddyfynnu'r awdur Affro-Americanaidd Maya Angelou, ac mae'n destun balchder, wrth gwrs, fod un arall o fawrion llenyddiaeth Affro-Americanaidd, Ralph Ellison, wedi dod i ardal Abertawe a Threforys yn fy rhanbarth i fel GI ac wedi nodi i Invisible Man, ei nofel enwog o 1952, gael ei chychwyn yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth adweithiol Dorïaidd San Steffan am i Windrush a hanes amlddiwylliannol yr ynysoedd hyn fod yn anweledig—ein dyletswydd ni yma yng Nghymru yw peidio â chaniatáu hyn.
Mae'n rhaid i ni roi i bawb bresenoldeb yn ein hanes, rhan i'w chwarae wrth ddychmygu ein dyfodol a llais ac amlygrwydd yn y presennol.
Yn gyntaf, felly, ar y cynllun ac ar yr ymgynghoriad, allwch chi esbonio sut mae argymhellion yr Athro Ogbonna wedi'u hymgorffori i mewn i'r cynllun? Yn ogystal, rydych yn ymestyn y cyfnod ymgynghoriad er mwyn sicrhau mwy o fewnbwn. Beth yw eich proses chi o sicrhau bod lleisiau croestoriadol yn gallu bwydo i mewn? Ac yn olaf ar y cynllun, rydych yn awyddus i gynnwys nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn y weledigaeth o Gymru wrth-hiliol. Beth yw'r system o atebolrwydd sydd wedi'i adeiladu i mewn i'r cynllun i sicrhau bod y weledigaeth yma'n troi'n realiti?
Yn ail, mae angen i lwybrau arweinyddiaeth fod yn glir i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Beth yw eich gobaith chi o'r effaith y bydd ehangu a diwygio'r Senedd yn cael ar greu Cymru wrth-hiliol? Ac yn olaf, mae yna ardaloedd polisi amlwg—addysg a thai—lle gall y Senedd achosi newid positif. Ond rwyf hefyd o'r gred fod cymaint mwy y gallwn ei wneud os gwnawn ni ddatganoli'r heddlu a chyfiawnder. Mae'n destun tristwch bod Cymru wedi'i chlymu at Lywodraeth adweithiol asgell dde sy'n cael ei harwain gan wleidydd sydd wedi gwneud datganiadau hiliol, sy'n ei gwneud hi'n anos i bobl fynnu hawliau cyfartal a lloches—er enghraifft, yn sgil y bygythiad presennol i rym y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol—ac sydd wedi torri hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod i swyddogion y Llu Ffiniau.
Does dim amser heddiw i restru nifer helaeth yr enghreifftiau eraill o ymddygiad sydd wedi gwneud dim i sicrhau diwedd i hiliaeth a chamwahaniaethu. A ydych chi felly'n cytuno gyda mi, yng ngoleuni'r cynllun hwn, fod Senedd Cymru mewn safle llawer gwell i wneud penderfyniadau ar gyfiawnder sy'n effeithio ar gydraddoldeb, ac y byddai ei ddatganoli yn gymorth ychwanegol yn ein siwrnai at gyrraedd Cymru wrth-hiliol? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch yn fawr am eich cwestiynau.
Rwyf hefyd wrth fy modd yn eich croesawu chi—a'ch llongyfarch chi, rhywbeth nad wyf wedi cael y cyfle i'w wneud—i fod yn llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, ac i ymateb i'ch cwestiynau am y datganiad pwysig iawn hwn, y gwn fod Plaid Cymru wedi'i gefnogi'n llawn. Yn wir, roedd yn dda iawn, yn y Senedd flaenorol, pan oedd gan y pwyllgor a gadeiriwyd gan John Griffiths, a oedd yn amlwg ag Aelodau Plaid Cymru, Aelodau o bob rhan o'r Senedd—. Roedd cefnogaeth mor gryf i'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, wrth i ni ei ddatblygu, a'r dystiolaeth yr oedden nhw yn ei chymryd, yn enwedig o effaith anghymesur COVID-19 ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd yn edrych ar yr effeithiau economaidd-gymdeithasol hefyd—. A'r hyn a oedd yn wirioneddol bwysig oedd, wrth i ni edrych ar yr effaith anghymesur, ein bod yn gallu elwa ar yr Athro Emmanuel Ogbonna, a fu'n gweithio gyda phobl â phrofiad bywyd o hyn, yn edrych ar yr effeithiau economaidd-gymdeithasol. Dyna pam y mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn edrych—ac, yn wir, y rhaglen lywodraethu, sydd mor bwysig—. Os edrychwch chi drwy'r rhaglen lywodraethu, nid cydraddoldeb yn unig sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae camau gweithredu o ran tai, o ran cyflogadwyedd, o ran gwella mynediad at brentisiaethau, a hefyd o ran addysg, fel y dywedais eisoes.
Nawr, un o'r materion pwysicaf yng ngwaith cychwynnol cynnar y rhai a oedd yn cyd-lunio'r cynllun oedd edrych ar beth ddylai'r blaenoriaethau fod: ie, wrth gwrs, iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd addysg, cyflogaeth ac incwm ac arweinyddiaeth a chynrychiolaeth, a dyna lle y byddwn yn gwneud y newidiadau. Daeth y system cyfiawnder troseddol i mewn hefyd, er nad yw wedi'i datganoli. Roedd yn amlwg iawn, o'r trafodaethau a hefyd o edrych ar y dystiolaeth o adroddiadau fel adroddiad David Lammy, fod angen inni edrych ar effaith y system cyfiawnder troseddol ac, yn wir, yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n pwerau, ond hefyd edrych ar, unwaith eto, y rhaglen lywodraethu, gan edrych ar blismona a datganoli plismona a chyfiawnder a sut yr ydym yn symud ymlaen â hynny, ond edrych ar dai a llety, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon, democratiaeth leol, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, y cyfan—popeth yr ydym yn gyfrifol amdano fel Senedd—ond wrth gwrs llawer mwy na hynny.
Rwyf hefyd eisiau dweud bod pennod yn y cynllun, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymateb iddi'n llawn, o ran y system cyfiawnder troseddol a sut y gallwn gymryd camau i gefnogi ac ymateb o fewn ein pwerau ac yna edrych ymhellach ar yr hyn y gallwn ni ei wneud. Bydd rhywfaint o hynny mewn partneriaeth hefyd, o ran polisïau nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Enw'r bennod yw 'Troseddu, Cyfiawnder, Agweddau Atgas a Chydlyniant Cymunedol', ac mae cydlyniant cymunedol, wrth gwrs, yn hanfodol o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael ag effaith hiliaeth ar bobl, unigolion a chymunedau.
Mae adeiladu cymunedau cydlynol ac integredig yn rhan bwysig o'r camau gweithredu, gan gydnabod bod pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu tangynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol hefyd, bod angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei adlewyrchu, yn enwedig o ran ein hasiantaethau cyfiawnder troseddol, ond hefyd yn cydnabod bod hyn yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n adnewyddu ein canolfan adrodd am droseddau casineb a chymorth i Gymru, ac rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y pwyntiau hynny. Felly, gyda'ch cefnogaeth chi, rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol, wrth i bwyllgorau ddechrau ffurfio, a symud ymlaen, nid yn unig ymgysylltu â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ond sut yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod wedi darparu cyllid, nid yn unig i grwpiau gyfrannu at ddatblygu'r cynllun, ond, fel y dywedais i yn fy natganiad, roeddem hefyd, o fewn y cyfnod ymgynghori hwn, yn estyn allan at fwy o grwpiau i dreiddio'n ddwfn i gymunedau. Felly, rydym wedi rhoi mwy o grantiau i ddweud, 'Dyma'r cynllun' fel y gallant ymateb a chyfrannu ato. Felly, mae wedi bod yn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru gyfan.
Ond rwy'n credu wrth i'r gwerthoedd—. Os edrychwch chi ar y cynllun, ein diben yw gwneud newid ystyrlon i fywydau cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig drwy fynd i'r afael â hiliaeth, a chredwn mai dim ond am eu hawliau y mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn gofyn, yn hytrach na ffafrau wrth wneud penderfyniadau, yn y gweithlu a darparu gwasanaethau ac ym mhob agwedd ar fywydau bob dydd.
Diolch hefyd am roi sylwadau ar Invisible Man a'r hyn a ddechreuodd yng Nghymru, a Maya Angelou. Pan euthum i—. Siaradais â hynafgwyr Windrush heddiw, ac fe siaradon nhw am y 73 o flynyddoedd, pan ddaethon nhw ar yr Empire Windrush. Fe ddaethon nhw oherwydd y gofynnwyd iddyn nhw ddod. Fel y dywedon nhw, 'Gwnaethom ateb': 'Galwodd Prydain—fe wnaethom ni ateb.' Roedd hynny ar y faner, ac yr oedd clywed Roma Taylor, cyn-filwr ysbyty maes Cymru 203, yn siarad heddiw yn bwerus iawn.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid, wrth gwrs, sy'n ymwneud â'r holl waith y maen nhw wedi'i wneud i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft hwn. Mae'n sicr yn feiddgar, mae'n uchelgeisiol, a dyna sydd ei angen arnom i helpu i ddileu hiliaeth yma yng Nghymru. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, Gweinidog, mae'n cwmpasu pob maes, ac ni allwn gwmpasu pob maes yma heddiw, felly rwy'n mynd i ganolbwyntio yn fwy ar ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon, yn enwedig chwaraeon, oherwydd byddech chi'n disgwyl i chwaraeon fod yn un maes lle byddai pobl yn unedig, ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, gyda ni i gyd yn rhannu awydd cyffredin i weld ein tîm neu ein gwlad yn gwneud yn dda, boed hynny ar lefel leol neu ar lefel genedlaethol, ac eto mae'n faes lle gwelwn gystadleuwyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn profi rhai o'r camdriniaethau mwyaf erchyll. Yn gynharach eleni, cafodd y pêl-droedwyr o Gymru Ben Cabango a Rabbi Matondo negeseuon hiliol difrïol ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Mecsico ym mis Mawrth. Dim ond dau o nifer o chwaraewyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a brofodd gamdriniaeth erchyll ar-lein eleni yn unig yw'r dynion ifanc hyn. Rwy'n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda sefydliadau ynghylch mynd i'r afael â hiliaeth ar-lein mewn chwaraeon.
Nodais mai un o'r camau gweithredu allweddol yn y cynllun ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yw cymryd camau i gynyddu amrywiaeth ethnig yn y gweithlu ar bob lefel, ac yn benodol mewn timau arwain ac ar fyrddau. Roeddwn yn arbennig o falch o weld hynny yng ngoleuni'r adroddiad gan Wales This Week a ddangosodd y—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben nawr?
—diffyg amrywiaeth yng nghyrff llywodraethu chwaraeon mwy Cymru. Iawn. Datgelodd y ffigurau, o 765 o weithwyr, mai dim ond 19 oedd o'r cymunedau hynny. A ydych yn cytuno â mi, Gweinidog, ei bod yn rhaid inni, er mwyn i bethau newid, eu newid ar y bwrdd, a rhaid i ni arwain o'r brig?
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson, a diolch am dynnu ein sylw at hyn heddiw—y maes allweddol hwn o hiliaeth mewn chwaraeon, a'r malltod, y ffordd gywilyddus y mae cynifer o ddynion a menywod ym maes chwaraeon yn dioddef cam-drin hiliol, a'r cam-drin hiliol sydd yno ar y cyfryngau cymdeithasol. Dydyn ni ddim i gyd yn gweld hynny. Maen nhw yn gweld y cam-drin hiliol hwnnw ar ôl perfformio'n wych yn eu chwaraeon ac yn dangos eu talent a'u sgiliau, ac i'w timau, a'r cam-drin hiliol hwnnw sydd mor wrthun i ni. A diolch am dynnu ein sylw at hyn yn y ddadl hon heddiw. Mae'n amlwg bod yn rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth mewn chwaraeon. Dyna pam y mae'r thema bolisi honno yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol—diwylliant, chwaraeon a threftadaeth—ac rwy'n falch, unwaith eto, ei fod wedi'i amlygu'n glir iawn yn y rhaglen lywodraethu. Mae'n flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon.
Mae'n rhaid inni wneud rhywbeth ynghylch y cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol hynny yng Nghymru, a amlygwyd gan y rhaglen ITV honno, Wales This Week. Ac rydych yn tynnu sylw at y thema polisi, yr arweinyddiaeth a'r gynrychiolaeth. Rydym wedi ymrwymo, Dirprwy Lywydd, i ddal holl arweinwyr cyrff cyhoeddus yn bersonol atebol am ddarparu gweithlu cynrychioliadol, a gweithleoedd cynhwysol a seicolegol ddiogel. Rydym yn cefnogi gwaith Chwaraeon Cymru ac maen nhw'n gweithio gyda UK Sport, Sport England, Sport Scotland a Sport Northern Ireland i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol, ond bellach disgwylir iddyn nhw ymateb o ran y camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, hefyd, ein bod yn cydnabod gwaith Chwaraeon Cymru sydd wedi cynhyrchu—ac mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i wybodaeth o'r rhaglen honno—ymgyrch #TellYourStory, sy'n gofyn i bobl o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o sut beth yw bod yn rhan o chwaraeon neu hyd yn oed gael eu heithrio ohonyn nhw, a'r hiliaeth honno sydd wedi gyrru pobl allan o chwaraeon oherwydd yr effaith annioddefol ar eu bywydau.
Dyma hefyd pam y mae hi mor bwysig ein bod yn buddsoddi yn Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn ein hysgolion, yr elusen addysgol wrth-hiliol honno. Mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'n plant a'n pobl ifanc. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n dangos esiampl; pêl-droedwyr ydyn nhw'n bennaf, ond nid bob tro, ond maen nhw'n cyflwyno neges wrth-hiliol i bobl ifanc ac eraill mewn ysgolion. Efallai y byddai rhai ohonoch hefyd wedi bod mewn ysgolion pan oedden nhw'n ymgymryd â'u gwaith, ac mae mor bwerus ac mor bwysig.
Ond gadewch i ni fynd i'r afael â hyn, a diolch i chi am dynnu sylw at hyn a'i amlygu, sef yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, a rhaid i bob un ohonom wneud hynny heddiw o ran hiliaeth mewn chwaraeon, wrth i ni feddwl am ein chwaraewyr wrth iddyn nhw symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n bedair blynedd i'r wythnos hon ers i Lywodraeth Cymru fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth—penderfyniad yr oeddwn i a'r holl Aelodau ar y meinciau hyn yn ei groesawu'n fawr. Credaf fod cymryd arweiniad wrth gamu ymlaen fel hynny, a chymryd gafael ar y diffiniad hwnnw a'i gymhwyso i sefydliad yn beth pwysig iawn i'w wneud. Ond, yn anffodus, mae llawer o sefydliadau, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy'n dal yn gwrthod mabwysiadu'r datganiad gwaith penodol hwnnw a diffiniad o wrthsemitiaeth, gan gynnwys llawer o'n prifysgolion. Ychydig i lawr y ffordd yma, mae Prifysgol Caerdydd yn dal i wrthod mabwysiadu'r datganiad penodol hwnnw ar hyn o bryd, gwaetha'r modd.
A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i nid yn unig annog pobl i fabwysiadu'r datganiad hwn yn rhagweithiol, y rhai a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ond i'w gwneud yn ofynnol iddyn nhw fabwysiadu'r diffiniad, wrth symud ymlaen? Oherwydd rwy'n credu ei bod yn bryd nawr i ddechrau mabwysiadu dull mwy radical o ymdrin â'r math o gasineb gwrth-Iddewig yr ydym yn ei weld, yn anffodus, ar rai o'n campysau.
Wel, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y byddem yn ei wneud beth bynnag. Mae gan gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru ystod eang o gamau gweithredu sy'n ymwneud ag addysg, gan gynnwys addysg uwch, ac mae edrych ar y materion hyn mewn cysylltiad â'r disgwyliadau sydd gennym o'n sefydliadau addysg uwch yn amlwg yn rhan o hynny o ran pwysigrwydd y diffiniad hwnnw. Diolch.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch, Weinidog, hefyd, am y datganiad yma. Dwi'n falch gweld y camau sy'n cael eu cymryd yn hyn o beth.
Roeddwn i eisiau cymryd y cyfle yma i nodi yn benodol y ffaith ei bod hi'n Fis Hanes y Roma, y Sipswn a Theithwyr, ac roeddwn i'n falch iawn eich clywed chi'n cyfeirio at hynny yn eich datganiad chi. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod hiliaeth yn erbyn y cymunedau yma yn parhau i fod yn dderbyniol yn ein cymdeithas ni, a hynny yn seiliedig ar anwybodaeth. Ond, oherwydd yr anwybodaeth yna, dyna yw sail y ffaith nad oes yna ddim yn cael ei wneud i ddathlu cyfraniad y cymunedau yma i'n hanes a'n diwylliant a'n twf ni fel cenedl. Os ystyriwch chi mai heb y Roma a'r Sipsiwn, er enghraifft, fuasai gennym ni ddim ein caneuon gwerin a'n dawnsio gwerin ni yma yng Nghymru heddiw, fel roedd Dr Meredydd Evans wedi'i nodi. Ac rydych chi'n meddwl yn benodol am bobl fel Abram Wood a chyfraniad anferthol ei deulu o; yn meddwl hefyd am iaith y Roma yng Nghymru—y Kale yma. Hynny ydy, yn Nolgellau, mae pobl yn parhau i gyfeirio at ei gilydd fel 'chavi', sef 'plentyn' yn iaith Romani Cymru. Ac fel rhywun a gafodd ei fagu am gyfnod yn Abertawe, dwi'n gyfarwydd iawn â'r term 'mush'—pobl yn cyfeirio at ei gilydd fel 'mush'—sef y gair am 'ddyn' yn iaith y Roma yma yng Nghymru. Ond does yna ddim cydnabyddiaeth o rôl y cymunedau yma yn ein twf ni fel cenedl, na hyd yn oed statws swyddogol i'r iaith na'u diwylliant nhw. Felly, beth ydych chi am wneud i sicrhau bod y cymunedau yma, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn nhwf ein cenedl ni ac yn ein diwylliant ni, eu bod nhw'n cael y gydnabyddiaeth gywir, ynghyd â phob un gymuned arall yma, ac yna hefyd i gael gwared ar yr ymosodiadau hiliol sydd yn eu herbyn nhw? Diolch.
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn yna gan yr Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid bob blwyddyn i TGP Cymru i gyflawni'r prosiect Teithio Ymlaen, sy'n rhoi cyngor, eiriolaeth a chymorth ar gyfer cymryd rhan i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Ac mae gennym grŵp rhanddeiliaid, yr ydym yn gweithio'n agos iawn ag ef, yn enwedig dros y pandemig, i deilwra ein hymatebion iechyd cyhoeddus ar gyfer y cymunedau hyn sy'n agored i niwed, ond hefyd i ymgysylltu â'r cymunedau hynny i edrych ar yr argymhellion ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Ond rwy'n credu bod pwynt pwysig iawn a wnaed yn ymwneud â'r ffaith y gallwn ddysgu cymaint mwy gan ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rwy'n siŵr bod Mabon yn ymwybodol o Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani. Maen nhw wedi cynhyrchu'n ddiweddar—ac mae hynny'n cael ei gefnogi gennym ni—adnodd archif llafar LGBTQ Sipsiwn, Roma a Theithwyr, oherwydd, yn amlwg, mae cysylltiadau rhyngadrannol hefyd, o ran Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ogystal â Mis Pride. Mae gennym gystadleuaeth yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr gyda thimau cydlyniant cymunedol ledled Cymru. Yn wir, maen nhw'n dylunio mygydau, gyda phobl ifanc yn cymryd rhan. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod yr Athro Charlotte Williams wedi ymgysylltu drwy'r grwpiau yr ydym yn gweithio gyda nhw. Maen nhw'n bwriadu cynnwys diwylliant a gwerthoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr o fewn y cwricwlwm a'r mecanwaith cymorth i ysgolion, oherwydd gyda'n plant a'n pobl ifanc y byddwn ni'n dechrau gwneud y gwahaniaeth hwnnw.
Byddaf nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.