3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:55, 22 Mehefin 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Am y tro cyntaf yn y Senedd hon ac am y tro cyntaf ers nifer o fisoedd, mae'n rhaid imi ddweud wrth Aelodau fod achosion o'r coronafeirws, yn anffodus, yn cynyddu yma yng Nghymru. Unwaith eto, rŷn ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol ac rŷn ni ar ddechrau'r drydedd don o'r pandemig. O fewn ychydig iawn o wythnosau, mae amrywiolyn delta, roedden ni'n arfer ei alw'n amrywiolyn sy'n peri pryder sy'n tarddu o India, wedi lledu o dri chlwstwr bach yng ngogledd a de-ddwyrain Cymru i'n cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

Dros y pythefnos diwethaf, mae cyfradd achosion y coronafeirws a'r gyfradd bositifrwydd wedi mwy na dyblu. Heddiw, y gyfradd achosion yw 31.3 achos fesul 100,000 o bobl. Mae achosion yn cynyddu bron ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, wedi'u gyrru gan yr amrywiolyn hwn sy'n symud yn gyflym ac yn hynod o hawdd i'w drosglwyddo. Yng Nghonwy, mae'r cyfraddau bellach yn agosáu at 100 o achosion fesul 100,000 o bobl, ac yn sir Ddinbych a sir y Fflint maen nhw'n uwch na 50 mewn 100,000.

Dirprwy Lywydd, mae wyth o bob 10 achos newydd o'r coronafeirws yng Nghymru yn achosion o'r amrywiolyn delta. Amcangyfrifir bellach fod y gyfradd R—yr R rate—ar gyfer Cymru rhwng 1 ac 1.4, sy'n arwydd pellach fod heintiau'n codi unwaith eto. Mae'r dystiolaeth i gyd yn awgrymu bod yr amrywiolyn delta yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn alffa—amrywiolyn Kent—a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r achosion yn yr ail don dros y gaeaf.

Nid Cymru yw'r unig ran o Brydain sy'n gweld ton gynyddol o achosion y coronafeirws sy'n cael eu hachosi gan amrywiolyn delta; os rhywbeth, rŷn ni ychydig o wythnosau y tu ôl i'r sefyllfa yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr erbyn hyn, mae dros 70,000 o achosion wedi'u cadarnhau o amrywiolyn delta, a rhyw 5,000 yn yr Alban. Yn Lloegr a'r Alban, mae niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda'r coronafeirws unwaith eto, ac, yn anffodus iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cadarnhau 73 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag amrywiolyn delta. Yn ffodus, dŷn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwn eto yma yng Nghymru. Rŷn ni tua dwy neu dair wythnos y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau, ond mae hyn yn darparu darlun sy'n peri gofid i ni.

Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi oedi eu cynlluniau eu hunain i lacio cyfyngiadau'r coronafeirws oherwydd pryder am yr amrywiolyn delta. Ac yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau na fyddwn yn bwrw ymlaen ag unrhyw lacio newydd o'r cyfyngiadau dan do yn lefel rhybudd 1 yr wythnos hon, na dros gylch y tair wythnos nesaf. Byddwn ni'n defnyddio'r saib pedair wythnos i ganolbwyntio ar gyflymu brechiadau er mwyn helpu i atal mwy o bobl rhag mynd yn ddifrifol wael wrth inni wynebu'r don newydd yma o heintiau.

Er bod achosion yn codi, mae'n dal i fod gyda ni'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, a, diolch i ymdrechion enfawr pawb sy'n ymwneud â'r cynllun, mae rhai o'n cyfraddau brechu ni ymysg y gorau yn y byd. Bydd hyn i gyd yn ein helpu ni wrth inni wynebu'r drydedd don yma. Mae'r gwaith modelu'n awgrymu y gallai oedi o bedair wythnos nawr helpu i leihau'r nifer uchaf o dderbyniadau dyddiol i'r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo'r gwasanaeth iechyd yn brysur iawn yn ymateb i'n holl anghenion gofal iechyd, nid jest y coronafeirws.