3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd

– Senedd Cymru am 2:03 pm ar 16 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:03, 16 Mehefin 2021

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad ar newid hinsawdd, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad hwnnw. Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ei drydydd asesiad annibynnol ar risg hinsawdd y DU. Mae'n ddeunydd darllen heriol iawn. Mae'n nodi 61 o risgiau a chyfleoedd yn sgil newid hinsawdd i Gymru, gan gynnwys i seilwaith busnes, tai, yr amgylchedd naturiol ac iechyd. Roedd 26 o'r 61 o risgiau wedi cynyddu o ran eu difrifoldeb dros y pum mlynedd diwethaf. Gallwn weld hyn drosom ein hunain. Yn 2018, gwelsom yr haf poethaf ers dechrau cadw cofnodion. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cofnododd Cymru ein mis Chwefror gwlypaf a'n llifogydd gwaethaf mewn 40 mlynedd. Nid yw'r rhain yn ddigwyddiadau anarferol mwyach; mae'r tywydd anrhagweladwy ac eithafol hwn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni ddod i arfer ag ef.

O fewn oes ein plant, mae'r adroddiad yn rhybuddio am aeafau gwlypach, hafau sychach a phoethach a chynnydd yn lefel y môr o hyd at ddwy droedfedd a hanner ar hyd arfordir Cymru. Gallai'r rhain gael effeithiau dinistriol. Ym mhob categori a astudiwyd gan yr adroddiad, ceir llu o risgiau gyda'r sgôr brys uchaf posibl. Mae'r cyngor hwn yn amserol iawn. Mae sefydlu gweinidog newid hinsawdd newydd yn ei gwneud yn haws trefnu prif feysydd Llywodraeth ddatganoledig sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein hallyriadau: tai, trafnidiaeth, ynni, cynllunio, polisi amgylcheddol a ffyrdd digidol o weithio.

Mae'r newid sefydliadol hwn yn ein galluogi i adeiladu ar sylfeini gwaith polisi hanfodol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ein cynllun addasu, 'Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd', ar yr ail flwyddyn o'i gyflawniad bellach. Mae ein strategaeth llifogydd genedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, yn nodi sut y byddwn yn rheoli perygl llifogydd dros y degawd nesaf. Ac eleni rydym yn buddsoddi £65 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd, y swm mwyaf a fuddsoddwyd yng Nghymru mewn un flwyddyn. Yn fwy na hynny, mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ariannu mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer mwy na 45,000 o gartrefi ledled Cymru, a darparu system rheoli llifogydd ar sail natur ym mhob prif dalgylch afon i ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir.

Rydym yn gwneud llawer yng Nghymru. Astudir ein fframwaith cyfreithiol ar ddeddfu ar gyfer anghenion cenedlaethau'r dyfodol ledled y byd. Mae ein gweithredu ymarferol ar ailgylchu yn agos at frig y tabl yn fyd-eang. Dilynwyd ein treth ar fagiau siopa untro yn eang ac mae wedi llwyddo i leihau'r defnydd o blastig yn sylweddol.

Ers 1990, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru wedi gostwng 31 y cant. Ond Lywydd, mae maint ein her yn fawr. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, bydd angen inni fwy na dyblu'r holl doriadau y llwyddasom i'w gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf. Os na wnawn fwy na dal ati ar ein cyflymder presennol, ni lwyddwn i gyflawni sero-net tan tua 2090. Rydym wedi ymrwymo i'w gyrraedd erbyn 2050, ond o ystyried difrifoldeb y cyngor newydd heddiw gan y pwyllgor ymaddasu, ni allwn fod yn hunanfodlon, ac ni allwn dybio ychwaith y bydd y targed hwn yn aros yn sefydlog.

Dros yr 16 mis diwethaf rydym i gyd wedi dod i arfer â pholisi cyhoeddus sy'n seiliedig ar y wyddoniaeth. Rydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â'r Prif Weinidog yn dweud wrthym fod y data'n rhoi lle inni wneud dewisiadau, ac wrth i'r data a'r wyddoniaeth newid, mae'r dewisiadau sydd gennym i'w gwneud yn newid. Rydym wedi dilyn y dull hwn o fynd i'r afael â'r coronafeirws. Rhaid inni ddilyn yr un dull ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Bydd y Llywodraeth hon yn arwain, ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain—ni all yr un Lywodraeth wneud hynny. Mae'n rhaid i bob busnes a sefydliad, a phob un ohonom ni, ystyried ein cyfrifoldebau ein hunain, ystyried effaith y dewisiadau a wnawn, y ffordd rydym yn gwresogi ein cartrefi, pam a sut y teithiwn, beth rydym yn ei fwyta, ble rydym yn siopa, sut rydym yn ymlacio, y ffordd rydym yn gweithio, a ble rydym yn gweithio.

Bydd hyn yn creu tensiynau i bob un ohonom. Dylem gydnabod hynny. Nid cyfaddawdau syml yw'r rhain. Rhaid inni weithio drwyddynt gyda'n gilydd. Ond ni ddylem ychwaith dybio y bydd y dewisiadau hyn yn gwneud ein bywydau'n waeth. Bydd llawer o'r pethau y mae angen inni eu gwneud i ymateb i'r wyddoniaeth ar newid hinsawdd yn creu manteision: swyddi newydd, datblygiadau technolegol newydd, aer glanach, strydoedd tawelach a llai o ddamweiniau, llai o amser yn cymudo, ymdeimlad cryfach o gymuned, natur yn ffynnu ar garreg ein drws, yn meithrin a gwella ein lles. Mae'r rhain i gyd yn bethau rydym eisoes wedi'u gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwelwyd bod pethau a oedd yn ymddangos yn amhosibl yn bosibl, ac weithiau'n well.

Nid oes dim o hyn yn hawdd, ond fel y noda adroddiad heddiw gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd eto, mae pris peidio â'i wneud yn rhy fawr. Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad cynnydd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd fis Rhagfyr diwethaf. Rydym wedi gwneud cynnydd teilwng ac rydym ar y trywydd iawn ar gyfer targed 2020. Byddwn yn amlinellu ymateb llawn y Llywodraeth i adroddiad heddiw i'r Senedd maes o law, ynghyd â'n cynllun lleihau allyriadau nesaf, Cymru sero-net, wrth inni edrych tuag at COP26 a COP Cymru.

Mae'n bwysig fod y Senedd hon yn cyfrannu'n llawn at ddatblygu ymateb Cymru. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, a rhaid inni brofi syniadau ein gilydd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau Cymru decach, werddach a chryfach. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 2:09, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Nawr, mae cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhybudd pwysig i Gymru, ac yn enwedig i chi fel Llywodraeth Cymru. Yn wir, tuag at ddiwedd y Senedd ddiwethaf, rhybuddiodd 'Adroddiad ar Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'

Un peth yw bod eich rhaglen lywodraethu yn datgan bod gennych

'y weledigaeth a’r uchelgais i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur', ond nid yw eich cyflawniad yn y gorffennol ac adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cefnogi hynny. O'r 61 o risgiau a chyfleoedd, mae angen rhoi mwy o gamau ar waith yng Nghymru yn awr i fynd i'r afael â 32 ohonynt. Yn wir, dim ond mewn pump ohonynt y bernir bod cynnal y gweithredu presennol yn briodol. Felly, Lywydd, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog fod yr adroddiad hwn yn ddeunydd darllen heriol.

Mae llawer ohonom yn gweld newid hinsawdd ar waith yn uniongyrchol yn ein hetholaethau ar ffurf llifogydd. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, ac eto nid yw ein cymunedau'n cael eu clywed. Ers 2019, bûm yn galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn nyffryn Conwy ac yn fwy diweddar, gwnaed cais tebyg gan y gymuned, ac Aelodau yma yn awr yn wir, yn Rhondda Cynon Taf. Wel, mae'n bryd i chi ailfeddwl, oherwydd mae adran H3 ar bobl, cymunedau ac adeiladau yn datgan bod angen mwy o weithredu, ac nad yw risgiau'n cael eu rheoli'n effeithiol. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud mwy ar lifogydd na'r ddwy frawddeg bitw yn y rhaglen lywodraethu?

Mae angen rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r risg i natur hefyd. Mae Adran N1 yn nodi maint y risgiau sy'n deillio o newid hinsawdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac ystyrir eu bod yn uchel oherwydd nifer y rhywogaethau yr effeithir arnynt mor andwyol ac sy'n fwy tebygol o gael eu heffeithio wrth symud ymlaen. Nid yw hyn yn syndod gan fod Llafur Cymru wedi llywyddu dros ddirywiad rhywogaethau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, byddaf yn falch o glywed pa dargedau y byddwch yn eu gosod mewn perthynas â chadwraeth bywyd gwyllt i fonitro ac ysbrydoli cynnydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar y camau brys sydd eu hangen i wella parodrwydd a gwyliadwriaeth rhag plâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, a chanfu'r adroddiad fod bylchau pwysig yn y wybodaeth o hyd am faterion yn ymwneud ag amaethyddiaeth a choedwigaeth. Felly, Weinidog, pa gamau brys a gymerir gennych i unioni'r bwlch hwn yn y wybodaeth? A allwch hefyd gadarnhau y bydd eich ymateb yn ceisio cynnwys manylion ynglŷn â sut y byddwch yn ariannu ac yn gweithredu'r strwythurau gwyliadwriaeth newydd angenrheidiol?

Mae mwy o risg hefyd yn sgil gwres. Gallai marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yng Nghymru gynyddu 2.4 ym mhob 100,000 o bobl y flwyddyn yn 2016 i 6.5 ym mhob 100,000 erbyn y 2050au. Felly, Weinidog neu Ddirprwy Weinidog, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnwys y galw cynyddol am aerdymheru yn eich polisïau ynni yn y dyfodol, ac yn ystyried cyflwyno cynllun i gymell pobl i ddefnyddio dulliau aerdymheru goddefol?

Yn olaf, canfu'r astudiaeth hefyd nad oes gan y polisi presennol gamau gweithredu manwl a chanlyniadau penodol i'r sector morol a'r amgylchedd. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflwyno cynlluniau gweithredu manwl i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar bysgodfeydd o fewn amcan y sector pysgodfeydd, neu ar gyfer rhywogaethau morol? Mae angen inni drafod yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn fanylach o lawer, ond rwy'n falch ein bod wedi dechrau heddiw. Diolch. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 2:12, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y sylwadau hynny. Cytunaf yn llwyr fod angen gweithredu pellach a chredaf imi nodi hynny, a chytunaf fod angen inni drafod hyn yn fanylach o lawer. Nid wyf yn meddwl mai heddiw yw'r amser i wneud hynny. Credaf fod Janet Finch-Saunders wedi cyflwyno cyfres o heriau teg a rhesymol ac fel y dywedodd, rhaid cael camau beiddgar a phendant i fynd gyda'r rhethreg. A byddwn i'n dweud wrthi fod yr hyn sy'n iawn i'r ŵydd yn iawn i'r ceiliagrwydd. Mae hynny'n wir iddi hi a'i phlaid yn union fel y mae i ni, ac nid yw codi i alw am adeiladu traffyrdd chwe lôn drwy wlyptiroedd gwarchodedig yn gydnaws â'r her y mae'n ei rhoi i mi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom fyfyrio ar yr effaith y mae'r wyddoniaeth hon yn ei chael ar lawer o'r safbwyntiau polisi rydym wedi'u harddel hyd yma, a chyda'n gilydd rhaid inni geisio dod o hyd i ffordd sy'n cysylltu ein rhethreg â'r hyn y mae'r wyddoniaeth yn dweud wrthym fod angen i ni ei wneud.

Byddwn yn dweud yn fyr i gloi bod mwy na hanner yr hyn y mae angen inni ei wneud mewn meysydd nad ydynt wedi'u cadw i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig i'w chwarae i wneud rhai o'r newidiadau macro, ac mae angen inni weithio'n agos ac yn ofalus gyda hwy. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld y byd mewn ffordd ychydig yn wahanol. Nid yw eu rhaglen adeiladu ffyrdd enfawr, er enghraifft, yn gyson â'r wyddoniaeth. Nid yw'n bolisi y byddwn yn ei ddilyn, ond mae angen i bob un ohonom ymatal rhag rhethreg ac astudio'r wyddoniaeth yn ofalus, a meddwl drwy ei goblygiadau i bolisi. Ac edrychaf ymlaen at gydweithio i geisio cyrraedd cymaint o gonsensws ag y gallwn.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:14, 16 Mehefin 2021

Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad ac am rannu nifer o adroddiadau gyda ni heddiw. Mae'n hollol glir bod yn rhaid i ni daclo'r argyfwng natur ar y cyd â'r argyfwng hinsawdd, fel sydd wedi cael ei drafod, gan ein bod ni'n methu datrys yr un argyfwng heb inni ddatrys y llall. Ond er hyn, mae grwpiau amgylcheddol a natur yn pryderu am ariannu projectau a pholisïau natur y Llywodraeth hon. Mae'r pryderon ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a chronfeydd newydd i gymryd lle arian sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd yn niferus.

Yn gyntaf, mae'r meini prawf ar gyfer y cronfeydd naill ai yn anwybyddu neu yn lleihau pryderon amgylcheddol, felly nid yw'r arian wedi'i gynllunio mewn ffordd a fydd yn ein helpu ni yng Nghymru i ymateb ar y cyd i'r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae'n debyg na fydd deddfwriaeth ddomestig allweddol yng Nghymru yn cael ei chynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ariannu prosiectau, gan gynnwys, yn benodol, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae hyn yn golygu y gallai prosiectau fod yn groes i'r mecanweithiau deddfwriaethol yng Nghymru i sicrhau datblygu cynaliadwy ac adfer a chynnal bioamrywiaeth.

Mae yna gronfa allweddol o'r Undeb Ewropeaidd sydd ddim yn ymddangos fel ei bod hi wedi'i chynnwys: cronfa bwrpasol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer bioamrywiaeth o dan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Mae hi wedi bod yn hanfodol yng Nghymru o ran cyflawni prosiectau adfer natur. Gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn addo dim ceiniog yn llai, rwy'n gofyn ichi, Dirprwy Weinidog, ble mae'r hyn sy'n cyfateb i gronfa LIFE yr Undeb Ewropeaidd wedi ei neilltuo ar gyfer adfer ac amddiffyn natur?

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:16, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Gan droi at rywbeth sydd eisoes wedi codi mewn gwirionedd, mae'r pwyslais yn uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd yn canolbwyntio'n bennaf ar atebion sy'n seiliedig ar y tir a llawer ar greu coetiroedd. Wrth gwrs, rwy'n croesawu hyn, ond fel y crybwyllwyd eisoes mewn gwirionedd, credaf fod angen rhoi mwy o bwyslais ar ein hamgylchedd morol. A fyddech cystal â gwneud datganiad, Weinidog, ynglŷn â sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng mannau gwyrdd a glas, cynefinoedd a thirweddau y môr a'r tir, yn eich dull o fynd i'r afael â newid hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth?

Yn olaf, mae'n amlwg fod gan y Llywodraeth agenda uchelgeisiol. Mae gan bawb ran i'w chwarae yn y daith tuag at sero-net. Mae'r dasg sydd o'n blaenau yn sylweddol, ac rydym am i bawb allu chwarae rhan ynddi. Er ei bod yn glir sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu rhoi'r gwaith hwn ar y gweill—mae'n dod yn llawer mwy clir—nid oes cymaint o eglurder ynghylch sut y gall dinasyddion normal o bob oed, yn ogystal â chymunedau, gyfrannu at hyn hefyd, at fynd i'r afael â'r argyfwng. Hoffwn ofyn sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi unigolion a chymunedau i weithredu er lles natur a'r amgylchedd ar lefel leol. Diolch yn fawr.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 2:17, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Cytunaf yn llwyr fod y newidiadau ar ôl yr UE—i'r hyn a oedd yn gronfeydd strwythurol—yn peri gofid mawr. Fel y dywedodd Delyth Jewell, dros nifer o flynyddoedd rydym wedi datblygu dull strategol o weithredu ar amrywiaeth o raglenni, gan ganolbwyntio'n benodol ar fioamrywiaeth a newid hinsawdd, nad ydynt yn cyd-fynd yn daclus bellach â'r strwythurau y mae Llywodraeth y DU wedi'u sefydlu. Yn wir, mae'n ymddangos eu bod yn poeni mwy am rhoi disgresiwn lleol i ASau Ceidwadol ariannu pethau a fydd yn edrych yn dda iddynt hwy yn hytrach na mabwysiadu dull system gyfan, sef yr hyn y mae'r wyddoniaeth heddiw'n mynnu bod angen inni ei wneud. Felly, credaf fod angen i bob un ohonom fel Senedd sicrhau bod y pryderon hynny wedi'u deall, a'n bod yn datblygu'r rhaglenni ariannu hynny wrth inni symud ymlaen mewn ffordd sy'n gyson â'r cyfrifoldebau sydd gan bob un ohonom i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a newid hinsawdd.

Ar y pwynt penodol am raglen LIFE yr UE, byddaf yn ysgrifennu ati ar hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw arian newydd cyfatebol, ond rwy'n awyddus i godi hynny gyda Llywodraeth y DU, ac os gallwn wneud hynny ar sail drawsbleidiol, credaf y byddai hynny'n well byth.

O ran yr effaith forol, cytunaf yn llwyr. Yn fy sesiwn friffio, cyfeirir atynt fel 'cynefinoedd carbon glas'. Rhaid imi ddweud nad wyf erioed wedi clywed yr ymadrodd hwnnw o'r blaen, ond mae'n eithaf taclus, oherwydd mae'r amgylchedd morol yn storio carbon ac yn hyrwyddo bioamrywiaeth drwy forfeydd heli, gwelyau morwellt a gwelyau pysgod cregyn, ac maent o dan bwysau sylweddol yn sgil y cynnydd yn lefel y môr ac asideiddio. Ar hyn o bryd mae CNC yn mapio ardaloedd o gynefinoedd morol ac arfordirol, gan gynnwys rhai sy'n dal a storio carbon glas, er mwyn deall y potensial a'r cyfleoedd pellach ar gyfer adfer y cynefinoedd pwysig hyn. Credaf fod Delyth Jewell yn iawn i dynnu sylw at hynny fel gwaith pwysig, a'i osod ar sylfaen bwysig.

Rwy'n credu bod y pwynt olaf am weithredu fel unigolion a gwneud y berthynas honno, nid yn unig drwy ddull rheoli tir mawr ond yn nhermau pobl a theuluoedd a chymunedau, ac adfer y cysylltiad â'n hymddygiad a'i effaith ar ein hamgylchedd lleol, yn un hollbwysig. Un o'r pethau rwy'n gobeithio ei wneud yn rhan o fynd at wraidd y gwaith o blannu coed a gyhoeddwyd gan Julie James yr wythnos diwethaf yw edrych ar fater coedwigo ar raddfa fawr, ac edrych hefyd ar yr unigolyn, ar lefel y gymuned. Credaf fod ein cronfa rhwydweithiau natur wedi dangos cynnydd gwirioneddol mewn cyfnod byr iawn mewn prosiectau bioamrywiaeth lleol a dangos y berthynas y gall unigolion ei chael. Ond hoffwn wneud mwy na hynny. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y gallwn ei ddysgu o'n prosiect Cymru o Blaid Affrica, lle mae ein cyllid, wrth weithio gyda phrosiect Maint Cymru yn Mbale yn Uganda, yn rhoi coed am ddim i bobl yno i'w plannu. Mewn rhywbeth rydym yn dweud wrth Affricanwyr am ei wneud â'n harian, credaf y dylem fod yn cymhwyso'r egwyddorion hynny i ni'n hunain hefyd.

Rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn ceisio datgloi problem dull CNC o blannu coed ar raddfa fawr, sy'n bwysig, ond mae llawer iawn y gallwn ei wneud ar lefel gymunedol. Credaf mai un o'r heriau gwirioneddol sydd gennym yma yw bod hyn i gyd braidd yn sych a haniaethol ar lefel wyddonol, ac mae angen inni ei wneud yn real i bobl. Un o'r pethau a welsom drwy'r cyfnodau o gyfyngiadau symud yw bod perthynas pobl â'r natur ar garreg eu drws wedi bod yn eithaf dwys. Rwyf innau wedi meithrin diddordeb sydyn yn y coed lle rwy'n byw a'r coed yn fy ngardd mewn ffordd nad oedd yn wir o'r blaen. Mae angen inni fanteisio ar hynny drwy wneud i bobl sylweddoli bod ganddynt ran i'w chwarae, a thrwy lu o gamau gweithredu bach, gall hynny wneud gwahaniaeth hefyd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 2:21, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad? Gan ddechrau gyda'r wyddoniaeth, mae carbon yn ocsideiddio i ffurfio carbon deuocsid. Nwy tŷ gwydr yw carbon deuocsid ac mae'n dal gwres. Gwyddom hyn oherwydd bod y blaned Fenws, sydd ag awyrgylch carbon deuocsid yn bennaf, er ei bod yn llawer pellach i ffwrdd oddi wrth yr haul na'r blaned Mercher, yn llawer poethach. Wrth ddweud yr ychydig eiriau hyn, rwyf wedi bod yn allyrru carbon deuocsid i'r atmosffer drwy'r weithred o anadlu. A yw'r Gweinidog yn cytuno na fydd lleihau ein hôl troed carbon drwy allforio diwydiannau sy'n cynhyrchu carbon deuocsid yn helpu i leihau cynhesu byd-eang ond yn hytrach y bydd yn debygol o'i waethygu?

A gaf fi ddweud pa mor galonogol oedd yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am blannu coed? Fe'i codais ddoe yn y datganiad busnes. Pe bai pawb yng Nghymru sydd â gardd yn plannu un goeden, byddai gennym 1 filiwn o goed wedi'u plannu mewn blwyddyn. Cawsom gynllun yn y 1970au a weithiodd. Rwy'n cynrychioli cwm Tawe isaf, sydd wedi mynd o dirwedd debyg i wyneb y lleuad i fod yn goediog iawn erbyn hyn ac mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei wneud.

Mae gennyf ddau gwestiwn allweddol. Pryd y bydd y Llywodraeth yn newid polisi cynllunio i sicrhau bod pob tŷ newydd yn sero-net? Nid ydym am adeiladu tai y mae'n rhaid eu hôl-osod yn y dyfodol agos. Yr ail gwestiwn yw: a wnaiff y Gweinidog barhau i gefnogi'r morlyn llanw yn Abertawe? Dyma gyfle i greu ynni gwyrdd a fydd yn para am byth.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 2:23, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, ac yn enwedig am y cyfeiriadau at Fenws a'r lleuad. Nid yn aml y maent yn rhan o'n trafodaethau ar newid hinsawdd. Rwy'n cytuno'n llwyr, fel rwyf newydd ei nodi, ynglŷn â'r rhan y gall plannu coed ei chwarae ar lefel deuluol a chymunedol. Rwy'n awyddus iawn i ddeall pa rwystrau a allai fod yn y ffordd a gwneud rhai argymhellion i'r Senedd cyn diwedd tymor yr haf ar sut y gallwn ddechrau gwneud cynnydd pellach yn hynny o beth.

Ar y morlyn llanw, bydd Mike Hedges yn gwybod bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gronfa her. Rydym yn frwd iawn ynglŷn ag effaith a photensial ynni adnewyddadwy morol yn ei ystyr ehangaf, ac mae môr-lynnoedd yn amlwg yn rhan bwysig o sbectrwm technoleg o'r fath. Rhaid inni wneud miloedd o bethau bach, ond mae angen inni wneud rhai pethau mawr sy'n newid pethau'n sylfaenol hefyd. Mae gan y morlyn, y micro-hydro, yn ogystal â phlannu coed unigol, eu rhan i'w chwarae yn ymateb i'r wyddoniaeth a ddatgelwyd i ni heddiw gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 2:24, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fe gewch chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd fy nghefnogaeth lwyr i wneud popeth sydd ei angen i ddatblygu'r agenda hon, o ran lliniaru ac addasu i newid hinsawdd yn ogystal, ac ar yr argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth a wynebwn hefyd. Fe ddaw'r adeg inni ofyn cwestiynau manwl iawn a chraffu'n fanwl iawn ar sut rydym yn cyflawni hyn a sut i'w ddatblygu. Gall cymhlethdod rhai o'r atebion weithiau fod yn llethol ac weithiau fe fyddwch yn codi eich dwylo mewn anobaith. Felly, hoffwn ofyn y cwestiwn mawr i chi. Ddoe, siaradais mewn digwyddiad bioamrywiaeth a drefnwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys cefnogaeth drawsbleidiol hefyd, ac mae bioamrywiaeth a newid hinsawdd wedi'u cydgysylltu ynddo. Un o'r siaradwyr yno oedd Poppy Stowell-Evans, llysgennad newid hinsawdd ar ran yr ieuenctid. Pa obaith y gallwn ei roi i Poppy ac i eraill ein bod wedi ymrwymo i hyn ac y byddwn yn cyflawni'r newid sydd ei angen, waeth pa mor anodd fydd hynny, ac y byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd a fydd yn creu cymunedau gwell, cymunedau tecach, cymunedau mwy cyfiawn, swyddi gwyrdd, amgylcheddau gwell ac yn y blaen? Pa obaith y gallwn ei roi i bobl ifanc y gallwn gyflawni hynny mewn gwirionedd?

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 2:25, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi dalu teyrnged ddiffuant iawn i Huw Irranca-Davies am y rôl y mae wedi'i chwarae, cyn iddo ddod i'r Senedd, yn San Steffan fel Gweinidog ac fel Cadeirydd pwyllgor dethol, ac ers iddo ddod yma? Gweithiais yn agos iawn gydag ef yn y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol yn y Senedd ddiwethaf a gobeithiaf barhau i wneud hynny eto. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd go iawn. Mae'n defnyddio'r cyfuniad o her a chefnogaeth yn fedrus iawn, ac edrychaf ymlaen at barhau'r berthynas honno.

Rwy'n obeithiol ynglŷn â'r ffordd rydym yn ymladd yr her hon. Nid oes angen gofyn a ydym yn mynd i'r afael â hi ai peidio; rhaid i ni fynd i'r afael â hi. Mae'n hanfodol; mae hwn yn argyfwng dirfodol ac yn fygythiad i bob un ohonom. Felly, ychydig iawn o ddadl sydd i'w chael o ran 'a ydym yn ei wneud?', ac rwy'n falch iawn nad yw rhai o'r lleisiau mwy hurt a oedd yn y Siambr ar y cwestiwn hwn yma mwyach. Felly, gobeithio y gallwn i gyd o leiaf ddechrau o'r man cychwyn fod y wyddoniaeth yn ddilys a bod hon yn her y mae angen inni fynd i'r afael â hi.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwneud hyn mewn ffordd sydd â manteision ychwanegol, oherwydd credaf y bydd pobl yn ymateb yn well—ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn wir—os oes gan y mesurau sydd eu hangen i ymateb i her wyddonol newid hinsawdd fanteision eraill a allai fod yn fwy uniongyrchol i'w bywydau bob dydd; felly, aer glân, amgylchedd lleol gwell, llai o dagfeydd traffig—ystod eang o bethau y gallem sôn amdanynt—a chartrefi cynhesach.

Rwy'n credu y dylem dynnu sylw at y manteision ymarferol o ddydd i ddydd i wneud bywydau pobl yn well, nid dim ond y gofid a'r digalondid os na wnawn hynny. Yn amlwg, mae angen i hynny fod yno i ni, fel llunwyr polisi, i ffocysu ein meddyliau ar y brys i wneud hyn, ond wrth gyfleu hyn i bobl, os byddwn yn gwneud hyn yn y ffordd gywir ac mewn ffordd deg, gyda'r difrifoldeb priodol, credaf y gallwn i gyd fod yn obeithiol y gallwn ryddhau potensial yma a fydd yn gwneud bywydau pobl yn well.  

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 2:27, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddychwelyd at yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach am y ffordd na all y Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun a'i fod yn fater i bob sefydliad a phob unigolyn. Rwyf am edrych ar rywbeth y gofynnodd Mike Hedges yn ei gylch, am dai a adeiladir o'r newydd, ond yn gyntaf oll, roeddwn am wybod pam ein bod yn oedi cyn herio landlordiaid cymdeithasol i fodloni gradd A y dystysgrif perfformiad ynni wrth iddynt ôl-osod tai cymdeithasol, nad yw'n dod i rym tan fis Ionawr y flwyddyn nesaf. Roeddwn wedi tybio bod y cyhoeddiad a wnaed ym mis Ebrill 2021 am adeiladau newydd hefyd yn berthnasol i adeiladau sy'n bodoli eisoes. Felly, byddai hwnnw'n eglurhad defnyddiol.

Ar ben hynny, rwyf hefyd braidd yn rhwystredig nad ydym eto wedi diwygio Rhan L y rheoliadau adeiladu, sy'n parhau i ganiatáu i adeiladwyr tai preifat adeiladu cartrefi nad ydynt yn addas i'r diben—tai heb baneli solar ar eu toeau sy'n wynebu'r de a heb bympiau gwres o'r ddaear wedi'u gosod mewn cartrefi newydd. Mae lefel y gwaith gosod yn echrydus, hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad oes nwy o'r prif gyflenwad ac felly, rhaid mai pympiau gwres o'r ddaear yw'r peth mwyaf darbodus y gallwn fod yn ei wneud. Nid yw'n ymddangos eich bod am orfodi unrhyw newid gan adeiladwyr tai preifat tan 2024-25, yn seiliedig ar y datganiad a wnaethoch ar yr ymateb i'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd, felly byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod pam nad ydym yn cyflymu gwaith ar hyn, o ystyried bod gennym argyfwng ar ein dwylo ac nad ydym yn mynd yn ddigon cyflym.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 2:29, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi adleisio'r hyn a ddywedais am Huw Irranca-Davies am Jenny Rathbone hefyd, sydd wedi bod yn dadlau'n frwd dros yr agenda hon? Rwy'n gwerthfawrogi ei hymdrechion yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at barhau â'i her.

Cododd gyfres o gwestiynau am dai. Fel yr eglurodd Julie James yn gynharach, mae rhannu'r portffolio anferth hwn yn her ddyddiol. Un o'r pethau rydym wedi cytuno arnynt yw y byddaf fi'n arwain ar feysydd penodol; byddaf yn arwain ar drafnidiaeth, adfywio, ynni a materion digidol, ac yn gweithio'n fras ar draws y meysydd eraill—sef y plannu coed, er enghraifft—a bydd Julie yn arwain ar y gweddill. Felly, mae tai'n aros gyda Julie, ond byddaf yn cyfrannu hwnt ac yma yn ôl cyfarwyddyd fy nghyd-Aelod.

Ond hoffwn ddweud, ar y safonau ynni, fy mod yn credu mai un o'r pethau nad yw wedi cael ei ddweud ddigon yw'r cynnydd enfawr a wnaethom drwy safonau ansawdd tai Cymru dros y 18 mlynedd diwethaf. Ac mae hon yn enghraifft o rywbeth y dywedwyd wrthym na ellid ei wneud. Dywedwyd wrthym ei bod yn rhy anodd cael 225,000 o gartrefi i gydymffurfio â safonau effeithlonrwydd ynni tystysgrif perfformiad ynni gradd D, ac rydym wedi gwneud hynny. Drwy fuddsoddiad o £1.8 biliwn, mae hwn wedi bod yn gyflawniad enfawr gan Lywodraeth Lafur Cymru dros y cyfnod hwnnw. Ac mae'r iteriad newydd—gyda'r enw clyfar, safonau ansawdd tai Cymru 2.0—yn dechrau yn 2022. Felly, i ateb yn uniongyrchol y cwestiwn pam ein bod yn aros tan ddiwedd y flwyddyn hon, y rheswm am hynny yw bod y safonau newydd yn dod i rym o'r adeg honno ymlaen, gan gyflymu taith tai cymdeithasol tuag at garbon sero-net. Felly, rwy'n credu o ddifrif y dylem fod yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y 18 mlynedd diwethaf gyda safonau ansawdd tai Cymru, a dylem ddisgwyl mwy ohono yn y cyfnod nesaf, a chredaf fod gennym reswm i fod yn obeithiol ynglŷn â hynny.

Yn yr un modd, ar ran L, deallaf fod hynny'n cael ei gyflwyno eleni. A dyma un o heriau'r agenda hon. Gwyddom fod y wyddoniaeth yn hollbwysig, mae llawer iawn o bethau yr hoffem eu gwneud ar unwaith. Mae'r broses o'u cael drwy beiriant deddfwriaethol, rheoleiddiol y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid, a sicrhau ei fod wedi'i gynllunio'n iawn fel ei fod yn gweithio yn hytrach na'i fod yn syrthio'n fyr o'r nod, yn araf ac yn gymhleth. A dywedais yn fy natganiad yn gynharach fod yna densiynau yma y bydd yn rhaid inni eu rheoli gyda'n gilydd, a dyma un o'r tensiynau. Gallaf addo i chi fod Julie James a minnau mor ddiamynedd ag unrhyw un arall i geisio gwneud hyn cyn gynted ag y gallwn, ond nid yw mor syml ag yr hoffem iddo fod.

Yn olaf, ar enghraifft y pympiau gwres o'r ddaear, credaf fod honno'n enghraifft wych iawn o'r cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil yr agenda hon. Mae swyddi i'w creu o osod pympiau gwres o'r ddaear. Nawr, ar hyn o bryd, nid oes gennym weithlu hyfforddedig sy'n gallu gwneud hyn. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Vaughan Gething arno i sicrhau ein bod yn creu cyfleoedd i bobl uwchsgilio er mwyn gallu manteisio ar y cyfleoedd economaidd enfawr sy'n deillio o'r newidiadau angenrheidiol y mae angen inni eu gwneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:32, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddatgan yn glir iawn, o ran yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, nad oes lle i wleidyddiaeth plaid, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau a chefnogi eich gwaith. Ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at yr angen i fynd ati i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ar sail y data a'r wyddoniaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn groes i'r modd rydych chi wedi gwrthod ymrwymo i ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, ymchwiliad a fyddai'n rhoi'r atebion i ni, oherwydd mae pobl yn dal i fod heb gael gwybod beth ddigwyddodd a pham. Mae pobl yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru oherwydd COVID, oherwydd yr agwedd agored honno mewn perthynas â data, ac eto, nid ydynt yn cael yr atebion sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu ar yr hyn a ddigwyddodd yn 2020. Felly, gallwn daflu arian yn adweithiol at reoli llifogydd, a hyd nes y byddwn yn cydnabod na fydd pethau fel adroddiad adran 19 yn rhoi'r atebion hynny, bydd gennym amrywiaeth eang o adroddiadau, ond mae arnom angen ffordd o ddod â'r holl ddata hwnnw at ei gilydd, er mwyn deall hefyd yr effaith ar iechyd meddwl a lles. A hoffwn ofyn, rydych chi wedi cyfeirio at y strategaeth lifogydd genedlaethol, ac mae cyfeiriad yn honno at yr angen am sgwrs genedlaethol, ac mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi'r un peth. Pa bryd y bydd y sgyrsiau anodd hynny'n digwydd ac y gallwn fwrw ymlaen â'r sgyrsiau hynny, a gwrando'n iawn ar gymunedau, cymunedau nad ydynt ar hyn o bryd yn ymddiried yn y Llywodraeth hon yng Nghymru i'w diogelu rhag llifogydd?

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Janet. Credaf fod honno'n her deg. Yn amlwg, fel y mae'r wyddoniaeth yn dangos, bydd y rhain yn digwydd yn amlach ac yn amlach, a bydd gallu pob asiantaeth a phob rhan o'r Llywodraeth—lleol a chanolog—i ymdrin â hwy yn wynebu her enfawr. Mae gwersi i ni eu dysgu o'r llifogydd ym Mhentre ac yn ardal Rhondda Cynon Taf ychydig flynyddoedd yn ôl a ledled Cymru. Rwy'n credu bod penderfyniad pragmatig i'w wneud ynglŷn â ble sydd orau i dargedu'r adnoddau a'r amser cyfyngedig sydd gennym. Ai drwy ymchwiliad annibynnol ffurfiol, fel y mae hi'n gofyn, ymchwiliad na fydd yn gyflym, ac na fydd yn rhad, ac a fydd yn arafu cynnydd arall, neu a oes gwersi cyflymach y gallwn eu dysgu a'u cymhwyso mewn amser real, oherwydd gallai'r pethau hyn fod ar ein gwarthaf o fewn y flwyddyn nesaf eto? Ein greddf yw gwneud hynny. Gallaf addo iddi na fydd diffyg awydd i gael sgyrsiau anodd gydag unrhyw un o asiantaethau neu bartneriaid y Llywodraeth, ac rydym yn dechrau ein deialog ar hyn o bryd. Felly, gallaf roi sicrwydd ynglŷn â hynny. 

Felly, nid oes dim i atal pwyllgorau'r Cynulliad yn y pen draw, pan gânt eu cynnull, i wneud gwaith ar hyn a fydd o gymorth i ni. Nid ydym yn erbyn cael meddyliau ymchwilgar i ddod o hyd i ffyrdd gwell o'i wneud a dysgu gwersi. Ymhell o fod. Fel set o Weinidogion, mae gennym her wirioneddol i'w goresgyn o ran yr adnoddau sydd ar gael inni a'r set o heriau a wynebwn mewn nifer fawr o feysydd, a chredaf fod angen inni fod yn bragmatig ynglŷn â ble i ganolbwyntio ein hymdrech. Ond hoffwn weithio'n agos gyda Heledd Fychan ar sut y gallwn edrych ar y cynigion yn eich maniffesto a sut y gallwn gydweithio ar rai ohonynt; credaf fod rhai syniadau diddorol iawn yno y byddem yn hapus iawn i siarad amdanynt. Ond rwy'n credu bod angen inni roi'r gorau i gweryla am yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r llifogydd, a dechrau gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion yn gyflym. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Llafur 2:36, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â'r gwaith o adfer coedwigoedd a'r pwyslais ar blannu mwy o goed, ac rwy'n cefnogi hynny. Ceir llawer iawn mwy o atebion ar sail natur sy'n llai hysbys efallai fel adfer tir mawn a chynefinoedd morwellt. Mae'r rheini wedi'u diraddio'n ddifrifol yn y blynyddoedd diwethaf, ond maent yr un mor bwysig ar gyfer lleihau allyriadau carbon a chynyddu bioamrywiaeth. 

Rwyf wedi dewis y ddau faes hwn yn benodol am fod y cynefinoedd hynny ar un adeg yn gyffredin iawn yn fy etholaeth i yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Collwyd 90 y cant o ddolydd morwellt yn y DU, gyda llygredd ac amrywiaeth o weithgareddau cychod yn bennaf gyfrifol am hynny yn ôl yr hyn a gredir. Ar hyn o bryd mae Prifysgol Abertawe yn tynnu sylw at brosiect cyffrous lle maent yn ceisio adfer cynefinoedd morwellt ym Mae Dale yn sir Benfro. Gall dôl forwellt storio tua hanner tunnell o garbon yr hectar y flwyddyn, ac mae'n gynefin gwych ar gyfer ystod eang o rywogaethau morol. 

Weinidog, hoffwn wybod pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r prosiect hwnnw, a pha mor ymarferol fyddai ei gyflwyno ar draws ardaloedd morol addas eraill yng Nghymru.

Mae adfer mawndir yng Nghymru yn agwedd mor bwysig ar helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rwy'n croesawu rhaglen weithredu genedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod targedau ar gyfer adfer 600 i 800 hectar o fawndir mewn ardaloedd a nodwyd ledled Cymru rhwng 2020 a 2025. Ond mae'r defnydd o fawn ar gyfer garddio yn peri pryder mawr i mi, ac rwy'n awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog garddwyr a garddwriaethwyr Cymru i fynd yn ddi-fawn. Dywedodd yr awdur a'r darlledwr Monty Don yn ddiweddar fod defnyddio mawn yn eich gardd yn eco-fandaliaeth ac rwy'n cytuno'n llwyr. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 2:38, 16 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r prosiect y cyfeiriwch ato yn sir Benfro; mae'n swnio'n ddiddorol iawn a hoffwn gael gwybod mwy amdano, ac ateb eich cwestiwn yn iawn ynglŷn â pha wersi y gellir eu dysgu ohono. Felly, os ydych chi'n fodlon, fe wnaf ddarganfod mwy am hynny ac ysgrifennu atoch.

Fel y nodais yn gynharach, rwy'n cytuno'n llwyr fod potensial storfeydd carbon naturiol yn rhywbeth y mae angen inni fanteisio'n llawn arno. Fel y soniais, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n mapio ardaloedd o gynefinoedd morol ac arfordirol, gan gynnwys y rhai sy'n dal a storio carbon glas er mwyn deall eu potensial a'r cyfleoedd i adfer y cynefinoedd pwysig hyn, ac mae hynny'n cynnwys morwellt.

Ac o ran adfer mawndir, rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth ar hynny. Rydym wedi ariannu rhaglen weithredu bum mlynedd i adfer mawndir, gyda chyllideb o £1 filiwn y flwyddyn. Ariennir y prosiect rhwng 2020 a 2025, a'i nod yw adfer 600 i 800 hectar o fawndir y flwyddyn, a bydd adolygiad llawn o'r rhaglen honno i ni allu dysgu beth sydd wedi mynd yn dda a sut y gallwn ddod yn fwy uchelgeisiol gyda hi, a byddwn yn falch iawn o weithio gyda hi ar y ddau beth i weld beth arall y gallwn ei wneud.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:39, 16 Mehefin 2021

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Dyna ddiwedd yr eitem yna. Felly, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:40.

Ailymgynullodd y Senedd am 14:49, gyda'r Llywydd yn y Gadair.