1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 15 Mehefin 2021.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru? OQ56579
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n monitro data fel gwrthdrawiadau anafiadau personol, geometreg ffyrdd a defnydd gan gerddwyr a beicwyr fel mater o drefn i hysbysu'r angen am welliannau diogelwch ar y ffyrdd. Rydym ni hefyd yn bwrw ymlaen â mentrau i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig a mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bydd yn ddwy flynedd ers marwolaeth drasig fy etholwr Olivia Alkiry ar y seithfed ar hugain o Fehefin. Dim ond 17 oed oedd hi ac fe'i lladdwyd mewn damwain car ar ffordd wledig yn sir Ddinbych. O ganlyniad i'r drasiedi honno, dechreuodd mam Olivia, Jo, a ffrind gorau Olivia, Joe Hinchcliffe, ymgyrch, ymgyrch Olivia's Legacy, i hyrwyddo gyrru mwy diogel, yn enwedig ymhlith gyrwyr blwyddyn gyntaf. Ac mae eu hymgyrch yn cynnwys y cais i bob gyrrwr blwyddyn gyntaf fod â dyfeisiau telemateg yn eu cerbydau, sy'n gallu, fel y gwyddoch, hybu gyrru gwell a mwy diogel. Prif Weinidog, rydym ni wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foukes, a llawer o bobl eraill ar y daith hon gyda'r ymgyrch benodol hon. Rwy'n sylweddoli nad yw rhai o'r pethau hyn yn faterion datganoledig, ond a gaf i ofyn: a wnewch chi gefnogi ymgyrch etifeddiaeth Olivia Alkir nawr i sicrhau y gall dyfeisiau telemateg fod yn rhywbeth y gallwn ni annog pob person ifanc i'w rhoi yn eu ceir yn y flwyddyn gyntaf hollbwysig honno ar ôl iddyn nhw basio eu prawf er mwyn osgoi'r drasiedi ofnadwy y mae teulu Olivia wedi ei dioddef?
Diolchaf i Darren Millar am hynna. Rwy'n cofio yn dda iawn farwolaeth drist dros ben Olivia 12 mis yn ôl, ac ni allaf ond dychmygu'r effaith y bydd hynny wedi ei chael ar ei theulu. Fel cynifer o deuluoedd, maen nhw, fel y dywedodd Darren Millar, wedi sianelu eu galar i geisio gwneud yn siŵr nad yw pobl eraill yn rhannu'r un profiad. Hyd y gwn i, nid yw gwasanaethau telemataidd yn gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli i ni yma yng Nghymru, ond rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr fy mod i'n edrych yn ofalus ar waith yr ymgyrch.
Un o'r pethau yr ydym ni'n ei ariannu fel Llywodraeth Cymru yw'r cynllun Pass Plus ar gyfer pobl ifanc. Felly, mae am ddim i bobl ifanc yng Nghymru. Felly, ar ôl pasio eu prawf, gallan nhw fynd ymlaen wedyn i gael chwe modiwl arall, fel y cofiaf, gan wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n credu, dim ond am eu bod nhw wedi pasio eu prawf, eu bod nhw'n barod ar gyfer yr holl heriau y byddan nhw'n eu hwynebu wrth yrru ar ffyrdd modern. Felly, rwyf i'n awyddus iawn i gysylltu fy hun â'r pwyntiau cyffredinol y mae'r Aelod wedi eu gwneud, ac i roi addewid iddo y byddaf yn edrych yn ofalus ar yr hyn y mae'r ymgyrch yn ei ddweud am delemateg.
Mae Heddlu Gwent yn cwmpasu rhanbarth Dwyrain De Cymru yr wyf i'n ei chynrychioli. Yn y blynyddoedd diwethaf, nhw oedd yr unig heddlu i gofnodi cynnydd i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Mae edrych yn fanylach ar y ffigurau hyn yn dangos bod digwyddiadau lle cafodd rhywun ei anafu yn ddifrifol wedi mwy na dyblu o 82 yn 2015 i 179 yn 2019. Rwyf i wedi bod yn rhan o ymgyrch lleihau cyflymder ar strydoedd Six Bells ym Mlaenau Gwent; os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud yn fuan, mae trigolion yn poeni y bydd rhywun yn cael ei anafu yn ddifrifol cyn bo hir. Un o'r rhwystrau i gyflwyno mesurau gostegu traffig yw na fu digwyddiad difrifol hyd yma. Dylem ni allu gweithredu cyn i rywun farw. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i symleiddio'r broses i alluogi cymunedau fel Six Bells i gael mwy o reolaeth dros y mesurau gostegu traffig ar eu strydoedd?
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Bydd y ffigurau damweiniau ffyrdd blynyddol a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer 2020 yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, a byddwn yn gallu cymryd y rheini i ystyriaeth yn yr holl amgylchiadau lleol. Rwy'n ymwybodol o'r mater a godwyd gan yr Aelod oherwydd mae'r Aelod o'r Senedd dros Flaenau Gwent wedi ei grybwyll i mi o'r blaen.
Mae'r alwad am fuddsoddiad mewn diogelwch ar bob ffordd yn un ddilys iawn, Llywydd, ond yr unig ffordd y gallwn ni ymateb iddi yw drwy sylfaen dystiolaeth. A gwn y gall hynny fod yn rhwystredig i rai cymunedau, ond dyna'r ffordd yr ydym ni'n gallu gwneud penderfyniadau sy'n deg ledled Cymru gyfan. Ceir ffordd sefydledig iawn o wneud hynny, gan ddefnyddio system GanBwyll Cymru, ac mae hynny yn caniatáu i ni gasglu tystiolaeth ar sail unffurf trwy Gymru gyfan ac yna i wneud penderfyniadau buddsoddi ar sail ble mae'r angen mwyaf. Rwy'n deall rhwystredigaeth ymgyrchwyr lleol ynghylch hynny, ond y cwbl y byddai gwneud penderfyniadau am fuddsoddiad cyn cael y ffeithiau yn ei wneud fyddai rhoi rhai ardaloedd eraill dan anfantais lle bydd y galwadau yr un mor daer ac yr un mor bwysig i boblogaeth leol.
Fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai rhai o'r ffyrdd gorau o wella diogelwch ar y ffyrdd yw gostwng cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd adeiledig, creu ardaloedd di-draffig a rhoi active travel yn gyntaf ar frig y pyramid teithio? Ond sut allwn ni sicrhau ein bod ni'n perswadio pobl i ddod gyda ni ar y siwrnai hon i ddyfodol tecach, gwyrddach a gwell? Sut ydyn ni'n ei gwneud hi'n haws i bobl wneud y dewisiadau doeth drosom ni ein hunain, i'n cymunedau, ac i'r blaned hefyd?
Diolch yn fawr unwaith eto i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn, a dwi'n cytuno â fe: mae'n un peth i'r Llywodraeth wneud pethau—y Llywodraeth fan hyn, neu awdurdodau lleol—ac mae lot o bethau rŷn ni yn gallu eu gwneud, ac mae yna lot o bethau rŷn ni'n mynd i'w gwneud yn y dyfodol, ond mae'n rhywbeth arall i berswadio pobl i wneud y pethau rŷn ni i gyd yn gallu eu gwneud yn ein bywydau ni. Yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol i'w wneud e yw trwy berswadio pobl, i roi popeth allwn ni yn ei le i'w helpu nhw, ac i berswadio pobl, pan fyddan nhw'n teithio mewn ffordd sydd ddim yn creu newid yn yr hinsawdd neu yn yr amgylchedd lleol, eu bod nhw'n helpu; maen nhw'n helpu eu teuluoedd ac maen nhw'n helpu plant ac maen nhw'n helpu'r gymuned lle maen nhw'n byw. Pan ydym ni'n gallu perswadio pobl i fihafio yn y ffordd yna, maen nhw'n gallu gwneud popeth maen nhw'n gallu ei wneud a defnyddio'r cyfleusterau mae'r Llywodraeth yn gallu eu rhoi yn eu lle i'w helpu nhw.