1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 15 Mehefin 2021.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ56610
Llywydd, £1,731 yw'r dreth gyngor band D gyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2021-22. Rhoddir yr hyblygrwydd i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru bennu eu cyllidebau blynyddol a lefelau'r dreth gyngor er mwyn adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol. Yna, maen nhw'n atebol i'w trigolion am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae talwyr y dreth gyngor mewn dau gyngor yn fy rhanbarth i, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, yn gorfod talu rhai o'r cyfraddau uchaf o dreth gyngor o unman yn y DU. Yn y ddwy ardal, maen nhw'n talu mwy na £1,900 y flwyddyn ar gyfartaledd am eiddo band D. Rydym ni'n gwybod bod cynghorau Cymru yn codi mwy ar eu biliau treth gyngor yn gyffredinol na'u cymheiriaid yn Lloegr, ac eto mae'r cynghorau hyn hyd yn oed wedi llwyddo i bennu cyfraddau uwchlaw'r cyfartaledd uchel hwnnw. Rwy'n gwybod yn eich rhaglen lywodraethu, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw, eich bod chi'n dweud y byddwch chi'n ceisio diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru, ac yn amlwg, yn seiliedig ar y ffigurau hyn, mae'n hen bryd. Felly, a gaf i ofyn i chi am fanylion penodol sut y byddwch chi'n gwneud hyn, er mwyn lleddfu baich y dreth gyngor ar bobl sy'n gweithio'n galed ledled Cymru?
Llywydd, byddai o gymorth pe byddai cwestiwn yr Aelod yn seiliedig ar ddim ond ychydig o ffeithiau syml, oni fyddai? Lol yw dweud bod biliau'r dreth gyngor yng Nghymru yn uwch nag y maen nhw yn Lloegr. Mae'r dreth gyngor band D gyfartalog yng Nghymru £167 y flwyddyn yn llai na chyfartaledd Lloegr. Tri phwynt wyth y cant yw'r cynnydd cyfartalog i'r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol; mae'n 4.4 y cant yn Lloegr. Mae'n cael ei ffeithiau sylfaenol yn anghywir, ac nid yw'n helpu'r ddadl y mae eisiau ei gwneud. Rwy'n siŵr y bydd yn croesawu'r ffaith bod cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno ar gynnydd o 3.1 y cant i'r dreth gyngor i'w drigolion lleol eleni, sy'n sylweddol is na'r lefel y cytunwyd arni, er enghraifft, gan Geidwadwyr sir Fynwy. Felly, mae ei drigolion ef yn lwcus, onid ydynt, i fod yn byw gyda chyngor Llafur?
Nawr, ble rwy'n cytuno â'r Aelod yw nad yw'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn dosbarthu yn deg yr angen i ariannu gwasanaethau lleol, a byddwn yn cyflwyno cynigion yn ystod tymor y Senedd hon i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach i ddinasyddion Cymru. Ni fydd hynny yn rhywbeth hawdd i'w wneud, oherwydd mewn unrhyw system yr ydych chi'n ceisio ei gwneud yn decach, bydd rhai pobl y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu mwy er mwyn i'r bobl hynny sy'n llai abl i dalu gael talu llai, ac edrychaf ymlaen at ei gefnogaeth pan gaiff y cynigion hynny eu cyflwyno.