Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Mehefin 2021.
Llywydd, y llwybr y byddwn i'n ei ffafrio i dalu am wasanaethau yng Nghymru yw tyfu'r economi fel bod derbyniadau mwy bywiog gan economi fel bod cacen fwy i bob un ohonom ni allu ei defnyddio i dalu am wasanaethau. Felly, dyna ble rwyf i'n dechrau. Nid wyf i'n dechrau, fel y mae ef yn ei wneud, trwy ofyn am drethiant; rwy'n dechrau drwy ofyn y cwestiynau am yr hyn y gallwn ni ei wneud a pha gyfraniad y gall y Llywodraeth ei wneud at dyfu economi Cymru a darparu, felly, y buddsoddiadau sy'n angenrheidiol. Nid oes unrhyw sôn ym maniffesto fy mhlaid i am ardoll ar gyfer addysg, ac nid oes gan hynny unrhyw ran yng nghynlluniau'r Llywodraeth hon. Fe wnaethom ni, yn nhymor diwethaf y Senedd, pan gawsom ddadl helaeth yn ei gylch yn y fan yma, weithio ar gynigion Holtham ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol i helpu i dalu am y newidiadau demograffig yr ydym ni'n mynd i'w gweld yng Nghymru. Mae pob un ohonom ni yn y fan yma yn gwybod mai'r dyfodol yng Nghymru yw poblogaeth sy'n heneiddio, mae gennym ni gyfran uwch o'n poblogaeth dros 65 oed nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle mae pobl yn symud i Gymru yn 65 oed i ymddeol, ac mae'n rhaid i ni feddwl gyda'n gilydd sut y gellir talu am hynny yn y dyfodol. Roedd cynigion Holtham ar gyfer ardoll yn gyfraniad difrifol at y ddadl honno, ac rydym ni wedi gwneud llawer o waith manwl i weld sut y gallai hynny weithio.
Bydd yn gallu gweithio dim ond pan fyddwn ni'n gwybod beth yw cynigion Llywodraeth y DU, a nodwyd, yn gryno, yn Araith y Frenhines, ac a addawyd gan Weinidogion y DU cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yna byddwn ni'n gallu gweld y rhyngwyneb rhwng unrhyw gynigion o fath Holtham, neu ffyrdd eraill o dalu am ofal cymdeithasol, a'r system fudd-daliadau, sy'n dal i gael ei chadw yn ôl i'r Deyrnas Unedig. Dim ond pan allwn ni weld pob rhan o'r jig-so cymhleth hwnnw y byddwn ni'n gallu gwneud y penderfyniadau mwyaf effeithiol am y ffordd y gellir defnyddio arian Cymru i dalu am y gwasanaethau gofal cymdeithasol y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol.