Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:52, 9 Mehefin 2021

Diolch yn fawr, a dwi eisiau diolch hefyd am y gwaith anhygoel mae gofalwyr yn ei wneud ar draws ein gwlad ni yn diogelu ein henoed, ond hefyd pobl ifanc sydd â phroblemau difrifol. Dwi'n deall mai beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud popeth rŷm ni'n gallu i helpu i wneud bywydau'r gofalwyr yma yn haws. A dwi'n deall y pwynt, os oes rhaid iddyn nhw gysylltu gyda llu o fudiadau gwahanol, fod hynny'n cymhlethu pethau. Dwi'n hapus i siarad ac i gael gair gyda'r Dirprwy Weinidog i weld a oes yna unrhyw gamau y gallwn ni eu gwneud yn y maes yna. Dwi'n siŵr ei bod hi lot yn fwy ymwybodol o'r hyn sydd ar gael eisoes, ond hefyd i weld a oes yna ffordd o symlhau'r system.