Buddsoddi Mewn Cyfleusterau Iechyd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 3:16, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, Weinidog; mae hynny'n wych i'w glywed. Mae Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol wedi buddsoddi'n helaeth iawn mewn cyfleusterau iechyd yn Ne Clwyd, gyda chyfleusterau newydd yn enwedig yn y Waun a Llangollen, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gweithlu rhagorol yn y sector iechyd yn Ne Clwyd a ledled Cymru. Ond yn anffodus, mae rhai cyfleusterau o hyd yn Ne Clwyd nad ydynt yn cyrraedd safon uchel y gweithlu sy'n gweithredu ynddynt, yn enwedig yng Nghefn Mawr ac yn Hanmer, a byddwn yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Gweinidog i ddatblygu cyfleusterau iechyd newydd ar gyfer y cymunedau hyn.